Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Hide Articles List
7 articles on this Page
OYNWYSIAD.
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
OYNWYSIAD. Yr Wythnos ••• 1 HanesfyNhaid £ Llith Ephraim Llwyd & Cyfarfod y Dadgysyllfciad yn Abertawe 4 Llithiau Walis Puw «> Newyddion Cymreig « Dolgellau £ Y Prifweinidog yn ei hen Gartref. j> Cristionogaeth yn Drefniant 9 Gohebiaethau .10,11 Priodasau, Marwolaetbau. 12 Hysbysiadau 13-16
Yr IMgtlittOd*
News
Cite
Share
Yr IMgtlittOd* Yn ol y newyddion diweddpraf, y mae y Porte wedi cydsynio i estyn y cad-oediad diweddaf wyth niwrnod yn hwy, gan obeithio y bydd i'r Galluoedd. yn ystod yr amser hyny .fod yn unfrydol i osod yr amodau heddwch o'i flaen. Dywedir nad y w hyn ond chwareu a'r cwestiwn, ac mai amcan Twrci wrth roddi ychwaneg o amser i ystyried beth fydd natur y telerau ydyw, mewn gwirionedd, i gael amser i gadarnhau ei hamddiffynfaoedd, i wneuthur yn glyd y gwersyllfaoedd gogyfer &'r gauaf, ac i barotoi ychwaneg o filwyr erbyn y campaign nesaf. Yn awr, beth bynag ydyw ei hamcan yn gwneud hyn, y peth ddylai y Galluoedd wneud ydyw, d'od i benderfyniad unfrydol i wasgu ar Twrci del- erau heddwch, pa un bynag a fyddont yn dderbyniol ganddi ai peidio; canys, megys y dywedasom o'r blapn, nid a Twrci i wrth- sefyll yn erbyn penderfyniad y Galluoedd eraill, tra yn gweled y byddai hyny yn troi Ilid ac yn enyn digofaint y rhai a ystyriai yn gyfeillion yn ei herbyn. Wedi gwneud hyny, ni fyddai gwiw i Twrci feddwl am gadarnhau a gwella ei sefyllfaoedd milwrol, na pharotoi milwyr newyddion at y dyfodol; oblegid canlyniad ei derbyniad o'r telerau gynygid gan y Galluoedd fyddai heddwch cyffredinol.
[No title]
News
Cite
Share
Bu Argl. Beaconsfield yn anerch aelodau Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Bucks yn | Aylesbury, prydnawn dydd Mercher wythnos i'r diweddaf. Er mai cael ei wahodd a ddarfu, eto, mae yn ddilya fod yna amcan yn gorwedd o dan y cwb!. Edrycher yn awr ar y sefyllfa yr oedd y sir ynddi yr adeg hono. Y wlad yn ferw drwyddi o achos fod y pleid- leisio yn cael ei gario yn mlaea y dydd canlynol, a'r ddwy blaid yn y pryder a'r petrusder mwyaf yn nghylch canlyniad y frwydr. Nid oes dim amheuaeth nad oedd y Ceidwadwyr yn bur bryderus sut y gwnai pethau droi allan, oblegid yr oedd ymddygiad y llywodraeth yn mater yr erchyllderau Tyrcaidd wedi gwneud i lawer o'r Ceidwad- wyr eu hunain oeri a digio wrth y Weinydd- lAeth, ac wedi peri iddynt ddyfod i'r pender- fyniad o sefyll yn ganolog yn y frwydr ethol- i*Aol oedd ar ddyfod. Gwyddai y blaenoriaid
[No title]
News
Cite
Share
Toriaidd hyny yn eithaf d t, ond gan eu bod yn anwybodus o nifer y rhai a benderfynaa- ant wneuthur felly, ofnent y gwaethaf, a meddylient y buasai hyny yn achlysur iddynt golli y dydd. Wedi eu gwasgu i'r pryder a'r ofn yna, dyfeisiasant ffordd, yr hon a fyddai yn debygol o fod yn un dra effeithiol, er denu y rhai ceddynt wedi bwriadu sefyll ar dir canolog yn ol i'w penderfyniad cyntefig o bleidleisio, a thrwy hyny sicrhau iddynt hwy y mwyafrif. Y llwybr a gymerasant oedd gyru at Arglwydd Beaconsfield i ddyfod yno i'w hanerLh, a hyny, cofier, y noson cyn y poll, gan gredu, mae'n ddiamheu, y byddai ym- ddangosiad eu henflaenor yn foddion i'w dwyn i'w 'hiawn bwyll.' Ac nid oes genym y radd leiaf o betrusder pan y dywedwn mai i hvn- yna yn unig y mae Ceidwadwyr Bucks i ddiolch am y fuddllgoJiaèth. Ond mewn rhan y cawsant hyny, fodd bynag; oblegid yr oedd bychandranifer y thai a bleidleisiasant dros y Ceidwadwr Fremantle wr.h yr hyn y bu, yn dangos fod y sel Doriaidd yn Bucks yn oeri yn gyflym.
[No title]
News
Cite
Share
Y n.ae y cadoediad a benderfynwyd cyd- rhwng y rhyfel-bleidiau wedi terfynu er dydd Llun, a hyny heb i unrhyw beth gael ei wneud tuag at gael heddwch a chydwelediad terfynol. Ond y t ffodus, y mae y llywodr- aeth Dyrcaidd yn amlygu yn bresenol ei dy- muniad o gael ei estyn; a chan ei bod o'r blaen mor wrthwynebol iddo, y mae ei newid- iad meddwl yn awr yn peri i ni obeithio y try pethau allan o du heddwch cyn hir. Nid oes ar y Porte frys yn y byd ail ymaflyd yn ei offerynau rhyfel, yn enwedig yn erbyn Servia. Mae yn rhy ddiweddar erbyn hyn i feddwl myned yn erbyn Belgrade. Y mae y Cad- fridog Tc ernaieff yn dal sefyllfaoedd nas gall Abdul Kerim eu troi na'u tori. Nid oes gan y llywydd Tyrcaidd ddim i'w enill trwy gymeryd arno fygwth Alexinatz, ac ymddengys ei fod wedi lleihau ei nerth flaen y sefyllfa hono, a'u symud i bwynt agosach i'w adgyfnerthion, ac o fewn cyr- baedd cysgod. Y mae y negeseuwyr wedi eyme yd mantais o'r ystad hon ar bethau i geisio cael gan y Porte gydsynio am gad- oediad fforfiol, ac y mae Ilywodraeth Rwssia wedi rhoddi ar ddeall mai hyd nes y gwneir hyny na wna hi gymeryd rhan yn mater yr amodau heddwch. Ac y mae y Porte, o'i ochr yntau, yn gwrthod cydsynio i gael cad- oediad heb yn gyntaf dderbyn gwybodaeth o beth fydd tuedd yr amodau a gynygir er cael cydwelediad terfynol. I symud yr anhaws- der hwn, y mae Syr Henry Elliott wedi gosod rhyw fraslun o'r amodau dros y llywodraeth Brydeinig" o flaen y Portej ac yn astudio y telerau hyn y gadewir ef yn bresenol.
[No title]
News
Cite
Share
Fel y gwelir mewn colofn arall, y mae taranau y DadgysyMtiad yn dechreu rhno ar hyd ein gwlad, a hyny gyda mwy o nerth na chyffredin, yr hyn sydd yn brawf diamheuol fod adeg yr ysgariad gerllaw. Mae yn am- lwg nad yw adgyfnerthion Cymdeithas Rhyddhad Crefydd wedi dihysbyddu nac wedi gwanhau, oblegid y mae yn anfon i'r maes gadfridogion cryfach, a mwy byf a dewr, flwyddyn ar ol blwyddyn, ac y mae hyny yn rhoddi ar ddeall i ni ei bod ya "casglu nerth ac yn ychwanegu c i yfder" yn barhaus. Nid rhyw eiddilod gwangalon a llwfr ydynt y cewri y flwyddyn hon; nid rhai ag ydynt yn hoffi esgyn i fyny uwchben cynulleidfa i siar- ad i ddim pwrpas ydynt; na, Ond rhai yn deall natuv y pwnc yr ymdriniant ag ef, ac ydynt hefyd yn gwybod beth yw ansawdd a gallu y gelyn yr ant allan yn ei erbyn. Dyma y fath ddynion aydd ar Ymneijldnwyr eu heisieu, a phe buasent wedi dyfqd allan yn gynt, buasai cerbyd y Dadgysylltiad yn mhell- ach yn mlaen. Teimlid fod v Jericho wlad- wriaethol hon yn ysgwyd i raddau yn Aber- tawe, wrth swn udgyrn Josua a Caleb; ao nid oes eisieu ond i'r bobl floeddio, na bydd i'w muriau roddi fiordd, a syrthio; a gellir dweyd am dani, ei cbwymp a fu fawr." •
[No title]
News
Cite
Share
Y mae etholiad Buckingham erbyn hyn wedi myned drosodd, at ba un yr oedd llyg- aidybobl weditioi i edrych gyda'r prvder ag sydd yn ein meddianu ar degau o'r fath. Yr oedd amryw bethau yn nglyn a'r etholiad bwn yn peri iddo od o ddyddordeb cyffred- iuol i'r wlad; ac nid ydym yn medd^jl, beth bynag oeddynt farnau y cyboedd, t. laicl gael ei siomi yn nghanlyniad y frwydr. A.dna.byddir y sir hon fel un o'r rhai mwyaf Toriaidd yn Mhrydain Fawr; dyma "strong- hold y Tories;' dyma He mae pen-conglfaen yr adeilad Ceidwadol yn y deyrnas hon; ac y mae yn rhaid fod gan y Rhyddfrydwr a fentrai gynyg ei hun fel ymgeisydd am gy- nrychiolaeth y sir bluck a gwroldeb anghy- ffredin. Toriaid a'i oynrychiolent drwy'r blynvddau, a dyna ei dyn diweddaf, dyrchaf. iaJ pa un o Dy y Cyffredin i Dy yr Argl- wyddi, a achlysurodd yr etholiad presenol, yn un o'r Ceidwadwyr mwyaf rhwym a sangodd y ddaear erioed-neb amgen na Mr. Disraeli, yn awr Arglwydd Beaconsfield. Ond pan ystyriom ni i 5,264 o etholwyr roddi eu pleid- lais i lawr ynBucks, mwyo 545 nagaroddwyd yn 1874 i Mr. Disraeli a Mr. Lambert (R.), ac hefyd, tra y cafodd Mr. Disraeli 1,279 mwy o bleidieisiau yn 1874 na Mr. Lambert, nad oedd Mr. Carington (R.) y dydd o'r blaen, ond 186 ar 01 Mr. Fremantle (C.), y mae yn dangos yn eglur i ni fod y blaid Geidwadol yn Bucks ar y decline o gryn dipyn. A phan yr ystyriom ni hefyd i Mr. Carington (R.), gael 819 mwy o bleidieisiau nag a gafodd Mr. Lambert (R.), yn 1874, ac i Mr. Fre- mantle (C.) dderbyn 274 llai o bleidleisiau nag a roddwyd i Mr. Disraeli y pryd hwnw, mae yn amlwg. hefyd fod nid yn unig Tori- aeth yn gwanbau ac yn colli tir, ond Rhydd- frydiaeth yn cryfhau ac yn enill tir. Felly, os gwir fuddj|pliaeth a feddylir, y Rhydd frydwyr a'i cafodd yn etholiad Bucks.