Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
Hide Articles List
10 articles on this Page
CYNWYSIAD. 1 ———
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
CYNWYSIAD. 1 ——— Yr Wythnos 1 Dafydd yn MOT 2 Yr Undeb CydulIeidfool 3 Llithiau Walis Puw 4 Ffrwydriad yn Hell Gate 5 Newyddion Oymreig 6 Claddedigaeth Thomas Taylor, Yaw. 7 Yr Helynt Dwyreiniyl 8 Cymdeithas Achosion Seisnig yr Annibynwyr yn Ngogledd Cymru 9 Gohebiaetkau .10,11 Priodasau, Marwolaethau 12 Hysbysiadau .13-16 -:¡-
[No title]
News
Cite
Share
Nid yw cynygiad Twrci am gadoediad am chwe' mis wedi cael y fath argraff ffafriol r Ewrop ag a fuasai symudiad gonest o da y Porte yn ffafr heddwch gwirionedd yn sicr o gynyrcha. Fdrychir ar y cynygiad yn Paris gyda diffyg ymddiried; yn Berlin cwestiyuir ei onestrwydd; ac yn Vienna canfyddir anbawsderaa yn ymgyfodi. Y mae y raanylion diweddaraf o Gaercystenyn o berthynias i'r cadoediad yn mynegu fod Twrci yn dymuno i'r Galluoedd Mawrion benodi styyddogion fel cynrychiolwyr i gytuno ar y manylion,- gyda'r rhai y gorch- ymyftir i gadlywyddion Twrci ddyfod i ddeall- tWriaeth. Y mae y Porte hefyd yn cynyg fodaIifoniad arfau a darpariaethau rhyfel i Servia a Montenegro i gael ei wahardd, a bod y dylifiad o ewyllysgaryddion tramor i gael ei attal yn effeithiol; a bod y ddwy Dywysog- aeth i gael eu gwahardd i roddi unrhyw gynorthwy i daleithiau terfysglyd cymydog- aethol. Nid ydys yn dysgwyl yn amgen nag y bydd i anhawsderau gyfodi yn Paris yn gystal a Vienna pa* y daw y telerau i gael eu dadleu. Nid yw y Llywodraeth Serviaidd etc wedi derbyn unrhyw fynegiadWyddogol o'r cadoediad, a gall amryw ddyddiau fyned heibio cyn i unrhyw weithrediad penodol gymeryd lie. Brwydr fawr yn y cyfwng hwn a gyfnewidiai yn hollol sefyllfa pethau.
[No title]
News
Cite
Share
Da genym weled fel y mae y Prydeinwyr yn arddangos eu teiuilad yn wyneb y creu- londerau a gyflawiiwyd ac a gyflawnir yn y Dwyrain, a hyny bron yn mhob cynulliad cyhoeddus a gynelir drwy'r wlad. Yr wythnos ddiweddaf, yn Bradford, yg Nghyf- arfod Hydrefol Undeb Cynulleidfaol Lloegr a Chymru, pasiwyd penderfyniad i'r perwyl, fod y mddygiad y Llywodraeth, ac yn enwedig y Prifweinidog, mewn p^rthynas i'r creulon- derau yn Bulgaria, wedi cynhyrfu digofaint dwfn, ac mai argyhoeddiad y cyfarfod ydoedd d b na byddai unrhyw gytundeb i sefydlu per- thynas y Porte a'i ddeiliaid yn Nwyrain Ewrop yn barhaus a boddhaol oni roddid iddynt lywiadaeth annibynol gyflawn. > v
[No title]
News
Cite
Share
Mae y dychweliadau, er nad ydynt eto wedi eu cwblhau, a dderbyniwyd hyd yn hyn o etholiadau gwladwriaethol Ohioac Indiana t ddydd Mawrth wythnos i'r diweddaf, yn dangos y modd y mae y Gwerinwyr wedi enill Ohio, a'r Unbenaethwyr Indiana gydag ond ychydig fwyafrif. Edrychid ar yr ethol- iadau hyn gyda chryn ddyddordeb trwy yr Amerig, gan eu bod fel yn arwyddion o'r modd yr a yr etholiadau Arlywyddol yn mis Tachwedd nesaf; a'r farn gyffredinol oedd, os digwyddai i un o'r ddwy blaid gario y ddwy dalaeth, y gwnai y blaid hono hefyd ddych- welyd ei hymgeisydd fel Arlywydd. Fel canlyniad, bu y pleidleisio yn hynod o boeth- gwariwyd symiau mawr o arian, a bu areith, wyr goreu y wlad am wythnosau yn 'cadarn- bau' y ddwy dalaeth yn y 'ffydd.' Ond nid yw y canlyniad yn rhoddi unrhyw fath o le i allu ffurfio meddwl yn nghylch sut yr a adeg yr etholiad Arlywyddol, ac y mae yn eglur y bydd yr ymdrech am y swyddogaeth flaenaf y flwyddyn hon yn dyn a phryderus, hyd yn nod yn fwy felly nag arfer.
[No title]
News
Cite
Share
Ceir llythyrau o Madeira yn dwyn new- yddion o'r rhyfel yn Transvaal (Deheudir Affrica) i fyny fr 23ain o Fedi. Mae Cap- ten von Schlichmanu, (penaeth y Boers), wedi cael ei awdurdodi i ffurfio corfflu milwr- wrol er gosod i lawr y gwrthryfel. Dywedai y Secocceni, (penaeth y Koffirs), nad oedd arno ef eisieu ymladd a thramorwyr, ond yn uuig i'r Boers, i ba un yr atebodd Schlich- manu ei fod dros ryfel hyd y earn, ac y gwnai saethu y negeswyr cyntaf a anfonid ato. Cwynid mewn llythyrau o eisteddle y rhyfel fod y corfflu newydd yn 11 add mewn gwaed oer wragedd arf phlant y Kaffirs, ac yn gosod eu gwlad yn anrhaitb. Dywedir fod masnach yn y Transvaal megis wedi ei daro a'r parlys, ond, er hyny, cynygiwyd yn y Senedd fod i dreth ryfel gael ei chodi er sefydlu heddgeidwaid ar y terfynau. Ad- roddir fod Cetchwayo, a phenaethiaid eraill yn uno a'u gilydd, ond nid oes un gweithred- iad penderfynol wedi cael ei gymeryd ganddynt hwy eto.
[No title]
News
Cite
Share
Dywed brys-hysbysiad o Paris fod Rwssia wedi gwrthod y cad-oediad o chwe' mis, a'i bod eto yn gorchymyn fod i gad-oadiad o chwech wythnos gael ei osod ar y rhyfel- bleidwyr. Adroddir fod M. RISTICS wedi dywedyd wrth y negeswyr tramor yn Belgrade y gwnai y Llywodraeth Serviaidd dderbyn cynygion y gallaoedd os rhoddid hwy mewn ffurf gryno ac awdurdodedig. Dywed newyddiadur swyddogol Montenegro na wna y dalaeth hono dderbyn na cha-d-oediad na heddwch ond mewn undeb a Servia. Yn Berlin, credir yn gyffredinol fod yr Ital a Rwssia wedi dyfod i gyd-ddealltwriaeth a'u gilydd, ac y mae y wasg yn Berlin yn cael ei chythruddo yn fawr gan y cyngrair ffug- iol a ddywedir sypd rhwng Lloegr a F raine, y rhei a feddylir eu bod yn cefnogi Awstria i gynorthwyo Twrc yn erbyn Rwssia.
[No title]
News
Cite
Share
Mewn atebiad i ymholiad a wnaed gan rai o weithwyr Sheffield, y rhai H, ofynent pa un a ystyrid symudiad y fasnach ddur o Sheffield i'r Amerig yn arferiad gyfreithlon o'r cyfalaf Seisnig, gan awgrymu, aryr unpryd, y dylid trethu ein nwyddau Americanaidd, ysgrifena Mr. GLADSTONE fod symudiad y cyfryw sefydliadau, pa mor ofidus bynag y gall fod, yn cael ei wneud mewn ymarferiad o awdurdod gyfreithlon gyda pha un nad oedd ganddo ef un math o hawl i gyfryngu. Dywedai fod taliadau gwarafunol, fel y rhai a grybwyllwyd, yn deg mewn ymddangosiad, ond yr oedd efe yn credu eu bod yn cael eu condemnio gan yr oil o'r awdurdodau mawr yn mysg ein cydwladwyr trwy y cenedlaethau a aethant heibio, yn ogystal a'r genedlaeth bresenol. 0 J
[No title]
News
Cite
Share
Mewn cyfarfod a gynaliwyd yn addoldy Providenc, perthynol i'r Bedyddwyr, Hack- ney, nos Lun, dywedai Syr CHARLES REKD, yr hwn a lywyddai, y dylid cael mwy o undeb rhwng y Bedyddwyr a'r Cynulleidfa- wyr. Wrth gyfeirio at fanteisionenwadaeth, I. dywedai ei fod ef yn credu mewn cloddiau, ond nid iddynt fod yn rhy ucbel, er nad oedd > mor sicr yn nghylch y ff'osydd. Crist ydyw canolbwynt yr amrywiol ganghenau o'r eglwys. Fel Cynulleidfawyr a Beddyddwyr bawlient farn neillduol mewn materion o gref- Nid oeddynt. yn cydnabod yr un esgob drostynt, fel yr Eglwys Esgqbaethol,, a'r Frenhines yn ben iddynt; yr an syndod, fel y presbyteriaid; na'r'un gynadledd i symud- eu gweinidogion ac i reoli eu sefyllfaoedd. Mynent gael llywodraeth o'r eiddynt eu; hunain.
[No title]
News
Cite
Share
Yn eisteddiad Cynghor y Gymdeithas: Wyddoniaethol, ddydd Llun, rhoddodd Mr., HAWKSLEY anerchiad ar y cwestiwn o iechyd, yr hwn-a gynhyrfay dosbarthiadaugweithiol. Mae ein poblogaeth, medd efe, wedi treblu yn ystod y ganrif ddiweddaf. Yr ydym yn di- bynu ar dramorwyr am yn agos i haner cyilenwad ain hymbortb, ac y mae ein mas- nach yn darfod yn gyflym. Gan hyny, edrych- ai gydag ofn ar arwyddion yra-mserau ac aflon- yddwch cyffredinol y cenedloedd Ewrbpaidd, pa rai ar unrhyw foment a allant derfynu- mewn ymdrechfeydd yn nghylch credoau a dyrchafiad bydol. Priodolai Mr. Hawksly faiwoldeb dirfawr y trefydd mawrion i orymdyru, yn gyatal ag i ormod o ymarfer- iad â'r diodydd alcoholaidd.
[No title]
News
Cite
Share
Ddydd Mercher, cynaliwyd Brawdlys Chwarterol Meirionydd yn Dolgellau, o flaen Ardalydd Londonderry a'r Milwriad Totten- ham. Yr oedd dau achos pur pwysig i gael eu hymdrafod, ac nid ydym yn amheu na ddygwyd hwynt i derfyniad digon boddhaol. Ond yr oedd rhai pethau yn gwneud i ddyg- iad yn mlaen yr achosioti yno gael eu gosod dan anfantais frwr, ac y mae hyny i'w weled, nid yn unig yn y Brawdlys dan sylw, ond hefyd yn rhan fwyaf o FrawdlYlslopdd Cymru; sef, dodi rhai o genedi avail i farnu achosion Cymreig. Y mae hwn yn hen fater, ond y mae befyd yn un ag y dylid ei ddwyn bnderfyniad boddhaol gan y Cymry.