Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

CYMDEITHAS ACHOSION SEISONIG…

News
Cite
Share

CYMDEITHAS ACHOSION SEISONIG YR "ANNIBYNWYR YN NGOGLEDD CYMRU. Dydd Llun diweddaf oedd y diwrnod y buwyd yn edrych yn mlaen ato yn bryderus gan garedigion yr efengyl, fel y diwrnod c apwyntiedig i roddi bodolaeth i'r gymdeithas uchod, o flaen yr hon y mae wmbredd o waith, a theimlwn yn bryderus y cyflawna ei gor- uchwyliaeth yn effeithiol gyda bendith. Mae cylchoedd Clawdd Ofia; 'The Marches of Wales,' wedi bod am oesoedd yn graddol ddiry wio—maent wedi myned yn rhyjSeisnig i'r Cymry eu hystyried yn perthyn iddynt hwy, ac yn rhy Gymreig i'r Saeson eu harddel; a chan fod eymaint mwy o ysbryd gwlad a phleidgarol yn y byd nag sydd yma o ysbryd rhydd, dyngarol, a/hinweddgarol, gadewid y rbanau hyn o'r wlad i fyned i lawr r1: wng y ddwy ystol i ddyfnder trueni, heb na Chymro na Sais yn meddwl am ofyn iddynt i ba le yr oeddynt yn sllddo. Pan fyddai y Cymry yn cynyg gwneud rhywbeth drostynt, ceid gwel- ed myrdd o leisiau yn gofyn am yr uwchaf pa- ham yr awn ni i weithio dros y Saeson, m Ie genym ddigon o waith i ofalti am danony ein hunain, a byddwn ni yn gorfod gofalu am ein capeli yn Lloegr, heb help y Saeson, a gofalu am gapeli hefyd i'r Saeson yn Nghymru; gadewch iddynt, ac os dywedai dyn ei destun yn Saesonig, tynent wynebau hyllion. Wel, os aem i Loegr i ofyn am gymhorth, un o fil na chaem fwy na thri chwarter o insult, you Welshpeople are very troublesome, neu rywbeth i'r perwyl; ond y mae yn byaod na fyddai uwch syniad am achub eueidiau genym na bod yn ofalus yn mha iaith y sonir am iechydwriaeth. Mor llawen y cesglir at y Genadaeth Dra- mor yn Nghymru. Mae y casgliad fel un o sefydliadau yr eglwysi, ond y mae son am anfon cenadau at y Saeson yn y drws nesaf yn annyoddefol i'n cyfeillion Cymreig. Bellach, mae y Saeson a'r Cymry wedi dyfod i gyd-cldealltwriaeth, ac yn penderfynu cydweithio, a gobeitbio y Uwyddant i wneud y 'Marches of Wales' mor ffrwythlon mewn rhinwedd ag yw mewn cynyrehion naturiol. Yr oedd eglwys Annibynol Seisonig Caer wedi codi ati—wedi cyduno i fyned yn gyfl ifol am dreuliau cychwyn y gymdeithas, bydded hyny faint bynag a fyddai, a dydd Llun oedd dydd genedigaeth y gymdeithas. Cyrhaedd- asom yno erbyn deg o'r gloch, ac yr oedd yn amlwg wrth rif y cadachau gwynion, a'r 11 u pobl oedd yn edrych yn eu dillad goreu yn disgyn o'r gwahanol drens fod rhywbeth mwy nag arferol i gymeryd He yn Nghaer y dydd hwnw. Gan mai am 11-L yr oedd y 2 oyfarfod cyhoeddus i ddechreu, yr oedd genym dros awr o amser i fyned o amgylch i gael golwg ar yr hen ddinas enwog, iyr hon sydd yn aros yn gof- adail o ddyddiau ymdaith y Rhufeiniaid yn yr ynys, a dywedir mai Caer yw y gwedd- illion perffeithiaf o ddyddiau y Rhufeiniaid yn yr ynys. Caer oedd gwersyllfan yr ugein- fed fyddin Rufeinig, yr hon a ddaeth drosodd oddeutu 60 mlynedd cyn Crist, o berwydd yr oedd rhan o'r fyddin hono yn myned o Gaer i gynorthwyo Suetonius yn erbyn Boadicea. Mae y ddinas y tu fewn i'r muriau yn union ar lun gwersyll Rhufeinig-yn bedairunglog. Rheda y pedair prif heol yn syth o'r dwyrain i'r gorllewin, ac o'r gogledd i'r de, fel y mae yn hawdd iawn i ddyn dyeithr gadw ei ffordd ynddi, a chael hyd iddo ei hun pan fyno. Gerllaw Caer y mae Castell "Penarlag," lie nad oes na Saesonaeg na Chymraeg, meddir, -cartref Gladstone; ond er fod gwr fel Glad- stone yn byw yno, dywedir mai tywyllweh sydd yn gordoi y bobloedd. Yr oedd delw y Forwyn Fair gynt yn Eglwys Hawarden, Penarlag; ond pan oedd y bobl ryw dro yn yr Eglwys yn gweddio am wlaw, syrthiodd y ddelw a'r groes ar ben un o'r gwragedd, a. lladdodd hi. Cynhyrfodd yr addolwyr gy. maint wrth y ddelw am y tro, fel y cymeras- ant y ddelw, ar yr hon yr oeddynt wedi bod yn gweddio, i lan y m6r gerllaw Caer, i'r lie a adnabyddir yn awr wrth yr enw Roodee, a gadawsant hi i gael ei chario ymaith gyda'r llanw; ond pan welodd pobl Caer hi, claddaa- ant hi yn y Roodee, neu y Race Coarse. Fel hyn y canodd rhyw hen fardd Seisonig iddi,- ,-The Jewes theire God dide crueifie, The Hardeners theires dide drowne, 'Cause with th iire wantes shed not complye, And lyes ender thigs colde stone." Ond dyna, mae yn amser y pwyllgor. Mae capel Qaeen St. yn adeilad prydferth, yn edrych braidd yn heu. Sefydlwyd yr achos yma ychydig gyda chan' mlynedd yn ol. Y mae yn ddigon eang i gynwys oddeutu 900 o bobl; ac erbyn yr amser apwyntiedig, yr oedd yno lawer wedi dyfod yn nghyl- gwynebau dyeithr gan mwyaf i gyd,—yr oedd yn amlwg ein iod yn ddyeithriaid i'n gilydd ac i'r lie. Wedi i Mr. Crossfield gymeryd y gadair, darllenodd yr ysgrifenydd, y Parch D. B. Hooke, Wyddgrug, nifer o lythyrau oddiwrth garedigion y symudiad, yn ym- esgusodi am fod yn absenol; ond yr oeddynt oil yn dymuno yn dda i'r gymdeithas, ac yn addaw gwneud eu goreu drosti. Yna, rhoddodd y cadeirydd anerchiad bywiog ac i'r pwrpas. Eglurodd yr achos y daethant yn nghyd y boreu hwnw, a hyderai y gallent wneud gwaith wedi d'od,—ei fod yn waith oedd eisieu ei wneud er's blynyddau, ond nad oedd modd cael neb i gydio ynddo; a gobeith- iai y byddai yr ystyriaeth o'r angen am grefyddoli Seison Gogledd Cymru yn l'oddion ddwyn pob un i roddi ei ysgwydd dan y baich; ac ond i bawb wneud eu goreu yn eu gwa- hanol gylchoedd, mai peth rhwydd iawn fyddai cael byn oddiamgylch. Galwodd ycadeirydd ar Mr. Griffiths, Caer- gybi, i anerch y cyfarfod. Dywedai Mr. Griffiths fod yn dda iawn ganddo fod yn bresenol ar ddechreuad y symudiad hwn. Credai y bydd yn un o'r symudiadau mwyaf effeithiol er cadarn- hau Annibyniaeth, ac estyn cortynau ei phres- wylfeydd. Sylwai fod gwir angen am rywbeth o'r natur yma, yn gymaint a bod y Seison yn lluoaogi yn Nghymru, a'r manteision crefyddol i gyfarfod a hwy yn anaml, ac oblegid hyny, yn syrthio i arferion llygredig ac isel, ac yn bagan- iaid yn ngwlad efengyl. Y nesaf i anerch y cyfarfod oedd T. Minshall, Ysw., o Groesoswallt, cyfreithiwr oranei alwed- igaeth, a gwnaeth sylwadau teilwng o hono ei hun fel y cyfryw. Y siaradwyr nesaf oeddynt y Parchn. Davies, Ysgrifellydd Undeb Cynulleidfaol Lancashire, a Robinson, Ysgrifenydd Undeb Oynulleidfaol swydd Gaer. Ymddangosai y rhai hyn yn llawn ofnau mewn perthynas i lwyddiant y sefydl- iad, oblegid yr ystyriaeth fod yn rhaid wrth lawer iawn o arian, a. dim mewn llaw. Sylwent mai- un tu i'r ddalen ydyw siarad, ond mai tu arall ydyw gwneud; felly, y dylid bwrw y draul cyn myned' yn rhy bell i'r cwest- iwn, acnid gwneud "Leep in the dark." Nid gwiw meddwl gwneud capeli fel mushrooms, ac i ddarfod fel y cyfryw. Os gwneud o gwbl, gwneud ar seiliau cedyrn. Hefyd, gofynwyd gan un o honynt pa faint ellid ddysgwyl mewn arian oddiwrth yr eglwysi Cymreig yn Ngogledd Cymru? Mewn atebiad i hyny, dywedodd y Parch. E. H. Evans, Caernarfon, nas gallent yn gyfreithlawn ddysgwyl dim oddiwrth y Cymry: fod y Cymry yn gofalu am yr achosion Cymreig yn Lloegr, felly ar yr un tir y dysgwylir i'r Sa.eson ofalu am eu hachosion hwythau yn mhlith y Cymry, ond y gwnaent eu cynorth- wyo drwy roddi dynion ieuainc galluog yn eu pulpudau.. Fod gand-dynt ddigon i'w hebgor- tri choleg yn llawn o honynt. "You give the the money," meddai, "and we'll give the brain." Hefyd .siaradodd y Parch. J. H. Wilson, ysgrifenydd y Gymdeithas Genadol Gartrefol, a Mr. Griffith (Gohebydd), yn bwrpasol iawn i'r perwyl hwn. Ac i gyfarfod ag ofnau y brodyr a nodasom, cododd R. S. Hudson, Ysw., (Pw barhau yn tudal, 5).

Yi HELYNT DWYREINIOL.