Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

PWYLLGOR ATHROFA Y BALA.

News
Cite
Share

PWYLLGOR ATHROFA Y BALA. MB. GOL. Yn gymaint ag i chwi ganiatau rhyddid i amryw ysgrifenwyr i gyhoeddi llythyrau meithioa dan y penawd uchod, a hyny dan gochl ffugenwau, hyder- af y caniatewch i minau eu hateb dan fy enw priodol. Yr wyf wedi dweyd fy marn ar bwnc y ffugenwau yn ngholofnau y DYDD tua blwyddyn yn ol, sef nad yw yn briodol nac yn deg i neb ysgrifenu dim ar unrhyw sefydliad cyhoeddua fyddo yn dal cysyllt- iada phersonau, ond yn unig dan enw prioiol; a dichon y goddefwch i mi gyhoeddi fy mod yn par- liaa o'r an farn hyd heddyw. Hwyrach fod genych chwi resymau digonol i chwi eich hun dros ganiatan, rhyddid iddynt; ond gallaf eich sicrhau fod hyny yn bur groes i farn dosbarth lluosog o'r bobl fwyaf ,goleuedig yn mysg yr en wad Annibynol yn Neheudir Cymru, beth bynag, ac yn beth sydd wedi bod yn foddion i ddwyn rhai o'ch gohebwyr i helbul blin eyn hyn. Y llythyiau cyntaf a ymddangosodd wedi y pwyllgor ydoedd eiddo rhyw ysgrifenydd dienw. Math o gofnodion byrion o weithrediadau y Pwyll- gor diweddaf oeddynt, ac nid wyf yn gallu gweled fod dim yaddynt yn bleidiol ac nnochrog. Nid wvf yngwybod chwaith pa un a oedd cysylltiad rhwng yr ysgrifenydd a'r rhai fu yn ysgrifenu ar ei ol, I dichon fod; gwelwyd pethau tebyg cyn hyn. Pa fodd bynag, yr wythnos ganlynol i ymddangosiad; yr un olaf, wele rywun mewn gormod brysa nwyd, feddyliwn, i ysgrifenu ei enw priodol (oblegid dyired y rhydd ei enw priodol yn y man), yn rhuthro allan yn Ilawn Hid at rywrai; a gallesid meddwl fod y pethau mwyaf dychrynllyd a wel- wyd erioed wedi cymeryd lie yn y Pwyllgor; Nid ywyn enwi neb, wrth reswm. Dyna arfer gyffredin ,ei dylwyth. "Hwy," "gwyr gonest," "dynion di- farn a difoes," y geilw y bobl sydd wedi ei gyffroi morofnadwy. Edrychwch arno yn ceisio rhuo ac ysgyrnygu ei ddanedd,Na feddylied neb,' meddai, ly CA y manufactory votes, a'r hysio, a'r curo traed, er rhoddi pawb i lawr, ond a fyddai yn ddigon gwas- aidd i bleidio eu mesurau hwy (uid oes yr un enw cadarn o flaen y rhagenw 'hwy' i ddynodi pwy a ffeddylia), fyned heibio heb eu cofnodi, er a idysg i'r 'oel hon a'r oesau a ddel.' Y fath fendith i'r "oes • boa a'r oesau a ddel" fod hanesydd mor eriwog ac ,mor onest a Micheah yn byw yn Nghymru, onide? Bigon tebyg na welodd efe "hysio" na "churo traed" i mewn unrhyw gyfarfod erioed o'r blaen; ond bydded j. hysbys iddo fod pobl sydd yn gallu gweled mymryn i.,6 wahaniaeth rhwng "moesgarwch" ac impudence wedi gwneud hyny mewn cyfarfodydd lie y bu llai o gyfeiriadau a3 ymosodiadau personol na Phwyllgor diweddaf Athrofa y Bala, Gallaf ddwfeyd fel eich gohebydd, Mr. Gol., oedd, "yr oedd y dull y trin- • iwyd rhai o brif gefnogwyr y Coleg yn y Pwyllgor diweddaf yn warth i foesgarwch, heb son dim am grefydd;" ond y rhyfeddod mawr yw, ei fod ef mor ddall a rhagfarnllyd na all wele i taw hyny oedd y rheswm dros yr "hyaio" a'r "curo traed." Yr oedd y boneddwr hwnw o Lundain, at yr hwn y gwnaeth- pwyd cyfeiriadau tra anmharchus, yn ol fy meddwl i, yn meddu cystal hawl a neb oedd yno i gynyg unrhyw awgrymiadau mewn eyaylitiad a'r Colegdy Newydd. Yr oedd yn aelod o'r Pwyllgor, yn ol rheolau cyfansoddiadol y Coleg. Bum yn siarad yn • nghylch y mater ag amryw weinidogion a lleygwyr yn y Bala; ond ni ddygwyddais ciiwo wrth neb ond 1 un gweinidog ieuanc yn unig a ganmolai y dull y cyfeiriwyd at enw y boneddwr. Dywedai pawb y bum yn siarad a hwy, oddieithr y gweinidog ieuanc hwnw, taw tro hollol anfoneddigaidd ydoedd, ac o bosibl mai yr un ydyw Micheah ag yntau. Ceir gweled ar ol i Micheah roddi ei enw priodol. Tebyg taw Mr. Rowlands, Aberaman, a minau ydyw "rhai o'r gwyr da" y cyfeiria eich gohebydd atynt fel rhai fu yn ceisio "cynyg penderfyniad yn ertyn ysgrifenu dan ffugenwau i'r newyddiaduron;" a gofyna yn resynus, 'Druain o honynt! pwy ydynt hwy i atal rhyddid y wasg?' Nid oes perygl i rai bychain fel Mr. Rowlands a minau,-drueiniaid tlodionanllythyrenog-i gau genau y wasg tra y byddo gwr mor fawr a Micheah yn siarad yn ein herbyn. Awgryma ein bod yn "gweithredu yn ol yr instructions a gawsom." Gwyr pawb sydd yn fy adnabod i fy mod dipyn yn ormod o Annibynwr i weithredu mewn materion o'r fath yn ol instructions unrhyw ddyn, pwy bynag fyddai. Fy mhrif neges wrth gychwyn oddicartref ydoedd cynyg pender- fyniad o'r fath-dywe Sais hyny wrth amryw gyf- eillion ar y ffordd ac yn y Bala. Yr oedd rhai dros i mi wneud felly, a rhai dros adael y mater islaw eyiw. Cyn i mi gael cyfleusdra i wneud yr hyn oeddwn yn fwriadu, wele Mr. Rowlands yn cyfodi ar ei draed, mewn congl bell o'r man yr eisteddwn i, ac yn gwneuthur hyny mewn dull hollol fonedd- igaidd. Ni enwodd yr un ysgrifenydd na'r un papyr newydd. Nis gallaswn inau lai na'i eilio, a dywedais y rheswm oedd genyf dros wneud hyny, sef fod pob un a ysgrifeno dan ffiagenw ar fater sydd yn dal eysylltiad a phersonau, yn awgrymu nas gall brofi yr hyn a ysgrifena, neu ynte fod arno ormod o gywilydd o hono. Ni cheisiodd neb gyfodi i am. ddiffyn ysgrifenu dan ffugenwau, Rhyfedd na buasai Micheah yn cael digon o nerth i wneud hyny, onide? Ar ddymuniad y Pwyllgor i adael y peth islaw sylw y tynodd Mr. Rowlands ei gynygiad yn ol. Ni bu gair rhwng Mr. Rowlands a minau ar y mater cyn nac wedi hyny,—mewn gair, ni fuom ya eiarad a'n gilydd erioed. Yn eich rhifyn am Medi 28ain, y mae un arall yn ceisio ysgrifenu dan y ffugenw Annibynwr. Yrn- ddengys fod y gwr hwn yn ysgrifenu yn swyddo^ol dros ryw blaid neu clique, neu ynta ei fod yn un a Olygwyr y DYDD, oblegid ysgrifena yn y Ni Olyg- yddol. Os efe yw Golygydd y ÐYDD, ni ysgrifeniif ragor; oblegid ofer ydyw myned i ymladd a Golyg- ydd unrhyw bapyr ar ei faes ei han-byddaf yn sier o gael fy ngorchfygu. Prin yr wyf yn creda, er hyny, mai Gol. y DYDD ydyw. Na, rhaid taw y clique bychan fu yn ceisio codi texfysg yn Mhwyll- gor Athrofa y Bala wedi ymgorffoli ydyw, ac fel y Byrddau Ysgol, yn myned dan y rhif luoaog. "Credwn ninau," meddai, "mai cam a'r en wad fyddai gadael rhai pethau a gymerasant le yn y pwyllgor hwn i fyned heibio yn ddisylw." Un o'r pethau hyn,feddyliwn, ydoedd yr helynt yn nghylch yr hawl i bleidleisio. Mewn gwirioaedd, ni ddylasai "Y NI" godi dadl yn nghylch hyny; oblegid yr oeid y rheol yn ddiamwys ar y mater, sef "Fod pob gweinidog Annibynol y bydd ei weinidogaeth yn casgiu .Sl, a phob person (nid pob Annibynwr, cof- ier), a gyfrano 5s., neu gynrychiolydd unrhyw ex- lwys Annibynol na byddo gweinidog ganddi a gyf- rano bunt ac uchod, yn aelod o'r Pwyllgor Oyifre I- inol." Nid yn hawdd y gallesid ffurfio brawddegau mwy eglur, ac eto, ymdrechwyd codi ystorm, a chwythu pawb allan nad oedd eu henwau yn ar- graffiedig yn yr Adroddiad diweddaf. Pe byddai uu o'r "NI" yn myned at uorhyw gyfreithiwr i ofyn eglurhad pellach ar y rheol, yr wyf yn dra. sier y dywedid wrthynt nad oes dim a fyno argraffu yr enwau yn yr Adroddiad o gwbl a'r matar; ac eto, wele Annibynwr ya,ddigon anwybodus i geisio cy- hoeddi tabular statement o'r rhai oedd yno heb un hawl-yn 01 barn y "NI"—i bleidleisio. Y gwr o Linarth, air Aberteifi, y cyfeiriai eich gohebydd ato ydyw Mr. J. Rees, C.M., yr hwn a gyfranodd 5s tuag at yr Athrofa, fal y dengys yr Adroidiad am 1875—76. Yn yr un adroddiad, gwelaf 5s. gyf- erbyn ag enw Mr. Griffiths, Neyland; ac os efe "siaradodd fwyaf yn y Pwyllgor," yr hyn wyf yn amheu, dywedaf yn hyf, efe ydoedd un o'r siaradwyr goreu oedd yno; a bob tro y codai, ymddangosai y mwyafrif eu bod yn mwynhau yr hyn a ddywedui. Os dywedodd Mr. Griffith ei fod wadi cyfranu 59. bob blwyddyn tuag at yr Athrofa er pan y mae yn y weinidogaeth, dichon ei fod wrth gyfranu yn ceisio gwneud fel y dywed yr ysgrythyr, 'Na wyped dy law ddehau pa beth a wna dy law IUWY,' ac iddo wrth gaisio adgofio wneuthur camsyniad. Gallaswn enwi personau wedi pleidleisio mewn Pwyllgorau blaenorot yr un modd a Mri. Rees a Griffiths, heb fod a'u henwau yn argraffedig yn yr Adroddiad am y flwyddyn cyn hyny. Er engraifft, ar glawr adroddiad 1874-75, gwelaf enwau y Parchedigion J. E. Owen, Llanberis, aD. G. Evans Penrhyndeudraeth, wedi eu nodi fel rhai fu yn bresenoi mewn dau Bwyllgor am y flwyddyn hono. Cafodd y Parch. D. G. Evans ei ordeinio Medi 20, 1874, a'r Parch. J. E. Owen, Rhag. 25, 1874. Swm casgliad Llanberis, yn ol yr Adroddiad am 1873—74, yw 1 Is., a Phenrhyndeudraeth 16s.; ac yn ol Ad- roddiad 1874—75, swm casgliadau llgweinidogaeth, y Parch. J. E. Owen yw j61, 48. 3ic. (nid yw efeyn tanysgrifio dim ei hun y usill flwyddyn na'r llall), ac eiddo y Parch. D. G. Owens yw 178. 9c. Y mae braidd yn rhyfedd hefyd i weled dau ddyn ieuanc newydd ddyfod allan o'r Coleg yn presenoli eu hunain yn y Pwyllgor cyntaf ar 61 eu mynediad allan "cyn i'w barfau dyfu,"ac un o honynt heb fod a hawl ganddo i fod yn bresenol, yn ol Rheol yr Adroddiad, a'r llall, ya ol rheol "r NI," heb un hawl i bleidieisio. Dichon fod pwyllgor Mawrth a Medi, 1875, yn ddau o'r 'pwyllgorau rheolaidd' y cyfeiria Anni-r bynwr atynt. Eto, yn adroddiad 1875—76, gwelaf enw Mr. D. J. Davies, Liverpool, (Bismark, onide?) weii ei nodi fel un fu yn breseaol yn un o'r pwyllgoran, sef pwyllgor Mawrth diweddaf, ond yr wyf yn methu can fod ei enw fel un wedi tanysgrifio 5s. yn adroddiad 1874-75. Rhaid, felly, fod Mr. Davies yn credu fod ganddo hawl i bleidleisio serch fod ei enw heb ei argraffu yn yr adroddiad oedd allan ya Mawrth diweddaf. Dealler, nid wyf ya ei feio; yr oedd ganddo berffaith hawl, oblegid gwelaf ei enw yn yr adroddiad am 1875—76< fel un wedi tan- ysgrifio 5s.; ond paham y rhaid beio Mri. Griffiths, Nyland; Rees, Llanarth; a rhyw 18 o urdaloedd Llanuwchllyn a Ltandderfel, amgen personau eraill? Ai tybed na.d oes cystal hawl gan weinidog Llan- dderfel i bleidleisio a rhyw weinidog araltP Gwel- af oddiwrth yr adroddiad diweddaf fod yr eglwysi sydd o dan eiofal wedi casgiu A9 6s. 6c. Os felly, paham oedd rilid i Anuibynwr gyfeirio ato fel un nad oedd ganddo hawl i bleidleisio? Mewa gwir- ionedd, gwaith ofer fu yr holl siarad yn nghylch yr hawl i bleidleisio. Ni ddylasai y cadeirydd roddi y mater i bleidlais y pwyllgor o gwbl. Yr oedd y rheol o'i flaen, ac nid oeid modd ei chyfnewid i foddhau hyd yn nod 'Y 1'11.' Yr oedd ei geiriad yn ddigon dealladwy i bob Cymro a'i darlienodd, ac amryw weinidogion a lleygwyr wedi pleidleisio mewn pwyllgorau blasnorol heb fod a'u henwaa yn argraffedig yn yr adroddiad oedd allan ar y pryd. Os penderfynwyd rywbryd mewn rhyw bwyllgor fod y colegdy newydd i gostio £8,000, tebyg iawn i hyny ga.el ei wneud ar y dealltwriaeth fod swm drot hyny i gael eu casgiu; ac ai tybed fod yn rhaid i'r pwyllgor diweddaf sefyll at y penderfyniad ffol hwnw? Mewn geiriau eraill, a ydyw pob pwyllgor yn rhwym wrth benderfyniadau pwyllgor blaenor- ot? Beth pe methid casgiu dros £ 5,000? Yn ol Annibynwr, paoJerfynwyd hefyd mewn pwyllgor blaenorol 'mai yn y Bala yr oedd y colegdy newydd i fod; a sut yr oedd 'Y NI' yn gallu cynyg pender- fyniad,'Fod Bo iivean i gael ei werthu, a'r arian i gael eu trosgLwyddo at brynll adeilai mewn lie arall?' I Dryllio penderfyaiadau blaenorol pwyllgorau yn wir! Y mae hyny yn berffaith deg, feddyliwn, os gellir wrth wneud felly gyrhaedd ameanion y Nr;'ond os ceisir cyfnawid rhywbeth ar benderfyniad anhawdd os nad anmhosibl ei gario allan, rhaid cadw tyrrw mawr! Ac eto, pobl gyson iawn ydyw I y Ni!! Pwy na hoffiai fod yn un o honynt? J Haera Annibynwr fod 'broG bobpath wedi ei benderfyau cyn y pwyllgor.' Profed hyny. Oedd, yr oedd W. D. Jeremy, Ysw., wedi tyiiuplans (ond nid Y planiau, fel y dywed Annibynwr), ac wedi eu ayflwyno yn rhad i'r pwyllgor, gydag awgrymiadau pa fodd ilw cario allan; ac ouid oedd ganddo, fel aelod o'r pwyllgor. srystal hawl i wneud hyny ag oedd gan Mr. Jones, Aberdyfi, i ddweyd fod ganddo ef Ie arati mewn golwg a wnelai y tro yn lie Bpdiwan, ac a allesidgael am £ 650? Ai tybe i fod plan's Mr. Jeremy yo waeth am ei fod ef yn Undodwr? 'Yr oedd Y planiuu wedi eu gwneud gan fargyfreithiwr o Lundain, ac Undodwr o gred.' meddai Aaaibyn- wr. PaefEaith oedd cred Mr. Jeremy yn gabl ar ei blan.? Yu wir, y mae arnaf gywilydd o ambeM Annibynwr. 'Pan ofynwyd gan y Parch. W. Roberts, Le'rpwl, pa hawl oedd gan un felly i ym- yraeth a'r colegdy newydd, ymdrechwyd ei guro i lawr,' meddai Annibynwr drachefo. Yn awr, nid wyf yn dewis gwneud unrhyw sylw ychwanegol ar ymddygiad Mr. Roberts, Le'rpw!. Y mae yn ddigon am!wg fod ei syniadau ef a'r eiddo fiaau am foesgarwch ya gwabaniaetbu cryn dipyn; ood Ir mwyn i'ch darllenwyr gael cyfleusdra i farnu a phwyso y mater yn deg, rhoddaf yr ymddyddan a gymtrodd le rhwng Mr. Roberts a'r hybarch S. R. ger eu bron, fel yr ysgrifenais ef ar y pryd vtrbatim. Wedi i'r cadeirydd osod y plans gerbron y pwyll- gor, a hysbysu pwy a'u gwnaeth, cyfododd y Parch. W. Roberts ar ei draed, ac eb efe mewn ton sarug a haner diystyrllyd:— 'Pwy ywy Walter D. Jeremy yma?' S. R.—'Gwr boneddig ydyw o Lundain. Barrist- er-at-law wrth ei swydd, a dyn parch us iawn. Yr wyf yn ei adnabod yn dda.' Parch. W. Roberts.—'A ydyw ef yn architect?' S. R.—'Wet, yr wyf yn meddwl ei fod yu deall cryn dipyn o architecture. Y mae y barristers yma yn deall pobpeth braidd,' (chwerthin). Parch. W. Roberts.—'A ydyw ef yn Annibyn- wr?' (hyaio). =8. R.Wel, ml ddab. i ei fod ef yn go anni- bynol ei feddwt, hwyrach yn fwy felly na nemawr o honom ni sydd yma heddyw,' (chwerthin mawr). Parch. W. Roberts (mewn ton chwyddedig).— 'Beth mae: y Sosin yma yn ymofyn ypnyraeth a'n coleg ni?' Bloeddiai amryw o'r pwyllgor, 'Shame! shame!* a hysiai y lleill, lies y gorf u ar y gwr parchedig eistedd i lawr yn nghanol taranau o anfoddlon- rwydd, a methais a cblywed sylw diweddaf S. R. o herwydd y twrf. Y mae D. Davies, Jfaw., A.S. dros Fwrdeisdrefi Ceredigion, yn cyfranu AS y flwyddyn at y coleg. Methodist ydyw Mr. Davies o 'gred,' a hwyrach y gwna un o'r NI ofyn yn y pwyllgor nesaf, Beth mae y Methodist hwn yn ymofyn ymyraeth a'n coleg ni?' Well well rhai hynod yw 'dynion mawr.' Ystyriai y mwyafrif o'r rhai oedd yn bresenoi yn y pwyllgor diweddaf fod Bodiwan yn fan hynod o gyfleus, ac y byddai yn anhawdd cael cystal man at golegdy. Yr oedd pawb ag y bum i yn siarad 4 hwy hefyd ynbarnu fodypwyllgor wedi boi yn ffodus iawn yn ei bryniad, h.y„ ei fod yn llawa werth yr arian, ac y gellid yn hawdd wneud coleg- dy prydferthohono ond gwario rhyw £ ,000 eto er gwneuthar dwy neu dair o. halls a library yn ych-