Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Hide Articles List
2 articles on this Page
Advertising
Advertising
Cite
Share
Yn barod, Ddechreu Hydref; Dyddiadur yr Annibynwyr if Am 1877, DAN OLTGIAETH T PARCHN. W. WILLIAMS, BIRWAENj B. WILLIAMS, CANAAN; R. W. GRIFFITH, BETHEL. Cvhoeddir y DYDDIADUR am 1877 yn yr u rhwymiad a phris a'r blynyddoedd blaenorol, sef Is. 6c. a 6c. Bydd yn cynwys megys arfer bob gwybodaeth am y cyfnewidiadau a gymerasant le yn ystod y fiwyddyn. Gosodir i fewn, a thynir allan, enwau gweinidog- ion ar awdurdod a gorchymyn Ysgrifenwyr y Cyfundebau yn unig. Hefyd yr un modd a phreg- ethwyr cyoorthwyol. ar orchymyn gweinidog yr eglwys; fcc os na fydd yoo weinidog, ar awdurdod Ysgrifeaydd y Cyfundeb. Anfoner pob gwybodaeth eroyn Hydref 2il, 1876, i REV. B. WILLIAMS, Kilvey Terrace, Swansea: a'r holl archebion i MR. W. HUGHES, Printer, DolgeUey. — Yn awr yn cael ei gyhoeddi mewn rhanau misol, gyda cberfluniau wedi eu lliwio yn hardd, pris un swllt. BYWYD DAVID LIVINGSTONE, LL.D,, Y TEITHIWR MAWE AFFRICAMAID1). Llundain: Adam ei Gwmni, 14, Ivy Lane, Paternoster Row; a Newcastle-on-Tyne, a'r holl lyfrwerthwyr. WANTED N IMPROVER, or AN ACTIVE A STRONG YOUTH as AN APPREN- TICE, in the Grocery, and Provision, and General Trade. Apply,- M.R., Rhiwbryfdir, Post Office, Ffestiniog. TODRY-STOWwlLLrRS. ABOUT 2 miles, more or lesa, Dry-stone Walla on the Arthog Estate, to be Let by Contract at per Rood or Yard. The present Walls varies from 4ft. 6in. to 5ft. 6in. in height, but must be worked up to 5ft. 6in. on outside boundary. Also, about the same quantity of Wire Fencing to be erected, and to place 7 running Wire Posts, equidistant in straight lines from 8ft. to 10ft. apart, where curves occur from 7ft. to 9ft. apart. All wires, staples, wood for fencing, &c., will be supplied; the Contractor to cut and prepare the wood. All the work both on walls and fencing, must be done in a workmanlike and satisfactory manner, and subject to the supervision of Mr. D. C. Stalker, who will show the boundaries on Tuesday, the 24th inst., and Thursday the 26th inst. Sealed Tenders to be sent in on or before the 31st day of October, 1876, addressed,—Mr. D. C Stalker, The Cliffe, Dolgelley, Resident agent of the Estate. The Proprietor does not bind himself ot accept the lowest or any tender. THE CLIFFE, Oct. 17th, 1876. X CAMBRIAN RAILWAYS. .jo; Tourist Arrangements, 1876. FIRST, Second, and Third Class Tourist Tickets, available for five! months, will be issued from June: 1st to 31st October, 1876. For particulars, see Time Table and Pro- grammes issued by the Company. HENRY CATTLE, TRAFFIC MANAGER. • Traffic Managers' Office, May, 1876. TO LET. ANEW HOUSE to let in Nov. in Smithfield Street, Dolgelley. Consisting of Cellar, Kitchen and Scullery, Sitting Room and 5 Bedrooms, Water Closet. Apply to- MR. ISAAC H. EVANS, Dolgelley. r:- Now.Ready, Price 3s. 6d. THE ST. ASAPH TUNEBOOK: A MUSICAL COMPANION to the ST. GEORGE HYMN Book, by the Rev. T. WILLIAMS, B.D. (Rector of St. George). May It Dati onreceipt of P. O. Order o'r cheque from MIOZZSTORFY, S.P.C.K., Depot, St. Asaph* or of J. MORRIS, Y Dywysogaeth Office, Rhy at tin €oi)etUJgr. AT CADVAN DAVIES.—Dyggwyliasom hyd heddyw am y gweddill o'r adroddiad o'r Cyfarfod Tal- aethol, ond y mae heb gyrhaedd. Bydded ein gohebwyr yn ymarhous-caiff yr ysgrf- au oil ymddangos yn fuan. Y DYDDIADUR—Bwriadwn aUu cwblau yr holl eirchion sydd mewn Haw o hyn i ddydd Llun nesal. I
Yi HELYNT DWYREINIOL.
News
Cite
Share
Yi HELYNT DWYREINIOL. Nid yw y cynygiad a wnaed gan Twrci o gael cad-oediad ychwanegol o chwe' mis yn cael edrych arno a llygad boddhaol gan Ewrop; mae y teimlad eyffredinol yn hollol groes i'r hyn a fuasai yn canlyn cynygiad ar- all o gael heddwch terfynol a gonest. Yn Paris, edrychir ar y cynygiad gyda gradd o amheuaeth; yn Berlin, rhoddir gonestrwydd Twrci yn y glorian; yn Vienna, daroganir anhawsderau, ac y mae y rhai hyn yn ddin- asoedd hollol rydd oddiwrth bob tuedd i farnu gweithredoedd yn anffafriol. Y mae wedi cael sylwi arno nad yw gwleidyddiatth dramor Twrci, er yn ddichellgar, yn wreidd- iol; ond y mae yn chwanog i ail fyned dros ei dulliau. Pan-y gofynwyd iddi gan y Galluoedd am gael llywodraeth dda i'r tair talaeth, atebodd, 'Dywedwch yn hytrach i'r holl Ymerodraeth/ ac yn awr, pan y gofynir am gadoediad o chwech wythnos, 'Gwnewch hwynt yn gymaint â. hyny o fisoedd.' Mae yr estyniad gwirion-ffol yn gorchfygu ei hun. Mae cadoediad o chwe' mis yn fwy o lawer na'r hyn aelygir yngyffredill wrth gadoediad, a gallai, mewn amgylchiadau hawdd eu dir- nad, yn unig fod yn foddion i gael gwared o'r dirwasgiad anghysurus a wneir arni-yr unig beth ag sydd yn debygol o gael sylw y llyw- odraeth Dyrcaidd at y gofynion a roddir arni am wystlau er cael gwellllywodraethiad. Mae y Porte wedi dangos cryn lawer o gyfrwysdra wrth ochel fel hyn geisiadau y Galluoedd. Beth ddaeth o'r cynygion hyny y cydsyniwyd a hwynt gan y llywodraethau Ewropaidd, a derbyniad pa rai yr oedd Syr HENRY EL- LIOT i'w gymhell i'r Porte? Yr oeddynt yn cael eu gwrthwynebu yn gryf ddechreu yr wythnos ddiweddat, ond ni wrthodwyd hwynt yn ffurfiol gan y llywodraeth Dyrcaidd. Bwriedir i'r cynygiad hwn o gael cadoediad, yr hwn nid yw felly ond mewn enw, gymeryd eu lie. Rhoddir ar ddeall gan y Porte mai ei amcan wrth osod y dyddiad mor bell ydyw fel y gallo wneuthur gofynion cyffelyb i'r rhai hyny yr oedd Syr H. ELLiOTyn eu hanog arno mor ddiangenrheidiol. Os oes rhywun yn tueddu i ddweyd, "Goreuti gyd; gadawer i'r llywodraeth Dyrcaidd ddyfod ei hunan a'r mesurau hyny yn mlaen v gwelir gan bawb eu bod yn angenrheidiol," fe gymerai y cyfryw ag a ddywedai hyny ffordd wahanol i'r un ag y mae y Chwe' Gallu wedi cydsynio i'w chymeryd. Rhaid cadw mewn golwg mai nid addewid- ion neu gynlluniau p well llywodraeth a ofyn- wyd gan y Porte, nac hyd yn nod sefydliadau a fuasent yn offerynau er cario hyny allan- os yw y Tyrciaid Osmaulaidd yn wahanol iawn i'r hyn y gwyddir trwy hanesyddiaeth eu bod, ond gwarantau o hyny. Mae y ffaith hon yn gwneud gwahaniaeth rhwng y sefyllfa a gymerir yn awr gan y chwe' gallu a'r un a gymerasant yn amser Nodyn ANDRASSY. Oddeutu yr adeg hon y fiwyddyn ddiweddaf, nis gellid cael gan y galluoedd ddyfod i gydwelediad i ofyn i'r Porte am sicrwydd o lywodraeth well i'w ddeiliaid Cristionogol. Wedi i brofiad o chwe' mis eu hargyhoeddi nad oedd gan y Porte y gallu mewnol hwnw y tybias- ant fod ganddo, darfu i Gynryohiolwyr y tair Ymerodraeth dynu i fyny Gofnodiad Berlin, i ba un y rhoddodd Ffrainc a'r Ital eu cyd- syniad. Yn y nodyn hwnw rhoddwyd ar lawr fod y galluoedd yn meddu hawl foesol i wylio dros gyflawniad o'r amodau hyny a wnaed yn flaenorol gan y Porte yn dal eysylltiad a heddwch Bosnia a Herzegovina. Cyhoeddwyd hefyd ynddo yn mhellaeh ei fod yn "hanfodol i sefydlu gwarantau priodol o natur a fyddent yn sicrhau y tu hwnt i amheuaeth gymhwysiad llawn a chywir o'r mesurau hyny y cydsyniwyd arnynt rhwng y galluoedd a'r Porte." Nid yw y pum' gallu wedi tynu yn ol oddiwrth y cais hwn, ae y mae yr holl gwestiwn sydd rhwng y Llywodraeth Dyrcaidd a'r Cynghorau Ewropaidd yn troi arno. Nid addewidion am wleidyddiaeth ddoeth, gyfiawn, a chariadlawn a ofynir gan y SULTAN, oblegid y mae y rhai hyn yn bodoli mewn digonedd, er yn bur ddyryslyd; ac ychwaith ni ofynir eto am fath newydd o lywodraeth i gael ei gweithio gan hen ddwy- law er cyrhaedd hen amcanion, ond diogelwch ar ba un y gellir gofyn ynrhesymol i'r Criation- ogion bwyso ac ymddiried. Mae ymddygiad y Porte o'r dechreu wedi dangos nad yw o dan yr un lledrith a dychyjayg ffol, ond y mae yn deall yn drwyadl beth a geisir ganddo a paham, ac y mae y cynygiad diweddaf hwn i gymeryd i'w ddwylaw ei hun y mater y darfu i'r Galluoedd hysbysu mai perthyn iddynt hwy yr oedd, y mae hyn yn un prawf ychwanegol o'r fFaith hono. Nid yw y cynygiad hwn, er wedi ei wneud mewn ffordd o estyn cadoediad, mewn gwir- ionedd, yn newid dim ar ei gymeriad politic- aidd; dyfais ddichellgar ydyw er goahel y cwestiynau hyny y mae y Galluoedd yn bres- enol yn aros i'w hystoried, ac i ddadl ar ba. rai y gallasent, ar unwaith, fyned i mewn pe y ceid gwir gadoediad. Nid yw yr ymgeis- iadau gweiniaid hyn i gael trefniadau rheol- aidd o eiddo Twrci yn rhoddi rhyw lawer o obaith y derbynir y cadoediad gan y rhai hyny yr effeithir fwyaf arnynt drwy eu llwyddiant. Buasai yn beth hollol wahanol, pe y dilynasid derbyniad y cadoediad a hya- I y bysiad o dderbyniad y cynygion Ewropaidd. Pa mor ddiffygiol bynag yr ymddengys y y rhai hyny, y maent yn trosglwyddo yr hawl i'r Galluoedd i edrych am ddiogelwch a gwell llywodraethiad i'r taleithiau hyny a ddygwyd yn ddiweddar mor amlwg o flaen ein sylw; ond yn union, ar gyfrif hyn, y mae y Porte wedi gwrthod eu derbyn. Ofnwn nad oedd budd a lies heddwch mewn golwg gan y Porte pan yn rhoddi 1 earn diweddaf hwn; ar yr un pryd, buasai yn anoetbineb mawr i daflu ymaith rhyw radd o obaith a all fod yn weddill er cael cydwel- ediad. Nid yw yr opiniwn a fynegwyd mewn brys-hysbysiad o Vienna, sef na wna y Llywodraeth Rwssiaidd gydsynio i'r cadoed- iad o chwe' mis, mewn unrhyw fodd yn annhebygol; ond eto, nid ydyw gogwyddiad y Cylchlythyr a adroCldid er cadarnhad i'r farn hono mor wrthwynebol i heddwch ag y tybiwyd. Ysgrifenwyd y nodyn hwnw, fel y dengys ei gynwysiad, ar ol i gynygion Syr HENRY ELLIOT gael eu gosod heibio gan y Porte, ac y mae yn bwrw golwg dros sefyllfa pethau a grewyd drwy y weithred hono. Gwelir fod y Llywodraeth Rwssiaidd, wrth basio dull amheus a phetrusol gwrfchodiad y cynygion gan y Porte, yn ei drin fel peth sylwcddol a therfynol. Yn y wlad hon, mae