Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Hide Articles List
3 articles on this Page
"" BARDDONIAETH.
News
Cite
Share
BARDDONIAETH. *■ ■m CAN U'R NEF. T fynwes Hfa'i hunan-i ganig Awenol yn Nghanaan; Daw'r enaid i'w wir anian, A'r dyn i gyd red yn gan. PEDROG. CYMRU. (Dyfyniad.) Dy Ion delynau adlonol-ydynt Mal nodau ysbrydol Ti y sydd a'th hynud sain Yn arwain y byd cerddoro!. Y manau hedd yn y mynydd-lle i'n sydd Yn llawn swyn-ysblenydd Gwlad dawel yr awel rydd s A paradwys y prydydd Yn y nos y can y nant,—gan redeg Yn rhydiau drwy'r ceunant Yradar a ehedant.—i Ddmv'n gu Yn nefol ganu'n fil 1.1 ogoniant Yr eos fad rydd dros fia Beroriaeth 1 bererm A dorau dawn adar du Yn agor i chwanegu. :II: :II: 0* Arwain boed y genedl wrol—fy wyd da Yna hi foria i fri aafarwol I A bydd Cymru gu ar goedd I lesu'n dwyn yr oesofdd Yna'i chlod yn uweh leda— Edmygedd byd i gyd ga. Dolgellau. IDRIs. YR ENLLIBIWR. Pwy ydvw'r enllibiwr ? lied anhawdd yw dweyd, Ond down i'w adnabod drwy'r hyn mae'n ei wneud Mae'i wen yn gariadus, dan fantell o rith, Tra rhodia i'n canlyn, ei draed sydd o cbwith. Pwy fel yr enllibiwr a geir yn^yjbyd? Mae'n gallu gwenwyuo a gwenu'r un pryd, Hwn wisg a phlu rhagrith ei fach sydd mor llym, Fel nas gwna'r diniwed adnabod ei rym. Wrth hwnw mae'n line>-cio celwyddau diri' Er atal byw gynydd,-anrhydedd a bri 0 gadwyn ofnadwy, a diafl wrth bob linge, Mewn Ilawn ddealltwriaeth yn disgwyl ei wingc. Pan gaffo drwy wemaeth, i fynwes bur iach Ryw adeg ddirgelaidd, i daflu ei fach, Ymgilio wna wedy'n yn gyfrwys a chall, Tra'i amnaid yn disgyn ar dylwyth y fall. 0 greulon enllibiwr, tra'n dwyn enw dye, Mewn drwg mae'n rhagori ar ddiafol ei hun,— Dan fantell o gariad, mewn gwenwyn diball, Myn drochi picellau blaenllymaf y fall. I Wel, dyna'r enIHbiwr,—ymdrechwyn mewn pwyll, Cyn iddo'n niweidio,—adnabod ei dwyll A chanfod trwy'i ddichell, gudd-wreiddiau ei sen. Cariadfelit barlysa ei enllib, amen. TREFLYN. Y CYSTADLEUWR AFLWYDDIANUS. Culfarn at fy ngwaith celfydd—wnai esgyn Ar ysgol darfelydd; Dyna, os da, colli'r dydd,"—os credwch Ei farn,—udwch, at y coeg-feirniadydd Dyna ran yr afiwyddianus-ei gwyn- Y gwael sen, a'r esgus Ein traha yw li plant yr us,"—sy'n wyntog Gan far hwyliog awen afreolus. Dios gam a gaed, nid oes gymod-mwy Yn myd yr eisteddfod O ager ei wyllt ffregod,—•ystormydd A fwria beunydd yn°fcstfawr benod. Gorachyn dwg ei rychwant-i fesur Ei fasw wael haeddiant Ail i bly'r awenawl blant— yn marn graff Y gloew-wych seraph, gwyllwch ei soriant. Tynodd barddu o'r pentanau-duaf Er andwyaeth breiniau [gwawd Teg heirdd, deifion beirdd yr hen bau,-a Gwael ei arawd o hyddugawl eiriau.' 'Ei bobpetb yw rhyfel b:lpyr,edrydd Lenladrad er cysur Nod a swm y dienaid sur-yw bod A'i enw'n hyglod, a'i hun yn eglur. Llys Abred," yw'r lie i sobri—hurtyn Dan artaith barddoni Yn hwn weithian dodwn di,-am enyd,- I'r pair a d'ysbryd er puro d'asbri. Lerpwl. GORWYST
NEWYDDION CYMREIG.
News
Cite
Share
NEWYDDION CYMREIG. ABERYSTWYTH.—Ooleg y Brifysgol.—Yn y rhestr o'r ymgeiswyr llwyddianus am anrhydedJ (honours) yn yr arboliad a gynhaliwyd yn ddiweddar gan Brifysgol Llundain am y gradd o B.Sc., ceir enw Mr A. H. Toon, myfyriwr yn y coleg hwn, yn flaenaf ar y rhestr mewn llysieuaeth (botany), yn gyntaf yn yr ail ddosbarth. Nid oes yr un ym- geisydd wedi cyrhaedd y dosparth cyntaf. BANGOR.- Yn nghapel Salem, Hirael, nos Fawrth, cynhaliwyd cvfarfcd adloniadol. Llywydd- odd y Parch. D. Williams, Glandwr Terrace ar- weinydd, Mr L. D. Jones (Llew Tegid). Yn y prydnawn cafwyd te a bara brith. Cymerwyd rhan yn y cyfarfod gan Mr W. H. Jones, Taly- bont, Mr John Roberts, Carnarvon, Mrs Catherine Williams, Mr John A. Williams, Garth, ac amryw gantorion eraill, a clior y lie dan arweiniad Mr J. A. Williams. Y cyfeilydd ydoedd Miss M. J. Jones. Yr elw at y Band of Hope. Cafwyd cyf- arfod da -Goh. JERUSALEM, MALDWYN.—Cynhaliwyd cyfarfod cwartsrol yn y lie uchod, Tachwedd y 6ed a'r 7fed. Yr oedd yn bresenol yn y gynadledd am ddau y dydd cyntaf, y Parchn. J. Davies, Amwytbig (y cadeirydd) J. Jones, Machynlleth; J. Charles, Croesoswallt; J. Parry, Llanfyllin, R. 0. Evans, Ssmah W. R. Edwards, Sardis; G. P. Thomas, Aberhosan T. Nicholas, Byrwydd J. Silin Jones, Llanidloes; Dolvan Lewis a J. E. Thomas, Trallwm; T. J. Rees, Carno; D. Morgan, Penm-th ac 0. J. Owens, Llanfair a Mri. Phillip Evans a Roberts, myfyrwyr o'r Trallwm, ac amryw o aelodau o eglwysi y cylch. Dechreuwyd y gynadledd, trwy i'r Parch. J. Nicholas, Byrwydd, ddarllen a gweddio. Wedi cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol, penderfynwyd amryw benderfyniadau, sef fod y gymanfa nesaf i fod yn Penarth, &c. Hefyd pas- iwyd penderfyniad, mewn cysylltiad a'r Parch. J. Lewis, Birmingham, sef, fod y gynadledd hon yn dymuno datgan ei chydymdeimlad dwysaf a'n hanwyl fraw'd, y Parch. J. Lewis, Birmingham, yn wyneb marwolaeth ei anwyl briod, ac yn dymuno y bydd iddo ef a'i ferch dderbyn yn helaeth o gysuron yr efengyl, ac i svlweddoli fod yr Arglwydd yn nerth yn ol y dydd iddynt. Yr oedd Mrs Lewis yn enedigol o'r ardal, a theimlid yn alarus ar ei hot. Cafwyd cyfarfodydd da, arwyddion amlwg fod y Meistr mawr yn cynal breichiau ei weision. Buan y delo'r adeg pan y bydd y gynadledd wedi dyfod yn ddigon rhvddfrydol i roddi adroddiad swyddogol o'r cyfarfodydd yn y Gelt.—Cyfaill. SARDIS, MALDWYN:.—Darlith.— Nos Fercher, Tachwedd 21ain, traddododd y Parch. LI. E. Jen- kins, Pantycrwys, Clydach, ei ddarlith ar le un Gwynedd," yn y lie uchod. Cafwyd cynulliad Uuosog iawn, ac yr oedd y darlithydd yntau yn ei hwyliau ardderchog, a chafwyd ganddo ddar th ardderchog yn mhob ystyr. Llywyddwyd gan y Parch. W. R. Edwards, gweinidog y lie Y Cynghor Sirol.—Nos Iau, Tachwedd 22ain, cynhal- iwyd cyfarfod yn yr un lie, er eglurhau Deddf y Llywodraeth Leol." Etholwyd y Parch. W. R. Edwards, y gweinidog i'r gadair, yr hwn yn ol ei arfer a anerchodd y gynulleidfa yn wresog ac i bwrpas. Cymerwyd rhan yn y cyfarfod gan Dr. Edwards, Llanfyllin, a Mr W. Jones, o'r un lie. ac hefyd gan y Parch. J. V. Morgans, Llanwddyn. Etholwyd y Parchn. W. R. Edwards, E. J. Wil- liams (M.C.), J. V. Morgans, a Mr Lloyd, Aber- marchnad, i fyned i gyfarfod Hirnant, nos Wener, Tachwedd 29ain, yn yr hwn y dewisir yr ymgeis- ydd.-Goh. LLANDDONA.—Nos Jau, cynhaliwyd cyfarfod yn Ysgoldy y Bwrdd, i'r diben o egluro y ddeddf newydd. Cadeiriwyd gan Mr Hughes, gweinidog y Bedyddwyr yn Llanddona. Eglurwyd y ddeddf gan .Mr Thomas Jones, Porthaethwy, a Mr D- Edwards (Genedl). Caed cyfarfod pur frwdfrydig a dewiswvd y Parch. William Pritchard, Pentraeth, yn unfrydol fel ymgeisydd.-Goh. SEION, PONTYPRIDD.—Traddodwyd darlith yn y apel uchod nos Fawrth, Tachwedd 20fed, i cynulleidfa luosog o wrandawyr astud, gan y Parch. R. Williams (Hwfa M6n), ar y testyn "IIiraethog." Cafwyd darlith ragorol. Dylai pawb fynu cyfle i'w gwr.:indo.- Un oedd yno. m
Advertising
Advertising
Cite
Share
TYSTIOLAETH UNFRYDOL Y BYD YW MAI MEDDYGINIAETH ANGHYMAROL YW HUGHES'S DROPSY PILLS, At y Clefyd Blin ag y maent yn dwyn ei enw Wrth y nodau canlynol tjeV-vcn aunabod y Clefyd os bydd wedi gafael /d ynoch:— Diffyg Dwfr, Gravel; ChwyiH jn y Traed Cliniau, Ymysgaroedd, &c.; Gwynt Llawnder yn y Bol, Poen yn y Cefn a'r Arenau, Curiad y Galon, Cramp a Chwsg y Cluniau, Asthma neu Ddiffvg Anadl, Teimlad o Stiffdra yn y Corff, &c. Y rhai ydynt brawf sicr o bresenoldeby DROPSY yn y cyfansoddiad, ac y mae yn bwysig peidio esgeuluso defnyddio Meddyginiaeth ar ol teimlo un yr Dodau uchod. Trwy anwybodaeth a diffyg, gofal goddefir i'r clefyd marwol hwn i sefydlu wreiddio yn y cyfansoddiad cyn sicrhau y Feddyginiaeth Briodol, ac felly terfyna yn angeuol filoedd yn flynyddol. Er sicrhau gwellhad buan a sicr, dylai pob dioddefydd sicihau Blychiad o'r PILLS BYD- ENWOG, sef HUGHES'S DROPSY PillS, EFFEITHIAU RHYFEDDOL AR WYNT A DWFR. Ysgrifena y Parch. W. M. Jones, Gweinidog y Bedyddvvyr yn Ebbw Vale. Yr wyf wedi fy awdurdodi i anfon y dystiol- aeth ganlynol gyda-r bwriad i chwi wneud unrhw ddefnydd cyhoeddus o honi a fernwch yn briodol er llpsad dynolryw. Ymwelais a Evan Francis yn ddyddiol, ac yr oedd cyfiymder gyda pha un y gostyngwyd y chwydd annghyffredin y peth mwyaf rhyfeddol yn fy ngolwg i. Y mae Evan Francis yn hen wr 66 mlwydd oed. Dioddef- odd yn ddrwg oddiwrth y DROPSY yn ystod y gauaf diweddaf. Yr oedd wedi myned yn llwyr analluog i ddyfod o'i wely gan y Chwydd a'r Poen yn ei Gefn, Ymysgaroedd, a'i Goesau Yr oedd yn barhaus o dan ofal y meddyg, ond er hyny myned yn waelach oedd bob dydd. Nid oedd neb yn meddwl y gallai wella mwyach. Yn unol achynghor roddwyd iddo, treiodd HUGHES' DROPSY PILLS." Oddeutu y pedwervdd dydd wedi iddo ddechreu eu cymeryd, ymddangosai arwyddion ei fod yn d-N-fod yn well. Cysgedd y bedwaredd nos, yr hyn uad oedd wedi allu wneud am wythnosau cyn hyny. Cafodd y PILLS yr effeithiau rhyfeddaf ar y GWYNT a'r DWFR. Yn mhen oddeutu wythnos yr oedd y Chwydd yn e Goesau wedi Tod i lawr o modfedd i 12 modfedd. Y mae yn awr mor iach fel y mae yn gallu tret: wythnos oddicartref. Y mae yn teimlo o dan rwymau i wneud ei wellhad cyflym a rhyfeddol yn hysbys i'r cyhoedd fel y byddo i eraill i allu treio y FEDDYGINIAETH WERTHFAWR HON. Y mae Gwyr, Gwragedd, a Phlant yn mhob gwlad wedi derbyn budd anrhaethadwy o'u defnyddio. RHYBUDD Er mwyn sicrhau pawb rhag twyll, gofaler cael y Trade Mark (sc llun Diamond) a'r geiriau DROPSY PILLS" oddifewn ar bob blwch, a'r enw JACOB HUGHES ar Stamp y Llywodraeth. Heb hyn twyll ydyw. Ar werth trwy yr holl deyrnas am Is He, 2s 9c, a 4s 9c trwy y Post, Is 3c, 2s 11c, a 4s 9c oddiwrth y Perchenog- JACOB HUGHES, D.S., A.PH.S., Manufacturing Chemist, PENARTH, CARDIFF. I Go ruchwyliwryn America—MR R. D. WILLIAM Chem sit, &c., PI y mouth Pa., gan yr hwn y gellirca. hefyd" GOMER'S, BALM a HUGHE'S DROPSY PILL