Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

........ RHYFEL Y DEGWM YN…

News
Cite
Share

RHYFEL Y DEGWM YN MALDWYN. Nid ydyw y penawd uchod yn un dieithr yn y dyddiau hyn, yn gymaintabod cynifer o frwydrau wedi cael eu'hymladd yn barod, ac nid hon oedd y frwydr gyntaf yn sir Drefaldwyn. Y mae y cewri sydd yn byw yn y sir hon yp gallu edrych yn ol at yr adeg y gorchfygwyd yr holl hedd- geidwaid yn Meifod, pryd yr ataliwyd hwy i vrerthu gan sain cyrn a thabyrddau, ond y tro hwn cymerwyd cynllun gwabanol. Fesicrhaodd y Prif Gwnstabl Godfrey, trwy ymgynghori a'r amaethwyr, y cawsid heddwch i fyn'd yu mlaen gyda'r arwerthiadau, felly ni wnaeth yr hedd- geidwad ei ymddangosiad. Y mae yn mhlwyf Manafon amryw o ddynion cedyrn a ffyddlawn i'w hegwyddorion yn ngwyneb rhwystrau, ac hyd yn nod er colli eu ifermydd, ni wadant hwy. Dydd Mercher <liweddaf ydoedd y dydd penodedig i'r arwerthiadau degymol gymeryd lie yn y plwyf hwn, er eu bod yn hir ddisgwyliedig. Y lie cyntaf yr ymwelwyd ag ef ydoedd Bryn- bwdog, cartrefle y doniol a'r gwreiddiol Mr E. Roberts, yr hwn sydd yn ddiacon yn nghapel yr Anibyowyr, Byrwydd. Yr oedd yr hysbysleni wedi eu dosbarthu, fel y daeth tyrfa Inosog yn ughyd, er fod yr arwerthiadau yn dechreu am wyth o'r gloch y boreu. Cariwyd y gweithred- iadau yn mlaen yn ol cyfarwyddyd Mr Martin Woosnam, cyfreithiwr, c'r Drefnewydd, yr hwn sydd yn cymeryd dyddordeb mawr yn mrwydr y gweithwyr a'r amaethwyr. Pan y gwnaeth y ♦ prif gwnstabl a'r arwerthwr eu hymddangosiad, cafwyd amryw floeddiadau a dywediadau miniog gan y dorf, er dangoseuhanghymeradwyaeth o'u dyfodiad i'r lie. Yn y He hwn yr oeddynt wedi atafaelu tas o wair, ac yr oedd effigy o'r person wedi cael ei wneud i'w gynrychioli, a'i osod yn dacIns ar ben y das. Yr oedd ei wisg yn awgrymiadol dros ben, fod y plwyfolion heb dalu'r degwm yn ddiweddar. Yr oedd wedi ei wisgo mewn clos pen glin, a'i gob wedi bod yn dda rywbryd, ond yn awr yn felynddu, ei het wedi colli llawer o'r manblyf sid:maidd, ac ar ei iron yr oedd y geiriau, "First born Judas repro- duced," "My pound of flesh," •' Coercion in Wales," &c. Yna dechreuwyd ar y gwaith. Y mae Mr Roberts, vr hwn sydd hen wr pedwar ugain oed, yn anarch y dyrfa i ymddwyn yn n foneddigaidd a chofio yr ymrwymiad. Os oeddynt wedi dyfod yno y dydd hwnw i wneud angbyf- iawnder, y byddai iddynt dderbyn eu taledigaeth, wedi byny y mae Stephens yn dechreu ar ei waith. Mr Roberts oedd y prynwr, dyn yn prynu ei eiddo ei hun, ni fuasai y person byth yn llafurio i'w gael i'w ydlan yna terfynwyd y gwpithrediadau yn Brynhwdog, drwy floeddio a ■ohwythu cyrn nes oedd y cymoedd yn adsain. Y He nesaf ydoedd Plasdocyn, tas o yd oedd wedi ei hatafaelu yma, yr oedd y dyrfa yn cynydda o hyd. Cariwyd y person ar ysgwyddau » meibion y cewri o Brynhwdog, a gosodwyd ef ar ben y das yd oedd i'w gwerthu, erbyn hyn yr oedd potel tri haner peint yn crogi wrth ei wregys. Ni fuwyd yn faith yma, prynodd Mr Andrew, y tir «ldeiliad, yr yd. Yna aed yn mlaen i Wtrawen, tua dwy filltir o ifordd leidiog a disathr. Nid oedd y gymdeithas wrthddegymol wedi bwriadu cael arwerthiant yn y lie bwn, ond pan ddaeth y criw heibio i atelafau ac i settlo gyda pbawb oedd wedi eu nodi i wneud felly, dangosodd y wraig, yr hon sydd ddynes fechan o gorpholaeth, fod ynddi bender- iyniad o faintioli tu hwnt i'r cyffred.in. Nid oedd y gwr gartref, yr oedd ef wrth ei ddiwrnod gwaith, saermaen ydyw yn ol ei alwedigaeth. Ceisiodd ysgrifenydd y gymdeithas wrthddegymol gan y wraig dalu, gan eu bod hwy wedi nodi rhal i sefyll allan. Hithau a atebodd na thalent hwy ddirna byth i'r person creulawn ond drwy e orfodaeth, a,c felly y bu. Erbya cyrhaedd Wtrawen yr oedd y dyrfa wedi cynyddu yn ddir- fawr, a phan yr oedd Godfrey a'r arwerthwr yn dyfod i mewn i'r buarth, cawsant ychydig o'u gwasgu. Yr oedd golwg Iled gynhyrfus ar y dorf. Yr oedd cynrychiolydd y person wedi cael gwisg wen am dano erbyn hyn. Wedi i flaenor- iaid y bobl Iwyddo i lonyddu ychydig ar y dyrfa, cafwyd anerchiad gan Mr Godfrey, yn yr hon y dangosodd ei fod yn canfod y teimlad tanllyd oedd yo y bobl yn erbyn y degwm, dywedai fod ein tadau wedi ymladd yn gyfreithlon i gael y dreth eglwys i ffwrdd, ac am i ninau ymdrechu gwneud yr un modd gyda'r degwm, fel y byddem < deilwng o'n henafiaid. Hefyd, dywedai ei fod ef er pan y mae wedi cael ei anrhydeddu i fod yn brif gwnstabl y sir, wedi nodi dynion o'r sir yn ddieithriad i'r police force, cafodd gymeradwy- aeth. Yna y mae Mr D. Roberts yn esgyn i fynu grisiau ysgol i ben y das wair oedd wedi ei hatafaelu. Y mae Mr Roberts yn ddiacon yn Eglwys Anibynol Penarth, ac yn Rhyddfrydwr ac Anibynwr o'r iawn ryw, ac oddiar yr ysgol y y 11 safai arni anerchodd y dorf i fod yn ddoeth, gan ddymuno arnynt ymddwyn yn deilwng o honynt eu hunain ac o'u ceoedl. Os oedd y dynion hyn wedi dyfod yno i werthu yr ychydig wair oedd ganddo wedi ei gasglu i'r fuwch, ei fod yn gobeithio fod yno rywun i'w brynu i fewn iddo, a gwnaed hyny gan ei ferch yn nghyfraith, Mrs Roberts, Bridge Inn, Llanfair, wedi i'r arwerth- iad fyned trosodd, cododd Mr Roberts i fynu i ddyweud mai dyna y tro cyntaf erioed i arwerth- iant fod wrth ei dy ef, ond y mae yn ddiddadl mai nid y tro diweddaf ydoedd, os na fyddai i'r degwm gael ei droi i'w amcan priodol. Wedi hyny y mae y dyrfa yu cyfeirio tua'r Ffrydiau. Dwy eaeth fach amddifaid sydd yn byw yn", nid ydyw yr henaf o honynt uwchlaw pedair ar bymtheg oed. Y mae Tafolog yn ewythr iddynt o ochr ei mam, a phan yn myn'd i fewn i'r maes gerllaw'r ty, yr oedd y geiriau tarawiadol, "Na ddos i fewn i feusydd yr amddifaid, canys eu Gwaredwr hwy sydd nerthol, ac a amddiffyn eu cweryl hwynt yu dy erbyn di." Ar ol cyrhaedd y lie, gosodwyd yr effigy ar ben y das oedd wedi eu hatafaelu, a gwnaed cymares iddo. Yr oedd hyn yn creu difyrwch mawr i'r dyrfa, a chan fod y prif gwnstabl a'r arwerthwr yn gorfod myn'd llawer o gwmpas i ddyfod i'r lleoedd, yr oedd y bobl wrth groesi yn gallu cael y blaen arnynt hwy; ac yna cenid can oedd wedi ei chyfansoddi i'r amgylchiad i'w haros i'r lie. Wedi iddynt gyrhaedd y mae Mr Godfrey yn anerch y dyrfa, yna aed yn mlaen gyda'r gwerthu. Prynwyd y gwair i fewn gan Mr Clarke, Dwyriew, cymydog i'r genethod amddifaid. Yea tyuwyd yr effigy i lawr o ben y das, a rhedwyd ag ef drwy y dyrfa, ac yr oedd y bobl yn ei guro yn lied arw, Y gwr a wybu ewyllys ei Arglwydd ac nis gwnaeth a gurir a llawer ffonod." Felly yr oedd enw Evan Shenkyn yn cael ei hwtio gan yr holl dyrfa, a'r diwedd fu ei losgi ar faes yr amddifaid. Y mae y mwg wedi esgyn i fyny i dystio yn erbyn anghyfiawnder y degwm a'r dull presenol o'i gasglu. Yr oedd y gwaith wedi ei gwblhau erbyn tua haner dydd, ond nid oedd y cwbl drosodd. Dywedodd Mr Theodore, Llanfair, ychydig eiriau, ac awgrymodd y doethineb o gael casgliad, a chafwyd casgliad da iawn. Yr oedd Mr J. Jehu, Bronafon, Llanfair, wedi bod yn talu y costau ar ran y gyindefthas wrth bob un o'r lleoedd. Hefyd, cafodd y dieithriaid luniaeth wrth yr oil o'r tai. Cyn ymadael cafwyd cyfar- fod rhagorol yn yr awyr agored wrth y Ffrydiau, pryd y siaradwyd yn rymus ac yn adeiladol gan y Mri. N. Watkins, Glasgoed, gynt o'r Moat; Richards, Plasisaf; J ehn, Bronafon; Jones, Plasuchaf Theodore, Llanfair Jones, Fach-hir; Watkins, Brynmair, a Martin Woosnam. Pasiwyd penderfyniad yn anghymeradwyo y modd y mae y degwm yn cael ei ddefnyddio, a'r'dull an- nghristionogol a arferir i'w godi. Pasiwyd pen- derfyniad o ddiolchgarwch i Mrs Woosnam am ei ffyddlondeb yn yr ymgyrch. Y mae yn ddi- ddadl fod yr arwerthiadau hyn yn gwneud mwy i agor llygaid y wlad ar bwnc y dadgysylltiad, na llawer o areithiau coeth, ac yn magu ysbryd gwrol yn leuenctyd yr oes i ddadleu eu hawliau. Bydded i'r rhyfel hwn fod yu foddion o ras i Berson Manafon, i'w ddwyn i ystyried ei gyflwr, ac i gyfnewid er gwell yn y dyfodol.

[No title]

Advertising