Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

CYFARFOD OHWARTEROL ARFON.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

CYFARFOD OHWARTEROL ARFON. Cynbaliwyd yr uchod yn Pendref, Baagor, Tachwedd 27ain a'r 28ain. Y gynbadledd am 10.30 boreu yr ail ddydd. Yn bresenol: Parchn. E. Herber Evans, D.D., Caernarfon; Evans, Bangor Lewis, B.A., Bangor Lewis, M.A., o'r brif athrofa, Bangor Williams, Garth, Bangor; Rowlands, Treflys; Adams, B.A., Bethesda Griffithf:, Amana; Owen, Llanberis; Jones, Car- mel; Parry, Chwarel Goch Walters, Penmaen- BQUwr Williams, Dwygyfylchi; Williams, Llan- dudoo; Jones, Colwyn; Jones, Pentir; Evans, Bettwsyeaed Evans, Henryd Williams, BOBt- newydd; Roberts, Caernarfon Williams, Eben- eøer; Jones, Maesydref; Priee, Trefriw Rob- erts, y Bont; Johns, Beaumaris; a Griffith, Bethel. Pregethwyr Mri. T. Milward, Bangor W. Davies, Glasinfryn; H. Williams, Salens^ Peamaenmawr R. Thomas, Bethel; a myfyrwyr athrofa Bangor. Diaconiaid ac ymwelwyr Mri. J. Evans, Bangor; W. J. Parry, Coetmor Hall Williams, Bethel R. Thomas, Tyddyn y Berth; David Evans, Porthdinorwig; R. Owen (ieu.) Tyddyn Mawr;. O. Williams, Colwyn; R. Evans, Carmel T. Edwards, Bethlehem R. Kynaston, Beula; W. J. Williams, Caernarfon; H. Jones, Bethesda H. Davies, J. Williams, S. E. Owens, .Evan Jones, D. Lloyd, &c. 1. Darllenwyd cofnodion y cyfarfod blaenorol a ekadarnhawyd hwynt. 2. Rhoddwyd derbyniad calonog i Mr Davies Jones, Carmel, a darllenwyd ei lythyr cymera- dwyaeth ef a Mr Adams, Bethesda, ac yr oedd y cyfarfod yn cael ei feddianu gan deimlad o lawenydd cyffredinol, yn wyneb y ffaith fod brodyr mor gu ac anwyl wedi dyfod i sefydlu yn ein plith. 3. Y flwyddyn 1889.-Galwyd sylw at y cyf- arfodydd arbenig sydd i'w cynal yn y sir y flwyddyn nesaf, sef y gymanfa gerddorol yn y Pavilion, y gymanfa sirol yn Pwllheli, a'r U ndeb Anibynol Cymreig yn Bethesda, ac ystyrid mai priodol iawn fyddai i'r cynulleidfaoedd yn mhob man i arfer doethineb, ac os gellir, i roddi o'r neilldu eu cyfarfodydd eu hunain, fel y gall pawb, hyd y bydd yn bosibl, gydgyfarfod yn y tair gwyl arbenig hyn. 4. Cyflwynwyd Mr Robert Thomas, Bethel, i sylw y cyfarfod fel pregethwr ieuanc, gan yr hybarch Owen Williams, a gwnaeth nodiadau o'r fath nas gall neb ond efe, fel y tybiwn, eu dych- mygu na'u Hefaru y canlyniad ydoedd i'r brawd ieuanc gael ei dderbyn i'r cyleh gyda gwen hyfryd. 5. Cofgolofn Tanymarian.-Da oedd gan y cyfarfod ddeall fod yr eglwysi yn Carmel a Bethlehem yn ymsymud i gael cofgolofn i'w diweddar anwyl weinidog eisioes y maent wedi ,casglu 25p. Gan i Mr Stephen dreulio ei oes lafurus a defnyddiol yn y cyfundeb hwn, hydcrid yn fawr y byddai i bob eglwys anfon cyfraniad siriol er cyrhaedd yr amcan clodwiw mewn golwg. 6. Y Jiwbili.—Yn ychwanegol at yr addewid- ion amodol a wnaed yn y cytarfod diweddaf, penderfynwyd fod Pendref, Bangor, i gael 15p. am glirio 30p.; Treflys 15p. am glirio 30p. a Bethania 15p. am glirio 30p yr amser i gyflawni y gwaith, naw mis. 6. Trysorfa y Gwragedd Gweddwon. —Dar- llenwyd llythyr Mr Rogers, Pembre, ar ran y .gymdeithas ragorol hon, a cbyflwynwyd y mater i sylw caredig yr eglwysi. 8. Gwnaeth y Parch D. M. Lewis, M.A., o'r tbrif athrofa, nodiadau gwerthfawr mewn cys- ylltiad ag addysg ganolraddol, gydag awgrym- 1 iadau ar y, priodoldeb o sefydlu dosbarthiadau -darlleu mewn cysylltiad a'r gwahanol gynulleid- faoedd. Diolchwyd yn gynes i Mr Lewis am ei anerchiad. 9. Pasiwyd penderfyniad yn condemnio ad. rroddiad mwyafrif y Pwyllgor ar Addysg. 10. Dewiswyd Mr Richard Evans, Carmel, Llanllechid, i fod yn gadeirydd am y flwyddyn ddvfodol, a chyflwynwyd diolchgarwch unol y ,gynadledd i Dr. Herber Evans am ei wasanaeth gwerthfawr yn ystod y flwyddyn a aeth heibio, 11. Derbyniwyd casgliadau yr eglwysi—4p. 6s., casgliad cyhoeddus ya Mangor, J p. 10s.—cyf- answm, 5p. 16s. 12. cyfarfod nesaf i fod yn Llandudno, a'r Tun dilynol yn Bethlehem. Pregethwyd yn y moddion cyhoeddus am 2 a 6 gan y Mil. Wil- liams, Dwygyfylchi; Roberts, Caerna.rfon; Jones, Carmel; Adams, B.A., Bethes-da, Cafwyd hin hy'fryd, caredigrwydd parod, a ckyfarfodydd hwylus. Coroner y gwaith a llwyddiant lawer. R. W. GRIFFITH, Ysg.

DOSBARTH DEML MEIRION.

Y DYDDIADUR AMIBYNOL AM 1889.

Advertising