Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

AR YR OLWYN.

News
Cite
Share

AR YR OLWYN. ETHOLIAD MERTHYR, &c. Wel, dyma hi; yn y Tarian am Tachwedd 15fed, gelvvir fi i gyfrif yn ddifrifol, ond yn bynod ddibwynt, gan fy hen gyfaill y Parch. W. J. Richards, Dowlais, a chan y Go! am i mi ddweyd yr olwg a gefais ar etholiad annhrefnus Merthyr, Nrth edrych arno o bell ond gall y ddau fod yn sicr, gan nad sut y maent yn teimlo, mai golwg debyg i'r hyn gefais i gafodd y rhan fwyaf arnynt y tu allan i gylch y 4 tan a r mwg.' Y mae yn amlwg fod y brawd o Dowlais yn siomedig, a than ddylanwad y teimlad hwnw y mae yn gweled yn frith, yn clywed yn gymysglyd, ac yn deall o chwith. Wel, y mae yn bawdd i'r neb sydd yn ei adnabod faddeu iddo. Y mae yn debyg fod ganddo ryw amcan mewn golwg wrth ySgrifenu y llythyr hwn heblaw gosod y fflangell ar fy nghefn i; ond nid wyf yn sicr fy mod yn deall yr hyn y mae yn cynyg ato. Gall- wn feddwl ei fod am i mi ddeall rhyw dri phwynt am y Caucus, tri am bleidwyr Mr Morgan, a thri am danaf fy bun. 1. Fod y Gymdeithas Ryddfrydol (y mae y gair Caucus lawer yn fwy sionc) wedi ei hethol yn rheolaidd. 2. Fod y Caucus yn cynrychioli teimladan a syniadau yr etholwyr. 3. Fod y Caucus wedi gweithiedu yn rheol- aidd wrth ddewis Mr F. Griffiths. Gan fod Mr Richards yn gweled yr holl weithrediadau fel hyn yn un gadwen o reoleidd- dra, pa ryfedd eifod yn teimlo yn siomedig wrth weled fod yn yr ethoiaeth 7,000 o wyr na phly- gasant eu gliniau i reoleidd-dra y Caucus ond pe buasai y brawd wedi arcs i'r mwg ddiflanu, efe a welsai na ddywedais i gymaint a gair yn erbyn rheoleidd-dra etholiad y Caucus mwy nag y byddaf yn dwtyd yn erbyn rheoleidd-dra rhoddi rbybudd i denant i ymadael o'i dyddyn, neu reoieidd-dra cospi dyn am ddal ysgyfarnog, gwuirigen, neu bysgodyn; ond nid I latv yw f. I justiceac nid rheoleidd-dra gweithrediadau y Caucus yw yr hyn sydd deg. Ewyllys y pende- figiori sydd yn gwneud rheoleidd-dra rhoddi notice a chospi am ddal pysgodyn, ac ewyllys rhyw ddyrnaid sydd wedi rhoddi i'r Caucus ei reolau. Dywed fod Mr Griffiths wedi cael yn agos pum' mil o bleidleisiau Rhyddfrydwyr cydwy- bodol,' ond na chafodd Mr Morgan yr un Rhyddfrydwr cydwybodol i bleidleisio drostro, mai rhai oeddynt oil wedi gwerthu a bradychu eu hegwyddorion. Y mae mewn hen lyfr sydd yn fy meddiant hanes gwr a elwid John, yr hwn oedd wr addfwyn dros ben ond un nos- waith pan wedi cael ei aiomi, efe a fynai losgi y pentref i gyd, a buasai wedi gwneud oni buasai i'w feistr ei atal. 'Taw, John,' ebai efe, I hyd oni ddelot atat dy hun.' Yr wyf finau yn sicr na fuasai Mr Richards byth yn arfer termau fel yna am ei gymydogion oni bae ei fod dios ei ben yn y niwl. Bu agos i'r Caucus yny Gower agor dorauiGeidwadwr fyned i'r Senedd. Istyriai y Toriaid fod y lleihad Y11 mwyafrif Mr Randell yn fuddugoliaeth iddynt hwy, tra mown gwir- ionedd mai buddugoliaeth ydoedd i'r bobl yn erbyn y Caucus. Pa nifer o aelodau y Caucus werthodd eu hegwyddorion yn y Gower? Pa nifer o aelodau Caucus Merthyr oedd o blaid Mr Morgan ? Nid yw yn foddlon i mi gyplu neu gymharu etholiad Merthyr ag etholiad y Rhondda a'r Gower, am,' meddai, fod yr amgylchiadau yn dra gwahanol.' Purion y mae hyny yn profi yn gryfach yr hyn wyf yn geisio ddangos. Y mae yn dangos fod gan bobl Morganwg dair I., ffordd i drechu y Caucus, canys y mae tri aelod wedi myned i'r Senedd ar ei waethaf, ac yn ol Mr Richards, dan amgylchiadau gwahanol;' felly, gan nad beth yw yr amgylchiadau, y maey result yr un peth. Dywedais fod y pregethwyr yn Merthyr fel yn y Rhondda yn bleidiol i'r Caucus, un pre- gethwr, o'r hyn lleiaf, un Anibynwr, dim ond Mr Edwards, oedd gan Mabon o'i blaid yn y Rhondda, a dim ond un sef Mr Davies, Aber- canaid, oedd o blaid Mr Morgan yn Merthyr, dim ond Chaplain i'r naill a'r llall; ond y mae y brawd o Dowlais yn diolch fod y pregethwyr o blaid y Caucus yn Merthyr; ond a yw, tybed, yn teimlo yr un fath am eu bod o blaid y Caucus yn y Rhondda? Dywed hefyd fod pob dyn sydd yn gwybod rhywbeth am etholiadau, ac yn meddu ar synwyr cyffredin, yn cydnabod fod y Caucus wedi gweithredu yn deg. Wei, y mae yn sicr y bydd yn gwenu uwchben argument o'r nerth yna gynted y cliria y niwl. Wel, wrth riawm, ni ddarfu i mi erioed freuddwydio fy mod yn deall cymaint o wleidyddiaeth a Mr Richards. Braidd yn y mwg mae y Gol. yntau. Y mae fy llawenydd i am fod y Caucus wedi cael ei guro yn anesboniadwy iddo ef, ac ychwanega y rhaid cael rhywbeth (?) neu yr elai y cwbl yn ddidrefn. Purion ond er holl allu a nerth y Caucus, wele dri etholiad wedi myned ,i anhrefn wrth edrych arnynt o standpoint pleidwyr y Caucus. Y mae yn amlwg, gan hyny, y rhaid cael 'rhywbeth' heblaw Caucus o'r nodwedd a natur y Caucus presenol. Rhaid cael Caucus i weithredu oddiar awdurdod a dderbynia oddi- wrth y bobl, ac nid i'r bobl weithredu oddiar awdurdod y Caucus. Y fath ffolineb, ymddiried i 500 o ddynion i ddewis Aelod Seneddol i 15,000 o etholwyr. Dylesid cael llais pob ethol- wr yn mhob rhan o'r ethoiaeth, a chenadwri o bob dosbarth i fyned i gyfarfod y Caucus pwy maent yn ddewis, ac nid cenadwri o'r Caucus i ddyfod yn ol at y bobl. Peiriant i wylio y ter- fynau rhag ymosodiadau y Toriaid ddylai y Caucus fod, ac nid peiriant i lywodraethu y Rhyddfrydwyr. Amcan a neges Cymdeithas Ryddfrydol Merthyr ac Aberdar ddylasai fod cynorthwyo y bobl i ethol eu dewisddyn, ac nid dweyd wrth y bobl pwy i ddewis. Cyfeiria at etholiad 1874, pryd yr oedd tri ymgeisydd Rhyddfrydig ar y maes yn cynyg am y sedd, a dweyd i hyny gymeryd lie am nad oedd y Cau- cus mewn bod, ond yn awr pan y mae y Caucus yn bodoli, ac, yn ol Mr Richards, yn gweithredu yn rheolaidd, y mae anhrefn 1874 yn parhau, dau ymgeisydd ar y maes; y mae y quality yr un, ond fod y 'quantity' yn amrywio. Rhaid troi pen olaf y Caucus yn mlaenaf neu bydd yn sicr o lethu cymaint o ysbryd Rhydd- frydig sydd yn y wlad. Mewn cynadledd Ryddfrydig yn ddiweddar cyfeirid at y pwys i gael y gweithwyr i gymeryd dyddordeb yn y symudiad oedd ar droed. Be' mae nhw'n wvbod ?' ebai un o aelodau Caucus y sir. Atebwyd ef gan un arall yn ddiymdroi, Y maent yn gwybod digon i aros gartref a pheidio gwneud yr hyn fyddoch yn geisio.' Pe amser genyf ysgrifenaswn lythyr neu ddau ar gyfansoddiad a pheirianwaith y Caucus, ei fanteision a'i beryglon, ond nis gallaf. Go- beithio y bydd y tri etholiad crybwylledig yn rhybudd i ganolbarth Morganwg, canys nis gall fod yr etholiad hwnw yn mhell. Gobeithio yr ymgadwant rhag dyfod i wrthdarawiad fel y gwelwyd yn Merthyr. Yr oedd y ddau ymgeisydd y naill mo'r ddi- eithr a'r llall i'r etholwyr. Daeth Griffiths ger- bron yr etholwyr fel pe yn disgyn o'r llenad. Nid oeddid erioed wedi ciywed am dano fel gwladgarwr a chenedlgarwr, fel lienor a diwyg- I iwr, fel Cymro na Chymreigydd, yn unig der- bynid ef ar dystiolaeth dieithriaid fel un oedd yn debyg o wneud aelod da; o'r tu arall yr oedd enw Mr Morgan yn adnabyddus i bob Cymro er ys amser bellach, fel dyn caredig, fel un o haniad Cymreig, fel un yn caru ein cenedl ni, a'n heisteddfod ni, ac fel brenin yr aur. Ac nid oedd, hyd y gwn i, air o ddrwg i'w ddweyd am y naill na'r llall cyn arieg yr etholiad. Wrth ys- tyried yr amgylchiadau hyn, ac ereill ellid nodi yn nglyn a dewisiad Mr Griffiths, y mae yn an- hawdd peidio a gofyn a wnawd y dewisiad above board? Os do, a oedd yn ddewisiad doeth? Gresyn na fuasai rhywun yn Merthyr yn gymwys i wisgo mantell yr aelod diweddar heb eisieu myned o gartref. Cefais ymgom a Mr Pritchard Morgan. Yr oeddwn yn awyddus am ei weled wedi clywed cymaint o bardduo arno, ac am gael ei syniadau ar rai o'r pynciau yr oeddwn i yn teimlo dyddor- deb ynddynt. Wele y gofyniadau a'r atebion Y mae yn debyg fod yr etholiad wedi cyn- yrchu teimladau chwerw; a fydd i hyny ddy- lanwadu i'ch rhwystro chwi i ganlyn Mr LTJad- stone yn y Ty ? o; Dim yn y mesur lleiaf, os bydd efe yn ddigon Radical. Os caf rywun mwy Radical mi a gan- lynaf hwnw; ni rwymaf fy hun wrth bersonau yn gymaint ag wrth egwyddorion. Y mae yn debyg eich bod yn iach ar y Dat- gysylltiad ? Wn i ddim beth am fod yn iach, ond fy marn yw na ddylai fod mwy o gysylltiad rhwng yr Eg- lwys a'r Llywodraeth nag sydd rhwng y Grocer a'r Llywodraeth. A wnewch chwi bleidio mesurau i wella tir ddaliad yn y wlad hon ? Fe garwn i chwi ddeall i mi fyw ugain mlyu- edd o fy amser goreu mewn gwlad lie y mae osgo pob symudiad yn erbyn monopoty,' yn neillduol yn erbyn 'monopoly mewn tir,' a bod y teimlad gwrth-moropoly hwn wedi ei gydwau 4 (inwreathed) a'm natur, a phryrt bynag y daw mesur gerbron y Ty i gynyg tori y monopoly tirol yn y wlad hon, mi a'i cefnogaf a'm holl galon ac mi ddywedaf i chwi ragor, byddaf yn barod i symud yn y mater. Beth am ein hysgolion ni, a ddylai y plant gaeladdysg rad ai ni ddylent? Yn rhad, wrth reswm, yn neillduol gan eu 0 bod yn cael eu gorfodi i fyned i r ysgol; dylai yr ysgolion fod yn hollol anenwadol, a gresyn na fuasech chwi yn Nghymru wedi cael hyn er ys talm. Dywedwyd llawer yn fy erbyn i yn Merthyr am nad wyf yn perthyn i'r un sect. Y mae hyny i'w briodoli i amgylchiadau yn fwy na dim arall; ond y mae genyf ddigon o grefydd yn fy nghalon Fm dysgu i wneud cymaint a t'edraf o ddaioni yn y byd, a hwyrach y gwnaf fwy o ddaioni i Gymru na llawer o'r sectariaid yma. Y mae llawer o siarad yn y wlad am Home Rule y dyddiau hyn i'r Iwerddon, i Gymru, Ys- gotland, a L'oegr, a ydych chwi yn tybied fod peth felly yn ymarferol? Nis gall un dyn ar ol ymgydnabyddu a'r Tre- fedigaethau lai na thaiuilo y dylai, ac y rhaid i bob cenedl gael Home Rule cyn y gall fod yn ddedwydd. Dysgwch eich cydgenedi, ac ni fyddant yn hir yn foddlawn aros dan draed neb, egwyddor werinol yn unig sydd yn gydnaws a natur a theimlad dyn. Gadewch chwi i'r bobl gael eu dysgu. A ydych yn credu mewn gwerin-lywodraeth? Wei, os oes breuin neu frenhines i fod, gwneler y swydd mor syml ag y byddo modd. Dylai y teyrn gael priodi y neb a fyno fel ar- lywydd yr America, ac nid cael ei orfodi i fyned i Germani i geisio cardotyn o dywyeog i fyw ar ein cefnau ni. Teimlai y bobl unwaith fod brenin Prydain yn myned i briodi merch o'r wlad hon, a byddai pob mam yn sicr o geisio gwneud ei goreu i fagu ei merch i fyny yn addas i fod yn Frenhines Prydaiu Fawr; ond yn awr, pe byddai merched Cymru i gyd yn swp o berffeithrwydd, rhaid cael begeriaid o ryw wlad arall i fod yn wragedd i'r tywysogion. Yr oedd y syniadau hyn yn goglais fy nheim- ladau i i'r dim, ond gan y gwyddwn nad oedd efe yn fy adwaen, nac yn gwybod dim am danaf, dywedais, Y mae yn debyg na fydd genych wrth- wynehiad i mi gyhoeddi yr ymgom hon gan y mae yn debyg y bydd eich pleidleisiau yn y fy yn cyfateb. Atebodd, yr wyf yn cymeryd yn ganiataol y gwnewch. A oedd Rhyddfrydwyr Merthyr yn gwybod y pethauhyn? ebai finau, os oeddynt, paham yr oeddynt mor groes ? Gwyddent yn eithaf da, ebai yntau, ond pwy mor ddall a'r hwn ni fyn weled P Y mae yn an- hawdd gwybod beth yn fwy Radicalaidd allai y Merthyriaid a'r Aberdariaid ddymuno. Mostyn. E- PAN JONES. (1 barhau.) >

Advertising