Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

AMRYWION O'R AMERIG.

News
Cite
Share

AMRYWION O'R AMERIG. Anfonwyd James M. Dowgherty, gynt « Sa'em, N.Y., i wallgofdy am iddo ganlyn y actrea Mary Aaderson i Ewrop ac yn ol, gan geisio talu ei sylw serchog iddi yn mhob man. C.vmerwyd Mrs Jane llowell i'r ddalfa am hndo genethod dan oed i ymuno a Byddin Iachawdwr- iaath yn Phillipsburg, N. J.; ond wedi hyny rhyddhawyd bi ar yr amod ei bod yn peidio pechu felly mwyaoh. Lladdodd William Davies, Rockville, Mi, ei hun wrth erchwyn gwely ei fam glaf, tra yr oedd yn orphwyllog. Brawychwyd ei fam gy- maint fel y bu hithftu farw yn ddisymwth. 23 iiulwydd oed oedd yr hunanleiddiad. Y mae dau Gymro o'r cylchoedd hyn wedi cael ysgariad oddiwrth ell gwragedd am odineb, set Evan Williams, Oriskany, a John W. Ro- berts, Utica, yr hwa a briododd ei wraig an- fvddlon Mary, yn Llangefni, Rhagfyr 23ain, 1881. Creda Mri. Ania a Conger, y llechfasnachwyr adnabyddias o Cleveland, 0., a pherchenogion chwareli yn Vermont a Pennsylvania, fod dyfodol disglaer i'r fasnach lechi. Deailwn fod y Parch. H. C. Williams, gynt o Pensarn, Mon, wedi ateb yn gadarnhaol yr alwad mnfrydol a dderbyniodd o eglwys y Bedyddwyr yn Ashland, Pa. Oherwydd prinder yn y nwy naturiol, bu raid ad-drefriu oriau y pydleriaid yn ngweithfeydd llaiarn Jones a Laughlin, Wharton a'i Gfyf., ac Oliver Brothers a Phillips, Pittsburg, Pa., er cryn arifodcSonrwydd i'r gweithwyr; ond credid y gwneir trefniadau boddhaol iddynt yr wythnos ,hon. Gwna J. H. Parnell, brawd yr arweinydd Gwyddelig, yn rhagorol gyda ei berllan eirin gwlaiiog yn Georgia. Bu am dro yn Llundain yn ddiweddar, a theimla yn dra hyderus y ca ei frawd y gorafar y Times yn yr ymchwiliad sydd yn myned yn mlaen yn awr. Hyderwn mai felly y par y ffeithiau iddi droi allan. Da genym ddeall fod ein chwaer siriol Mrs W. Ap Rees yn gwella ar ol tua thair wythnos o nychdod. Bu gofal y brawd Rees drosti yn ddyfal, a choronwyd ei ymdrechion a llwydd- iant. Cefais y fraint o wrando ar y pregethwr ieuanc Jones, gynt o Bangor, G.C., nos Sul diweddaf yn eglwys College St. Cincinnati. Y pwnc a driaid ganddo oedd A ydyw bywyd yn werth ei fy w p Pregethodd yn ardderch- ac meddai un a eisteddai yn fy ymyl, yr oedd yn Ail Christmas Evans." Gobeithio y cawn y pleser o wrando arno eto cyn bo hir.- Wyddgrug. Dydd Mercher, yr wythnos a basiodd, eym- .erwyd dynes 80 mlwydd o'r enw Mary Fitz- gerald i'r ddalfa yn New York am ladrata. Dywedir ei bod wedi treulio 60 mlynedd o'i boes mewn carcharau am yr un trosedd. An- kawdd tynu cast o hen gaseg. Saethodd a lladdodd Thomas L. Botts,, :gorucbwyliwr yswiriol yn New York, ei hnn am iddo golli swm mawr o arian trwy ddal ar Iwyddianfe Cleveland yn yr etholiad diweddar. Hysbysir am amrai ereill weii cyflawni hunan- laddiad am yr un rheswm. Nid yw sh y Saeson, sch yr Ellmyn, a ch y Ffrancod, yn sain briodol i'r Gymraeg, ac mae llawer o'r Cymry, yn neilduol brodorion mor analluog i'w seinio ag ydoedd i wyr Ephraim gynt seinio Shibboleth yn lie Sibboleth. Eto clywir sain gyffelyb i sh yn y rhan fwyaf o barthau y Dywysogaeth, yn y dull y eynanir geiriau fel eisieu,1 ceisio, tisian, neisied, &c., ond yr iawn ddull o seinio y geiriau hyn ydyw eis-ieu, ceis-io, tis-ian, neis- ied. Hysbysir fod Jacob Reese, Pittsburg, Pa., wedi fiiurfio cwmni i wneyd melin ddur enfawr yn Hartford, Ind., lie y mae digonedd' o nwy naturiol. Yn y felin hono defnyddir y ffordd 1 wneyd dur ag y mae Mr Reese eisoes yn en- wog fel ei darganfyddwr.

[No title]

!GOHEBIAETHAU.

Y SEISON A'R CELTIAID.

BRESYCHEN ENFAWR.

[No title]