Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Hide Articles List
7 articles on this Page
LLAWLYFR YR ANIBYNWYR AM 1889.
News
Cite
Share
LLAWLYFR YR ANIBYNWYR AM 1889. Derbynied dosbarthwyr a derbynwyr y Llawlyfr ein diolchgarwch mwyaf diffuant am eu harchebion caredig a phrydlon. Yr oeddem yn gwneud ein goreu i gyflenwi eu hangenioh. Bu y rhwymwyr wrthi yn egnioI yn ceisio dod i fyny a'r gofynion. Diolchwn hefyd i'r cyfeillion hyny sydd wedi anfon i ni lythyrau canmoliaethol i'r llyfr, a bydd yn dda gan y Doctor dysgedig ddeall fod ei lafur yn cael ei edmyga gymaint gan ei gydgenedl. Os oes rhywrai wedi anfon atom ac heb dderbyn eu parseli, byddwn ddiolchgar os anfonant yma yn ddioed, rhag digwydd fod rhai o honynt wedi colli ar y daith. Byddwn yn cael profedigaethau felly yn awr ac eilwaith. Anfoner yr holl archebion gyda'r cyfeiriad wedi ei ysgrifenu yn eglur i SAMUEL HUGHES, Swyddfa'r Celt, Bangor.
[ ETHOLIAD HOLBORN.
News
Cite
Share
[ ETHOLIAD HOLBORN. ( 'f> Mewn canlyniad i farwolaeth y Milwriad Duncan (C.), cymerodd etholiad rhanbarth Holborn o ddinas Llundain le ddydd lau, gyda'r canlyniad yma:— jMrB»uce(C.) 4398 Arglwydd Compton 3438 MwyafdHV. 965 Yn yr etholiad cyffredinol yr oedd mwyafrif yr ymgeisydd Toriaidd yn 1701, s 0
f CRONICL Y SENEDD.
News
Cite
Share
f CRONICL Y SENEDD. 'f/ [GAN GLERC Y TY.] Bydd Llun.—Dadl Byl Lord Ashbourne, fel ei gelwir, a gymerodd yr holl amser. Amcan y byl hwn ydyw gosod 5,000,000p at wasanaeth y Llywodraeth, i'w rhoddi i denantiaid Iwerddon i brynu eu tyddynod. Nid oes eisiau llawer o dreiddgarwch i weled trwy y tric Toriaidd hwn proffesant deimlo dros yr amaethwr druan, ond cydymdeimlant lawer mwy a'r tirlwyddi, ac wrth roddi arian i'r ffermwr i brynu ei dyddyn, maent yn ei gwneud yn bosibl i'r tirfeddianwr i werthu, a dyna y prif ddiben mae yn well i'r tirlwyddi gael gwared o'r tir, ddim ond iddynt gael arian yn ei Ie, a dyma y tric Toriaidd diweddaf, gwneud i drethdalwyr Cymru a Lloegr roddi arian yn mhoced y tirlwyddi Gwyddelig. Arol iddynt hwy gael eu cyfeillion yn ddiogel, yn ddiambeu, byddant yn foddlon i dderbyn Ymreolaetb, heb glochtorian am yr undeb sydd mor anwyl ganddynt, pan mae eu ffrindiau mewn perygl. Gwnaeth y Rhyddfrydwyr eu goreu i wella y byl hwn yn y pwyllgor, ond nid oedd modd gwneud llawer yn ngwyneb y mwyafrif Toriaidd yn y Ty. Cyn i'r Ty godi cafwyd peth a elwir scene. Yr oedd Mr Sheehy newydd eistedd i lawr ar ol siarad ar y byl uchod, pan y derbyniodd gerdyn yn dyweud fod rhywun eisiau ei weled yn y lobi, aeth yntau allan gan feddwl fod un o'r etholwyr am gaelfd'od i'r Ty, ond er ei syndod, pwy oedd yno ond policeman o'r Iwerddon, un o weision Balfour, wedi d'od a summons i Mr Shelby o dan y ddeddf gorthrech. Nid oes gan yr un swyddog hawl i cyffwrdd a'r aelodau pan yn cyflawni eu dyledswyddau yn y Ty, felly dych- welodd Mr Sheehy i'r Ty, i ofyn beth ddylid wneud dan yr amgylchiadau, ac i ofyn i'r Llyw- odraeth am eglurhad. Ceisiodd Balfour dd'od a!lan o'r c/frifoldeb trwy ddyweud na wyddai ddim am y policeman. Siaradodd Mri. Illing- worth, Labouchere, Harcourt, ac eraill, a dangos- wyd fel yr oedd y gweision yn yfed yspryd eu harglwydd, gan nad oedd Balfour yn dangos parch i'r aelod Gwyddelig, nid oedd -nodd dis- gwyl y pdrcbid ef gan y rhai oedd ya gweithio dano. Teimlodd y LIywodraeth fod gan Mr Sheehy le i wneud charge cryf, ac felly cododd Mr Smith i gynyg fod pwyllgor yn cael ei benodi i chwilio i fewn i'r mater; felly bu, a disgwylir yn fuan adroddiad y pwyllgor hwnw. Dydd Mawrth. — Gosododd Mr Rathbone petition oddiwrth Fwrdd Undeb Bangor a Beau- maris o flaen y Ty, o blaid cau v tafarndai ar y Sabboth. Dywedodd Baron de Worms fod y Llywodraeth wedi derbyn ymddiswyddiad Sir H. Blake, yr hwn a benodwyd yn ddiweddar fel Llywydd Queensland, ac a wrthodwyd gan y bobl yno, am ei fod wedi gwasanaethu y Toriaid i orthrechu Iwerddon. Derbyniwyd y newydd yma gyda chymeradwyaeth uchel gan yr aelodau Gwyddelig. Llwyddodd Mr Shaw Lefevre i gael gan Balfour dderbyn gwelliant yn y byl i wario 5,000,000p i brynu tir yn Iwerddon, i'r pørwyl nad oes mwy na 3,000p i'w rhoddi i'r un dyn. Dydd Mercher.—Basiodd bylgwario5,000,000p trwy y pwyllgor. Dywedodd Mr Smith fod byl trethi yr olwynion wedi marw. Dydd Ian.—Hohvyd y Llywodraeth yn nghylch symudiadau y milwyr yn yr Aifft. Ond nid oedd modd cael fawr gwybodaetb. Gofynodd Mr Bradlaugh os buasai y Llywodr- aeth yn ymgymeryd a rhydclhau Mr Moroney o I garchar. Y mae wedi bod yno bellach dri mis ar hugain. Methdalwr ydoedd, a phan onaen y llys, gallodd ateb cwestiynau mewn perthynas i'r plan of campaign, a thaflwyd ef i garchar am ddirmygu y llys. Atebodd Balfour nas gallasai wneud dim. Yna cafwyd dadl frwd ar y cwest- iwn. Caniataodd Bradlaugh ei fod wedi tori deddf y wlad ond eifod heb dori y ddeddf foesol, hyny yw, ei fod yn gyfreithiol euog ond yn foesol ddi-euog. Cymerodd amryw ran yn y ddadl, ond terfynwyd hi heb dd'od i un pender- fyniad, ac heb gael yr un addevid. Pasiodd y Byl i. wario 25,000,000 i brynu tir yn Iwerddon ei drydydd darlleniad. Dydd Gwener.—Treuliwyd y dydd i bleid- leisio arian i dalu pensions. Cafwyd dadl wresog fel arfer, ac addawoald Gosohen welliantau y flwyddyn nesaf. Dydd Sadwrn.—Treuliwyd y dydd i ymdrin gwaith y Llywodraeth yn rhoddi beuthyg mil- wyr Prydeinig i gadw Suakim; cynygiodd Mr J. Morley fod y Ty yn gwrthod talu cyflog y swyddog Prydeinig yn yr Aifft, er mwyn pro- testio yn erbyn i Laegr ail gydio yn musnes yr Aifft a Soudan. Cafwyd dadl faith a brwd- frydig, ond collwyd y gwelliant gyda mwyafrif o 35 i'r Llywodraeth. Siaradodd Randolph. Churchill ac ereill yn erbyn rhagor o wastraff ar fywyd ac arian yn Soudan.
DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1888.
News
Cite
Share
DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1888. Y mae y Ddeddf uchod yn creu Cynghor yn mhob Sir a elwir Y Cynghor Sirol i'r dyben o weinyddu materion sirol, ac i fod yn gyfan- soddedig o Gadeirydd, Henaduriaid a Chyng- horwyr. Bydd y cynghorwyr mewn swydd am dair blynedd, a'r Henaduriaid, y rhai a .etholir gan y cynghorwyr, am chwe' blynedd. Cymer yr etboliad le yn gynar yn mis Ionawr nesaf, y pleidleisio i fod trwy y Ballot. Bydd gan bob person-dyn neu ddynes-sydd a'i enw ar yr etholrestr hawl i bleidleisio. Y mae y dyledswyddau a drosglwyddir i'r Cynghor Sirol yn amrywiol, megis: (1) Codi y Dreth Sirol, Treth yr Heddgeid- waid, ac amrywiol dretlii ereill, a gwario y cyfryw; hefyd penderfynu safon y Dreth Sirol. (2) Benthyca arian ae archwilio cyfrifon y Trysorydd Sirol. (3) Gofalu am y Prif-ffyrdd, Pontydd, a'r Adeiladau Sirol. (4) Penodi a phenderfynu swm cyflogau y Trysorydd Sirol y Mesurydd Sirol, ac unrhyw swyddog a dderbynia ei gyflog o'r trethi sirol, ac eithrio Y sgrifenydd yr Heddwch, ac Ysgrif- enyddion yr Ynadon. (5) Rhanu y Siroedd yn ddosbarthiadau etholiadol a phenderfynu materion ereill per- thynol i gofrestriad Etholwyr Seneddol ac i Etholiadau Seneddol. (6) Bydd rheolaeth yr Heddgeidwaid yn nghyda'r gwaith o benodi a phenderfynu cyf- flogau y Prif-gwnstabl a'r Cwnstabliaid ereill yn gystal ag Ysgrifenydd yr Heddwch, o dan ofa 1 Pwyllgor Cyfunol yn gyfansoddedig o nifer cyfartal o Ynadon ac aelodau o'r Cynghor Sirol. Y mae y Ddeddf yn cynwys darpariaethau ereill er galluogi Bwrdd Llywodraeth Leol i drosglwyddo i'r Cynghor Sirol ddyledswyddau pwysig yn dwyn perthynas a materion Lleol, y rhai a gyfiawnir yn bresenol gan Swyddfeydd y Llywodraeth. Gyda'r amcan o ysgafnhau y trethi, y mae y Ddeddf yn trefnu fod yr arian a dderbynir oddiwrth nifer mawr o drwyddedau yn nghyda rhan o'r swm dderbynir oddiwrth y Doll ar Gymunroddion i gael eu talu drosodd yn y dyfodol i'r Cyngbor Sirol.
CO LEG PRIFYSGOL GOGLEDD COIRU
News
Cite
Share
CO LEG PRIFYSGOL GOGLEDD COIRU Y GADAIR GYMREIG. Mewn cyfarfod o gynghor y coleg uchod a gynhaliwyd ddydd Mawrth, o dan lywyddiieth y Milwriad Sackville West, penderfynwyd fod i ddarlithydd yn yr iaith Gymraeg gael ei benodi am y cyflog o lOOp y flwyddyn. Deallwn fod y Cadben E. Wynne Jones, Olinda, Rhyl, wedi tanysgrifio lOp tuag at y gronfa hon. Pender- fynwyd hefyd fod i'r gadair wag mewn ieitho Jdd diweddar gael ei Ilanw yn mis Ionawr trwy ben- odiad y proffeswr mewn Ffrancaeg a Germanseg am gyflog o 200p y flwyddyn gyda haner y fees oddeutu 50p. Derbyniwyd gyda diolchgarwch gynygiad y proffeswyr i dderbyn llai o fees o ddechreu y flwyddyn 1892, ar gyfrif sefyllfa arianol anfoddhaol y coleg.
Family Notices
Family Notices
Cite
Share
PRIODWYD. OWENS-J ONEs-Tach .vedd 28ain, yn Llwyncelyn gan weinidog y lie, Mr Owen Owens, Y Foel, ger • Llangranog, a Miss Elizabeth Jones, Llaiulach ger Aberaeron. Anrhegodd Mrs Cadben Res, Llwynbedw, y biiodasferch a blodeiiglwm hardd a phersawrue. Hir oes a dedwyddwch i'r par ieuanc. >. v •
I CYNGOR SIROL MEIRION if…
News
Cite
Share
Sirol, ni fyddwn ond yn yr un man yn union ag yn awr, a'r mawrion yn ein gormesu, yn cyfyngu ar ein rhyddid, ac yn alecian eu chwipiau uweh ein penau. Ni wna Toriaid pendefigol ddim i helpu y bobl, ond gofal- ant yn bur fanol am helpu eu hunain, a dyogelu eu buddianau yn mhob cyfeiriad. Mae e o'r pwys mwyaf i bobl Llanuwchllyn a Llangower beidio dewis Tori i'w cynrych- ioli, os ydynt am gael rhyddid, fel yn ddiau y maent yn dyheu, ar ol bod cyhyd dan feichiau gormes. Ai tybed eich bod mor ffol a rhoddi Tori selog dros gau afonydd, fel na chaiff y tylawd ryddid i ddal crothel, i wylio eich buddianau yn y Cynghor Sirol, Adneu cyhyryn gan gath," sydd hen ddi- areb, sef, cadwraeth darn o gig coch gan gath. Pwv yn Llanuwchllyn sydd mor ffol a rhoddi cath i wylio darn o gig coch ? Neu a oes rhywun ya Llangower mor ffol a rhoddi llwynog i gadw'r wydd? Ond rhoddir cadnaw i wylio'r wydd yw anfon Tori dros Llangower a Llanuwchllyn i Gynghor Sirol Meirionydd. GweJaf mai un dichell o eiddo'r Toriaid yw dweyd na ddylid gweithio y Cynghorau Sirol yn wleidyddol, ond yn hollol ddi-bar- tiaeth. Os felly, beth yw yr aidd angerddol sydd yn eu tanio i anfon Toriaid tirlwyddol i fewn yn mhob man ? Os unwaith y caiff y gelyn. Toriaidd feddianu'r gaerfa sirol, gellir penderfynu mai gwaith Toriaid a wnant ar ol ei meddianu, a throant eu gynau wed'yn yn erbyn y werin. Un ddichell o eiddo satan yw codi annghredwyr i haeru nad oes yr un diafol yn bod, yr un fcith a lladron yn pregethu nad oes dim iladron yn y wlad, ac y geill pawb fyw yn ddiofn a bod yn dawel gysurus, yr hyn a fyddai yn ol addvsg y lladron yn llawer callach na byw mewn pryder ac ofn parhaol, a chloi pob coffr, cist, a drws. Pur debyg yw addysg Toriaid y dylem anghofio ein partiaeth wleidyddol, wrth anfon pobl i fewn i'r Cyng- hor Sirol. Os gwneir hyny, y mae gobaith i Doriaid gael myned i fewn. Drwy ang- hofio ein credo wleidyddol yn Mhenllyn, y mae gobaith i Doriaid. Ond unwaith yr ant i fewn, nid oes berygl yr angofiant hwy eu credo. Michael D. JONES.