Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Y PEIRIANT BARDDOL.

News
Cite
Share

Y PEIRIANT BARDDOL. Odlig Diolch.—Llinellau tlysion, ac yn taraw taut dymunol iawn. Ar y cyfan, mae gormod o rwgnach a rhy fychan o ddiolch yn y byd. Yr Athrodwr.-Testyn yn galw am ganfelllwyth o gerig i'w bwrw ar ei ben. Gydag ych) dig mwy o ofal ac ymarferiad daw awdwr y llinellau uchod yn fardd gwych. Ceir cipdrem ganddo ar rai syniadau rhagorol, otid nid yw yn eu dangos allan i'r fantais oreu. Ond y petli penaf mewn bardd ieuanc yw crebwyll, fe ddaw pob peth arall i'w ddilyn. Dos yn mlaen, frawd. Y Cystadleiiivr Aflwyddianus. — Englynion cryfion, yn cynwys llawer o wir. Y Glaswell t.-Englyn tlws iawn. Y Mynydd a'r Mor.—Can gyffredin iawn ei syuiadau yw hon, ac nid yw yn ddarostyngedig i reolau corfan nac odl. Crycbneidiodd. y Peiriant yn ddychrynllyd pan roddwyd hi ynddo. Bydded i'r brawd doniol hwn gyfansoddi can i'r dorth a'r te a wel ar y bwrdd y cyfleustra cyntaf, ac yna bydd ar y ffordd i ganu yn well ar y mynydd a'r mor." I Fy Nghariad.-Wel, wir, dyma hi wedi myn'd allan o bob rheswm I Mae yn amlwg fod y bardd wedi gwirioni mewn cariad at rhyw fun a welodd rywbryd yn rywle. Ymddengys mai yr unig adnabyddiaeth sydd ganddo o'i angylaidd fun yw yr hyn a gafodd mewn rhyw orsaf yn tra "yr edrychai hi allan drwy ffenestr y cerbyd gaa wenu arno Wele engraifft o'i gân,- Mi gwel&is hi, ao aeth ei threm ,• y I fy mynwes fel saeth lem Tremiai arnaf, a gwenai'n lion, A theimlwn lwmp o dan yn fy mron; Pwy wyt ti, 0 nefolaidd fun ? Gym'ri di n'n ganad ? meddwn, wrthyf fy hun. Ar hyn aeth y tren i ffwrdd yn syth, Ni welais mau mo nghariad byth. Credaf y bydd hyn yn ddigon o'r gan i'w gyhoeddi ar unwaith, ac wedi gweled pa effaith a ga ar hen lanciau y Celt, byddwn mewn gwell goleuni i wybod beth i'w wneud a'r gweddill o honi. Yr wyf bron a chredu y bydd hyn yn ddigon i syfrdanu eu calonau, ac i beri iddynt wneud y goreu o'r ychydig wythnosau sydd rhyngddynt a diwedd "blwyddyn naid." Yr Enllibwr.—Englyn rhagorol yn wir. Y Byrbwyll.—Da iawn eto.—Yr eiddoch yn gywir> -u T HEN LAW.

.--COF PLENTYN AM HEN BREGETHWYR.

Advertising

GOLYGFEYDD A DIGWYDDIADAU…

BLWCH Y BYRION.