Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

CLI, QtttffrthhxD{.

News
Cite
Share

CLI, QtttffrthhxD{. Yr un diwrnod bu agos i ddyn ieuanc o'r enw James Moore, breaksman ar gledrffordd Rumni a Cbaerdydd, golli ei fywyd drwy syrthio o ben wagen. Dienyddiwyd Edward Smart yn Gloucester boreu dydd Llun, am lofruddio Lucy Derrick. Darganfyddwyd corph marw menyw mewn cellar lo ty yn Euston Square, Llundain, ya ddiweddar. Yr oedd mewn sefyllfa bèllo ddadfeiliad, ac yn hollol anhawdd ei adnabod. Mae yr heddgeidwaid ar waith bob dydd a nos 9 yn ceiaio cael allan y manylion. Y mae y Meistri Pickard a Parrott, goruch- wylwyr Cymdeithas Mwnwyr Gorllewinbarth Swydd York, yn ymdrecbu anog holl lowyr y deyrnas i beidio gweithio am ryw cKwech wythnos, gan feddwl y gwna byny efleithio codiad parhaus yn eu cyflogau. Gobeithio na wna neb o weithwyr Cymru ymuno a'r fath gynllyn ffol. Prydnawn dydd Llun, llwyddwyd i gael gaiael yn un arall o gyrpb y glowyr gollasant ea bywydau yn mhwll glo y Ddinas, ger Pont- ypridd. Ei enw oedd William Jones, Yr oedd wedi ei chwythu yn ddarnau. Efe yw y pumed corpb ddarganfyddwyd. Mae y Parch Newman Hall wedi ymddangos yn y Llys Ysgar (Divorce Court) er ceisio ysgariad oddiwrtb ei wraig. Nos Wener, wythnos i'r diweddaf, aeth y schooner Ellen Beatrice," o Aberystwyth, yn ddrylliau yn porthladd St. Yalery-en-Caux, ar arfodir Frainc. Achubwyd yr oil o'r dwylaw. Cymerodd ymladdfa ffyrnig le rhwng dau ddyn yn Baltimore, America, yn ddiweddar. Ymddengys fod dyn ieuanc o'r enw Denwood B. Hinds wedi cael ei gyhuddo gan eneth 17 oed, o'r enw Miss James, o'i thwyllo drwy addaw ei phriodi. Ryw ddiwrnod cyfarfydd- odd brawd Miss James allinds mewn ystordy, a saethasant tua dwsin o ergydion at eu gilydd a'nHawddryliiau.ond ni dderbyniodd yr un ohonynt unrbyw niwed mawr. Cymerodd hyn le yn Rhagfyr diweddaf; ac ni cblywyd rbagor yn ngylch y peth hyd farwolaeth Miss James, yr hyn a ddigwyddod yn Mawrth. Teimlodd tad y ferch yr ergyd yn fawr, a dywedai yn mhob man y buasai yn sicr o ladd Hinds y tro cyntaf y eyfaifyddai ag ef. Ar yr 16eg o'r mis, dygwyddodd y ddau gyfarfod a'u gilydd ar yr heo!, a gwaeddodd James allan, Yr wyf wedi eich cael o'r diwedd," a sgethodd ato. Taflodd Hinds ei fraich chwith i fyny er cadw y fwled oddiwrth ei ben. Drylliwyd ei fraich yn chwilfriw, a bu agos iddo syrthio i ibartb {arm) oedd o flaen if yn yr heol. T)biodd James ei fod wedi ei ladd, ond wrth ei weled yn codi, sacthodd ato drachefn, a saethodd Hinds yn ol. G or nest ofhadwy fu y canlyniad. Aeth dwy fwled i benglog James, ac un i wyneb Hinds. Rhedodd Hinds ymaitb, ac wrth redeg ar ei ol, syrthiodd James i lawr a bu farw braidd yn uniongyrchol, Ofnir y cymer ei fab yr ornest i iyny eto, ac y myn ddial ar Hinds. C&fodd Mr John Evans, B.A., ei benodi yn Brofleswr Cymreig yn Ngboleg Dewi Sant, Llanbedr, Ceredigion. Brodor o sir Gaeryn- arfon ydyw Mr Evans, ac ysgolor o Goleg yr Iesu, Rhydychain. Dywedir ei fod yn Gymro gwych. Anrhegodd George Powell, Ysw., Nant eos, Brifysgol Aberystwyth a chasgliad rhsgorol o ryw bum' cant a baner o ddarnau arian, hen a diweddar. Ysgrifenodd Dr Moffat, y cenadwr enwog o Ddebeubarth Atirica, lythyr yn yr hwn y dywed "fod y gwaith cenadol dros holl Dde- heubarth Affrica wedi cael ei daflu yn ol baner can' mlynedd gan ryfel Zulu." Mae cyfrifol- deb ofdadwy yn gorwedd ar benau gweinidog- ion ein Llywodraetb, a'r etholwyr fu yn foddiori i'w gosod mewn swyddi. Darganfyddodd Mr Rassam ddarnmawro faen yn mysg adfcilion Babilon, ac arno yn gerfiedig hanes rhyfelgyrch Senacberib yn erbyn y brenin II ez pi cab. Caiff ei ddanfon i'r Amgueddfa Brydeinig, Llundain. Cynaikvyd Eisteddfod Gerddorol yn Nghaer- fyrddin dydd lau diweddaf, dan lywyddiaeth B. T. Williams, Ysw., A.S., Q.C., ac arweiniad Kilsby. Traddododd Ustusiaid Narberth, Penfro, amaethwr i sefyll ei brawf ar y cyhuddiad o ladratta defaid perthynol i'w frawd-yn-nghyf- raith. » Prynwyd Ynys Barry, ger Caerdydd, gan Arglwyd Windsor, a bwxi^da ei throi yn lie i gadw cwningod. A ganlyn ydyw ffrwyth etholiad swydd Clare, Iwerddon: Yr O'Gorman Mahon (Ymgeisydd Cen- edlaethol) 1,661 Cadben Yahdeleur (Ceidwadwr) 1,531 Peter O'Brien, (Rhyddfrydwr) 807 Gwelir fod yr O'Gorman Mahon wedi ei ddychwelyd. Dywedir ei fod wedi ymladd mwy o ornestau na'r un boneddwr aralloddi- fewn ac oddiallan i Dy y Cyffredin.

AT AELODAU BWRDD YSGOL LLAN-GADOG.

CYMANFA SIR GAERNARFON.

CYFARFOD CHWARTEROL CEREDIGION.…

URDDIAD.

CYFARFOD CENHADOL SIR BEN…

AIL GYMANFA UNDEBOL ANNIBYNWYR…

.-_._-,-CERDDORIAETH,

Advertising