Skip to main content
Hide Articles List

1 article on this Page

MARWOLAETH A CHLADD-EDIGAETH…

News
Cite
Share

MARWOLAETH A CHLADD- EDIGAETH ROBERT THOMSON' CRAWSHAY, CYFARTHFA. Prydnawn dydd Sadwrn, wythnos i'r diweddaf, aeth y newydd fel trydan drwy Ferityr Tydfil, fod Robert Crawshay, y diweddaf o'r brenhinoedd haiarn wedi anadlu ei anadl olaf. Mae hanes dechreuad y fasnach haiarn yn Neheudir Cymru, a chysylltiad teulu y Grawshayaid a hi, yn un o'r penodau mwyaf dyddorol yn banes ein gwlad. Tebyg fod y ffaith fod mwn, haiarn, a glo, yn guddiedig yn mynyddau Mor- ganwg yn hysbys i'r Cymry mor gynar a'r 13eg ganrif; ond nid yw yn ymddangos fod y fath wybodaeth werthfawr yn eu meddiant, wedi peri unrhyw flinder na gofid iddynt. Gyda'r eithriad o, bosibl o ambell i of oedd. yn digwydd byw ar hyd y oymoedd,"ac ochrau y mynyddoedd, nid oes hanes na thraddodiad fod neb wedi gwneyd umhyw ddefnydd o'r adnoddau pwysig byn. Dywedir fod rbai gofiaid yn toddi ychydig o'r haiarn a ddefnydd- iant o'r ceryg oedd o'u hamgylcb, ac yn defnyddio y glo a sathrent clan eutraed tuag at hyny; ond nid ymddengya fod neb (j'n cydgenedl, o'r 12fed hyd y 18fed ganrif, erioed wedi dychmygu na breudd- wydio am ffurfio cwmni er dwyn allan adnoddau dihysbydd eu gwlad. Er fod cyfoeth oedd yn werth miliynau o bunau yn -gorwedd yn baner cuddedig yn eu mynyddau, gadawsant i estroniaid yr elw a'r anrhydedd o'i dynu all ail! Nid oes hanes am unrhyw anturiaethwr mawr o Gymro yn ngbof-lyfrau ein gwlad; a rhaid cyfaddef, ychydig iawn o'r yspryd anturiaethus sydd yn ein cenedl. Gyda'r eithriad o'r.mudiad Gwladfaol Patagonia, nid wyf yn gwybod am unrhyw.gynygiad o eiddo ymfudwyr o Gymru i sefydlu trefedigaeth mewn gwlad newydd, ac os na wna rhywrai ddangos fod ychydig o yspryd ymchwuio. ac anturio ynddynt, ofnwyf taw digon difywyd fydd pethau yn y Vladfa, hyd nes y daw rhywun o ryw genedl arall yn mlaen, ao yna, wrth reswm, ceir ail adroddiad yn y wlad eang hono o'r byn sydd wedi cymeiyd lie. yn Nghymru, Tua'r 17eg ganrif, daeth y don gyntaf o'r anturiaethwyr Seisnig o Sussex i Gymru. Canlynwyd hon gan un arall o swydd Stafford tua'r 18fed ganrif, ac yn fuan ar eu hoi daeth Richard Crawshay, yr haiarnydd (ironmonger) o Lundain. Yr oedcl yn ddyn 0 gynheddfau cryfion, o gyfansoddjad. galluog, ac wedi enill y cymeriad o ddyn gonest a cbywir—llawn o yni a dyfalbarhad. Pa beth bynag yr ymaflai ei law ynddo, byddai yn sicr o'i weithio allan yn egniol ac effeithiol. Ar ol ymsefydlu yn Merthyr, prynodd hen amod-rwymau (leases) yr amaethwyr cymydogaethol am ryw gan' punt yr un neu lai na hyny, a gwnaeth ddefnydd o'r i 1'1(1rjo 0; -Tn i'r ffwrnes, a'i haiarn i'r porthladd hyny yw, yn dorwyr coed rc yn wehynwyr dwfr iddo ef. Pan oedd ef yn agor gweithiau a sefydlu masnach yn Neheu- barth Cymru, cedwid y fasnach yn mlaen yn Llundain gan ei fab William; ac am amser bir, dywedid fod yr boll arian oedd yn cael eu gwneyd yn Llundain, yn cael eu claddu yn Ngbymru. Yn mhen amser, pa fodd bynag, trodd y rhod, gosodwyd y sylfaen i lawr yn ddiogel, a dechreuwyd adeiladu y twr fu yn gof-golofn b lafur a diwydrwydd teulu y Crawshayaid, ac yn fortune ardderchog i'w holafiaid. Er mwyn boddloni yr hynafiaethwyr, dylaswn fed wedi crybwyll taw o deulu o swydd York yr banodd y Crawshayaid. Yroeddtaid yr haiaraydd o Lundain yn amaethwr parchus gerllaw Normanton, swydd York. Aeth rhyw dipyn o an- nghydwelediad rhyngddo ef a'i fab yn nghylch rhywbeth, ac un boreu cychwyn- odd y mab i Lundain ar gefn merlyn. Bu tua pbytbefnos ar hyd y ffordd. Ar ol cyrhaedd y brifddinas, gwertbodd y merlyn am ;£15, a bu fyw ar yr arian hyny hyd nes y cafodd waith gyda rhyw haiarnydd o'r enw Mr. Bicklewith. Oyf- logodd ei hun am dairblynedd am bris ei ferlyn. Gwerthu flat irons i olchwrag- edd Llundain oedd y peth cyntaf wnaeth mewn ffordd o fasnacbu. Gadawodd Mr. Bicklewith ei fasnach i Crawshay, a'r canlyniad fu sefydlu gweitbiau haiarn mawrion Merthyr Tydfil. Bu Richard Crawsbay farw yn 1810, yn werth miliwn a haner o bunau! Claddwyd ef gyda rhwysg brenhinol yu Llandaf, a theyrnasodd ei fab William yn ei le., Ni chymerodd y William hwn fawr o drafferth gyda'r gweithfeydd yn Cyfartbfa. Gadawodd hyivy i'w wyr, William, yr hwn a wnaeth end odid, fwy tuag at ddadblygu adnoddau y wlad, nag hyd yn nod yr un o YCrawsliayiaid. Yr oedd- ganddo dri mab, William, George, a Richard. Aeib George i Ffrainc, priod- odd ferch i bendefig Ffrengig, dycbwelodd i Loegr, ac agorodd weithfa haiarn fawr yn Gateshead. Aeth Richard yn ddar- llawydd mawr, ac ymsefydlodd yn swydd Norfolk. Cymerodd William ofal gweitb- feydd Oyfarthfa. Yn 1825, adeiladwyd castell Cyfarthfa, ar draul o ddeng mil ar hugain o bunau. Yn 1845, yroedd 11 o ffwrneisiau blast mewn llawn gwaith, a chynyrch y flwyddyn hono yn 45,760 o dunelli! Yn Mawrtli, 1847, trodd yr 18 ffwrneisi balling, a'r 20 ffwrneisi puddling, 6,144 o dunelli o gledrau (rails), ac yn yr un mis, gwnaed yn Cyfarthfa y bar mwyaf welwyd erioed. Pwysai 2,941 pwys, a mesurai 27 troedfedd o hyd. Yn 1866, yr oedd pum' mil o ddynion mewn llawn gwaitb, ac ugain mil o bobl yn ymddibynu am eu cynaliaeth ar weitli- feydd Cyfarthfa. Priododd William Crawshay dair gwaitb. 0'i nf'if ca^odrl 1111 rorer, aro1 hyny Mr. George Thomas, William, Francis, a Henry. Boddodd William wrth groesi y New Passage un noson ystormus. Bu Francis o Hirwaen a Trefforest farw yn ddiweddar, ac mae Henry yn byw yn awr yn y Fforest of Dean. O'r ail wraig cafodd ddau fab a phump o ferched, a'r hynaf o'r ddau fab hyn ydoedd gwrthddrych yr hanes hwn, sef Robert Thomson Crawshay. Cymer- odd Robert T. Crawshay interest mawr yn y gwaitb, ac yn y gweithwyr. Astudiodd a dysgodd bob cangen o hono, a gwelid ef yn sefyll o flaen ffwrneisi mewn gwisg gweithiwr, ac yn trpi yr haiarn toddedig fel puddler. Yr unig wahaniaeth rhyng- ddo a'r gweithwyr ereill oedd, y ffaith fod pawb o'r gweithwyr yn ei alw ef yn Mr. Robert, tra y galwant eu gilydd wrth yr enwau Twm, Wil, Dick, neu Jack. Yr oedd bob amser yn llyrn, penderfynol, a sefydlog, aceto yn llawn cydyrndeimlad a'i weithwyr a ddigwyddai fod mewn cyfyngderau. Gwelwyd ef yn wylo fel plentyn wrth edrych ar gyrff ei weith- wyr yn cael eu cario i fyny o waelod pwll Gethin ar ol y damchwa fawr fu yno. Sefydlodd amryw ysgolion dyddiol rha- gorol, flynyddau cyn declirenad ysgolion y byrddau; ac yr oedd ei seiridorf bres yn cael ei hystyried, gyda'l' eithriad hwyrach o seindorf y Coldstream Guards, yn breu yn y Deyrnas Gyfunol. Yr oedd yn feistr rhagorol, yn caru ei weithwyr, ac yr oedd gan y rhan fwyaf o honynt hwythau ymddiried ynddo yntau ond rywsut denwyd rhai o honynt i wrandaw ar gynghorion rhai o areithwyr cyflogedig yr" Undeb," ac o dipyn i beth dangos- asant dipyn o anfoddlonrwydd i'r dull yr oedd pethau yn cael eu dwyn yn mlaen yn ei weithfoydd. Oerodd hyny ei serch yntau i raddau mawr, a'r diwedd fu cau y gweitbfeydd i fyny. Miloedl Q weithian y darfu i filoedd o'i weithwyr edifarhau amyrbyn wnaetb ant ond yr.oedd yn rhy ddiweddar. Coleddai efe syniadau neillduol am berthynas briodol meistr a gweithiwr, a glynodd wrthynt hyd y diwedd. Teimlai fod ei weithwyr wedi ei ddiystyrn drwy wrthod gwrandaw ar ei gyngor, a derbyn gostyrigia,d pan oedd masnach yn isel drwy yr lioll wlacl, a chyflogau yn gostwng yn mhob man. Dywedir fod yn awr ddynion yn gweithio tna, Dowlais a lleoedd ereill, am o 10s. i 16s. yr wythnos, fu yn enill £ 4 a £5 yr wythnos yn ei waith ef. Yn ystod blynyddau .diweddaf ei oes, collodd ei glyw braidd yn hollol, a cliaf- odd ergyd o rywbeth tobyg i'r parlys pan yn Llundain. Buom yn siarad ag un o'r meddygon fu yn gweini arno yno, a dywedai, er fod Mr Crawshay yn meddu ar un o'r cyfansoddiadau cryfaf a welais erioed, y mae pob gobaith am ei lwyr ad- fcriad wedi hollol ddiflanu." Yn ddiwedd- ar bu yn aros am ychydig amser yn CHfton, ger Bristol. Oddiyno aeth i