Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

LLYTHYR LERPWL.

News
Cite
Share

LLYTHYR LERPWL. Bu d-—1 y wasg wrthi yn fy llytbyr di- weddaf yn rhoddi Haddwyd o Gristionogion yn y 25 mlynedd diweddaf bedwar ar hugain mil y flwyddyn ar gyfartaledd," pryd y dylasai ei adael fel yr oedd wedi ei ysgrifenu yn "DBDWAR UGAIN MIL" (80,000) Yr wyfyn gweled yn y CELT am y 9fed fod Cymro yma nad ydyw yn cydweled â rni o berthynasi "Lith gyntaf y Dysgedydd' am EbriU." Gan nad oes daioni mewn cyndyn- ddadleu, rhoddaf i Sam," heirniadwr fy adol- ygiad ddyiyniad o'r LHth, ac os gall" Sam" ei esbonio credaf ei fod yn gyfansoddwr yn meddu ar grebwyll, darfelyddiaeth, a barn addfed, ei fod yn gymhwys adolygwr ar adol- ygiadau. Yn wir, ysgrifenu yn lied dda ddarfu Sam pe buasai W. N." ei hun wrth ei benclin y mae yn amheus genyf a wnaethai ronyn gwell; ond heb ymbelaethu chwedl L. W., Llanfachreth, dyma'r dyfyniad o'r Llith:- Testyn:—" Y defnydd a ellir ei wneuthur o'r Beibl mewn pregetkauCredwyf nad meddwl y Dr O. Thomas, yr hwn a enwodd y pwnc hwn yn y cyfarfod diweddaf, ydoe d y pwysigrwydd i bregethau orphwys yn deg a chyson a. beirniadaeth gywir ar ryw ranau o'r Ysgrythyrau fel testynau neu sylfaeni; nac ychwaith defnyddioldeb eglareban Ysgrythyr- 01; canys darllenwyd eisoes gan frodyr teilwng bapyrau galluog a gwerthfawr ar y 'materion hyn er mai prin y tybiwyf ei fod yn golygu i'r olat gael ei gau allan yn llwyr o derfynau y papur hwn. Ar ol dewis testun y bregefcb, ac ar ol dwyn y prif fater a'r cynllun fwriada fabwysiadu wrth ymdrin ag ef i'r golwg yn ngweitbiad allaa y cynllùn hwnw yn adeilad- iad yr adeilad, pa fath ddefnydd a ellir wneutbur o'r Ysgrytbyr Sanctaidd? Yn y modd yma y deallwyf y pwnc, ac y ceisiaf ym- drin ag ef." Pan yn ysgrifenu am y "Llith cyntaf,"cyfeir- iais at dyivyllicch y dyfyniad uchod; ond cofied Sam na cbyfeiriais air at dywyllwch na gwendid un rhan arall o'r ysgrif. Fy mbwnc i oedd, nad oedd rhoddi llawer o ddifyniadau mewn cylansoddiad yn profi fod y cyfansoddwr yn meddu ar alluoedd meddyliol cryfion, ond yn hytrach i'r gwrthwyneb. I ba beth y rbodtlir nwyfau pobl ereill yn y flenestr os bydd gan y dyn ddigon o'i eiddo ei hun ? Gwell gan y ffermwr ddiwrnod yr arddangosfa edrych ar ddeg o ychain a fagwyd ar ei dyddyn ei hun—hen frid y tir, na phe buasai ganddo gant o'i flaen wedi eu magu gan ei gymydog- ion. Y mae'r boneddwr gwir gyfoethog yn adeiladu ei balas a cherig nadd newyddion o'r graig, yn lie a darnau o hen furiau a naddwyd ac a breswyliwyd gan ereill. Gwell gan Syr Watkin chwedl Tanymarian am yr un llestr aur hwnw a wnaed o aur Llanuwchllyn (ei dir ei hun), na'r lIestri lawer sydd ganddo oaur tiroedd ereill, Ac rywfodd, y flaith ydyw fod t; Dafydd bob amser pa mor eiddil fyddo, yn sicrach o honi bi a,'i gareg â'i. ffon, nac a chleddyf a llurigau Goliath. Yr oedd y dyfyniadau o eiddo Dr. Dale," yn nwylaw'r byd pregethwrol eisoes, a diau mai nid meddwl "cyfarfod. y gweinidogion (Lerpwl) wrth osod y testyn i'r Parch. W. Nicholson, oedd am iddo ddyfynu a chyfieithu, ond mai meddwl yr oeddynt am iddo dreio am ] afael ar ryw wythien newydd^-rhyw new invention ond o ran hyny, inventors gwael ydym ni y Cymry-dynwaredwyr, efelychwyr, ac ail adroddwyr ydym. Dilynwyr y Saeson ydym, yr un fath ac y maent hwythau yn dilyn yr Americaniaid, y Germaniaid, a'r FfraMwyr. Y r America yn ddiddadl yw brenhines y byd mewn celf a gwyddor. Ond ni, y Cymry, ein blaenaf peth yw ein crejyddolder. Pa le y mae yr hen ddull Cymreig o grefydda ? P'le mae'r hen brofiadau tanllyd ? P'le mae'r ma,wl a dyblu'r gan ? P'le mae'r hen bregethwyr gwreiddiol a fyddai yn gwneuthur Y defnydd a eltir ei wneuthur o'r Beibl mewn pregethau" yn gosod y sylfaen yn y Beibl, yn adeladu yn ngoleuni'r Beibl, ac yn ac yn addurno a'r Beibl, ac yn yswirio yr adeilad mewn gogoniant trwy'r Beibl, yn dcchreu byw yn y Beibl, a byw ar y Beibl, a myned i'r nefocdd yn y diwedd yn ei oleuni. Mae gan y Saeson grcdo, rhaid i ninau gael un. Mae gan y Saeson unions, rhaid i ninau gael undebau. Mae gany Saeson glochdai, rhaid i ninau gael rhai. Mae'r-Saesoa yn Bresbyteriaid, rhaid i ninau fyned, &c., &c. Ein Duwinyddiaeth, ein hymarferiaeth a'n caniadaeth yn Seisnigeiddio bob blwyddyn. Gwnaeth yr hen Gymru d6nau sydd yn demandio lie y cylqhoedd blaenaf, megys Ymdaith Gwyr Harlech," &c. Yn awr cyfansoddirmewn dullwedd rhy Seisnig, fel nad ydyw yn dwyn dim o ddullweddau ein canu Cenedlaethol. Y mae'r hen ddull Cymretg o ganu yn gyrn pob cenedl i'w edmygu, pan y cenir gan Tanymarian, neu fel y canai poor Mynyddyg, nea W. W. Thomas, &c. Ond y mae gwrandaw ar ambell i labwøt o Sais-Gymro yn brefu mewn math o Gymraeg yn Lerpwl yma, yn ddigon er peri i asynod orfoleddo a pberi i ddieithriaid ddweyd, II dod dy ffidil yn té" wrth bob un. Wei, gan mai rheol y CELT yw short and sweet, gadawn ar hynyna hyd y tro nesaf. O.Y.—Wrth ail graffu, gwelaf i mi fyned wysg fy mhen ac anghofio Sam er's meityn. Trwy fy mod er's llawer blwyddyn wedi gwneud eich cynghorion, Sam," yr wyf yn hollol gymwys i farnu fod dirfawr wahaniaeth rbwug "gallu i gyfansoddi a gallu i gordeddu trwy ddyfynu o amrywiol weilthiau-gymaint o wahaniaeth ac sydd rhwng y manufacturer a'r retailer. Rliaid cael peirianau cryfion a cbywrain i dori y raw material yn benadar- iaid it gemau, gall pob ysgogyn eu gwario a'u gwisgo. Gall y wenynen dynu mul o'r graig, a gall yntau y wasp digywilydd fwyta o'r diliau.-Rhaid cael manufacturer i wneud y brethyn, gall teiliwr wneud cot.

"Y CEFFYL HAIARN."

« Y LLAW."

OCHENAID ODDIAR WELY CYSTYDD.

DEUWCH ATAF.

MARWOLAETH A CHLADD-EDIGAETH…