Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
Advertising
Advertising
Cite
Share
SPECIAL NOTICE. Revised Scale of Charges for Advertise- ments in the Celt" until further notice. TRADE ADVERTISEMENTS, One Four Seven Ins. Ins. Ins. s. d. s. d. s. d. One Column 7 0 25' 0 40-0 Half „ • 4 0 14 0 21 0 Quarter „ 2 6 8 8 12 10 ADVERTISEMENTS FOR LONGER PERIODS BY SPECIAL TERMS. GENERAL ADVERTISEMENTS: Situations Wanted Concerts „ Vacant Eisteddfodau Apartments Wanted Sales by Auction, &c., &c „ To Let as follows:- One Insertion, per line 4d. j Four Insertions, „ 3d. Seven Insertions, „ 2Jd. Longer periods by special agreement. The above prices are all for prepaid Advertise- ments, 5 per cent. added for credit. P.O.O. and Cheques payable to A. DRIFFIELD at Carnarvon. TELERAU Y CELT." 1 drwy'r Post am chwarter 0 1 8 2 eto eto 0 3 0 3 eto eto 0 4 0 4 eto eto 0 4 6 Rhoddir elw yn ol 3c o bob swllt am nifer uwch- law 4, ond nis gallwn ganiatau hyny os bydd y parceli yn myned drwy'r post, am y bydd y clud- iad yn ymyl dimai yr un. Erfyniwn ar ein Dos- barthwyr i anfon atom y cyfle cyntaf i'n hysbysu y ffordd rataf i anfon y parceli. Y taliadau i dd'od i law bob 3 mis. Telerau i America 2g yr un yn cynwys y cludiad. iW D.S.-Sylwer ynfanwl ar yr uchod. jjgfg
BARDDONIAETH Y 'CELT.'
News
Cite
Share
BARDDONIAETH Y 'CELT.' AT EIN DOSBARTHWYR A'N DERBYNWYR. Y mae yn y Swyddfa gronfagyfoethog o FARDDONIAETH — ceinion ystwyth a roilus, ar destynau dyddorol, ac mewn gwahanol fesurau-caethion a rhyddion- ag yr ydys wedi methu cael He iddynt. Y mae cryn nifer o gyfeillion wedi amlygu dymuniad am iddynt gael eu cyhoeddi yn llyfryn cryno gwerth chwe' cheiniog. Cyd- syniwna'u dymuniad, a chyhoeddir llyfryn felly ar unwaith, os ceir eirchion i ddi- ogelu y swyddfa rhag colled. Bydd AMLBN hardd i'r llyfryn; a chyhoeddir ar yr amlen, ar amodau rhesymol, unrhyw JUysbysiadau a dderbynir. Gallai y fath gasgliad o ffrwyth newydd yr awen fod yn foddion addysg a dyddanwch mewn llawer teuIa. Erfyniwn ar ein Dosbarth wyr anfon yr eirchion a'r Hysbysiadau a dderbyniant yn ddioed i Mr. A. DRIFFIELD, 1 Celt' Office, Carnarvon. Os na fydd Dosbarthwr yn gwerthu y nifer a archodd, erfynir arno gywiro ei archiad ar unwaith oblegid y mae cadw nifer ar law bob wythnos, ac yna eu dy- chwelyd ar ddiwedd y chwarter, yn an- nhegwch, neu aflerwch, ag sydd yn achos o drafferth ac o golled.
URDDAS LLAFUR.
News
Cite
Share
URDDAS LLAFUR. Elfenau Dyrchafiad Llafur. Ystyriwn y benod hon yn eyduno yn berffaith a. nodwedd y testun. Credwn fod angen a dyledswydd yn gorphwys ar ddyn i geisio dyrchafu gwerth yr hyn y mae efe yn ymddibynu arno yn arbenig. Nid ydym yn bwriadu chwalu yr elfenau hyn, ond yn unig eu hysgrifenu, gadawn hyny yn orchwyl i'r darllenydd. 1. Gofalu am addysg foreuol dda i blant y Uaf urwr. 2. Gosotiiad oedran dechreu gweithio yn 15 oed. S. Lleihad oriau llafur. '4. Cymedroldeb mewn gweithio. 5. Sefydliad cymdeithasau er dadleu ac egluro gwerth, urddas, ac egwyddorion llafur. Ar y priodoldeb o addysgu plant yn ieuainc, yn lie eu gorfodi yn 3 a 10 oed i weithio, credwn na fydd lie i ddadl yn meddwl un dyn yn ei bwyll. Mae addysg a diwylliant meddyliol yn gynorthwy hyd yn nod i weithio ceryg. Ffolineb meddwl fod addysg a'i gan- lyniadau yn rhwystrau ar ffordd dyn i ddyfod yn weithrwr deheuig ac ymdrecbol. Mae yn fantais yn y pen arall i'r dafol yn hollol. Hefyd, ar ol i fachgen a merch ieuanc gael ysgol dda nes y byddant yn 15 oed, ni fydd gwaith yn rhwystr iddynt ymberffeithio eu hunain yn ngwahanol elfenau gwybodaeth a dysg. Y mae 8 awr y dydd yn ddigon o ddiwrnod o waith, a dylai y dosbarth sydd yn ymddi- bynu ar lafur am gynaliaeth edrych ati yn y cyfeiriad yma. Dylid ymarfer pwyll a doethineb- pan yn gweithio. Y mae miloedd o'n cyd-ddynion wedi tynu arnynt eu hunain gospedigaeth drom wrth orweithio. Y mae melldith y gweithio dros amser (overtime) yn ddinystr mawr ar flordd dyrchafiad urddas llafur. Y mae digon o ddynion da yn y byd heb i'r un person weithio nos a dydd. Gwelsom, droion, bobl yn gweithio dros amser, tra yn gweled eu cyd-ddynion yn methu cael eu cyflogi. Sefydliad cymdeithasau ar gyfer cyfleusdra i ymdrin yn bwyllog a materion llafur a ystyriwn yn anhebgorol. Ysywaetb, y mae dosbarth lluosog yn bod nad ydynt yn sefyll fawr yn uwch yn nghyfrif gwybodaeth na'r anifail— gweithio, bwyta, yfed, cyggu, ydyw ped- warawd eu bywyd. '1. Mae dosbarth arall ag y carem eu gweled yn diwygio-y dosbarth hwnw nad ydynt yn gofalu am ddim yn eu bor- iau amddenol ond myned i'r cyrddau pregethu, gweddi, a chanu. Credwn fod modd i fyned yn eithafol gyda pethau crefyddol, a dibrisio pethau ereill yr un mor bwysig yn eu hymyl. Y mae dos- barth arall hefyd y teimlwn angen am eu cyffroi o'u musgrellni a'u marweidd-dra -y beobgyn ieuainc hyny a yinddangos- ant yn awyddus am ddyfod yn rhywbeth, ond oblegid eu cysylltiad a llafur, yn ymollwng yn ddigalon. Gellid meddwl mai math o farnedigaeth ragluniaethol fu a Haw yn eu creadigaeth; eithr ymlwybro dan gamsyniad erchyll sydd yn arwain bechgyn ieuaino i syniad pethau o'r fath. Pwy oedd y beirdd awenyddol Dewi Arfon, Islwyn, a Goronwy, ond meibion llafur? Pwy ydoedd Cynddelw ac Emrys, ond bechgyn wedi byw ar lafur caled? Pwy yw Tecwyn Parry a Doctor Lewis? Beth oedd yr a wen-an gel Eben Fardd a Ieuan Gwyllt? Ddarllenydd ieuanc, paid a Uwfrhau dan yr esgusawd mai gweith- iwr ydwyt. Gogoniant ar gymeriad dyn ydyw ei fod yn gallu gweithio. Gyfaill ieuanc, ymwrola, paid a chredu pob yspryd sydd yn ceisio lladd yr awydd sydd ynot. Cofia yr hen ddywediad, There is no royal road to greatness." Na, ffordd i fyny ydyw o hyd. Hid yw llafur yn arfer difreinio y byd o feddwl; deiliaid llafur ydynt golofnau enwogrwydd awen, moes, a ohrefydd. Y mae perygl mewn gormod o segurdod. Dywed Dr. Watts:- "Satan finds some mischief still For idle hands to do." Mae y cewri llenyddol a Christionogol a fagwyd ar fronau llafur yn adlewyrchu anrhydedd yn ol i'w gwyneb. Oddiyno yr edrychodd Duw yn mhob oes a goruch- wyliaeth am ei weision ef. Llafurwr y ddaear oedd Abel, bugeilydd ydoedd Dafydd, a physgotwr oedd yr apostol Pedr. Y mae llafur yn cynyrchu rhin- wedd yn gystal ag elw, tra y mae segur- yd a bywyd dibwynt a moethus yn euog o bob drwg. Felly y mae urddas yn gysylltiedig a llafur. Llafur, fel y dang- oswyd, ydyw y maes ar yr hwn y mae cyfoeth, doethineb, a gogoniant y Crewr yn cael eu dadblygu. Trwy lafur y tynir i gyhoeddusrwydd alluoedd y meddwl dynol, ac y chwanegir dylanwad, nerth, a dedwyddwch holl gyrau y ddaear. Llanberis. ALARCH GWYEFAI.
YMWELIAD A LERPWL.
News
Cite
Share
YMWELIAD A LERPWL. Eglwys Newydd Kensington, Capel Myrtle Street, Canu Salmau. Y Parch. Hugh Stowell Brown ar y Galatiaid a'r Celt- iaid. Cefais yr hyfrydweh o dreulio y Sab- both olaf o Ebrill yn Lerpwl, yn ngwas- anaeth y chwaer eglwys ieuanc yn Ken- sington. Yr wyf yn dra gochelgar gyda