Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
Hide Articles List
10 articles on this Page
BEDDARGRAFF
News
Cite
Share
BEDDARGRAFF Y dhfoddar J, H. Williams, Ysw., Glanbeuno, ger Caernarfon. Wele y gwrol hygarwedd—Williams, Yn ngwaelM y llygredd Haedd y Gwr oedd ei gared, A chadwa 'i barch hyd y bedd Y Bonedd o Glanbeuno,—sy'n y bedd 0 swn byd a'i gyffiro Aeth ar ymdaith i'r amdo-ond trwy ras, Arwydd Y Deyrnas' a roddwyd arno. Caernarfon. B. MENAI FRANCIS.
DAU ENGLYN
News
Cite
Share
DAU ENGLYN I Ferch newydd-anedig Mr S. Evans, Bodeudaf, Caernarfon. Am y siriol mae siarad,—O 'r eneth Wir anwyl yn wastad Ei gwyneb sy'n llawn gweniad, O! 'r eneth ddel, 'r un wen a'i thad. I'r eneth boed hir einioes,-o dan wen Duw Naf rhag pob drygfoes Yn darian caffed einioes, Er mawrhau grym Marw y .Groes.' Caernarfon. B. MENAI FRANCIS.
PENNILLION
News
Cite
Share
PENNILLION I Harmonium newydd Capel Salem (A.), Caer- narfon. (Ail-fuddugol.) Llawenydd i'm mynwes yw gweled brenines, Ddirodres, bencerddes, gweinyddes y gan, Yn Salem Ian siriol, a'i seini au cysonol Rydd allu cerddorol y duwiol ar dan Nes enyn drwy'i enaid y duedd fendigaid Feddiana cerubiaid, seraphiaid a saint; Sef rhoi y gogoniant, anrhydedd, a'r moliant I Dduw, a'i addoliant ystyriant yn fraint. Chwareuwr gwir fedrus., er moli 'n dra melus, Chwarjeuwr rhwyfauus a, nwyfus yw ef 'E dyna laweroedd o nwyfiant y nefoedd I'n cynulleidfaoedd ,nae'n tynu y Def A dyna gyduniad er cydio'n v Ceidwad, Gan 'r holl gynulleidfa dan weniad Duw Naf; Y felus orfoledd dyr allan drwy 'u hollwedd, I ganmawl anrhydedd a Hedd wlad yr Haf. Harmonium ysblenydd, cynorthwy a nerthydd I lais yr arweinydd a'r canydd fe'i cawn Mae 'i seiniau peroraidd yn felus nefolaidd, A'i nodau yn beraidd, o'r llonaidd mae'n llawn; 0! hyn fai'n ddymunol, cael lesu i'r canol I arwain ragorol anthemau y nef I'n dysgu'r gan nefol i'w seinio yn swynol Ar fryniau anfarwol-y ber Iddo Ef." Caernarfon. B. MENAI FRANCIS.
ENGLYN.;
News
Cite
Share
ENGLYN Cyflwynedig i Alarch Gwyrfai." Yr "Alarch," bydoedd a'th barchant,-pobloedd Yn fiioedd a'th folant; Daw beirddion rai gwiwlon gant I ganu dy ogoniant. IEUAN PERIS.
EISTEDDFOD GADEIRIOL ERYRI.
News
Cite
Share
EISTEDDFOD GADEIRIOL ERYRI. Agoriad Eisteddfod Gadeiriol Eryri yn Mhen y Groes, Ddydd Llun y Pasg, 1879. Gorsedd enwog roes ddoniau—i'r genedl Pur geinion yr oesau, Yw siarad ei mesurau— A gallo hon er gwellhau. Addeflr ei hen ddefion-galluog I wellhau arferion; A gwir o hyd gara hon Tra. GwaHa. a'r trigolion. Gorsedd y gwir hir bo'i hoes—a'i deiliaid Welir heb un drygfoes A rhinwedd pena'r einioes, Mwynhau grym yn Mhen y Groes. Llanberis. ALARCH GWYRFAI.
LLINELLAU.
News
Cite
Share
LLINELLAU A ysgrifenwyd ar dderbyniad "Gwinllan yr Awen," gan Alarch Gwyrfai. Wele Chwech yn dal i chwi—am yru Mirain Winllan imi; Ei chynwys, Alarch heini' Yw haul nod ein cenedl ni. Er beio, lluehio llwchun,—i'ch gwyneb Gan grach ganwyr telyn Daiaru a-wen 'deryn, 0 wydd Duw, ni lwydda dyn. Yr Alarch rhwng marw helyg-wyra 'i ben Er bod o swn dirmyg Yno fe awena fyg Wyl geinion uwch Ail Gynyg." MAMOBTDD.
ER COFFADWRIAETII
News
Cite
Share
ER COFFADWRIAETII Am y diweddar Mr John Williams, Bryn Coch, Llanboris. Gwr difwlch ei gariad fu—a didwyll Nodedig sy'n haeddu Os yn ei arch ei barcbu Ei fawr boon o'i lafur bu. Dyn cofus,doniau cyfan—yn gerddor Ag urddas o'i anian Erpobhiraeth aeth weithian 0 Fryn Coch i fryniau can. Mawl gaiff ac ami ei goffa Yn ngair doeth ei gyngor da. Llafiberis. ALARCH GWYRFAI.
THE HERALD OF PEACE.
News
Cite
Share
THE HERALD OF PEACE. Ceir yn y rhifyn am y mis yma ertliygl gref ar ryfelg^rwch ein liywodr. eth. Sylwedd areithiau gan Mri. Rylands, Baxter, Mundella, Syr W. Lawson, Henry Richard, a Gladstone, as ereill, ar wastraff a. niweidiau rhyfel, cofnodion am yr enwog Elihu Burritt, y llygredigaethau o ymdeithio mewn modd milwraidd i'r addoldai ar y Sabbath, gorthrymderau sefydliadau rhyfel, peryglon ein trefedig- aethau tram or, penderfyuiad cymdeith- asau heddweh, a hanes gwahanol gyfar fodydd yn ardystio yn erbyn drygau ofnadwy rhyfel. Dylai pleidwyr heddwch gynorthwyo lledaeiiiad yr Herald of Peace.
I.FERNDALE.
News
Cite
Share
FERNDALE. Nos Lun, y 5ed o'r mis hwn, cynaliwyd cyfarfod gan y gweithwyr perthynol i lofeydd y Meistri D. DiYies.& Sons i ystyried y Sordd oreu i gael dealltwriaeth ar y materion sydd yn cyiodi rhwng y meistr a'r gweithiwr trwy farweidd-dra masnach. Etholwyd cenadon yn y cyfarfod i fyned i siarad a'r Agent; ac yr wyf yn deall eu bod wedicyfarfod a'u gilydd, ond nid oes yr un penderfyniad terfynol wedi ei gyrhaedd hyd yn hyn. Da genym ddeall fod yma ddiwygiad cre- fyddol eang ei'ddylanwad gyda phob enwad. Mae yma lawer o blant byebain yn gystudd- iol yn yr ardal, a llawer yn cael eu claddu; ac y mae yn dda genym ddeall fod yma Cemetery eang wedi ei gorphen er's tro bellach, fel na raid eu cludo dros y geirw,, fynyddau o bob tu i'r dyffryn prydferth hwn.-Gohebydd.
-----------------------------/
News
Cite
Share
Dywedir fod gweithiau Alcan Llaagenech, ger Llanelli, yn debyg o gael eu gwerthu. Ddrbyniodd glowyr Dowlais ostyngiad o ddau swllt y bunt yn eu cyflogau. Gyrwyd dau wn-fad newydd i'r mdr yn Pembroke Dock dydd LInD. Dywedir fod Bank arall wedi methu eto, sef Ariandy York (Meistii Swarm, Clough, a'i Gyf.) Rhoddodd Mr R. S. Hudson, Caer, ddarn o dir gwerth X500 tuag at adeiladu addoldy Cynulleidfaol yn Fflint. Mewn eysylltiad ag Ysbytty Crist, Llundain, cynygir ysgoloriaeth i blant o rieni Cymreig, i gael ei phenderfynu drwy arboliad cystadleuol sydd i gaelei gynal yn Aberystwyth, yn Gor- phenaf, 1S80. Parotowch, feehgyn. Wele ffrwyth y bleidlais yn nghylch cau y tafarnau ar y Sabboth yn nghanoldir Mor- ganwg:—dros, 4,250 yn erbyn, 161 canol- og, 167; tafarnwyr, dros, 43; yn erbyn 9; canolog, 7. Agorwyd ysgolion Pabyddol yn" Abercynffig dydd Mawrth diweddaf. Ymddengys fod Pabyddiaeth ar gynydd yn Morganwg. Dywedir yr agorir cangen o Ariandy Oenedl- aethol Cymru yn Mhontypridd, a bod Mr William Merchant, cashier yn y London and Provincial Bank, Pontypridd, wedi ei benodi yn manager. Dedfrydwyd Emily Jones, 20 oed, i farwol- aeth yn Mrawdlys Le'rpwl yr wythnos ddi- weddaf, am lofruddio ei phlentyn, 15 mig oed, drwy ei dagu. Daeth i Le'rpwl o Chepston, swydd Fynwy. Dydd Iau, yr 8fed cyfisol, rhoddwyd careg aylfaen addoldy Seisnig newydd perthynol i Annibynwyr Aberteifi i lawr gan D. Davies, Ysw., A S. Cyfranodd X 115 at yr adeilad. Yn yr hwyr, traddodwyd darlith yn addoldy y Methodistiaid Calfinaidd, gan Dr Rees, Abertawe, ar"Yr adfywiadau crefyddol yn Nghymru;" a rhoddwyd yr holl elw at drysorfa yr addoldy Seisnig. Dywedir y bydd yr holl draul cysylltiedig a'r adeilad yn Xl,200, ac y bydd yn ddigon o faint i gynwys rhyw 850 o bobl. Mae rhyw obaith yn awr y ceir terfyn ar y sefyll allan yn swydd Durham. Rhoddwyd y gofyniad Pa un ai gwell rboddi y mater mewn dadl i bwyllgor o gyflafareddwyr neu beidio ? i'r gweithwyr. Atebwyd gan ddwy- law 190 o lofeydd, a chafwyd dros gyflafaredd- iad 18,456; yn erbyn, 6,362. Dewiswyd R. D. Roberts, Ysw., M.A., D.Sc., Aberystwyth, yn arbolwr mewn Creo- logy a Paleontology am y flwyddyn nesaf yn Mhrif Athrofa Llundain. Dyna d lyrchafiad i Gymro" mewn gwirionedd. Llwyddiant iddo. Nid yw ond dyn ieuanc iawn. Y mae rbyw siarad yn ngbylch sefydlu Fire Brigade yn Mborthmadog. Yn Uys mSn-ddyledion Aberystwyth, yr wythncs ddiweddaf, dangoswyd papur oedd gofynwr wedi ddanfon i ddiffynwr yn cynwys rbybudd a rhyw baner bygythiad o garchariad os na wnai dalu y swm gufynol. Condemniodd y Barnwr y papur mewn iaith gref, a gofynodd pwy oedd yr argraflydd. Atebwyd taw Mr Philip Williams, diweddar Faer y drel. "Mae Maer ac Ynadon Aberystwyth yn gwneud pethau hynod iawn weithiau," atebai y Barnwr.