Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

CANED MAMAU I'W PLANT.

News
Cite
Share

CANED MAMAU I'W PLANT. Nid hawdd yr. anghofir eu caniadau. Rai blynyddoedd yn ol, cymerwyd llwyth o Indiaid yspeilgar Gorllewin America yn garcharorion. Yr oedd yn eu mysg lawer o blant gwynion ag oeddynt wedi ladrata lawer o flynyddoedd cyn hyny. Gwahoddwyd y rhieni oeddynt wedi colli plant i ddyfod yn mlaen i chwilio am danynt. Daeth un fam drist i chwilio am fachgen a geneth enwyl ydoedd wedi golli. Yr oedd ei cbalon yn drom gan hiraeth pan yn chwilio am ei dau blentyn yn mysg y fintai plant oedd yno, ac yn metbu eu cael. Pan yn ing ei hiraeth, daeth i'w meddwl i ganu hen emyn cedd yn arfer ganu iddynt yn ei theulu. Ar hyny dyma fachgen a geneth yn neidio a rhecleg ati, gan waeddi Mam! mam! 0! mam! mam! ac ar unwaith yn ymwasgu i'w mynwes. Ofer cynyg darlunio eu teimladau. S. R.

LLANDDANIEL, MON.

ARAETH MR HENRY RICHARD, A.S.,