Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

NOFEL NEWYDD,

News
Cite
Share

NOFEL NEWYDD, Llywe'yn ap lor werth. rENODIX. Bu farw mam Tangwystl a? enedig- aeth el huuig ferch, a dygwyd yr enoth fach i fyny yn c-faiug gan chwaer Llyw. arch Geeh, yr hon a drigai yn y castell ar adeg ymweliad Llywelyn. Hynodid y foneddiges hono gan ddau beth, sef oedd un, diffyg ffydd yn nyogelwch Pont Hywel, yr hyn wnai iddi gyfyngu ei rhodfeydd i gadlas y castell yn hytrach nag anturio ei bywyd ar beth a ystyriai yn gywreinwaith bradwrus. Yr oedd wedi clywed cymaint o so a. gan ci Lrawd am y drychineb ofnadwy a ellid ddwyn ar elyn trwy y peiriant celfyddgar, nes tynu casgliad anffafriol, liyd yn nod am dynged cyfaiil a pherthynas agos, wrth groesi dyfais mor felldigedig. LIawGr tro y bendithiodd ein harwr goffa.dwr- iaeth a medrusrwydd ei ewythr, as ofnau disail yr hen Gymraes, am gyf- leusderau mynych i rodio gyda Tang- wystl ar y bryniau cyfagos, heb ofn i'r fodryb wyliAdwrus eu canlyn ar eu hyntiau. Hyuodrwydd arall modryb Tanwy, fal ei gelwid, oedd ei mawr ed- mygrwydd o'r Normaniaid, cenedl yn ei barn hi debyg iawn i'r Cymry, a hollol wahanol eu natur i'r Sacsoniaid cas. Hwyrach fod ei pharch tuag atynt yn dcillio o anwybodaeth, canys nid oedd Llywarch Goch erioed o'i fodd yn cyfathrachu ag estroniaid, cddigerth pan ddygwyddai y cyfryw ddyfod dan ei gronglwyd yn nghlwys rwymau llety- garwcb, ac yna caent bob croesaw tra arosent, a boneddigaidd hebryngiad wrth ymadael. Ond ryw dro ar ei bywyd, cyn i'r rhosynau ddiflanu o ruddiau Tanwy, aeth ar ymweliad a Chastell Rhuddlan, a chafodd yr an- rhydedd o dynu sylw arbenig un o arglwyddi Normaniaid y Marsdir, a fturfiodd ei barn am genedl hwnw ar yr hyn a glywsai ganddo a'i foesgarwch tuag ati. Ni choronwyd eu carwriaeth & llwyddiant, ac ni wenodd Dwynwen Santes ar Tanwy byth wedi hyny chwaith. Nid oedd hynodrwydd yn hyny, ond mor ddyrys ydyw troadau olwynion tynged, fel mai bychan feddyliai Llywe yn y gwnai tynerweh modryb-Tanwy at y Normaniaid eifeithio i raddau mawr ar ei fywyd, a thrwy hyny feallai ar ei wlad. Yn mysg yr ymgeiswyr lluosog am law Tangwystl, y mwyaf nodedig, yn nesaf at Iarll Caerlieon Gawr, oedd Gwrgi Hyll, mab llwyn a pherth i'r enwog a'r hynaws Hedd Molwynog, penaeth un obyrntheg llwyth Gwynedd, tiroedd yr hwn a gyffyrdctant ag eiddo Llywareh. Goch. Yr oedd Hedd Mol- wynog yn un o brif swyddogion Dafydd ab Owain Gwynedd, ond o gymeriad pur wahanol i'w feistr gwaedlyd, a'r rhyfeddod ydyw iddo fod yn dad i greadur fel Gwrgi, yr hwn a gyfnewid Hyll, oblegyd mai dyna oedd ei haedd- iant yn gorfforol a meddyliol. 0 ran pryd, brawd oedd i Morfran ail Tegid, un o'r tri boneddigion ffodus a ddiangas- ant o gad Gamlan gynt. Cymaint oedd hagrwch hwnw nes i frvwb dybio mai cythraul o uffern ydoedd. Trigai Hedd Molwynog, neu Hydd ab Olwynog ab Greddf Tygynydd ab Llawr ab Llaw- frodedd Farchawg. &c., yn mhalas mawreddog Henlly3, Llanfair Talhaiarn, gan arglwyddiaethu ar v plwyf hwnw yn gystal ag ar Ddyffryn Elwy a Nant- aled. Yr oedd wedi cynysgaeddu ei fab Gwrgi a mwy o diroedd nag a ddylasai mewn cyfiawnder at y meibion ereill, Menter a Gwyllonon, a hyny nid o gariad at yr Hyll, eithr rhag i hwnw wneud rhyw niwed ysgeler i'w dad a'i frodyr, er mwyn boddio y wane a'i nod- weddai. Ond nid oedd modd digoni Gwrgi Hyll. Tyngai fod ei dad, Hedd Molwynog, wedi rhoi tir iddo da i ddim ond i guddio twll yn y ddaear. Os chwythwch arno," meddai, "mae yn rhy sych; os poerwch arno, maa yn rhy wlyb, ac y mae hyd yn nod yr ysgrubl- iaid yn rhagrithio wrth ddynwared pori arno. Cyfoath, yn wir! Aed yr hen Hedd grintachlyd i orphwysfa Suddas, yn lie gwastraffu da ei blant mewn elus- enau yn I Maea y Bendithion.' Cyrchai Gwrgi yn fynych i GasteJI y Glyn, a safai yn tichol yn marn Tanwy, canys blaidd cedd ef a todrai wisgo croen y ddafad pan dde7<ioai, ac yr oedd yn ddigon cytrwvs i we led y fantais a roddai ce^nogaeth y fodryb i yngeisydd am law y nith. 'Ond ri thpJai Tang- wystl gymaint 0 sylw iddo ag a ddy- muna ei modryb. Ofer oedd i'r hen foneddigcs wirion oscd allan beunydd ragoriaethau dirgslaidd y gwr ieuanc fel eiddo un y dylai unrhyw larlles fod yn falch o honynt mewn edmygwr. Cofia, fy anwylvd," meddai wrth ei nith, "fod llawer cnewyllyn pur i'w gael dan blisgyn gwael, ac os na fedd Gwrgi ab Hedd Moiwynpg berson Sandde Bryd Angel, mae yn berchen calon lew, a chyfrifir ef, meddir. san y Dywysoges Emma. yn un 0 farchcgion mwyaf trwyadl v dydd." "Ie, MEDDIK," ebai Tangwystl dan chwerthin, ac ymaflyd yn ei theiyn fel yr arferai wneud bob tro y dygid y testyn hwn ar droed, "ljt\,fod cloch bres yn crefu, mcdryb tack; gwran- dewch fy inarn ar rith dam eg dla^d," a chanodd rywbeth tebyg i hyn c can synwyr:— ,f Ryw dro a :tb blaild aewynog I fys? y dofaid raSn, Gan goddio'i gob^n flewog Dan gwrlid pur o wlao, > Ond gwalodd oenig graft as Ei daneda orealoc, his, Yn dysgwyl tamaid melcs Ar draul arglwydci r tir, A ohadwedd wyliaawmeth Ar foesau'r ddafad gin, A ffodd y blaidd siomedig Yn ol i'w ffiaidd ffan." Felly finau, modryb," ebai Tang- wystl yn benderfynol, "yr wyf wed: diflasu ar weled Gwrgi flaidd yn dyfod yma i gampu mewn gwlan benthyciol, gan geisio dynwared marchogion Lloegr, ac yna dychwelyd adref i ymarllwys ei natur ddrwg ar ei ddeiliaid traenus." natur ddrwg ar ei ddeiliaid traenus." Fel yna, jchydig amser cyn i Llyw- elyn gyrhaedd Castell Glyn, y cyfododd yr anghyaweiediad cyntaf erioed rhwng v fodryb a'r nith, a phan glywodd yr hen foneddiges am waredigaeth Llyw- arch Goch a'i ferch o grafangau eu gelynion, a'r desgrifiad bywiog a roddent o harddwch a phybyrwch y dyeithrddyn, yn nghyd a'r tebygolrwydd y delai i edrycb am danynt yn fuan, llenwid ei mynwes ug ofnau am obeithion ei hoff ddyn Gwrgi. Nid rhyfedd gan hyny iddi roi derbyniad oeraidd i'n harwr mewn cydmariaeth i groesaw cynes y rhelyw o'r taulu, ac iddi edrych arno fel trawsymwthiwr dinod tra bu yn aros yn a C7 y castell. Tynai gasgliadau atgas oddi- wrth ei wisg, yr hon oedd bellach yn dechreu gwaalu ar ol y peryglon yr aethai ein harwr drwyddynt. A wgrymai Tanwy mai perthyn i ryw haid o wylliaid yr oedd, ac nad oedd un dyben da yn ei dri^iad yno. Hwyrach fod arafweh Llywelyu yn atsb holiadau yr hen ferch ddrwgdybus mewn perthynas i'w gartref, ei deulu, a'i neges, wedi taflu cysgod rheswm dios hyny. Nid oedd y tywysog yn dewis dadguddio pwy ydoedd, ac yr oedd yn rhy uchelfrydig i ddweyd an- wiredd ar draws ac ar hyd er mwyn eadw ei gyfrinach, neu i foddio cywrein- rwydd ei holiedydd rhagfarnllyd. Fei yr oedd y naill ddiwmod ar ol y llall yn diilanu, cynyddai serch ein harwr at Tangwystl, ac anghofiodd braidd achos pwysig ei daith i Bowys. Mae vn wir iddo unwaithgynygymadael, ond ni fynai Llywarch Goch glywed son am golli ei gymdeithas, a chyn hir daeth fel un o'r teulu. Syrthiodd i benbleth nid bychan gyda golwg ar ddadgan ei serch wrth Tangwystl. Amheuai a oedd hi yn coleddu teimlad cynhesach tuag ato na'r cyfeillgarwch gwresog a godai yn naturiol o'r gymwynas a wnaeth erddi. Ni fynai er y byd gymeryd mantais o letygarwch Llywareh Goch i ddwyn oddiarno heb genad y Rhosyn a werthfawrogai gymaint. Ac ar y llaw ¡ arall, nis gallai ddysgwyl i wr o urddas ac achau yr hen bendefig ganiatau i ddyn dyeithr ymgeisio am law ei unig ferch, ac etifeddes ei gyfoeth, heb i hwnw ddadguddio ei hun a'i fwnadau dyfodol. Teimlad arall naturiol i un wedi ei ddwyn i fyny fel Llywelyn, ac ar fin anelu at nod mor uchel yn ei wlad, oedd awydd enill serch Tangwystl yn ei gyineriad o ddyeithrddyn, heb deitl nac arwydd cyfoeth arno. Dymunai fedd- ianu ei chalon heb gydweithrediad y swyn a lynasai wrth. ddadguddiad o'i enw priodol a'i radd uchel. Buasai enwogrwydd a godidogrwydd traddod- iadau ei deulu yn effeithio yn fwy fifafriol ar feddwl fel eiddo Tangwystl nac un gobaith 0 eistedd fel .gwraig Tywysog Coronog Cymru, a mwynhau y da bydol a barthynai i'r gyfryw radd. Yr oedd Llywelyn ab Iorwerth yn un o'r dynion sydd yn ewyllysio i wrth- ddrychau au serch eu caru, nid am rhyw urddasolrwydd a drosglwyddwyd iddynt gan hynafiaid, nac am eu bod yn llenwi, neu ar lenwi cylchoedd uchel yn y byd, eithr or mwyn eu hunain yn unig. Gwyddai nad dyogel iddo amlygu ei; hun i Llywarch Goch, oblegyd buasai tfyfnewidiad mor bendant yn cymeryd lie yn ymddygiad yr hen arglwydd gonest tuag at ei westywr, nes peri i'r gwasanaethyddion siarad a synu pa fath wr urddasol oedd yn eu mysg. Nid oedd Llywarch Goch erioed wedi dysgu cuddio ei deimladau, ac ni feddai fymryn o lys-foesiiu llyfwyr y llwch-llid mewn calon tan wen ar wyneb. Gan hyny, ofer fuasai dysgwyl iddo feistroli ei .deyrngarwch, a phe £ dio gwneud ffwn- dwr ar ol unwaith cael gwybod pwy a noddai yn ei gastell. Heblaw hyny, gallasai fod yn mysg deiliaid lluosog Llywarch Gcch rywun parod i chwareu rhan bradwr, a -fuasai awgrym o wir gymeriad ein harwr yn ddigon i yru adyn o'r fath yn syth at Dafydd ab Owain, yr hwn a feddai eisioes ddigon o esgus vn ei dyb ei hun i yru galanas ar Arglwydd Rhos. O'r diwedd, aeth t-eimladau Llywelyn yn gryfach na'i allu II i'w celu oddiwrth Tangwystl, ac mewn cyfyng-fwriad, dyfeisiodd gynllun i gyffesu yr hyn oedd hwyrach yn lied I amIwg iddi er ys amser, a gosod ei hun ar yr un pryd ar droediad anrhydeddus gyda'r tad a'r ferch, heb fynegu iddynt pwy ydoedd, nac ychwaith lunio an- wiredd.

---Tameidiau Hynod a Dyddorus.

0 NEWYDDIADURON CYMREIG AMERICANAIDD.

CONGL YR YMHOLYDD.

SANT YR EFAIL, NEU SAMMY |…

CYNGHORION I FERCHED IEUAINC.

MR. OSBORNE MORGAN AB Y PENDEFIGION.

DAMWAIN ECHRYSLON.

Y WLAD HYNOTAF AM HUNANLADDIADAU.

YSTUM MEWN CWS