Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Y NOFEL: EINION HYWEL.

News
Cite
Share

Y NOFEL: EINION HYWEL. (BurJJugol yn Eisteddfod ddiweddar Aberdar.) PENOD XVIII. WRTH fyned at y ty, dyna y bonedd- wr yn dyfod i'w gyfarfod, ac yn gofyn iddo o ba le yr oedd yn dyfod, a phwy ydoedd ? Ac mewn enyd dyna y bach- gen yn ei ateb, gan ddweyd o ba le yr oedd yn dyfod a phwy ydoedd, ac mai ei neges at y palas oedd edrych a oedd eisieu gweithiwr yno. Synodd y bo- neddwr at ei ddull boneddigaidd, a doethineb ei laferydd, a dywedodd wrfho fod ar berchenog y palas angen gweithiwr, ac y byddai iddo ef gael gwaitb, ac am iddo ddyfod i'r gegin. Felly y bu, ac erbyn hyn yr oedd y bachgen yn teimlo yn lled lawen ie, er fod pawb a phob peth yn hollol ddy- eithr o'i amgylch. Wedi iddo gael ym- borth, dywedodd y boneddwr wrtho na chaffai weithio y prydnawn hwnw, ac am iddo fwynhau ei hun o gwmpas 5 palas, a dyna fel y gwnaeth; ac yn wir, nid oedd wedi gweled cymaint pryd- ferthwch eddiar pan yr oedd wedi gadael Dyffryn Eifion. Boreu dran- oeth, dyna Syr Jubal Hugo (canys dyna oedd enw y boneddwr), yn gofyn iddo, A oedd yn gyfarwydd ynyr ardd," pryd yr atebodd yntau ei fod. Yn awr, dacw Einion ynei ddilyn trwy y gerddi prydferthaf a ffrwythlonaf a welodd erioed, nes dyfod at y gweith- wyr, pa rai oediynt yn mhen draw yr ardd fwyaf, fel ei gelwid. Yna safodd y boneddwr, a dyna ef yn galw ar ei arolygydd, yr hwn oedd yn ddyn o ym- ddangosiad ercbyll, ei edrychiad yn dreiddgar, a'i gerddediad yn chwyrn, a dywedodd wrtho am roddi gwaith i'r bachgen hwnw oedd wedi dyfod o Gymru. 0 Gymru, meddai yr hen arolygydd. Peth ')d ei fod wedi dyfod mor bell i ofyn gwaith, onide ? Ie, ond gwnewch chwi fel yr ydwyf fi yn gorchymyn. Felly y bu, a dacw Einion yn cydio yn ei orchwyl. Eto, y mae yn teimlo yn hynod unig yn mysg y fath reng annuwiol, ac edrych- ent hwythau arno yntau fel pe byddai yn mhell islaw dyn, a hyny o herwydd ei fod mor ddifrifol gyda phob peth. Eto, dangosai fod ei wybodaeth fel garddwr yn mhell uwchlaw pawb yn -y gerddi; ie, nid oedd gan yr arolygydd ei hun ddim i'w ddangos iddo. Yn mhen rhai wythnosai dacw y bonedd- wr yn yr ardd, a'r peth cyntaf a dyn- odd ei sylw ydoedd, medrnsrwydd Einion yn trin y blodau. Safodd uwch ei ben, a gofynodd yn mha le yr oedd wedi dysgu pethau felly," pryd yr ateb- odd y bachgen "mai yn Nghymru." Ond cyn cael ymddiddan dim yn mhell- ach daeth yr arolygydd yn mlaen, a thynodd sylw y boneddwr at rywbeth arall. Ond cyn ymadael o'r ardd, go- fynodd pa fodd yr oedd y Cymro yn dyfod yn mlaen ? Y Cymro," meddai yr hen arolyg- ydd Dyna y creadur rhyfeddaf a fu yn fy ngwasanaeth erioed weithiau bydd am ddiwrnod cyfan heb yngan yr un gair wrth neb; eto, y mae mor ddi- wyd a'r morgrugyn ac yn wir, y mae yn profi fod ynddo lawer o wybodaeth mewn cysylltiad a llawer o bethau, yn enwedig gyda'r blodau er hyny, yr wyf yn credu mai creadur digon canol- ig ydyw, a rhyngof fi a chwithau, nid oes dim dadl yn fy meddwl nad ydyw yn medru I dewiniaeth,' o'r hyn leiaf, y mae mewn rhyw hen lyfr bob mynyd o amser hamddenol a ga." "Yn medru I dewiniaeth,' yn wir, ebai y boneddwr. Pe bawn yn deatf hyny, cai fyned o gylch fy nhy cyn cysgu heno." Yn lie dweyd wrth y bachgen, penderfynasant dreio cael gafael yn yr hen gyfrol Mewn gwir- ionedd, yr oedd llawer o'r gweithwyr erbyn hyn yn teimlo yn hynod eiddig- eddus at ein harwr, a hyny o herwydd ei ragoriaeth yn mhob peth. A rhyw ddiwrnod, dyna un o honynt o'r enw Henry Coffin yn treio codi ffrae rhyng- ddo a'r bechgyn, gan feddwl cael achos 1 achwyn arno fel alfonyddwr. Ond er iddo ei ddifenwi yn mhob dull ni chy- ffrodd Einion yr un mymryn, ac ni ddywedodd yr un gair yn ol, yr hyn a barodd i'r gweithwyr eynu ya asgy- ffredin. Mewn ychydig wythnoeau dra- chefn dyna Coffin yn g\yneudcynygiad fw fradychu, ond mefchoddyp ei am. can, ac yn ei nwydau i i Ae oteiti-, harwr a tharawodd ef erth, gan feddwl na fyddai iddb amddifiyfa ei hun. I Ond mewn eiliad wedi iddo g&el ei daraw, neidiodd ar ei draed a chydiodd yn y gwrthwynebydd a gwasgodd ef yn nghyda'r llawr nes oedd yn gwaedi yn ofnadwy, ac yn erfyn .yn daer am oll- yngdod, yr hyn a gafodd yn union, ar yr amod y byddai yn llonydd o hyny allan. Erbyn hyn yr oedd pawb wedi eu hargyhoeddu mai nid dyn heb wrol- deb ynddo oedd ein harwr. 0 na, byth ar ol hyn yr oedd pawb o fewn y gerddi yn talu gwarogaeth neillduol iddo, ac ni chymerent y byd am ddweyd gair yn ei erbyn ac yn fwy na dim, yr oedd ei feistr yn para i'w hoffi yn fwy bob dydd. Eto, nid oedd Einion wedi ymserchu dim ynddo ef, a hyny oblegid ei annuwioldeb rhyfygus; ac yn wir, yr oedd yr olwg ar baganiaeth ac eilufiaddoliaeth yr ardal yn cren gofiddirfawr yn ei fynwes. Yr oedd y Sabboth yn cael ei dreulio gan y rban fwyaf o bawb yn y cymydogaethau mewn yfed cwrw, dawnsio, a chyflawni pob math o gampau annuwiol. Ac yr oedd treulio un Sabboth yn y palas yn archolli mwy ar ei galon na dim oedd wedi ei gyfarfod ar ei daith helbulus. A chan ei fod y fath ddirwestwr trwy- adl, a Christion mor ddysglaer, methai yn deg ac aros yn merw y meddwon ar ddydd yr Arglwydd. Ac wrth weled ugeiniau a chanoedd o blant yr ardal- oedd yn casglu at eu gilydd i chwareu, penderfynodd fyned atynt a gwneud ei bun yn gyfarwydd yn eu mysg, ac yn ol ei benderfyniad y gwnaeth, a chyn pen tri Sabboth yr oedd y plant wedi ei hoffi yn anghyffredin. Ond y try- dydd Sul dacw efyn eu galw yn nghyd cyn dechreu chwareu, ac yn dweyd wrthynt fod ganddo ryw hen lyfr rhy- fedd iawn, ac os gwrandawent, y byddai iddo ddarllen rhan o hono cyn dechreu, a thrwy fod degau o honynt heb glywed son am y fath beth erioed, yr oeddynt yn sychedig am glywed beth oedd ganddo, a dacw ugeiniau o honynt o'i gwmpas, a dyna ef yn agor yr hen lyfr ac yn dechreu darllen Hanes Joseph iddynt. Wedi myned dros ddwy neu dair obenodau, dywed- odd wrthynt am fyned i chwareu, ac y caffent ragor y Sabboth canlynol. Ond 0 gwaeddent ag un lIef," Yn mlaen a chwi, na hidiwch o'r chwareu." Aeth thagddo drachefn hyd ddiwedd yr hanes, ac erbyn hyn yr oedd y plant wedi eu gyru i syndod, oblegid yr oedd lluaw8 o honynt heb glywed neb yn darllen erioed o'r blaen, ac er eu hoff- der at y chwareu, llwyr anghofiasant ef y Sabboth hwn, y gadawsant i Einion fyned adref ar yr amod y byddent yn cael clywed rhagor yn mhen yr wyth- nos. Dacw ef yn y palas. Ond 0 y peth cyntaf a ddisgynodd ar ei glust- iau oedd, fod Coffin, ei hen elyn, wedi ei daro 4 thwymyn, a bod y meddyg yn dweyd mai y Freeh Wen ydoedd, yr hyn a barai i bawb ddychryn yn erwin, a hyny o herwydd eu bod yn ymwyb- odol o'r difrod yr oedd y dolur poenus yn arfer wneud bob amser pan y talai ymweliad a'r gymydogaeth. 0 gwel- wch y truan yn gorwedd ar ei wely, heb neb yn estyn yr un dyferyn o ddim ar ei wefus losgedig. Y mae ei holl gyfeillion wedi cilio ie, mewn ofn. a'i adael i farw yn ei boenau Yn y cyf- wng, dyna Einion yn cymeryd ato. Ac O! ei ofal diflino Gwelwch efyn ei ymgeleddu mor esmwyth, y mae yn ei droi, ie, er cael ei hwtio ogymdeith- as ei gydweithwyr, nid yw yn peidio gofalu am Coffin. 0 na, trinia ef fel plentyn, a chreda fod ei adferiad yn bosibl,.

GWYL LENYDDOL Y GILFACH GOCH.

. LLUEST Y MYNYDD.

——^ GOGONIANT DYN YN EI SYLWEDDAU…