Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

Y JESUITIAID.!

News
Cite
Share

Y JESUITIAID. Y MAE y llyfr, yn cynwys golygiadau y Jesuitiaid ar ddeddfau moesoldeb, ac a ddysgir yn ysgolion dyddiol y Pabyddion, wedi cael ei ysgriienu gan offeiriad Pabaidd o'r enw Gury. Edrychwn ar yr hyn a ddywed efe ar y rhan gyntaf o gyfundrefn foesol y Jesuitiaid, sef Tebygoliant (proba- bilism). Fel y canlyn y mae golygiadau y Jesuitiaid ar y mater hwn, fel eu gosodir allan gan Gury, ac fel y cymer- adwyir hwy gan y Pab, ac yr addysgir hwy mewn ysgolion dyddiol Pabyddol, yn ol fel y tystia y Quarterly Review, a Pascal ddau can mlynedd yn ol, heb fod neb wedi gallu troi y dystiolaeth yn ol. Yn ol athrawiaeth Tebygoliant y Jesuitiaid, y mae dyn yn gwneud yn iawn i gredu opiniwn dyn parchus dysgedig, ar fater o foesoldeb, er fod ei gydwybod ei hun yn llefaru yn groes i'r opiniwn hono, ac er fod yr opiniwn yn groes i'r hyn .a fernir yn iawn gan gydwybod gyffredinol y wlad. Digon i ddysgybl y Jesuit, y Pabydd, yr ysg^lhaig mewn ysgol, fod yr opin- iwn ar fater o foesoldeb, yr hon sydd yn rhoddi rhaff i dueddiadau drwg, wedi cael ei rboddi gan ddyn dysgedig, uchel ei sefyllfa eglwysig. Gall ei gydwybod ildio i'r fath opiniwn, a'r dyn i weithredu wrthi heb "betrus- der! Ond ymddengys fod yn rhaid i'r opiniwn a (^dewjsir i arwam vr. yn- golhaig, fod yn un o fewn Eglwys Rhufain, oblegyd rhydd Gury enw Ligouri, ysgrifenydd Pabyddol, fel un y gall dyn weithredu yn ol ei opiniwn ef, ar draws awgrymiadau cydwybod y dyn ei hun. Yn ol rheolau y Jesuit- iaid, a'r Pabyddion yn gyffredinol yn awr, nid yw yr offeiriad, wrth ba un y bydd dysgybl yn agor ei fynwes mewn eyffesiad, i oruwchreoli dilyniad opin- iwn dyn fel Ligouri, gan y dysgybl hwnw. Dyma un ffurf o Oddefiant (Dispen- iation) Pabyddol; gair sydd yn sefyll Si ami ar flaenau tafodan dynion yn ghymru a Lloegr y dyddiau hyn, mewn cynulliadau dirgelaidd, deddfau pa rai sydd yn ol y cynllun Jesuitaidd. T mae yn rhaid ir ffregodiaeth, y lingo, i fod, bid sicr, yn gydymaith i'r flgwyddoiion a'r rheolau Jesuitaidd. Ystyr y gair dispensation, yn eu geir- iadur hwy, yw caniatad y Pab i wneu- tfrar rhywbeth gwaharddedig. Y Pab Innocent III., yn y flwyddyn 1200 O.C., a ddechreuodd y gwaith hwn. Ar- weiniodd y Pabau i werthu pardynau, yr hyn yn y diwedd a achlysurodd doriad allan y Diwygiad Protestanaidd. Amcan y Goddefiantau Pabyddol oedd gwneud Pabyddiaeth yn boblogaidd, trwy ganiatau i ddynion wneud fel y mynont, ond bod yn aelodau o Eglwys Rhufain. Hyn hefyd yw amcan y Dispensations yn y cymdeitbasau di- weddar, y rhai sydd wedi cael eu ffurfio yn ol model Jesuitiaeth. Yn llyfr Gury gofynir, Pa un a all y Pab roddi caniatad i dori gorchymyn- ion Duw ? Yr ateb yw, Gall y Pab ganiatau hyny oherwydd achos cyfiawn (!), pan y bydd y gyfraith ddwyfol yn dyfod i weithrediad yn yr ewyllys dynol, megys mewn addunedau a llwon (! !) Mewn materion ereill y mae yn amheu's pa un ai awdurdod i ganiatau troseddu gorchymynion Duw sydd gan y Pab, ai awdurdod i'w gosod o'r neilldu, neu i oedi eu rhwymedig- aeth am dymor. Ond nid yw y gwa- haniaeth yn hyn fawr o beth." Dyma yr egwyddorion a ddysgir yn ysgolion dyddiol y PabyddioD yn y wlad hon o dan yr enw creiydd I Er mwyn i'r egwyddorion hyn gael eu dysgu fel "crefydd" (!) y mae Cadinal Cullen ac ereill yn melldithio yr ys- golion sydd hebddynt, fel rhai yn cy- nwys "godlass education! A fu rhaib twyll erioed yn fwy dylanwadol nag yn awr, pan y cawn wleidiad- wyr o'r graddau uchelaf, dysgedigion ymchwilgar, y rhai mwyaf dylanwadol, yn barod i roddi clust i'r lief gy threulig yn erbyn addysg dda, fel un "didduw," er mwyn dyrchafu addysg sydd yn cyfreithloni tori gorchymynion moesol Duw wrth reol, gan alw y fath wrth- ryfel yn erbyn Duw yn grefydd ? A fu dallineb mwy llwyr, tywyllwch mwy perffaith, yn gorwedd erioed ar drigolion Galilaa y Cenedloedd," nac ar Ymneillduwyr Cymru, y rhai a an- fonant eu plant i ysgolion y Pabyddion i ddysgu ei fod yn- iawn iddynt dros- eddu gorchymynion Duw, os bydd y Pab yn caniatau, a chredu mai." cref- ydd yw y fath annuwioldeb ? A rhag i neb gredu ein bod yn def- nyddio iaith gryfach na'r ffaith, edryched y darllenydd i'r Quarterly Review am Ionawr diweddaf, tudalen 61. Ac yn tudalenau 58 a 59, caiff fod y llyfr dan sylw yn cael ei osod allan fel y canlyn:—" The spirit of casuistry still flourishes with unim- paired vigour, and the same maxims, which it might have been deemed that the shafts of Pascal's piercirg wit, must have banished for ever, are being inculcated at the present day, in every Roman Catholic School, college, and seminary, where Jesuit doctrine pre- vails. and this comprises vast majority. Gury's Compendium on Moral' ineo- logy' has been appointed in Roman Catholic seminaries in all lands, as the standard manual of Moral Theo- logy. It has been printed in every country, and translated into every tongue." Yn y llyfr hwn, yr hwn sydd wedi cael ei gyfieithu i bob iaith," y mae yr egwyddorion annuwiol uchod yn nghylch awdurdod y Pab i ddirymu gorchymynion Duw, yn cael eu gosod ger bron, i'w dysgu yn ysgolion y Pab- yddion fel standard moesoldeb Copio y Phariseaid y mae y Pab. Cyhudd- odd Crist hwynt o ddirymu gorchy- mynion Duw a'u traddodiadan." Dy- wedodd wrthynt, O'oh tad diafbl yr ydych ebwi," oblegyd hanfod geirism cyntaf y diafol wrth Efa, yn ngardd Eden, oedd bwrw i lawr orchymyn Duw i wneud ffordd i ewyllya dyn, i fod mewn awdurdod uwchlaw y gor- chymyn hwnw. Chwi a fyddwch megys duwiau," oedd yr abwyd swynol a osododd y diafol ger bron Adda Efa, fel gwobr am osod eu traed ar orchymyn Duw. Dyrchafu ei hun uwchlaw pob peth a elwir yn Dduw y mae y dyn pechod," y Pat, fel y profa llyfr Gury. Ceisio gwtbio uwchafiaeth y Pab uwchlaw awdurdod Brenin y Brenhinoedd ar blant y byd, mewn ysgolion, yw gwaith y Pabydd- ion Jesuitaidd. Yr un elfen i ddyrch- I afu dyn uwchlaw Duw sydd mewn llawer o gymdeithasan diweddar. Fel y Pab a Gury, yn y dyfyniad uchod, gosodant ymrwymiad dyn i wneud eu gwaith hwy uwchlaw ymrwymiad cyd- wybod i "ufuddhau i Dduw yn fwy nac i ddynion." Condemnir y fath wrthryfel uffernol yn erbyn gorsedd Duw-er ei fod mewn gwisg angel y goleuni "—gan yr holl Feibl, holl eirJ iau y Tad, y Mab, a'r Ysbryd Glan holl angylion a saint y nefoedd a'r ddaear, yn mhob oes, ac i dragwyddol- deb, gan gyd-ddweyd, Yr Arglwydd dy Dduw a addoli, ac ef yn unig a wasanaethi." Rhagor eto ar Jesuit- iaeth. 4

MAESTEG.

YR UNDEB CENEDLAETHOL.

CYFARFOD Y MEISTRI-YN NGHERDYDD.…

[No title]

GADLYS, ABERDAR.

ABERDAR.—CYFLWYNIAD TYSTEB.

OYLCHWYL LHNYDDOL GILFACH…

GBKEDIGABTHAU.

MARWOLAETHAU.