Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
iGWAWD-YSGRIFAU EOS WYN ¡A…
GWAWD-YSGRIFAU EOS WYN A THE LOR TAW; ERFYNIAF ganiatad am ychydig o'ch gofod yn y DAMAN am yr wythnos hon, i wneuthur hunan-amddiffyniad. Nid wyf mewn un modd am godi y ddadl eto, rhag ofn fod y darllenydd wedi cael ei fiino yn ormodol a phethau o'r fath ond ar yr un pryd, yr wyf am wneud ychydig o nodiadau ar ysgrifau Eos Wyn. Bu yr Eos mor ffol a chyhoeddi ysgrif yn y DARIAN am Gorphenaf 16eg, gan ddarbwllo y cyhoedd i gredu fy mod wedi ei gyhuddo o fod yn awdwr yr ys- grifau a ymddangosasant gan y "Mab Ieuengaf," a Telor Tawe, pan na ddarfu i mi ysgrifenu dim o gwbl; neu profed yn wahanol os gall. Ond y prif amcan mewn golwg, debygwn i, oedd cael cyd- ymdeimlad y cyhoedd drosto, a hyny am ei fod yn glaf. Ond, ddarllenydd hoff, nid yw cystudd yn ddigon o iawn dros weithredoedd drwg a maleisus. Pa angen oedd i'r Eos ddyfod ag ysgrif allan o gwbl ar y DARIAX, gan na ddarfu i mi grybwyll dim yn fy ysgrifau am ei enw ? Ac yn ngwyneb fod y si wedi myned allan ar led yn y gymydogaeth mai ef oedd yr awdwr, darfu i'w gyfaill fy hysbysu ei fod yn methu a chaelhun i'w amrantau, Da llonyddwch i'w feddwl, am fod y Iluaws yn credu felly; ac er rhoddi esmwythad i'w feddwl, darfu i minau fod mor ostyngedig a danfon llythyr ymddiheurol, ar gais ei gyfaill, am fy mod inau wedi haner credu, ar dystiolaetbau ereill, mai efe oedd yr. awdwr, er fy mod heddyw wedi cael profion diymwad ei fod ef a llaw yn y fusnes a'r defnydd a wnaeth o'm llyth- yr cyfrinachol ydoedd, ddanfon allan i'r DABIAN, a gwneud adolygiad gwawdlyd arno. D.yna fradwr yn cyhoeddi oyf. rinach, pan ar yr un pryd y mae'r Beibl yn dweyd wrthym mai gwae i'r hwn a ddadguddio gyfrinach. Yr wyf wedi cael prawf yn hyn yna nad yw yr Eos yn un a<* y gellir ymddir- ied cyfrinach iddo, ond y mae yn un ag sydd yn ceisio ymddyrcbafu trwy udganu i'r beirdd cadeiriol, mewn gobaith am daliad da yn ol llaw; ie, a danfon yr un cynyi chion i'r Western Mail, Weekly Mail, (hchxdyarict', TARIAN Y GWEITHIWR, Y F'Uten, Y Dywysogaeth, &c" feI pe buasai rhyw archangel wedi eu cyfansoddi, ac yn yr olaf yn cael ei gyhuddo o len- ladrad, a bod yn euog o lyfu llwch aur a physgota clod dynion da ereill. Y mae genyf air hefyd at Telor Tawe. Y mae Telor mor ddiegwyddor a honi ei fod yn lienor adnabyddus yn,y gymydog- aeth hon, pan nad oes yr un llenor, bardd, na cherddor, yn gwybod mwy am dano nag a wyr twrch daear am yr haul, a bu mor garedig a'm cyfarwyddo at Alaw Meudwy, er gael sicrwydd yn ei gylch; a'r sicrwydd & gefais gan Alaw ydoedd nad oedd ef yn gwybod pwy yd- oedd o ddynion y byd o dan yr enw uehod ond y mae lie i gredu, ddarllen- ydd, mai tramp o sir Gaer ydyw, ac yn lletya ar hyn o bryd gyda chymydog agos i mi, ac os yw yn chwenych gwisgo cot ddu am ei gefn, a napcyn gwyn am ei wddf, cofied nad yw y got ddu yn ei osod yn well person, na'r napcyn gwyn yn ei osod un mymryn yn santeiddiach yn ngolwg y bobl; ac os ydyw yn cy- meryd arno fod yn ganwyll oleuedig i'r ,71 praidd. ac yn cyhoeddi uwch eu penau, parhaed brawdgarweh, a dilynwch heddwch a phawb, a sancteiddrwydd," ac o'r un genau yn dyfod allan fellditb ar faes newyddiaduron, a "lie bynag y mae cenfigen ac ymryson y mae terfysg a pbob gweithred ddrwg," a phriodol y galiaf ofyn, Pwy sydd wrdoethadeailus yn eich plith? Dangosed trwy ymar- weddiad da ei weithredoedd mewn mwyneidd-dra a doethineb. Mae y ddau ohebydd uchod wedi bod ar eu goreu i geisio fy niraddio yn y DARIAN, ac^yn fy ngosod allan yn un o'r cymoriadau iselaf ao y gall iaith ei des- grifio. Yr wyf yn awr apelio at lenorion yr Alltwen a Phontardawe am fy nghy- meriad trwy gyfrwng y DARIAU, fel ac i gael cyfiawnder yn ol llaw, ac i'r cyhoedd farnu yn deg drosom.—TAWENFRYN.
YMFUDWYR I PATAGONIA.
YMFUDWYR I PATAGONIA. MR. GOLYGYDD,-A fyddwch cystal a chaniatau ychydig le yn eich newydd- iadur i'r llinellau canlynol, y rhai a ys- grifenir gyda'r amcan o gywiro camgy- meriadneu ddau a ddygwyddodd yn ys- grifddiweddaf "Eich Gohebydd neill- duolo L'erpwl." Cwynir ganddo fod un o'r fintai ddiweddaf wedi gorfod talu saith swllt am gludiad eu dodrefn o'r Duke's Dock i'r Landing Stage. De- alled Pathos" mai nid i'r Landing Stage y cludwyd hwy o gwbl, ond i'r Brinley Moore Dock, dwy filldir yn mhellach. Dylasai y doll fod, nid saith, ond deg swllt, ac felly y buasai ond am y ffaith ei fod yn ein gofal ni. Er fod yr ymfudwr y cyfeiria Pathos" ato wrtho ei hun, ac yn wr dideulu, eto, yr oedd ganddo fwy o lawer o ddodrefn na'r teulu mwyaf oedd yn eydfyned ag ef. Drwy ein dylanwad, arbedasom tuapum' swllt ar hugain o leiaf arno am orfesur- iad ei luygage, am yr hyn, gyda'r holl ymfndwyr ereill, y teimlai yn dra di- olchgar i ni pan yn ffarwelio a hwy haner dydd Sadwrn y 18fed.. Gyda golwg ar y rhai a hebryngent y gwahanol ifnteioedd, pwy syddyncwyno o'u plegid hwy ? Y maent yn teithio ar eu traul eu hnnain. A thra yn L'erpwl, y ma* i^dynt gan oroesaw i holl gyf- awnde^- ein ty. Y mae llawer o'r cyfrifoldeb arnom ni gan ein bod yn eu gwahoddi fyny, yr hyn hefyd a fwriad- wn barhau i wneuthur yn y dyfodol. I ba le y mae y byd yn myn'd pan na chaiff cyfeillion twymgalon yr ymfudwyr eu hebrwng ar eu taith heb orfod profi eu hawl i hyny. Er anfoddlonrwydd Pathos, ac ereill, y tebygolrwydd yw, y bydd y swyddogion, fel eu gelwir, yn parhau i ddyfod fel cynt. Os dygwydd fod gan rywrai gwestynau i'w gofyn mewn perth- ynas i'r ymfudwyr Patagonaidd yn y dy- fodol, dymunwn arnynt eu eyfeirio yn uniongyrchol atom ni, fel unig oruch- ,,Yr wylwyr yr ymfudiaeth Batagonaidd, Yr ydym yn teimlo fod y rhan fwyaf o'r cyfrifoldeb yn gorphwys arnom ni, ac yr ydym yn ddigon galluog i'w ddwyn yn ddigymorth y mae ein safle a'n dylan- wad y fath, a'n cymeriad mor adnabydd- us bellaeh drwy Gymru oil, fel yr ydym yn eu hystyried yn ddarostyngiad arnom i gydmharu ein huuain a neb yn y fas- CIY nach ymfudol yu L'erpwl. Yr eiddoch yn gywir, LAMB AC EDWARDS, 35, Union-street, L'erpwl.
LLITH Y PIGWR BRYCHAU.
LLITH Y PIGWR BRYCHAU. MB. GOL,-Mawr y twrw y maent yn ei gadw yn nghylch Eisteddfod Pwllheli. Yn mhlith pethau ereill y barna rhai y dylid eu gwyntellu, ymae pwnc yr anthem. Beiur Pencerdd America am feirniadu gwaith ei ddysg- ybl ac o'r tu arall, collfernir D. Jenkins am gystadlu o dan ei atbraw. Y mae rhai yn ymfflamychu," am fod neb yn beiddio dweyd eu meddwl ar y pwnc hwn, am y rheswm fod D. Jenk- ins yn ddigon uwchlaw amheuaeth fel awdwr, ac wedi enill rhyw lu o wobr- wyon cerddorol o'r blaen. Ond dy- weder a fyner, pe buasem ni yn lie y cyfaill D. Jenkins, buasai yn well gen- ym fod heb enill o dan feirniadaeth ein hathraw, er fod dau arall yn cydfeirn- iadu ag ef; ond.clywsom fod un o honynt yn ffafriol i un arall. Y mae perygl i'r wlad edrych yn amheus ar yr athraw a'r dysgybl yn nglyn ag anthem Pwllheli. Y mae yn beth lied debyg fod yr athraw yn gwybod fod y dysgybl yn cystadlu, ac wedi gweled yr anthem ganddo ond odid, ac o ganlyniad, dy- lasai wrthod cydfeirnadu art y testyn hwn oblegyd hyny. Buasai hyny yn dro call, ac yn foddion i atal llawer o ddadwrdd yn olllaw. Nid oes neb yn amheu gallu yr athraw na'r dysgybl, ond y mae trafodaeth Pwllheli yn aw-1 grymu rhywbeth gwauth na diffyg gallu ond gobeithio na adgyfododd burgun Eisteddfod y Fenni yno. Gwyr rhai mai talentau tudraw'r Atlantic a fu wrth y ganig a enillodd yno, er mai brodor o Brydain a dderbyniodd y pres a'r clod yn yr Eisteddfod. Chwareu teg i'r Pencerdd, er iddo foddloni cyd- feirniadu, a dyfarnu y wobr i'w ddys- gbyl am yr anthem (gwobr deg punt), bu mor gydwybodol a phrotestio yn y modd mwyaf pendant yn erbyn y priod- oldeb iddo ef gydfeiiniadu ar chwareu y berdoneg, am fod un o'i ddysgyblion yn ymgeisio (gwobr dwy bunt). Y mae yn deg a'r Pencerdd i ddang- os y ddwy ochr i'r ddalen o flaen y wlad, yn lie bod neb yn tynu camgasgl- iadau! Y mae rhai wedi "ymffiamychu" wrth gantorion Pwllheli, a chwynant am eu bod wedi gorfod talu arian ne- wyddion am glywed canu hen ganeuon yno. Dywed rhyw frawd fod pwyllgor Pwllheli yn lied wastraffus hefyd—eu bod wedi anrhegu adeiladydd y babell a thlws, am logellu mwy na neb arall o arian yr Eisteddfod Awgryma yr Herald na ychwaneg- odd Islwyn lawer o gufyddau af ei faint- ioli yn Eisteddfod Pwllheli. Heblaw tynu ei bump drosto yn lied drws- gwl am gystadlu, ac yntau yn un o'r beirniaid yr wyl hono, dywed nad oedd dim ond hogiau yn ei wrth- wynebu ar y testynau yr enillodd ar- nynt, a dywed .-ei fod yn annheulwng o'r wobr ar y toddeidiau "Gwrthdar- awiad ar y Ffordd Haiarn," ac fod Watcyn Wyn, hogyn dinod o'r De- heudir," yn gudfuddugol ag ef ar bry- ddest yr Angel! Chwareu teg i Is- lwyn, os aeth ef dipyn dros y terfynau wrth gystadlu, pwy eisieu ei fflangellu ef yn fwy gerwin na loan Arfon ac Elis Wyn o-Wyrfai sydd ? Y mae yn rhaid fod rhagfarn yn rheoli fflangell yr Herald wrth drin Is- lwyn. Nid dyma y tro cyntaf i ni ei weled yn nod i'r saethau Gogleddol. Cof genym i ni glywed udgorn Og- leddol yn bloeddio fod awdl Islwyn ar Sant Paul" mor ddifywyd a marw a dwfr camlas." A chlywsom yr un ud- gorn yn bloeddio nad yw ei awdl ar Moses yn ddim ond esgyrn sychion," ac na allasai yn gydwybodol gymhell neb o'i ddarllenwyr i ymgymeryd a'r gorchwyl poenus o'i darllen Bar- ntd y darllenydd pa un a oes asglod yn y cawl" Gogleddol neu beidio. Am bryddest Islwyn ar yr Angel, clywsom ei bod yn rhagorol, ond fod eiddo Wat- cin Wyn lawn cystal a hithau, os nad yn well. Cododd ein "gwrych" fel eiddo porcupine pan welsom yr Herald yn galw Watcin Wyn yn Hogyn di- nod o'r Deheudir." Gwyr pawb o'r Debeuwyr ei fod yn un o'r hogiau mwyaf nodedig a feddwn, a gwylied boys y Gogledd na ddaw yr hogyn hwn am dro i'w territory hwy, a gwneud hafog yn eu plith cyn y del oddiyno. Y mae y ffordd yr aeth Gurnos drosti i sanctum sanctorium y Gogledd yn myned heibio i ddrws Watcyn Wyn, gan hyny, edrychent hwy ato. Y mae un o feirdd goreu Cardiland yn gwneud matches o un o farwnadau newydd a gwreiddiol Brythonfryn, yn nghyd a beirniadaeth Dewi Wyn o Essyllt ami yn Eisteddfod Llanbedr. Y mae genym le i ofni fod gan y brawd o Cardiland le eadarn dan ei draed hefyd. Feallai y bydd genym air ar y pwnc hwn heb fod yn hir.
YR URDD FARDDOL.
YR URDD FARDDOL. Y PARCH. Owen Jones (Meudwy Mon) ydyw golygydd llyfr a gyhoeddir gan Blackie a'i Fab dan yr enw Ceinion Llenyddiaeth Gymreig." Nid oes neb pwy bynag yn edmygu talent ac ath- rylith Owen Jones fel pregethwr coeth, areithiwr hyawdl, hynafiaethydd treidd- gar, a Ilenor gwych ac uchelryw yn fwy na'r ysgrifenydd. Ond yn ein byw nis gallwn gyd weled ag ef am gyfaddasder teitl ei lyfr. Rhy brin y mae yn dyfod i fyny a'r enw Ceinion, ac am yr ansoddair Cymreig, dylasai ar bob cyfrif ei adael allan. Pa fodd y gall fod yn Geinion Llenyddiaeth Gymreig," pan y mae yn cael ei wneud i fyny o gynifer o gyfieithiadau o'r Saesonaeg ? Mae Gwilym Cowlyd newydd gy- hoeddi ei Awdl ar Brydferthwch," a dywed yn ei ragymadrodd mai ugain diwrnod y bu yn ei chyfansoddi! A ydych chwi yn ei gredu, boys f Ffol- ineb fydd rhoddi un dydd a blwydd- yn at y gorchwyl mw,yach, onide ? Cysawd Barddol" Mabonwyson fydd y llyfr goreu a gynygiwyd am swllt yn yr iaith Gymraeg, meddai yr awdwr Pabam y gwastraffa y Parch. W. Dicken Lewis, B.A., ei ddawn i draethu ar ragoriaethau y Beibl am ddeg ceiniog mw ? Da genym weled enw am hen gyf- aill Gwilym Ourwen yn nglyn a'r Eis- teddfodau unwaith eto. Er pan welsom ni ef, y mae wedi ei Iancieiddio o ran ei berson, a'i dy a'i lyfrgell wedi eu puro trwy dan. Rhys Etna Jones 11 is now going on." Bobol anwyl, dyna ddyn a myn'd ynddo Rhys Etna Jones is now going on." Hold! hold! ganbwyll, i b'le yr wyt ti yn myn'd, frawd ? A pha bryd y deui yn ol, dywed ? Y mae rhyw ohebydd i'r Herald Cy- mraeg, er ys cryn amser bellach, yn defnyddio llen-enw y bardd coeth a thrylen Gwilym Elian, ac un arall yn gohebu o Bethesda dan yr enw Gwy- dderig. Yn awr, a chaniatau nas gwyr
[No title]
[Nid ydym yn gyfrifol am eyniadau a golygiadau ein gohebwyr, ond yr vdym am adael rhyddid barn i bob dyn, a rhyddid ysgrif-bin hefyd can belled ag y goddef terfynau cyfraith a moes- oldeb.—GOL.]
Y PABYDDION A'R BEIBL.
Y PABYDDION A'R BEIBL. PETH arall sydd yn profi hyn y tu hwnt i bob amhenaeth, i bob dyn a gymer ei argyhoeddi gan wirionedd, yw y ffaith fod naw cyfieitbiad o'r Ysgrythyrau wedi eu gwneud gan Babyddion i'r Ell- mynaeg, sef iaith Germany a bod am. ryw o'r rhai hyny wedi myned trwy luaws o argraffiadau. Er mwyn i'r dar- lleyndd gael ychydig o hanes y cyfieith- iadau yn y wlad hono, rhpddaf res o honynt. Yn 1466 yr argraffwyd y Beibl gyntaf yn Germany, yr hwn oedd gyfieithiad o'r Vulgate, ac wedi ei wneud gan Bab- ydd. Yr oedd hyn 17 o flynyddau cyn geni yr enwog Martin Luther. Yn 1534, cyhoeddwyd cyfieithiad Pab- yddol John Deitenbnrg yn Mentz, dan nawdd Albert II. Cyhoeddwyd deunaw argraffiad o'r cyfieithiad hwn yn Cologne yn unig, rhwng y blynyddau 1550 a 1702; heblaw amryw argraffiadau ereill a wnaed yn Mentz a Nuremberg. Pe buasent yn ffieiddio y Beibl, a'i wahardd i'r bobl, fel yr haera rhai dyn- ion, ni fuasent yn cyhoeddi yr un oyf. ieithiad gynifer o weithiau yn yr un lie. Yn 1537, cyhoeddwyd cyfieithiad o'r Hen Destament, gan John Eckius, o Ingoldstadt yn Bavaria, dan nawdd Archesgob Saltzburg. Aeth hwn trwy amryw argraffiadau yn fuan ac yn 1602, cafodd ei gyhoeddi wedi ei ddiwygio yn unol ag argraffiad Sixtus o'r Vulgate. Yn 1630, cyhoeddwyd cyfieithiad Cas- per Ulenberg o'r Beibl, dan nawdd Fer- dinand, Archesgob Cologne. Mae hwn hefyd wedi myned trwy luaws o argraff- iadau. Rhwng y blynyddau 1808 a 1813, aeth cyfieithiad Schwarzel trwy wyth o argraffiadau; ac y mae wedi ei argraffu laweroedd o weithiau wedi hyny. Yn 1812, cyhoeddwyd cyfieithiud Le- ander Van Ess, fel y sylwyd yn barod, ac y mae wedi myned trwy nifer luosog o argraffiadau. Yn 1815, cyhoeddwyd cyfieithiad Gos- ner, yr hwn oedd offeiriad Pabaidd. Cyfieithiad Pabyddol arall yn Germany yw eiddo Kistemaker, yr hwn sydd mor boblogaidd yn mhlith y Pabyddion yn y wlad hono, fel y mae'r Feibl Gymdeithas er ys tua deugain mlynedd bellach yn ei gyhoeddi, yn ogystal ag eiddo Van Ess. Cyfieithiad E user a gyhoeddwyd am. ryw weithiau cyn y flwyddyn 1530; ac yn y flwyddyn hono darfu i fynachod Restock gyhoeddi cyfieithiad o hono i dafodiaith Saxony.—Bible of Every Land, page 184. Dyna naw cyfieithiad o'r Ysgrythyrau wedi eu gwneud gan Babyddion i iaith Germany, a'r rhai hyny wedi myned trwy luaws o argraffiadau, ac eto, yn ngwyneb y ffeithiau diwrthbrawf hyn, myn rhai o ddysgedigion (?) Cymru haeru fod y Pabyddion yn gwahardd y Beibl! Beth yw hyn ond twyllo y wlad ? Yn awr gadawn Germany Brotestan- aidd, ac edrychwn i wledydd mwy Pab- yddol. Dechreuwn yn Ffrainc. Mae Mr. Jones o'r Rock, yn un o'i lythyrau, wedi crybwyll am gyfieithiad Pabyddol Louis Maitre de Sacy, a gyhoeddwyd yn 1667, aciddo gael ei gondemnio gan y Pab Clement ix. yn 1668; ond ni hys- byswyd y cwbl—celwyd y rhan oreu o'r gwirionedd am y cyfieithiad rhagorol hwn, sef bod cyflawn ryddid i'w ddarllen yn mhob rhan o Ffrainc bellaeh er ys amryw oesoedd, ac hefyd yn mhob gwlad lie mae y Ffrancaeg yn cael ei 1 9 llefaru; a mwy na hyn, y mae canoedd o filoedd o gopiau o hono wedi eu hargraffu a'n lledaenu yn mhlith Pabyddion Ffrainc a gwledydd ereill. Tuag at brofi hyn, mynwn weled beth a ddywed Mr. Radley ar y pwnc. Yn nhudalen 6 o'i lyfr, dywed i Gymdeithas Feiblaidd Basle, mor foreu a'r flwyddyn 1805, ddechreu diwallu Ffrainc a chyf- ieithiad Protestanaidd, yn unol ag eg- wyddorion y sefydliad. Dyma ei eiriau: They were forwarded from Basle to various Protestant Ministers, for the supply of their respective congregations, more particularly in the southern pro- vinces of France, and in French Swit- zerland. But during the many years (ten) in which that country continued to be supplied from Basle, the entire num. ber of French Scriptures printed by the Basle Society amounted only to 3000 Bibles, and 4000 Testaments, all designed for the us9 of Protestants." Dengys y dyfyniad hwn mai nid ar unwaith y symudwyd a rhagfarn o fedd- yliau Pwyllgor y Foil 1 Gymdeitha*, gan eu bod yn rhoi y flaenoriaeth i'r cyfieith- iad Protestanaidd yn Ffrainc fel yn Germany. Ond gan fod hyd yn nod Protestaniaid Ffrainc yn anghytuno o barthed eu eyfieithiadati-un dosbarth yn derbyn cyneithiad Martin yn unig, a'r dosbarth arallyngalwamgyneithiad Ostervald, &c., nid oedd un gobaith i'r Pabyddion dderbyn y naill na'r Hall o honynt. Yn ngwyneb hyn, dyma fel y dywedir yn y DefenceUnder these circumstances, if the Roman Catholics were to be provided for at all, it could only be through a separate agency, and by means of their own accredited trans- lation and in this way, hundreds of thou- sands have since been enabled to possess themselves of the sacred volume." Mae hyn yn brawf ychwanegol mai y cyfieithiadau Protestanaidd a wrthodir gan y Pabyddion, tra y maent yn derbyn eu cyfieithiadau eu bunain wrth y can- oedd o filoedd yn Ffrainc. Yr arian cyntaf gyfranodd y Feibl Gymdeithas er cyhoeddi cyfieithiad Pabyddol yn Ffrainc oedd £ 250 yn 1816, tuag at'^ gy- hoeddi 5000 Q gopiau o Destament Maitre De Sacy, sef y stereotype edition. Mae pawb sydd yn gwybod ond ychydig am argraffu a chyhoeddi, yn deall na ddefnyddir stereotypes ond pan fwriedir cyhoeddi lluaws o argraffiadau o'r un llyfr ac y mae y ffaith fod Testament r 6 Sacy mewn stereotypes gan y Pabydd- ion eu hunain yn Ffrainc, yn 1816, yn brawf ei fod mewn cylchrediad ynell plith yn flaenorol. Awgrymwyd eisoes fod un dosbarth yn Eglwys Rhnfain, sef y Jesnitiaid, yn wrthwynebol i'r cyfieith- iad rhagorol nwn; ond yr oedd y dos- barthiadau ereill o'r Eglwys yn bleidiol iddo o'r dechreu, fel y dengys a ganlyn: —" When his version of the Bible ap- peared in 1672, under the approbation of Cardinal de Noailles, it was received with great applause and notwithstand- ing all the efforts of the Jesuit party to depriciate it as an heretical production, it has gone through innumerable editions." -Radley's Defence, p. 18. Cofier mai nid y Feibl Gymdeithas sydd wedi gwneud yr argraffiadau afrifed hyn o gyfieithiad De Sacy, ond y Pab- yddion eu hunain, y rhai a gyhuddir gan rai Cymry rhagfarnllyd o ffieiddio y Beibl. Nid argraffiadau bychain, o 500 neu 1000 o gopiau, fel sydd gyda ni yn Nghymru, oeddynt ychwaith. Dyma un enghraifft o anturiaeth un argraffydd Pabaidd, yn dwyn allan argraffiad o Feibl De Sacy yn 1833, yn Ffrainc, A bookseller is uow publishing, on specula- tion, an edition of the Beibl (De Sacy's version) of a hundred thousand copies," —Radley's Defence, p. 33 DAFYDD MORGANWG. (FIV barhau)
——^ GOGONIANT DYN YN EI SYLWEDDAU…
gwelediad wedi ei wneud i fyny o gyd- grynboad amryw ranan wedi ei amgau yn fwy na'r rhai perthynol i'r glust, ac o'r dyfeisiad mwyaf manwl, ac o'r gweithrediad perffeithiaf. O'r syn- wyrau corphorol i gyd, y mae yn eithaf naturiol i feddwl, mai y golwg yw y mwyaf defnyddiol, oherwydd ei fod yn gyfrwng i drosglwyddo mwy o ddefnyddiau gwybodaeth i'r meddwl. Am y gwahanol ranau a berthyn i'r peiriant hardd hwn, nis gallwn yn awr ymhelaethu, pe meddem ar wybodaeth i hyny. Nid oes angen dweyd hefyd, canys gwyr pawb am ei ddefnyddiol- deb. Ac wrth symio y cwbl i fyny yn nghylch y peiriant dynol, o'r dechreu hyd yma, yr ydym wedi bod yn des- grifio y creadur yn ei ranau a'i.elfenau daearol, y ty pridd yn unig a geisiwyd ei ddarlunio sc er mai pabell bridd oedd dan sylw, nid llai na Chreawdwr nefoedd a daear a'i hadeiladodd, ac y mae yr adeilad yn profi hyny; ond y mae tywyllwch caddugawl anwybod- aeth yn gordei ein meddyliau, fel nas gallwn weled yr Adeiladydd yn ei waith canys pan ymlidir y tywyllwch hwn ymaith, effeithia yn fendigedig ar y meddwl, a'r canlyniad fydd addoli a mawrhau yr Hwn a'n gwnaeth, a chydunwn yn ngeiriau'r Salmydd, "Rhyfedd ac ofnadwy," &c. Ond pan yn nghanol synu, rhyfeddu, a chrynu, a cheisio addoli wrth fyfyri) ar y dadblygiadau o Anfeidroledd yn y peiriant daearol tra thyfedd yma, ar nnwaith cipir y meddwl megys a lief angelaidd, nes gorcnymyn i ni a'n holl enaid, a'n holl feddwl, a gellid meddw] weithiau fod geiriau, megys dring i fyny yma, yn ein hanerch a pho uchaf y byddwn yn myned, y mae y rhyfeddodau yn ymeangu, a'r dirgel- edigsethau yn fwy o hyd. Felly y mae dyn, er mor gywrain yw lluniad ei gorff; os ces rhyfeddodau anrhaeth- adwy mewn cysylltiad a'r ty pridd, beth, atolwg, am y preswylydd ? rhaid fod hwnw yn ogoneddus. Ie, yn mhellach, os yw y deall dynol yn an- feidrol rhy fyr i ddarlunio y babell sydd ddaearol, pa faint mwy anghy- mwys i ddarlunio y preswylydd sydd ysbrydol ei natur. Hyn sydd yn dyrchafu dyn i uwchafiaeth dyma sydd yn ei goroni ag harddwch, yw ei fod yn feddianol ar* enaid neu ys- bryd, a hwnw yn breswylydd anfarwol, yu sylwedd antaterol, yn egwyddor anirnadwy, yn preswylio mewn ty o glai, a hwnw yn ddarostyngedig i gyf- Z, newidiadau; ie, ac i farw hefyd. Yma y mae dyn yn ysgwyd llaw a'r greadigaeth anifeilaidd, ac yn dweyd ffarwel am byth. Ie, dyma sydd yn codi dyn i sails mor uchel yn llywodr- aeth y Jehofah a bod yn greadur rhe- symol. Crewyd dyn ar ddelw Duw, ar lun yr Anfeidrol; ac heblaw y bywyd anifeilaidd, a'r hwn y cynysg- aethwyd ef, derbyniodd yn ddigyfrwng oddiwrth ei Greawdwrenaid byw, trwy yr hwn y daeth yn debyg i Awdwr ei fodolaeth. Dywedir yn fynych fod dyn yn gynwysedig o dair rhan, sef corff, enaid, ac ysbryd. Golygir wrth y corff y rhanau daearol; yr enaid, sef y synwyrau corfforol, &c.; yr ysbryd. y sylwedd ysbrydol; ac nid oes modd condemnio y dull hwn o wabaniaethu, canvs y mae yn ysgrythyrol. Ond gelwir y rhan ysbrydol fynychaf yn enaid. Beth yw enaid nen y rhan ysbrydol sydd yn fwy nad allodd neb erioed roddi un dirnadaeth gywir am dano tu allan i ddadguddiad dwyfol. Yr oedd rhyw fath o ddirnadaeth gan y philosophyddion paganaidd am dano, ond fel yr ymbalfalent mewn tywyll- wch caddugawl yn unig, heb un llnsern dadguddiad i'w harwain.