Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

DIDDYMIAETH YN RWSIA.

News
Cite
Share

DIDDYMIAETH YN RWSIA. Y MAB y Daily News, Llundain, dydd Ian, yr I ft eg cyfisol, yn riioddi hanes am gymdeithas o dan yr enw "Nihilesm)" neu Ddiddymiaeth, wedi tyfu i gryf- dwr mawr yn RWEia. Ysfcyria llyw- odraeth Rwsia y gymdeithas hon yn un wrthryfelgar yn erbyn yr orsedd. Y mae hi wedi cario ei gweithrediadau yn mlaen am flynyddau mewn modd dir- gel, ond effeithiol iawn. Y mae llyw- odraeth Rwsia wedi ceisio ceiu y gym- deithas er pan ei darganfyddwyd hi o olwg trigoliou y bvd. Cadwodd dreial ar aelodau y gymdeithas mewn modd ag oedd mor ddirgelaidd ag oedd yn bosibL Ond y mae cyhuddiad ffurfiol y gymdeithas wedi dyfod i law Rwsiaid, y rhai sydd wedi dianc am noddfa i Geneva acy mae y Thai hyny wedi ei gyhoeddi i'r byd, o waethaf llywodr- aeth Rwsia. Y mae profion mewnol yn yr hyn a gyhoeddir mai nid ifug yw, oblegyd ceisia y gymdeithas ddangos fod y cyhuddiad yn gwneud anghyf- iawnder a hi, a rhydd y gymdeithas hanes pethau nad ydynt yn ffafriol iawn iddi hi ei hun. Y mae y Ilyfryn, neu y traethodyn, o dan yr enw o gyhuddiad cyfreithiol llywodraeth Rwsia yn erbyn y gymdeithas, fel y gosodwyd ef ger bron y llys mewn treial dirgelaidd, rhai o aelodau y gymdeithas, yn draethodyn mawr. Y llynedd y daeth y llywodraeth i ddeall fod gweithredi&dau chwildroadol y gymdeithas hon yn myned yn mlaen mewn rhan fawr o Rwsia. Gwnawd ymchwiliad. Cafwyd allan fod diluw o lyfrau chwildroadol wedi gorlifo trwy y boblogaeth, a bod lluaws o ddynion ienainc wedi gadael yr ysgolion, yn troi yn weithwyr gwledig, er niwyn gwas- garu ei llyfrau, a pherswadio y werin i ymuno ar gymdeithas. Yn ol yr hys- bysrwydd a gafwyd, yr oedd gan y gymdeithas sefydliad fawr argraffyddol yn Moscow, a swyddogion uchel y llywodraeth ei hun yn perthyn iddi. Dechreuodd y gymdeithas ddadblygu ei hun yn 1872, o dan enwau y cym- deithasau cyfeillgarol a berthynai i'r Prifysgolion. Daeth y gymdeithas allan o'r diwedd dan wahanol enwau, megys Cymdeithas Carwyr Tea," Cymdeithas Apostoliaeth Gwirionedd a Daioni." Gwr ieuane o'r enw Ba w kounin a roddodd gychwyniad i'r gym- deithas o dan yr enw olaf. Anfonwyd cenhadon trwy holl Rwsia i ledu egwyddorion y gymdeithas trwy y boblogaeth. Amean y gymdeithas oedd diddymiad yr orsedd fel peth hollol groes i lesoldeb eymdeithas Rwsaidd, diddymiant eyfalaf, a ffurfio cymdeithas o'r graddau iselaf i fyny, trwy gymun- debau rhydd, sef creu cymdeithas ddynol newydd. Yr oedd pobl ieuainc Rwsia i ryddhau eu hnnain oddiwrth y llywodraeth. Yroeddeu brwdfrydedd yn hyn yn cael ei folianu gan eu cyf- eillion a'u perthynasau. Er mwyn cyn- byrfu y wlad dewÜodd y gymdeitbas offerynau cyfaddas. (1) Dynion o ar. ferion ac ymddygiadau gwledig, heb ond ychydig ddysg, i gynhyrfu y werin gyffredin. (2) Dynion mwy dysgedig i fod yn genhadon yn mhlith dosbarth canolog cymdeithas, ac i egluro iddynt mai bunan-wrteithiad yw yr allwedd i bob buddiant cymdeithasol. (3) Dyn- ion yn meddu y dysg u^vchaf, proffes- wriaid mewn Prifysgolion, aristocrat- iaid, a swyddogion uwchaf y fyddin. Llwyddodd y cynllun hwn yn ddirfawr. Yr oedd y gwahanol aelodau yn eym- deithasu alu gilydd yn barhaus trwy mottoes, passwords, a cyphers dirgel- aidd. Gwthient eu bunain i bob man, i golegan ac i ysgolion pentrefol. Llwyddasant i gael lluaws o wragedd a merched i weithio yn selog o'u plaid. Yr oeddynt yn hau eu hegwyddorion mewn siopau, gweithdai, a llyfrdai. Dynion o ddysg yn eu plith a osodent eu hitnaiu mewn setyllfaoedd gofiaid, er mwyn taenu eu hegwyddorion, gan mai lleoedd manteisiol am glebran yw siopau goliaid yn Rwsia fel yn y wlad hon. Defnyddient hefyd gymdeithasau cyd-weitbredol ('co-operative) at eu pwrpas. Un o brif ddynion y gym- deithas yn St. Petersburgh oedd un o'r enw Prince Peter Krapolkin, yr hwn oedd wedi bod mewn swydd uchel yn y llywodraeth. Yr oedd boneddiges fawr, merch swyddog uchel yn y fyddin, yn cynal ysgol, perthynol i'r gym- deithas, ar ei thraul ei hnn, mewn pentref. Yr oedd meddianydd llawer o diroedd wedi myned yn flaenor ar y symudiad yn nhalaeth Yaroslaf. Meistr gwaith cyfoethog mewn talaeth arall a gymerodd y flaenoriaeth. Un arall, yr hwn a fu yn farnwr mewn llys gwladol, a wariodd £6,000 ar y gymdeithas. Ynad cyfoethog mewn talaeth arall a wnaeth ei oreu o'i phlaid hi. Un aiall, perthynol i lysoedd y llywodraeth, a ddosbarthodd lyfrau y gymdeithas. Boneddigesau, gwragedd swyddogion o dan y llywodraeth, hwy a'u plant, a ym- drechasant yn selog o'i phlald. Er mwyn gwneud hyn aent i blith gweith- wyr iselradd yn y meusydd, cynorthwy ent hwy yn eu gwaith, a chysgent yn eu plith, Mewn un rhandir mawr cy- northwyid y gymdeithas gan gynulliad awdurdodol arglwyddi aristocrataidd ag arian, er mwyn lledu dylanwad y gymdeithas, Yr oedd swyddog uchel dan y llywodraeth mewn un rhandir yn ymgynghori ag un o genhadon y gym- deithas cyn gwneud un apwyntiad swyddogol, mewn talaeth yn cynwys dwy filiwn a haner o drigolion. Cyf- addefa M. Zychareff, yr erlynydd, yn y traethodyn a gynwys y eyhuddiad cyf- reithiol, fod gwabanol gylchoedd (circles) y gymdeithas mor lluosog a dirgelaidd, fel na ellir eu llwyr ddileu ac y byddantyn sier o barhau i fod yn achos perygl i'r orsedd. Allan o 770 o aelodau adnabyddus i'r police, y mae 265 wedi cael eu cymeryd yn garchar- orion. Y mae oddeutu 158 owragedd, am y rhai y mae hysbysrwydd eu bod yn gwneud eu goreu o blaid y gym- deithas. Yr oedd cynllun gan y gym. deithas i gyfodi trwy yr holl wlad yn erbyn yr orsedd mor gynted ag y de- ebreuai rhyfel a Germani, yr hwn a ddysgwylid. Gormesdeyrn sydd yn neillduoli llyw- odraeth unbenaetbol Rwsia. Beth a ellid ddysgwyl dan lywodraethau o'r fath ond cydfradwriaethau dirgelaidd ?

+ . ! CYFARFOD CYNRYCHIOLWYR…

--4. MASNACH GLO A HAIARN.

ACHOS MR. FOTHERGILL A'I IWEITHFEYDD.

Y LLOFRUDDIAETH YN LLUNDAIN.

[No title]

TREHERBERT.

YSTALYFERA.