Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

13 articles on this Page

L'ERPWL

News
Cite
Share

L'ERPWL (ODDIWRTH EIN GOHEBYDD CYSON.) MYRWOLAETH DYN MAWR YN L'ERPWL. YE wythnos ddiweddaf, bu farw Ro- bertson Gladstone, Ysw., brawd yr Anrhydeddus William E. Gladstone, y cyn-brif weiuidog. Yr oedd y bon- eddwr urddasol yn 70 mlwydd oed pan yr ymadawodd a'r fucliedd hon; ac er -ei fod yn hen mewn dyddian, yr oedd yn llawn yni a bywiogrwydd gyda'i fasnach, goruchwyliaethau' pwysig y Cynghor Trefol, a phob mudiad gwy- ddonol a c-hymdeithasol a berthynent i dref fawr L'erpwl. Pan ddeebreuodd ei yrfa wleidyddol a bwrdeisdrefol, daeth allan, fel ei frawd anrhydeddns, o dan faner Ceidwadaeth, ac er iddo wneud llawer. am aelodaeth wrth fwrdd y Gorphoraeth Drefol pan yn nghaeth- iwed hualau Toriaeth, nid oedd fawr "myn'd" yn ei ymgeisiadau a'i oruch- wyliaetbau ymornestol; ond pan ddaeth allan o dan lumanau nef-anedig ac arwrol Rhyddfrydiaeth yn y flwyddyn 1847, efe a orchfygodd bawb a phob peth gyda rhwyddineb diamheuol, a byth oddiar hyny hyd ddydd ei farwol- aeth efe a gadwodd ei sedd wrth fwrdd y Gorphoraeth Drefol. 0 gwmpas blwyddyn yn ol bu farw Mr. Hugh Jones Gladstone, un o feibion y di- weddar foneddwr, a'r hwn oedd yn brif .gynorthwvwr ei dad yn ei fasnach helaeth yn Union Street, a dy- wedir i farwolaeth ei fab nwyfus a boneddigeidd-foes effeithio yn drwm ar feddwl a chorn* Mr. Robertson Glad- stone, ac o'r adeg hono hyd awr ei ym. ddatodiad, yr oedd aiwyddion amlwg o ddadgorphoriad yn ngwynebpryd y dyngarwr mawr o Court Hey. Pan gladdwyd Mr. Richard Cobden, aeth Mr. Robertson Gladstone i'r angladd, a gofidiai yn fawr am na fuasai L'erpwl yn cael ei chynrychioli yn fwy anrhyd- eddus yn yr angladd, gan nad oedd ond efe a thri boneddwr arall o L'erpwl yn yr angladd; ac yr oedd un o'r tri yn foneddwr ieuanc newydd gychwyn tipyn o fasnach mewn ffordd gyflredin, ond gwnaeth Mr. Gladstone ymholiad yn ei gylcb, ae addawodd eigynorthwyo mewn unrhyw ifordd a ddymunai, ac erbyn lieddyw mae'r masnachwr yn un o'r rhai cyfoethocaf yn y dref. Dywed ambell un fod tueddfrydau cybyddlyd a dirwasgol yn perthyn i Mr. Glad- stone ond yr ydym, er ymholi, yn methu cael cymaint ag un prawf i pseudo-report a daenodd y maleis- ddrwg a'r deilgorfforion am dano, ac yr ydym yn tyngedu ypsendophiloso- phers gwrthnysig a hollwybodol (?) yma i ymdrechu ymgydnabyddu ag amlinellau meddylddysg ac egwyddor, cyn bwrw ea llinynau mesur dros gewri mewn dysg, cyfoeth, dylanwad, defoes, ac athryiitli. Bu Mr. Glad- stone farw yn nghanol ei weithgarwch a'i hewydusrwrydd diguro, ac nid oedd y meddwl lleiaf ganddo fod angau ac yntau mor agos i'w gilydd, canys y dydd cyn ei farwolaeth yr oedd yn eistedd ar un o'r dyd-gadeiriau heb un hugan am dano, a dywedai ei fod yn bwriadu eistedd ar yr ynad-fainc y dydd canlynol; ond daeth gwys o fyd arall i ddadgysylltu y mater a'r tra- gwyddol oddiwrth eu gilydd, ac er ei awyddgarwch am fyw, urddasolrwydd a dylanwad ei enw, a'i neillduolrwydd anrhydeddus, ni fynai angau wrando ar ddim, felly- I fedd oer rhaid ufuddhau. Pan yr hunodd yr oedd ei bedwar mab, ei ddwy ferch, yr Anrhydeddus W. E. Gladstone, a Mrs. Gladstone, yn ei wylio gyda'r gofalwch a'r pryder mwy- af, a dywedir fod Mr. Gladstone mewn galar mawr er pan yr aeth ei anwyl yfrawd i ffordd yr holl ddaear, oherwydd yr oedd y ddau frawd yn meddu cariad angherddol at y naill a'r llall; a dar- llenais am Robertson yn dweyd am ei frawd mawr, y buasai efe yn teithio'r ddaear yn droednoeth er mwyn amddi- ffyn egwyddorion a chymeriad ei frawd William. Efe, Mr. R. Gladstone, ydoedd noddydd bywioliaeth Andrew Sant, yn Renshaw street, a byddai yn myned yno ambell dro; ond i Childhall Church yr elai gan fynychaf, ac yr oedd cor yno yn perthyn iddo ef a'r teulu. Yn yr amser diweddafo'i fyw- yd yr oedd yn myned i Myrtle-street i addoli bob boreu dydd Sul, sef i gapel y Parch. Hugh Etowell Brown; byddai hetyd yn myned yn ami i gapel Mr. W. P. Lookhard. Cofiwch nad yw'r dyn mawr a da uchod moi sere- moniol a defnyddio'r geiryn Parch, o flaen ei enw anrhydeddus. Cleddir y boneddwr ymadawedig yn Knotty Ash, lie gorwedd gweddillion marwol Mrs. Robertson Gladstone ac aelodau creill o'r teulti nodedig hwn. Ermawredd a grym biraetb,-er enw, A breiniol uwcbafiaeth; Er baeledd ei fri helaeth, Efo'r Ion i'r net yr aeth.

MARWOLAETH MRS. ANN PIERCE.

DYGWYDDIADAU MORDWYOL.

CERDD GENEDLAETHOL Y PATA-GONWYR.

LLYTHYR CARDI.

DR. LIVINGSTONE.

HERFEIDDIAD I'R BEIRDD.

CAN Y GATH.

DIOLCH AM HANES Y PILLS.

DUCHAN "AB Y GARDIES" TI "…

Y BWRDD |CYMODOL

Advertising

YR URDD FARDDOL.