Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
15 articles on this Page
YSTRAD, RHONDDA.¡
YSTRAD, RHONDDA. MAE cryn frwydr yn cael ei chario yn mlaen yn bresenol yn y lie hwn rhwng drwg a da. Er pan dorodd y strike ddi- weddaf allan, mae dynion sydd yn sylwi yn dweyd fod annuwioldeb yn blaguro yn gyflym iawn yma; ac er ein gofid, y mae ein sylw a'n profiad yn cadarnhau hyny. Ar Sadwrn y talu y mae yr holl ardal yn cael ei chynhyrfu drwyddi gan dwrw ac ymladdfeydd dynion meddw. Mae mwyafrif y gweitbiau cylchynol vn talu ar yr un Sadwrn, a'r canlyniad ýw, fod enbanhment y gronfa yn tori bob pythefnos, a dylif drygioni yn gordoi ein hardal fechan. Pity fod trugareddau yn teimtio dynion i bechu o flaen wyneb eu rhoddwr yn lie eu tywys i edifeirwch. Ond nid yw y drwg wedi dianc yn ddi- sylw gan eglwysi y lie, mae ganddynt amryw gynlluniau ar droed i geisio ei lachau a'i atal. Un o ba rai yw gwneud apel daer ar dafarnwyr y lie i gau eu tai yn hollol ar y Sabboth; ac fe gredwyd gan lawer unwaith y byddai iddynt Iwyddo, ac nid ydys wedi llwyr anobeith- io eto, gan fod atebion ffafriol wedi eu cael oddiwrthynt oil ond un. Gobeifchir yn gryf y gwel y cyfeillion hyn eu ffordd yn glir i gydsvnio yn fuan a chais yr eg- lwysi. Ni pheidiem yn bir a cbanu eu clodydd a'u moli am ymddwyn mor rin- weddol. Teilwng o sylw hefyd yw y ffaith mae nos Sabboth y darllenwyd yr apel i gynulleidfa y Methodistiaid Cal- finaidd yn y lie, i'w gadarnhau ganddi, y defnyddiodd yr eglwys uchod y gwin arifeddwol y tro cyntaf yn y cymundeb. Cynllun arall yw anfcn rhai allan i ym- ofyn i'r Ysgol Sul. Bu y gwahanol en- wadau yn ceisio gwneud hyn o'r blaen, ond gydag ychydig neu ddim llwydd- iant; a'r cynllun presenol yw rhanu y lie yn ddau ddosbarth, a gosod un dros bob enwad yn mhob dosbarth, nes y mae deg allan bob Sabboth dros yr holl eg- lwysi, ac y mae'r llwyddiant yn fwy na than yr hen gynllun. Gorfodir pawb i deimlo nad teimlad sectol sydd yn achosi yr ymofyniad, ond mai teimlad am wneud daioni yw yr achosydd mawr. Dydd Sul, yr 20fed, cynaliwyd cyfarfod gweddi undebol yn nghapel yr Anni- bynwyr am 9 y boreu, i weddio arDduw am lwyddiant y cynllun a llwyddiant yr Ysgol Sul. Yr oedd y cyfarfod yn cael ei gario yn miaen yn y ddwy iaith, a di- olchai Edward Howell fod Duw yn deall pawb. Cafwyd cyfarfodydd gweddi p gafaelgar iawn, a naws nefol arno. Am un o'r gloch drachefn ffurfiodd yr Ysgol SuI
YN GimtDAixH,
YN GimtDAixH, a cherddwyd drwy y lie dan ganuhymn- au Sankey yn Gymraeg a Saesneg. Clywid Hold the Fort" gan un Ysgol, a rhag bod neb beb ddeall, canai un arall Dal i welt afael." Clywid hefyd Y Ddafad golledig," In the sweet by and by," ar hyd y ffordd nes cyrhaedd y maes. Yno, yn absenoldeb D. Evans, Ysw., Bodringallt, cymerwyd y gadair gan y Parch. J. Rufus Williams, yr hwn a draddododd anerchiad dyddorol iawn ar ddechreuad yr Ysgol SuL Rhoddodd i ni hanes ac amseriad y gwahanol gy- nygion a wnawd i sefydlu ysgolion i ddarllen Gair Duw yn Nghymru a Lloegr. Yna anerchiad Seisnig gan y Parch. E. Rogers, yr hwn a wasgai ar y gynulleidfa i addysgu y rhai ieuainc yn Ngair Duw, gan gredu fod yn bosibl iddynt godi rhai a gaffent fwy o ddylan- wad ar y byd nac a gafodd Whitfield yn ei ddyddiau ef, nag a gafodd Wesley yn ei ddydd yntau, a mwy nag a gafodd Sankey a Moody yn eu dyddiau hwy- thau. Dywedai y Parch. J. John y dylem ymdrechu gyda'r Ysgol Sul am y gwaith mawr oedd wedi ei wneud, ac am y gwaith mawr oedd ganddi i'w wneud. Y Parch. D. Roberts, Penycae, a ddy- wedai fod y dynol a'r dwyfol yn angen- rheidiol i ddwyn yr Ysgol Sul yn mlaen yn llwyddianus. Adgofiai yr Israeliaid yn myned saith waith o amgylch Jerico, gan chwythu mewn cyrn hyrddod, ac wedi iddynt hwy wneud eu rhan, fod Duw yn rhoddi rhywbeth dwyfol yn y swn, a rhwng y ddau i'r caerau syrthio. Y Parch. L. Lewis a gymharai y gy- nulleidfa i'r gwenyn. Sylwai fod y teithiwr yn gwneud yn lied dda gydag un neu ddwy, ond cs aflonyddid hwy nes clod allan i gy £ fod yn rhaid rhoddi y goreu iddynt. Yr oedd pechod y lie y fath nes tynu yr hollgwch allan. Gall- ent drafod yr ychydig ymofynwyr ya lied dda. Rhwng yr areithiau canwyd amryw o donau Sankey. Yr oedd hwn yr ail gyfarfod mewn cysylltiad a'r cynllun, ond ei fod ar raddfa eangach. Yr ydym wedi gwneud amcangyfrif o ieuenctyd y lie, ac ni qheir fod ond 400 o 1,200 yn mynychu yr Ysgol Sul. Mynychant yr Ysgol nes tyfu i 18 neu 20 oed, ac yna y mae en parch iddi yn myned yn llongddrylliad, a hyny fynychaf ar greigiau ymyfed. Gristionogion, fe ddylai crash en llong- ddrylliad yru thrill daeargryn drwy ein boll enaid.—RKONDDA. V
HIRWAUN A'I HELYNTION.I
HIRWAUN A'I HELYNTION. Y mAE y lie hwn rhyw gymaint yn well yn awr nag ydoedd er's tua tbair wyth- nos yn ol, gan fod rhan o'r gweithiau glo ag sydd yn ngweithiau Aberdar Merthyr wedi cychwyn gweithio er dydd M awrrh diweddaf, ac y maent wedi cychwyn ar yr un tylerau ag oeddyntyn gweithio o'r blaen; ond y mae un o'r gweithiau ar stop hyd yn awr, ac nid oes argoel o un math o ddealltwriaetb wedi ei wneud hyd yn hyn y mae y ddwy ochr yn sef- yll yr un mor bell a'r Ilali oddiwrth eu gilydd, ac y mae yn eithaf tebyg mai sefyll allan a wnaiff y gweithwyr nes cael rhyw gynygiad yn wahanol i'r hyn sydd wedi ei gynyg iddynt. Y cynyg- iad y maent wedi ei gael yw, fod y gor- uchwylwyr am i ni dori v dynell lo am yr un bris ag y maent yn ei gael am ei thori yn Cwmdar, sef Is. a 5c. y dynell; ac nad oes dim i'w gael am dori lie i'r ddram a'r ceffyl fyned i'r talcenau—nidi oes dim i'w gael ond Is. 5c. y dynell; pan yr oeddym o'r blaen yn cael 2s. 5c. a thair ffyrling, ond ein bod yn clurio dwy droedfedd o gloden y gareg sydd yn gollwng gyda'r glo yn y fargen, pan na chewch gymaint a hyn o gareg yn un man trwy y cwm medd y rhai hyny sydd wedi bod yn gweithio mewn gwa- hanol fanau yn Cwmdar; ac y maent yn cael 2s. Ie, y Hath am dori'r heol er gwneuthur lie i'r dram a'r ceffyl; ond nid ydynt yn foddlon talu dim am beth- au o'r fath hyn ac y mae'r glo yn profi yn fwy agos i'w le yn Cwmdar nac ydyw yu ei wneuthur yn IIirwain yn uu man, ond gydag eithriad mawr. Y mae'r glo pedalir troedfedd, y maent yn ei alw yn Cwmdar, yn cyrhaedd o'r tair a naw i'r tair a deg, rhywle o'r fath yna y medr- wch ei gyfartalu yn Cwni Aberdar; ac nid ydyw yn cyrhaedd ikft na llathen a haner i dair a haner y man mwyaf; ac fe! hyn chwi welwch fod yna wahaniaeth dirfawr rbyngddynt. Hynyna yn awr, gan obeithio y bydd iddynt hwy, y gor- uchwylwyr, lwyr weled eu camsyniad y tro hwn yn fuan, ac y gadawant y gweithwyr i fyned at en gwaith ar yr hen delerau os oes rhyw ddau neu dri lie yn y gwaith yn wahanol i'r holl waith, myn- wch gael cyfiafareddiad ar y lleoedd hyny, yn He dial eich Hid ar yr holl waith o achos rhyw ddau neu dri lie, fel y dywedftis o'r blaen wrthych. Fe ddaeth y si ar led y lie hwn dydd Llun fod turncoats wedi dyfod i'r lie gan y goruch- wylwyr o Merthyr, ond rhag fod neb yn cael eu drwgliwio am hyny, gallaf eich sicrhau na ddaeth neb o Merthyr nac o un man arall chwaith, gan feddwl myned yn durncoats, yn rhagor na'r tri sydd wedi gweithio pythefnos. Go- beithio yr ydwyf na bydd angen iddynt fod yn hir cyn gv/neud eu ffortiwn. Y CAXU.—Y mae Cor Undebol wedi cychwyn yn y He hwn eto ac yr ydym yn golygu myned i frwydr mewn tua mis o amser i Merthyr. Hyn sydd gen- yf i'ch hysbysu, mai nid yr un arweinydd sydd yn arwain y cor y tro hwn a'r troi- on diweddaf ag yr ydym wedi bod mewn cystadleuaeth; ond yr ydym wedi bod yn hynod ffortunus, trwy ein bod wedi dygwydd cael un o'r arweinwyr mwyaf gallueg yn Nghymru i'n harwain. CARWR CYFIAWNDESL,
TONYPANDY.
TONYPANDY. CYNALIWYD gwyl de flynyddol Ysgol Sal Ebenezer dydd Linn, yr 20fed. Cy- chwynodd ysgol y capel yn orymdaith i gyfarfod ag Ysgol Llwynypia, a gorym- deithiodd y ddwy yn nghyd dan ganu trwy brif heolydd y lie. Wedi hyny, aethpwyd i'r capel i fwynhau y wledd ddarparedig. sef te a bara brith, yn nghyd ag ypienyn a bara gwyn. Caf- c' odd dros 400, yn fawrion a byehain, eu gwala, er nad oedd fawr yn ngweddill. Am saith o'r gloch, cafwyd cyfarfod adroddiadol a chanu. Adroddai y plant fel am y goreu. Canodd y gobeithlu yn swynol, dan arweiniad Mr. Robert Rees. Anrhegwyd Mr. D. Thomas, Trealaw, a'i deulu, a Beibl, Llyfr Emynau, a dau Destament, fel arwydd o barch a dym- uniadau da yr ysgol iddynt ar eu hym- adawiad a gwlad en genedigaeth am Ba- tagonia bell. Oanwyd glee gan Gor Llwynypia, dan arweiniad Mr. D. Wil- liams. ae wrth ymadael, canwyd "Yn y Man," o Swn y Jiwbili," gan yr holl gynulleidfa. DAELFTH.—Is os Fawrth, y 14eg o Fedi, traddcd)dd y Parch. W. Nicholson, Groeswen. ddarlitb yma ar "Hunan- orcbfygiad." Boddhaodd ei bethau a'i ddoniau y gwrandawyr yn fawr. MASNACI-I.—Mae y rhan fwyaf o'r gweithfaoedd yn y lie hwn yn gweithio yn bur gyson, ond bod yr en ill yn fych- an. Nid yw fel y bu. ond tlaw eto yn well. Mae cwmpeini y G. W. Rail- way wedi dechreu o dditrif ar estYIl ei ffordd haiarn yn mlaen o Benygraig trwy Donypandy i Gwmclydach. Bydd hyu yn gaffaeliad mawr i weithfaoedd y Gelli a'r Clydach. DAMWAIN.-Cyfarfu, dyn ieuane o'r enw Ivor Roberts a damwain dost yn nglofa y Dinas trwy i ddarn o'r nenfwd syrthie arno. GOHEBYDD.
PANTLASSE.
PANTLASSE. SUL a Llun, Medi 19 a 20, awd trwy y gwoasanaeth o agor Ysgoldy yn y lie uchod at gynal Ysgol Sabbothol. Ar- weiniwyd y gynulleidfa at orsedd gras a bwrdd yr efengyl gan Daniels, Mynydd- bach; Brace, Felindre; Howells, Aber- tawe, ac Owens, Olydach. Casglwyd yn yr agoriad£30, heblaw zC34 oeddid wedi gasglu yn flaenorol trwy ddiwydrwydd un dyn gweithgar o'r lie at rodd Mr. Vivian, A.S., yr hwn a addawodd £ "50 ato, pan aethpwyd ato i ofyn am le i'w adeiladu ar ei dir, heb iddynt geisio ganddo ond y tir yn unig ac ar ddydd ei agoriad, ychwanegodd ei rodd i £100, heblaw jSl 10s. a roddodd ef a'i fab yn y casgliad. Mae boneddigion ereill wedi rhoi yn deilwng o honynt eu hun- aiu, fel nad oes yn aros o'r L300 ond £ 145 5s. 6c. Perthyna yr ysgoldy i hen gapel Annibynol y Mynyddbach; ond cyferfydd yma lawer o enwadau ereill yn ddiwahaniaeth, fel y mae golwg lewyrchus iawn ar y lie yn bresenol, a digon tebyg pan ddaw y byd i'w Ie, y bydd enwadaeth wedi ymgilio i'r cysgod- ion.-J OHN.
TREHERBERT.
TREHERBERT. DOCTORIAID Y GWAITII.—Mawr y gofid a'r drafferth yr ydym ni fel gweithwyr wedi ei gael gan y tylwyth uchod yn yr amser sydd wedi myned heibio; ond y mae amser gwell yn gwawrio arnom ni yn y lie hwn. Yr ydym ni fel gweithwyr yn mhyllau Blaenrhondda a Blaenycwm (North and South Dunraven) wedi rhoddi rhybydd i ymadael a'r meddyg pre- senol, a hyny am resymau neillduol. Bydd ei golled mewn cyflog- wrth golli n Z!l y ddau waith uchod yn £800 y flwyddyn. Y mae amryw feddygon wedi anfon atom i ofyn am gael yr anrhydedd o'n gwasanaethu, a hyny am lawer llai o arian. Bydd pedwar pwll arall o dan ei ofal ar ol y ddau hyn. Y FEIBL G-YMDEITHAS.—Prydnawn dydd Sul, y 26ain cyfisol, cynaliwyd cyfarfod blynyddol adran Treherbert o'r gymdeithas uchod, yn y Neuadd Gyhoeddus, o dan lywyddiaeth y Parch. J. Owens (W). Cymerwyd rhan yn y cyfarfod gan y Parchn. J. Rees (A.), T. Rees (T.O.), Penygraig L. Jones, a Maurice (B.), II. Griffiths Goruch- wyliwr y Feibl Gymdeithas; Mri. M. O. Jones a D. Davies. Cafwyd cyfar- fod lluosog iawn, y neuadd yn orlawn, a llawer yn methu dyfod i mewn. Darllenodd Mr. M. 0. Jones, yr ysgrifenydd. gyfrifon yr adran hon am y ddwy fiynedd ddiwedaf.—P.E.J.
NANTGARW AC UNDEB Y GWEITHWYR.
NANTGARW AC UNDEB Y GWEITHWYR. Nos Wener diweddaf, Medi 24, yn ystafell eanggwesty Mr. Thomas, Cross Keys, cawsom anerchiacl rhagorol ar sefyllfa bresenol pefchau yn mhlith y glowyr gan Mr. Abraham, Gower Road. Cymerwyd y gad air gan Mills o swyddfa TAitrAN Y GWEITHIWK, Aber- dar. Wedi agor y cyfarfod, galwodd y cadeirydd ar Mr. Abraham, yr hwn a anerchodd yr ystafellaid gwyddfodolion am dros awr o amser. Aeth Mr. Abraham dros yr auhawsderau sydd ar ffordd y glowyr i gael yr hyn sydd yn iawn am eu llafur pan yr ymgyferfydd y Bwrdd Cymodawl, a'r angen sydd am undeb a chyd-ddealldwriath cy- ffredinol yn mhlith y gweithwyr, er hawlio yr hyn sydd yn iawn. Aeth hefyd dros yr anealldwriaeth sydd rhwng Mri. Macdonald a Vivian, a'r atalfa y mae hyny wedi bod ar y ffordd i ddwyn y gwaith yn mlaen. Yr oedd ei sylwadau yn disgyn yn argy- heeddiadol effeithiol ar glustian yr oil oedd yn bresenol, a phasiwyd y pen- derfyniad canlynol yn unfrydol yn y cyfarfod :Fod y cyfarfod hwn, wedi clywed anerchiad difrifol Mr. Abraham, yn teimlo mai dyledswydd pob glowr yn Nebendir Cymru ydyw ymuno a'u gilydd yn un corff undebol, a'i fod hefyd yn peiiderfyou gwneud pob peth yn ei allu, a fyddo yn gyfreithlon a rhesymol, i ddwyn hyny oddi amgylch." Cymerwyd amryw enwau ar ddiwedd y cyfarfod er ymuno a'r Undeb, a zn dysgwlir y bydd yma gangen flodeuog o honi.
HANES PRYDAIN.
HANES PRYDAIN. FE elwid Pryclain yn Ynys er ys canrif- oedd yn ol, ac fe'i gelwid hi yn Samo- thea, oddiwrth Samothes, ab Japheth, ab Noa, yr hwn a breswyliodd yma gyntaf, yn nghylch 250 o flynyddoedd ar ol y diluw. Gelwid hi hefyd Albion oddi- wrth Albion Gawr, yr hwn ydoedd fab i Neptune, a ddaeth yma o'r rhan hono o Ffrainc a elwid Belgica, ac a fuodd yn byw yma 335 ar ol y diluw. Mewn Hong foel y tiriodd yma. Ar ol hyn, daeth meibion i ferehed brenin Ethiopia, y rhai oedd gewri, ac a ddaethant yn aywysogiony wlad, a phan ddaeth y cewri hyn yn lywodraethwyr ar y wlad, y daeth Brutus ab Silvius, ab Esoanius, ab Eneas Ysgwydd Wyn, i'r Ynys hon, i'r lie a elwid Tatnes, yn Devonshire, yn y flwvddyn o oed y byd, sef 2855, a chyn geni Crist, sef un cant ar ddeg ac wyth. Dywedodd Mr. Kir- wan ac ereill fod Ynys Prydain, Is-coed Celyddon, a'r Iwerddon, yn nghylch 3650 o flynyddoedd yn ol, yn un a'r cyfandir, a'i reswm am hyny yw, fod yma gynt lawer o eirth a bleiddiaid yn cyfaneddu yn y coedydd. Y gelfyddyd gyntaf sydd genym hanes am dani gan drigolion yr Ynys hon oedd gwaith Alcan. Fe ddywedir fod y Groegiaidyn dyfod yma i ymofyn alcan yn hir cyn amser Cfesar, er bod llawer yn taeru mai o barch i Brutus y galwyd yr Ynys hon yn Brydain. Y mae Dr. Bochart ac ereill yn dywedyd fod yr enw Groeg Bretanike yn tadogi o'r ddau air Hebraeg Barat" ac "Anac" sef gwlad yr alcan. Wrth hyny y galw- odd y Cymry hi yn Brydain, a hyny cyn dyfodiad Brutus i'r Ynys. Y mae cy- nifer o dybiau gan ddysgedigion yn nghylch y gair Brydain neu Prydain. Mr. Humphrey a ddywed mai oddiwrth "Pryd-Cain;" ereill a dybiant mai Brutus a'i galwodd ar ei enw ei hun. Mr. Theophilus Evans sydd yn meddwl mai yr hen enw yw Prydwen. Beth bynag am yr enw, hi yw yr Ynys fwyaf enwog yn yr holl fyd adnabyddus. Aberdar. GEFAILL.
YR URDD FARDDOL.
YR URDD FARDDOL. N ID wyf yn gwybod a fydd yn drosedd ynof i ysgrifenu gair ar y penawd uchod ai peidio. Ond gan nad beth a fernwch am danaf fi a fy ysgrif fach, glogyrnaidd, hyn allaf ddweyd, fod yn wir dda genyf gael ar ddeall fod beirdd yr hen wlad yn dal yn yr un hwyl ag yr oeddynt cyn i mi fyned ffwrdd dros yr eigion yna. Bachgen cawrog ydyw y Rhoswawr yna sydd yn trafod yr Urdd a'i pbroffeswyr ar fy ngair i mi allwn i feddwl mai tarw o fardd yw ef, waeth mae yn twmlo yr awenwyr yma, fach a mawr, fel pe bu- aeent ddim yn ei law ef. Ond er dyfod at y nod yn daw el fach, heb yn wybod, gobeithio, i Rhoswawr, dyma sydd genyf i'w ddweyd, fy mod wedi cael yr anrhyd- edd o sigic llaw a rhai o'r bechgyn y sonia efe am danynt, a hyny y Sul, wythnos i'r diweddaf; ac yn fwy na'r cyfan, cefais dderbyniad tywysogaidd ganddynt fel crwt bach o ysgriblwr. Yn eu plith yr oedd y ffraeth Gwilym Medi. Gallaswn feddwl ei fod bron yn barod i ddyfod i'r maes fel un o blaid yr Urdd eto unwaith. Tiberog hefyd oedd mor sionc a neb, ac mor lion a'r llonaf; nid yw llawnder y cryd yn heneiddio dim ar olwg y bardd, fel y myn Rhos- wawr. Pa wahaniaeth os ydyw Cynonfryn yn dewis llwybr Brynfab, ac yn cyfeillachu a'i iiuangach er mwyn y llogell. gan fod eu gweithredoedd yn taflu gogoniant ar yr urdd. Y galluog Curwen oedd mor serchog, cymdeithasgar, a dirodres ac y gwelsom ef erioed; da gan ein calon ddeall ei fod yn enillwr ar y traeth- awd yn Brynaman. Clywsom fod gan- ddo draethawd campus; carem gael y pleser o'i ddarllen. Pa le mae yr awenber Glan Afan yn bresenol; ai byw y bardd ? Os ydyw, derbynied ein cofion fil a mwy, ac os iach, 0! mor felus fyddai darllen llith bach o'i eiddo ar y DARIAN. Aneuryn, sut y mae ef ? Maes eto, frad; mae dy lythyrau yn felus a dan- teithiol. Llyfnwy, yntau, pa le y mae ? mawr mor ddystaw. Fechgyn anwyl, ai nid oes pill o gan, pwt o lith, neu ryw- beth i'w gael. Deuwch, feirdd hoff, y mae i chwi roesaw gwresog ar faes ein wytbnosolyn: darllenir eich melus ffrwythau gyda bias ac awch. Gwilym Ddu o Ddyfed, y mae dy ddystawrwydd yn taflu rhyw wewyr a phrudd-der dros- wyf; yr hwn oedd mor fywiog ar y maes Ilenyddol. Pa beth sydd, gyfaill, rho wybod dy hynt. Cofion at Caeronwy yn ei goleg, a phawb o'r hen gyfeillion.—Yr eiddoch i gyd, yn rhwymau can, YMWELYDD^
AT Y BEIRDD..
AT Y BEIRDD.. Cyfeiried ein cyfeillion y Beirdd eu hoi Gyfansoddiadau Barddonol yn y modd ac i'r cyfeiriad canlynol:— Jin. D. W. JONES. (Dafydd Morgamog) Hirwain.
[No title]
Codiad yr Haul-—Mae llinellau y pen- illion hyn yn rhy hirion i golotnau y DAEIAN. Dewisasoch fesur anystwyth iawn. Treiwch fesur arall. Llinellau ar ol D. R. W.—Nid oes digon o gelfyddyd arnynt, er fod y teimlad yn lied hiraethlawn. Hiraeth Mab ar ol ei Gai-iad-Celfyddyd gyffrediu iawn sydd ar y rhai hyn hefyd. Da chwi, sylwch ar acefelych- wch ddull beirdd wrth gyfansoddi. Miss E. B.—Nid oes digon o gelfyddyd ar y rhai hyn ychwaith. Temtasiynau y Dafam.—Testyn da, ond celfyddyd Treiwch eto, ac 'odlwch y llinell flaenaf a'r drydedd yn ogystal a'r ail a'r bedwaredd. Marwolaeih Hannah, 1.9eg oed-O'r braidd y mae'r llinellau hyn i fyny a'r safon, o herwydd gwaelder y gelfyddyd; eto y maent ycbydig yn well na'r rhai uchod. Y Bydol.- Y mddengys.. Y Dydd, Codiad yr Haul, y Gwlithyn, y .eo Dymestl, Seren Bethlehem, y Wawr. Cymeradwy bob un. Da genym allu hysbysu fod awdwr y darnau uchod yn un o feirdd ieuainc goraf y genedl, er nad yw ond 16eg oed. Y mae yn feistr ar y Caeth Fesurau. Gweddi, Y ParI, Y Wiivo-, Y Teimlad. Da iawn. Gobeithio y caiff yr awdwr fordaith dda, a thrigfa gysurus yn Patagonia. Pathos, Jciclc Llangefni, a'r Delyn. Cy- meradwy. Yr .Flaul.-Celfydd a gwych iawn. Mae, yn dreat cael pethau fel hyn i'r DiMAN. Morus Gruffydd.—Llawn o deimlad, a phortread campus. Anrhydedd i'r DAMAN yw cael ffrwyth awen yr awdwr campus hwn.
ENGLYNION
ENGLYNION Ar ol clywed am, farwolaeth lIIr. John Roberts (Gelli Iago), ger Beddgelerto Gwr tawel, isel iawn oedd,-o dalent Hudolus iawn ydoedd; Trwy'r dw'r aeth y gwr ar g'oedd O'r hen afon i'r nefuedd. Gwir ddidwyll ei gerddediad,-ei dda waith Oedd gweddio'n wastad; Gwr hudol mewn gwir rodiad, A gwr Duw garai ei dad. GWUGANT FAB.
ACROSTICK TO MISS J. T.
ACROSTICK TO MISS J. T. J oin'd as the spreading branches of a tree- A re all a teacher's attiibutes in thee; N o child thou hast bent him to thy will E 'er can but render credit to thy skill. T heir minds direct to Him that sits above, H ow He has shewn for them eternal love 0 ft think of Him that taught in Galilee, M ay His protecting care be over thee A nd when in this world ended are thy days, S ing may'st thou to Him everlasting praise. Aberdare. D. P. D.
LLINELLAU
LLINELLAU Ar gyjlwyniad tysteb gan y Gweithwyr i Mr. Charles E. Gough, cashier, ar ei ym: adawiad o waith yr Hen Gastell, Llanellit, ,i Waith Alcan yr Hendy, Llangenech. Mae hanes tystebau i'w gweled bob dydd Yn britho ein newyddiaduron, Clodforir eu henwau fel dynion gwir sydd Yn deilwng o orwych anrhegion Ah! holwch eu helynt, archwiliwch hwy gyd,, Canfyddweh yn fuan mai rhagrith Sy'n d'"d o'u tafodau er denu eich bryd, A'r ewbl ond ffugiaith a uieiidith. Mae'n rhaid i'm gydnabod fud eithriaid i'w cael, Yo gymysg a phob rhyw gymdeithal, A gallwn wir nodi fod Charles E. Gough hael Yn deilwng o'r unrhyw berfhynas Ie, dyma foneddwr yn wir o'r iawn ryw, Nid rhagrith sy'n Ilechn'n ei fynwes, Arllwyaai o'i enau ryw eiriau mwyn, syw, A'r gweithwyr a'i carai yn gynes. Y mae fel cyfrifjdd gwir braidd heb ei ail, Ac un o gymeriad dilychwyn Archwiliwyd cyfrifon ei lyfrau'n ddiffael, Ni chafwyd un iot yn ei erbyn Yr ydym fel gweithwyr yn teimio yn fawr Wrth golli ein cyfaill ffyddlonaf; Gobeitbiwn fod ei ddyrchiad yn awr Yn gam at y swyddi uchelaf. Rboddasom oriadur a chadwyn o aur, Fel arwydd o'n parch tuag ah); Chwi allwch fy ngredu yn wir ar fy ngair.. Fod pawb yn dyinuno llwydd iddo A phan ymadawo a theulu y llawr, Boed iddo gael tysteb nefolaidd lIyd. hyny y byddo ei anian yn fawr I gyrhaedd y wlad baradwysaidd. Llanelli. lOAN. AFAN.
Y GAWOD WLAW.
Y GAWOD WLAW. Y ddaear i wywedig wedd Agenwyd gan y sychder, Ond disgyn wnaeth y sawod wlaw I'w mwydo ag ireidd-der Ynddafnau man arianaidd liw Dihidlwyd ar y nieusn,dd, Ac anian ferth i wenu wnaeth, Fel gwyryf mewn llawenydd. A bu rhyw adgyfodiad mawr Yn canlyn ei dylanwad, A bywyd buan ddengya hi Yn juhrydferth dlysau'r craad A'r llysiau oedd fel meirwon gynt O'u. mwyniallt godni'n delaid, Eu galw fyny felly wnaeth Yn dyrfa fawr at'i ifaid. .i Tra'r egin bychain yfai n hsel O'i moethiawn iach rioweduau, I'w dorbyn jn sychedig iawn Agorent eu gvneuau; Y rhos gwiidgoch oich ei hen, A'r lili mewn gwyleid -dra, Tn ngbyd a'r briull heire'd eu gwawr, A gwisgant eu mirtiadia. Fel gwelirdxear megys ga'dd > Mewn agwedd baradwysaidd, A gernau Hiw y cwrel cain bii lad "yd yn nefuiaidd A gwasgar mae ei bywiol sawr ngherbyd chwini yr awel Yr huan mawr trybeiydr t-ycd Fel tanbaii w) neb angel. Yn nghanol fath ffrwythlonder mawr Mae'r byd jn llawn o loniant, A'r goedwig werdd yn demlau byw Ya dadgan ei gogoniant; Mae'n gysgod gwan o ysbryd Duw Yn disgyn ar y dynol, I fonwent peohod hyll ei gwedd Ya fywyd pur anfarwol. IOAN GWENT.,