Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

EISTEDDFOD FAWR MERTHYR TYDFIL.

News
Cite
Share

EISTEDDFOD FAWR MERTHYR TYDFIL. LLYWYDD—H. A. Bruce, Ysw., A.S. ( Mr. T. Stephens, Heol Fawr. TEYSOEYDDION J PARC}1> Evan Jones, Ynysgau. "VI"AE Cymrodorion Dirwestol Merthyr Tydfil, ar ol -cynal cyfres o Eisteddfodau Blynyddol Ail-raddol, wedi penderfynu cynal Eisteddfod Fawr Genedlaethol, yn mis Medi, 1859. Maent wedi ymddibynu ar eu hadsodd- att eu hunain yn hollol, oddigerth yehydig bunoedd, hyd yn hyn, er fod eu treuliadau o'r dechreuad rhwng 7 ac 8 gant o bunoedd. Ac er mwyn rhoddi Gwobiwyon mwy nag arferol yn yr Eisteddfod hon, penderfynodd y Pwyllgor allturio rhoddi Pedwar Ugain Punt o'u trysorfa eu hunain, a gwneyd apel- iad at gefnogwyr Llenyddiaeth Gymreig am Danysgrif- iadau i wneyd y gweddill i fyny ac y mae yn lion gan- dtlynt gydnabod fod amryw wedi cydsynio a'u cais. Ac os rhynga bodd i ryw rai ereill weled fod amcan y sefydl- iad yn dda, a'r Testynau yn deilwng, bydd yn ddywenydd ganddynt eu rhesu yn mhlith eu Noddwyr Tanysgrifiedig. Cyfeirier y Tanysgrifiadau at un o'r Trysoryddion, a phob Gohebiaeth at yr Ysgrifenydd. Cyhoeddir y Rhestr Danysgrifiadol. Gwobrwyir yr Ymgeiswyr Goreu (os yn deilwng) ar y Testynau canlynol: — 1. Am y Traethawd goreu ar Reolau Beirniadaeth Hanesiol. Gwobr 20p. D. S. Dysgwylir sylw neillduol ar, Pa un a ydyw rheol- au beirniadol hanesiaeth gyffredin yn gymwysedig at han.. esiaeth y Beibl, ai nad ydynt ? 2. Am y Traethawd Hanesyddol a Beirniadol goreu ar Gerddoriaeth Gymreig yn ei gwahanol Gysylltiadau a'i Hansoddauo'r oesau cyutefig hyd yn bresenol. Gwobr lOp. 3. Am y Traethawd goreu ar Gysylltiadau Cymdeithas, neu Ddybyniad eu Gwahanol Ddosbeirth ar eu Gilydd. Gwobr 5p. 4 Am y Traethawd goreu yn Gymraeg neu Saesonaeg, ar Ddifyrion Adlonol, (Recreative Amusements;) sef, A ydynt yn anhebgorol i iechyd a chvnydd corfforol a medd- yliol dyn yn ddeallol a moesol. Os ydynt, pa fathau o honynt, a dulliau eu cynal, sydd yn gydweddol a rheswm a Christionogaeth. Gwobr 5p. 5. Am y Traethawd goreu ar Arddwriaeth. Gwobr 5p. 6. Am y Ffug-Hanes goreu, yr awdwr i ddewis ei dest- yn, ond rhaid ei fod yn seiliedig ar Ffeithiau, ac yn tueddu At Ddyrchafiad Moesol y Cymry yn neillduol. Gwobr 6p. D. S. Cyfyngir ef i haner niaintioli Llyweiyn Parri.' 7. Am jr Arwrgerdd oreu, yr awdwr i ddewis ei destyn, ond os bydd neilltuolrwydd eenedlaethol yn nodweddu y testyn, byddedjyn un Cymreig. Gwobr 20p. 8. Am y Ddisgrifgerdd oreu o Gymru. Gwobr lOp. 9. Am y Chwech Englyn goreu i'r Tynfaen,.(Loadstone.) Gwobr 2p. 10. Am yr Englyn goreu i'r Haw. Gwobr lp. 11. Amy Ddau Bennill goreu ar Ddyngarwch, Ton Toriad y Dydd.' Gwobr lp. 12. Am y Ddau Bennill goreu ar Wladgarwch. T8n Morfa Rhuddian.' Gwobr lp. 13. Am y Ddau Bennill goreu ar Ryddid. Ton 'Serch Hudol.' Gwobr lp. 14. Am y Ganig (Glee) oreu ar y pennill cyntaf o Caru'r Gwir.' Gwel weithiau Mr. Robert Parry, (Robin Ddu,) tudal. 307. Gwobr 5p. 15. Am yr Alaw a'r Cydgan (Solo-air and Chorus) goreu ar y pennill cyntaf o Gwalia.' Gvel yr un llyfr, tudal. 284. Gwobr 5p. Yr Alaw, ar Deffrown a phur Syniadau,' &c., a'r Cyd- gan aI" Fy magawl wlad,'&c. Rhaid i'r Unawd (Solo) fod yn gyf'ryw ag y gellir ei ganu gan fenyw, neu gan wrryw o iais cyfalaw (tenor;) a rhaid i'r cyfansoddiad hwn a'r un blaenorol, foil drwyddynt yn rhai defnyddiol at wasanaeth corau cyffredin. Rhoddir y flaenoriaeth i rai o arddull Cymreig; pob peth arall yn gyfartal. 16. Am y Cynganeddiad goreu o'r Alaw Gymreig Mor- fa^Rhuddlan.' Yr Alaw fel y mae yn Narlith y Parch. J. Mills ar Gerddoriaeth Gymreig.' Gwobr lp. 17. Am y Cynganeddiad goreu o'r Alaw Gymreig, 'Toriad y Dydd.' Yr Alaw fel y mae yn y' Calliedydd Cymreig,' gan Ieuan Ddu. Gwobr Ip. 18. Am y Cynganeddiad goreu o'r Alaw Gymreig Serch Hudol.' Yr Alaw fel y mae gan leuan Ddu yn y y Caniedydd. Gwobr I p. Wrth gynganeddu yr Alawon uchod, gofaler mwy am beroriaeth yn nhrefuiad y lleisiau nag am gywreinrwydd yn y cynganeddiad. BEIRNIAID. Rhif l-Y Paich. Rowland Williams, D. D., Coleg Llanbedr. Rhif 2 a 15—Mr. John Williams, (Gorfyniawc o Arfon,) Gas Light Office, Newington Street, Liverpool. Ruif3.—Y Parch. Dr. James, M. A., F. S. A., Panteg Rectory, Fontypool, Mon. Rhif 4.—Y Parch. Thomas Davies, Athraw Duwinydd. ol Coleg y Bedyddwyr, Haverfordwest. Rhif 6.—Evan Davies, Ysw., V). A., Abertawy. Rhif 7. 8, 9, 10.—Mr. Ebenezer Thomas, (Eben Fardd,) Clynog Fawr. Rhif 11, 12, 13, 14, 16, 17, a 18.—Mr. John Roberts, (Ieuan Gwyllt,) Golygydd yr Amserau, Liverpool. CYFARWYDDIADAU. Gofaler ysgrifenu y Cyfansoddiadau yn eglur a darllonadwy, alu hanfon i'w priodol Feirniaid, wedi talu eu cludiad, crbyn y laf o Iwst, 1859. Y ffugenwau yn unig wrth y Cyfansoddiadau. An. roner yr enwau priodol mewn envelopes seliedig i'r Ysgrifenydd, wedi eu harwyddnodi y tu allan a'r ffugenwau, yn nghyd ag enw y leatyn. Y Cyfansoddiadau Buddugol i fod yn eiddo'r pwyllgor, va*' ;v-- Y Cyfansoddiadau Anfuddugol i fod yn nwylaw y Pwyllgor hyd ddiwedd Hydref, 1859. Bydd perffaith hawl gan y Beirniaid i atal y gwobrwyon, oni bydd GWIR DEILYNGDOD. Rhwymir y Cystadleuwyr i gydymffurfio a'r cyfarwyddiadau uchod, os amgen atelir y Gwobrwyon. O. Y. Dymunir hysbysu y CANWYR a'r THLYNWYR, &c., y gwobr- wyir hwythau yn helaeth yn yr Eisteddfod hon, ac y bydd Pro- grammes yn cynwys y Darnau Cerddorol, yn nghyd a'r oil o'r testynau ereill, yn barod erbyn Nadolig nesaf. Gellir eu cael yn yr EISTEDDFOD GERDDOROL. JOSEPH WILLIAMS, Ysgrifenydd. Swyddfti'r Cymrodorion, Awst 26,1858.

Advertising

[No title]

Advertising