Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
PENILLION I'R GANWYLL.
PENILLION I'R GANWYLL. Pan fyddech mewn lie tywyll, t. A dyrus anial erchyll, Mawr gysur fydd i feddwl gwan, K Cael goleu gan y ganwyll. Mewn llusern y mae'n llesiol, Ar daith i wr dyeithriol; Hon a'i arwain yn y nos, n Rhag myn'd i ffos arswydol. 0 ddifai wer y ddafad, I'r pabwr yn amgylchiad, Dyna ganwyll, ond cael tan, A'i goleu glan yn wastad. I'rgweithwyrtanddaearol Fe fydd ei goleu'n fuddiol; Hebrwng ddyn drwy dywyll daith, Ac wrth ei waith bydd lesiol. Ni chain* y gweithiwr didwyll, Nos-weitliiau hir gwylystwyll, 7': Ddarllen dim, di rym ei ran, Heb oleu gan y ganwyll. Da ydyw i ddyn didwyll, I gynu fel y ganwyll, Er goleuo tra bo byw, A murio'i ryw mewn mawr-bwyll. Mae'r ganwyll, wrth oleuo, Yn raddol iawn yn treulio, Ac felly ninau yn y byd, Nes myn'd i gyd o hono. A! mawr mor addysgiadol Yw pob rhyw beth amserol; Gwas'naethant oil ar ddyn o hyd Wrth fyn'd i fyd tragywyddol. Aberdar. ALAW GOCH.
;'AWELON YR ERYRI.
AWELON YR ERYRI. -A ganlyn ydynt ciriau y Deuawd a'r Canigau sydd i fod yn gystadleuol yn Nghijlchwyl Cymdeithas Gerddorol Ddirwestol Aberdar. Gwel Hysbysiad. DEUAWD. Tr..ITHiwit. Hoff Fugail, rho bwys i'th frysio, Mae'n bleser i deithio'n awr Dros lethrau'r Eryri, a tbremio Ar yr huan yn suddo i lawr A chanfod yr agwedd ddystaw Dros fryniau a dolyddmad, Onid balchder dy fron sy'n chwyddaw Wrth syllu o gylch ein gwlad ? BUGAIL. Gwir-gwir,-ar ael gerth yr Eryri Y rhoddais fy nghyntaf gam, A'm serch i at hwn sydd yn tynu Fel y plentyn at fron ei fam. O mynych y daw i'm meddwl- Wrth wrandaw cwynfanau'r gwynt- Mewn blinder, am lawer cwmwl A dorodd dros Gymru gynt. Y DDAU. —Na—na, nid dewrder a ballodd A fHamio yn mynwes gref Ein Llywelyn ni, pan y gwanodd Y bradwr ei galon ef. TEITHIWR. Hoff Fugail, y tir a droediwn- Yr Eryri-sydd hoff i mi Meddyliwn y fod ar ei begwu, 5 Yn chwytio, ein baniar ni I Dych'mygaf y clJwaf dwrw Y gelynion yn dyfod o draw, Tra Brython—fel merthyr i farw Sy'n barod a'i gledd yn ei law, BUOAIL. — Ust! Ust!—rho'th glyw i'r awelon,- Dealla eu cwynfanau hwy ;— Brython yn bradu Brython A roddodd y marwol glwy' I Fe safai cadarnfa'r Eryri, Gan herio yr estron In; Ond O trwy i'w meib ei bradychu Y cwympodd hen Gymru gu. Y DDAU.— Na!—na! nid dewrder a ballodd A fflamio yn mynwes gref Ein Llywelyn ni pan y gwanodd Y bradwr ei galon ef.
GWEL GLYNDWR A'I WYR!
GWEL GLYNDWR A'I WYR! CANIG, (GLEE.) Gwel Glyndwr a'i wyr !— digyffelyb mewn nerth, A'u banerau ar wynt dros y Banau tra serth; Fel medelwyr yn awchus am waith gyda'r wawr, I gynhauaf coch angeu disgynant i Jawr. Boed gwae i'r gormeswr, a gwae idd ei blaid, Pan fo Glyndwr yn tynu'r cledd mawr wrth ei raid. Os cyll Fuddugoliaeth, myn angeu i w ran, Ei draed at ei elyn, a'i wyueb i'r lan Ei enw'n ddysgleirwych, a'i glod ar bob mant; Ei folawd ddylifa o dafod a tliaut.
CANIG DDIRWESTOL.
CANIG DDIRWESTOL. GAlanstra-mellditb-difrod- Sydd yn dylyn camrau medd'dod Ochain, beichio, mae dynoliaeth- Gruddfan am ei gwaredigaeth. Mae gwawr gwaredigaeth yn awr yn tywynu,- Mae Dirwesrt yn achub ei miloedd dan ganu. ¡
[No title]
Y mae un o'r magnelau a gymerwyd o Canton wedi ei danfon i Paris. Magnel pres ydyw, o rym mawr, tua naw troedfedd o byd, ac yn cael ei gor- chuddio ag arwyddion Chineaidd. Hysbysir mewn Ilythyron o Valladoid, un o'r rhandiioedd enwocaf am dyfu gwenitb, fod y cyn- hauaf presenol yn tra rhagori ar bob un arall o fewn cof. Y mae caniatad i Olygwyr Newyddiaduron fyned i'r Palas Grisial, gyda'u cyfeillion, bob dydd Sad- wrn, yn rhad ac am ddim. Y mae Arglwydd Palmerston yn Paris, yn wrtb- ddrycb sylw dirfawr. Ymgyghorodd S'r prif fedd- ygon yn ngbylch ei lygaid, a dywedant nad yw ei olygon wedi gwaethygu yn anfeddyginiadwy, ac y bydd yn rhaid iddo wrthod a darllen wrth oleuni <ras. Y mae Geirlyfr Seisonig newydd ar gael ei baro- toi. Penodwyd dau bwyllgor i arolygu y gwaitb, gyda golygyddion galluog ac enwog. Fe ddylid mynu cael rhyw Gymro dysgedig—Ab Ithel, neu'r Archddiaoou Williams, aeu Hirlas, neu Nicander, neu eu cyffelyb-Cymry dysgedig yn eu hiaith eu hunain yn gystal ag mewn ieitboed1 ereill—i fod yn un o'r Golygwyr, yn gymaint ag fod dylanwad y Gymraeg mor fawr ar y Saesoneg, yn gystal ag ar wahanol ieithoedd Europ. A gawn ni fwstro yn 'nghylch byn ? Y mae Hung-ariad,M. Leon Humar, wedi gwneyd defnydd newydd o'r trydan. Mewn cyngherdd cy- hoeddus yn y National Theatre, efe a chwareuodd, trwy gyfrwng gwyfrau trydanol, ar bump o wahanol berdoneirau, (pianofortes) y cwbl ar yr un pryd. Yr oedd yr hyrddiadyr trydanol ag oedd yn gweithio y gwyfrau wedi ei osod mewn ystafell gyfagos. Dydd yr Arglwydd, Nid Sabboth.-Mewn Ilyfr difyr a buddiol a ehvir Note and Queries, gwelsom y sylw a ganlyn;—♦ Yn yr boll wledydd Pabyddol, y mae y dydd cyntaf o'r wythnosyn cael ei alw Dydd yr Arglwydd, (Dominica,) a'r seithfed yn Sabboth, [Sabbate.) Ymddengys mai dyma yn ddiau yw yr ystyr iawn. A all eich darllenwyr ddywedyd wrth- yf pabam y mae cynifer yn dal at alw Dydd yr Ar- glwydd, wrth yr enw Iuddewig Sabboth, a pha bryd y daeth byny i gael ei arferyd ?' Dywed Hume mai y Puritaniaid Seisonig,-yn amser Siarl I., a dde- cbreuasant alw Dydd yr Arglwydd yn Sabbath ac mai yr achos o byny oedd ei benboethni dros bob peth tuddewig. O'n rban ni, nid ydym yn gweled un rheswm dros beidio galw y dydd cyntaf o'r wytb- nos yn Ddydd Sul, fel y'i gelwir gan Eglwyswyr, canys diau fod yr enw hwnw wedi ei ddodi er cof amadgyfodiad Crist.-Haul Cyfiawnder; Haul ydyw Sol, o'r hwn air y tardd Sul. Ond perffeithiach Cymraeg, efollai, fyddai Dydd yr Arlwydd. Ni ddylid, ar un cyfrif, ei alw yn Ddydd Sul. Y Tywysog Alfred.—Y mae y Tywysog Alfred yn awr yn nglianol berw a dwndwr arboliad morwrol. Tra yn llwyr ddymuno iddo fyned trwy yr arholiad- au yn llvvvckiianus, nis gaHwn lai na chanmol ei Mawrhydi am beri a'r fod i'w mab fyned trwy yr un llafur, yr un efrydiaeth, a'r un arholiadau a swydd- ogion llyngesol ereill. Damwain Arsw.tfdus.- Y cbydif! ddyddiau yn ol, aeth unarddeg o blant, chwech morwyn, a dau fad- wr, allan mewn bad yn Worthing. Yn ddisymwth, trodd y bad a'i wyneb yn isaf. Boddodd un o'r bad- wyr. Achubwyd llawer o fywydau gan lachgen deunaw oed o'r enw Tester. Pan drodd y bad, glynodd un o'i goesau ef yn y rhaffau ac yno yr arosodd ef, am dros chwarter awr, gyda geneth facb o dan ei gesail, bachgen bach yn glynu wrth ei wisg, ac yntau yn liefain nerth ei ben, ar fad oedd heb fod nepell—' For\vr, dowcb yma Forwr, dowcb yma Yr oedd tair merch yn glyau wrtho o'r tu blaen, ac un wraig, gyda'i maban, yn cydio yncldo o'r tu ol, i gyd yn gw;ieddi am eu hoedlau. Efe a erfyniai yn daer ar y ddyues gyda'r maban i ollwng ei gafael, am ei bod bron a'i dagu a'i lethu i farwolaeth. Ond ni wnai hi, ac yr oedd nerth y bachgen bron wedi pallu pan ddaetb cymorth yno. Gwaredwyd hwynt cyn ei bod yn rby ddiweddar. Boddwyd 13 o ber- sonau, yn cynwys naw o blant, i gyd o dan naw mhvydd oed. Cynaliwyd Gwyl Gerddorol Birmingham yr wyth- nos ddiweddaf. Yr oedd prif gantorion a cherddor- ion y byd yno. Y mae SOli fod y Tywysog Napoleon ar fedr ym- briodi a'r Dywysoges. Clotilde, merch henaf Bren- in Sardinia. Ganwyd yr Arglwyddes ieuanc ar yr ail o fis Mawrth, 1843, ac y ma.e felly yn 16 mlwydd oed. Dygwyddodd cydgyfarfyddiad bynod ycbydig ddyddiau yn ol yn yr Hotel du Nord, Berlin. Can- fyddodd y Tywysog Got tscbakoff ei hun yn eistedd ochr-yn-ochr âg Arglwydd Lucan ac aeth y ddau wron, y rhai a fuont ychydig amser yn ol yn elynion, i egluro a dadlu (yn gyfeillgar) y rhuthr ofnadwy hwnw yn Bctlaclafa. Hwynthwy oeddynt y ddau flaenor yn yr orchest waedlyd hono. Y mae eyfarfodydd gwcddi unedig yn cael eu cy- nal yn barhaus yn Exeter Hall, bob noslau. Penderfynodd y Gymdeithas er Taenu'r Efengyl mewn Gwledydd Tramor sefydlu cenadaeth, yn ddioed, yn nhrefedigaeth newydd Columbia Bry- deinig. Yn ganlynol i farwolaeth Mr. Hobson, o Calcutta, y mae bachgen o argraffydd, yn Llundain, wedi dy- fod i feddiant o dros filiwn a haner o bunau. Ni wyddai'r bachgen fod ganddo y fath berthynas goludog, oddigerth yr hyn a glywodd ryw dro gan ei fam, cyn ei marw, sef fod ganddi hi frawd yn yr India. Dywedir fod cylchdaeniad y Times yn lleihau yn ddirfawr, o herwydd poblogrwydd y papyrau isel- bris. Y mae Cwmnfyr India Ddwyreiniol newydd gan- iatau pension o £2,000 y flwyddyn i Syr John Law- rence. Gorchymynodd Gweinidog Gwladol Ynysoedd Sandwich ar fod i'r Iaith Saesoneg,—yr hon eisoes yw iaith y llys ac iaith masnach,—gael ei mabwys- iadu fel iaith gyffredinol y wlad. Dywedir mai iawn arianol y rhaid i China dalu ar derfyn y rhyfel ydyw 1,200,000; ond ni hysbysir pa un a ydyw Lloegr a Ffrainc i gael hyny bob un, ynte ei ranu rhyngddynt. Ychydig nosweithiau yn ol, torodd rhyw gnaf neu gnafiaid dafod caseg hardd ymaith o'i phen, ar fferm ger Dinbych, Gogledd Cymru. Dywedir fod Arglwydd Derby yn bwriadu gwerthiv ei boll geffylau rhedeg. A yw y Prif Weinidog am ddarfod a rhedegfeydd bellach ? Y mae deddf wedi ei ffurfio gan Gwmni Rheil- ffordd Woolicb, yn gwahardd i'w gweision fyned i ¡ mewn i dafarn yn ystod y dydd, dan boen cael eu diswyddo. Y mae hyn yn drefniad da, gyn belled ag y mae yn myned, yn gymaint ag fod cynifer o ddam- weiniau yn dygwydd ar reilffyrdd trwy feddwdod y swyddogion. Darfu i Esgob Llundain, gonffirmio 15,000 o bobl ieuainc yn ystod y flwyddyn bresenol. Dywedir fod y Cadfridogion feyr Howard Douglas ac Arglwydd Clyde, ar gael eu gwneuthur yn Faes- lywyddion. Bu 'r Lieutenant Charles Leward, farw yn Chase Side, Enfield, ar y 25 o Awst. Yr oedd y swyddog dewr yn mrwydr Waterloo, gyda'r 69ain gadrawd. Bu plentyn blwydd oed, rhieni yr hwn sydd yn byw yn Liverpool, farw ychydig ddyddiau yn ol o herwydd bwyta cregin gleision, (mussels.) Dydd Ian, wythnos i'r diweddaf, casglwyd ^2,089 yn Ngwyl Gerddorol Birmingham. Cafodd meddyg yn Wiltshire ei ddirwyo o X20 am roi ardystiad fiugiol o gymeriad da i eneth o foiwyn. Cafodd bachgen o'r enw Roley, prentis mewn ffowndri yn Liverpool, ei garcharu am wthio haiarn poeth i lygad bachgen arall tra yn edrych i mewn trwy dwll yn y pared. Y mae ei Mawrhydi wedi penderfynu dyrchafu Mr. Bright a Cadben Preedy i'r bendefigaeth, fel arwydd o barch a diolch y wlad iddynt am eu gorchwyl gogoneddus o drefnu y pellebyr tanforawl rhwng y wlad hon ae America.
[No title]
Sut i rwystro y clêr (' piwiod,' yn ol iaith sir Fflitit-I pryfeid' yn ol iaith sir Fon )-sut i rwystro cler i fyned at dy gig moch yn yr haf.—Bwyta fo i gyd yn gynar yn y gwanwyn. Dywedodd un ysgrifenydd poblogaidd fod c6t dda. yn cuddio lluaws o bechodau. Y mae yn wirionedd mwy fytb fod y cyfryw gotiau da yn cuddio lluaws o 1. bechaduriaid. I Gwahaniaeth rhwng Dyledsivydd ac Ewyllys. -Os bydd terfysg, dyledswydd yr heddgeidwad yw bod yn wyddfodol; ond ei ewyllys ydyw bod yn ab- senol. Nid yw y dwymyn fawr sydd yn mysg y benywod am beisiau ysgarlad, ddim ond math o scarlet fever dibwys. Y mae gohebydd newyddiadur yn America wedi cael y fath anwyd i'w ben fel nas gall olchi ei wyneb heb rewi y dwfr. Gweddiodd clerigwr yn ddwys dros y rhai hyny o'i gynulleidfa ag oeddynt yn rhy feilcbion i benliuio ac yn rhy bwdwr i sefyll. f Os cyffyrddwch a fy nghi, chwi gyffyrddwch a mi,'ebedyuieuancbunanolwrth eneth bert. 'Syr,' ebe hithau, mi a WII, os cyffyrddaf â chwi, y byddaf yn eyffvvrdd ft chi.' Sut y dysgaist ti sefyll mor dda ?' gofynai dyn i gyfaill meddw oedd yn sefyll l'i gefn wrth bost lamp. 0, mi fum yn ymarfer mewn gwydroedd yr ateb. I Wel, Anoie, sut y daethoch chwi yn mlaen gyda'r cariadlanc hwnw ? A gawsoch chwi wared o hono ? —' 0, do, yn ddigon hawdd. Pa fodd ?' I Wel, mi a'i priodas, ac nid oes genyf yr un cariadlanc yn awr.' < Nid oeddwn yn erfyn ymwelwyr beddyw, fibe Mrs. Jones wrth ei visitors. Ond, gobeithiaf y gwnewch eich hunain gartref yn awr.' O, gwnaf ti,' ebe un o honynt, a chododd, gan fyned adref Ilerth ei ùraed. I Proffivyd y Tywydd.—^Paa oedd Esaiah Thomas, o America, yn argraffu ei Almanac am y flwyddyn 1780, daeth un o'r Ilanciau o'r swyddfa ato, gan ofyn iddo pa beth a roddai ar gyfer y 12fed o fis Gorpheiihaf, Yr oedd Mr. Thomas yn brysur iawa j