Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

OFERGOELEDD Y CYMRY.

News
Cite
Share

OFERGOELEDD Y CYMRY. LLYTHYR II. MR. GOLYGYDD,—Y mae lluaws eto o ertbyglau yn fghredo Coelgrefydd y Cymry, ac mi a sylwaf ar rai o honynt yn yr ysgrifen hon. Y maent yn cael eu galw dan yr enwau, Cwn bendith y mamau,' Cwn Ebrill,' neu Gwn annwn.' Ni ddeallais fod y rhai hyn yn unrbyw arwydd o flaen dim yn neillduol, ond eu bod yn cyfarth yn yr awyr; ac erbyn eu bod uwchben un yn rhoddi cyf- arthiad, byddant draw yn mhell, fel mai yn brin y clywir hwynt yn swnio. Y maent weithiau i'w gweled ar y JIawr, lawer o honynt yn nghyd; a dywedir i ryw ddyn, mwy gwrol na'r cyfiredin, ymaflyd yn un o honynt, a'i gymeryd ef dan ei gesail tuag adref. Y noson hono, pan ydoedd y gwr yn ei wely, clywai ergydion yn cael eu rhoddi i'r ffenestr ac wedi ateb, gofynodd un o'r tu allan am y ei, gan ddywedyd, Dyro fy nghi i mi; os gwnei, ti a Iwyddi; os na wnei, ti a aflwyddi.' Rhoes y gwr y ci yn ol, ac efe a lwyddodd yn y byd yn annghyffredin. Yr ydwyf wedi methu yn Ian a chael allan darddiad y rhai hyn, na'u dybenion. Nid wyf yn deall, ac nid wyf yn cofio chwaith, bod son am y rhai hyn yn Ngogledd Cymru ond clywais hwynt yn cael eu crybwyll yn fynych yn y Deheubarth; Rhai brithion ydynt, a bychan iawn. Arwydda yr enw, Cwn annwn,' nid yn unig eu bod yn perthyn i'r byd anweledig, ond i'r diafliaid hefyd. Mae amryw yn ein plith yn credu y rhai hyn, wedi eu clywed yn cyfarth, ac wedi clywed am rai a'u gwelodd; ond, er ymholi, ni chefais gan neb ddywedyd dim yn mhellach am danynt. Erthygl arall sydd ganddynt, ydyw, Gwrach y rhibyn Cymreig. Diau genyf mai witch y Saeson ydyw hon, er y meddylia rhai mai oddiwrth Wrach Goblin, neu Wrach Ro- bol yr Ellmyn, y deilliodd. Y Wrach ribo, neu y Wrach reibio, ydyw y witch oblegid y mae rheibiaeth, drwy holl Gymru, yn cael ei roddi yn benaf i hen fenywaid, er y credir hefyd y gall gwrywaid fedru ar y gelfyddyd hon. Y mae yr ystoriau yn gymysglyd iawn am wrach y rhibyn oblegid darlunir hi fel tarw yn myned o'r ty i'r Han o flaen angladd, gan rai, ac yn bugunadu yn ofnadwy ar hyd y ifordd. Yr wyf yn co6o i mi glywed lawer gwaith pan oeddwn eddeutn deuddeg i bymtheg mlwydd oed, am wrach y rhi- byn fel tarw yn cerdded ar hyd yr heol yn y nos, yn bu- gunadu o flaen angladd neu angladdau. Ond y dar- luuiad amlaf ydyw, mai hen fenyw hagr, lawn brychni, a barf, ydyw, a dai.e;ld hirion, a'i gwallt hyd ei sodlau, ac yn dorchau oddi amgylch ei gwddf a'i holl gorff. Cerdd ar hyd ganol yr heol heb gymeryd sylw o neb, ond rhoddi ambell ysgrech irad, nes y bydd calon a chnawd y cadarn yn crynu gan ei nadau. Nid wyf yn cofio i mi glywed son am wrach rhibyn yn y Gogledd; ac ymddengys ei bod yn gyfyngedig i ddifyiwch gwyr da y Deheudir. Y mae angladd yn canlyn gwrach y rhibyn. Ond nid oes nemawr neb yn clywed nac yn gweled y ddrychiolaeth hon yn bresenol; ac nid wyf yn cofio i mi fod yn siarad ond ag un a ddywedai iddo ei chlywed; y mae son am hon yn mron diflanu. Y nesaf ydyw y Cyheuraeth,' neu y Cohouraeth' sydd yn y Deheubarth, yn neillduol yn mharthau uchaf swydd Gaerfyrddin, ac yn swydd Frycheiniog. Ni chlywais neb yn rhoddi darluniad o agwedd ac ymddangosiad hwn, ond fod ei swn yn ddychrynllyd tuhwnt i bob desgrifiad. Clyw- ais un yn adrodd am dano fel y canlyn Yr oeddyin wedi myned i'r gwely, neu yn nghylch myned i'r gwely, a chlywem swn dychiynilyd draw ond ar gyfer y ty, rhoes y fcith ebwch nas gellir ei ddarlunio, hyd ouid oedd y cwn yn udain.' Y mae hwn i'w glywed yn awr ac yn y man, ac nid yn cadw stwr neu yn gwaeddLyn barhaus. Ond pan welo oleuni, y mae megys pe byddai yn ymgyn ddeiriogi, ac yn rhuo yn ddychrynllyd. Y mae yn rhag- flaenu angladd; a chredir yn ddios yn ei hanfodaeth. Yr wyf yn bwriadu dweyd rhagor ar yr ysbrydion disail hyn, os caf gyfran o'ch papyr. Ydwyf, yr eiddoch, CARADOC.

ATEBIAD I OFYNIAD 'AP IOAN,'

AT OLYGYDD Y GWLDGARWR.

AT OLYGYDD Y GWLADGARWR.

IY FFYNONAU.

NATURIOLDEB CHWERTHIN.

AT OLYGYDD Y GWLADGARWR.

Y DANCHWA DDIWEDDAR YN NGWAITH…

WALTER SAYAGE LANDOR.