Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

CYFARFOD USTUSIAID ABERDAR.

News
Cite
Share

CYFARFOD USTUSIAID ABERDAR. Dydd Mawrth, Medi 7.-Ustusiaid ar y Fainc-Meis- tri Fowler, (Cadeirydd,) Roberts, a Wayne. Yr oedd cryn dipyn o gyffro yn y He yn nghylch y cy- farfod hwn, trwy ei fod yn gyfarfod blynyddol i ganiatau trwyddedau i dafarnau, &c., a thrwy fod Dirwestwyr y lie wedi bod o gwmpas gyda deiseb, i'w chyflwyno i'r Ynadon, i erfyn arnynt beidio caniatau rhagor o drwyddedau, a lleibau nifer y tafarnau yn y dref a'r gymydogaeth. Cyn dechreu ar orchwylion y dydd, cyflwynwyd y ddeiseb, wedi ei hardystio gan tu 2,000 o drigolion Aberdar, gan y Parch, W. Edwards, Ebenezer; a darllenwyd hi gan Mr. Lewis, Cofnodydd y Llys. Wedi darllen y ddeiseb, dad- htygwyd hi yn ei llawn hyd, ac yr oedd yn cyrhaedd oddi- wrth y Fainc i ben pellafyr ystafell. Dywedodd Mr. Fowler y rhoddai ef genad i unryw fon- eddwr lefaru o blaid y 'ddeiseb. Cyfododd y Parch. W. Edwards, gan ddywedyd nad oedd wedi parotoi yr un araeth-na welodd ef y ddeiseb hyd y boreu hwnw, gan iddo fod o gartref. Buasai yr ardystiadau yn llawer mwy lluosog pe cawsai y Dirwestwyr fwy o amser i gasglu enwau. Nid oeddynt wedi ymweled a'r holl randir, eithr a'r pentref yn unig. Yna gwnaeth sylwadau pwrpasol ar y fasnach yn gyffredinol, gan ddangos fod lluosogrwydd lle- oedd i yfed, yn achlysuron o gynydd mewn meddwdod a phob trosedd, ac nad ellid dysgwyl lleihad tlodi, trosedd- au, a thrueni, tra y byddai i achlysuron meddwdod gael eu parhau a'u cynyddu. Yr oedd un ffaith hynod wedi dyfod i'r amlwg trwy archwiliad a wnaed ychydig ddyddiau yn el yn Heolyfelin, sef, fod sobrwydd, a nifer dirwestwyr, yn llawer mwy yn y cymydogaethau Her oedd lleiaf o dafarnau ac yr oeddynt hwy yn cymeryd hyny fel prawf cryf y byddai i leihad nifer tai i yfed, beri cynydd ar sobr- wydd. A cban fod y deisebwyr eisoes yn argyhoeddedig fod nifer y tafarnau yn mhlwyf Aberdar yn llawer mwy hag y dylent fod, yn ol cyfartaledd y boblogaeth, yr oeddynt hwy (y deisebwyr,) yn dymuno yn ostyngedig ar yr ynadon wrthod pob apeliad am drwyddedau newyddion ac yr oeddynt yn amcanu heblaw hyny, defnyddio pob moddion yn eu cyrhaedd i leihau hyd y nod y nifer pre- senol. Dywedodd Mr. Fowler nad oedd ef yn gwybod fod y fath ddeiseb i gael ei chyflwyno hyd nes y dodwyd hi ar y y bwrdd, onide buasai wedi mynu gwneyd ei liun yn fwy hysbys o'r pwnc. Yr oedd ganddo, er hyny, ddau neu dri o sylwadau i'w gwneuthur. Yr oeddynt hwy, fel ynadon, yn teimlo fod deiseb fel hon, wedi ei hardystio gan tua dwy fil o bersonau, yn un bwysig, ac yn teilyagu ystyr- iaeth fanylaf, mwyaf pwyllog, a gofalus y Fainc. Yr oedd fod cynifer a 176 o dafarnau yn y lie yn ffaith. ddifrifol a phwysig, wrth ystyried nodweddiad y boblogaeth; ac yr oedd y ffaith hon yn dangos yn amlwg fod nifer dirf wr o'r boblogaeth yn rhy chwanog i yfed diodydd meddwol. Yr oedd pob Ustus trwy y wlad yn gwybod trwy brofiad, ac yr oedd y ffaith uwchlaw pob amheuaeth, fod yfed a throsedd- au bob amseryn myned law-law a'u gilydd. Gwyddai ef fod cymeriad y boblogaeth Gymreig, oni bai y ddiod ftedd- wol, y fath ag a'u gwnelai y bobl sobraf a rhyddaf oddiwrth anfoesoldeb a throsedd o bob cenedl ar wyneb yr holl ddaear. Hyd y nod yn awr, gyda'r holl demtasiynau i feddwi, yr oeddynt yn uwch mewn moesau, na'r mwyaf- rif o boblogaeth Dociau Caerdydd a Liverpool, a Llaw- weitlifeydd Manchester. 0 ganlyniad, yr oedd Fainc yn credu, pe y gallent leihau y temtasiynau i yfed, y byddai iddynt leihau hefyd troseddau yn gyffredinol. Ond rhaid cofio mai ymddiriedolwyr yr Awdurdod Gyhoedd oedd yr Ustusiaid, ac nad alleut hwy, yn unol a'u swydd, wrth- od pob apeliad am drwyddedau newyddion, heb wrando ar yr holl "aingylchiadau dan ba rai y gofynir am danynt, Yn unol ag amgylchiadau yn unig yr oeddynt hwy i ben- derfynti pa un ai caniatau ai gwrthod yr apeliadau a wnel- ent. Pe y cauent eu elustiau yn erbyn pob apeliad, ni fyddai iddynt gyflawni eu dyledswyddau cyhoedd. Yr oedd ei broliad ef, (Mr. Fowler,) am y 5 neu 6 mlynedd ag y bu yn Ustus yn y lie hwn, yn ei dueddu i gredu fod y tai hyny ag oeddynt dan ddylanwad y Fainc—tai gyda 'hen license,'—yn cael eu cadw gyda gradd helaeth o drefn a gweddeidd-dra. Rhaid cofio fod llawer o'r hyn ag y gellir ei alw yn alwad cyfreithlawn am wirodydd, sef gan ddyn- ion nad oeddynt byth yn meddwl nac yn bwriadu meddwi. Nid oedd yr amser wedi addfedu eto i atal y galwad cyf- reithlawn hwn. Yn ol sefyllfa bresenol addysg, nis gellid mogi y galwad hwn trwy ddeisebau at yr ynadon ond, pe yjcyflwynid deisebau mor gryfioll a pharchus, a'r un ger eu bron yn awr, i'r ddeddfwneutliuria, byddent ^yn sicr o gael diwygiad effeithiol mewn amser. Byddai yn dda ganddo ef roddi pob cynorthwy a chyfarwyddyd ag oedd yn ei allu iddynt yn hyny o beth. Yr oedd ef yn gwbl ar- gyhoeddedig-megis y sylwodd Mr. Bruce ar agoriad y Neuadd Ddirwestol-nad oedd yr ysgogiad, a adnabyddid wrth y teitl Maine Law,' yn debyg o ateb y dyben mewn golwg, ac nad oedd yn ddim amgen na chais diurddas a hunanol ar ran rhai yn hoffi sobrwydd. Byddai yn llawer gwell ceisio llwyr gyfnewidiad, diwygiad a chyfyngiad ar y gyfundraeth. Yr oedd y Fainc yn dra diolchgar am y ddeiseb; ond nis gallent hwy ballu rhoddi gwrandawiad i'r apeliadau ac eto, yr oedd yn achos o foddionrwydd mawr fod personau o'r fath safle, cymeriad, dylanwad, a pharch- usrwydd, yn defnyddio yr holl gymwysderau liyny at ddyrchafu sobiwydd a moesoldeb y boblogaeth,-i roddi hyrddiad mawr a grymus i'r amcan clodfawr hwn. Dychwelodd y Parch. William Edwards ddiolchgarwch y ddirprwyaeth i'r ynadon am y dull boneddigaidd a char- edig yn mha un y cawsant eu derbyn ganddynt, ac am syl- wadau Mr. Fowler ar y ddeiseb. Sylwodd fod mwy o feddwdod yn cael ei achosi trwy yfed gwirodydd na thrwy yfed bir, ac felly, fod eisieu mwy o wyliadwriaeth a chy- fyngiad ar y naill nag ar y llall. Cyfeiriodd at ffeithiau a gafwyd mewn ymchwiliadau yn Ysgotland a'r Werddon, i brofl yr hyn a ddywedai. Aeth y ddirprwyaeth ymaith gan amlygu diolchgarWch am yr hynawsedd a dderbynias- ant. Yna dygwyd jachwyniad yn erbyn Gwyddel, o'r enw Crowley, sef ei fod wedi codi clawdd gardd ar Gomin Hir- waun, ac yntau wedi cael ei ddirwyo o'r blaen am gyffelyb drosedd. Gwnaeth y cyfaill amddiffyniad teilwng o un o feibion yr Ynys Werdd. Dirwywyd. ef i £ 5., a dywed- odd Mr. Fowler y dirwyid pob un a geid yn euog eto. Wedi hyny galwyd ar enwau y rhai a apelient am drwyddedau i werthu gwirodydd. Gofynwyd i bob un ar ba sail yr oeddynt yn gwneyd yr apeliad. Y cyntaf oedd ceidwad y Queens. Dim rheswm i'w roddi. Ceidwad yr Old Bank Inn. Ei reswm ef oedd, fod y ty yn ymyl y farchnad, a'i fod ef yn apelio am drwydded er mantais rhai yn dyfod i'r farchnad. Ceidwad y Lord Nelson. Ei reswm ef oedd, Nid oes genyf drwydded, a byddai yn dda genyf gael un.' Ceidwad ty yn Maesydre, Nid, oes yr un dafarn yn yr heol, na'r un i fod ar y parth hwnw o'r ystad, tu hwnt i'r Glolstet, Bridgend, Heolyfelin. Methu rhoddi rheswm dros apelio. Welsh Harp, Heolyfelin. Nid oes genyf fi ddim i'w ddyweyd, ond y byddai yn dda genyf gael license, os gwelwch yn dda.' Beaufort Arms. Cyf- lwynodd yr apeliwr amryw lythyron o gymeradwyaeth, a mynegodd yr ynadon eu bod yn cael hollol foddlonrwydd yn y cymeriad a roddid i'r apeliwr. Dywedodd yntau drachefn ei fod wedi bod yn cadw ty a hen license am bum mlynedd, ac na chafwyd erioed le i achwyn yn ei erbyn. .Bute Street. Apeliad oedd hwn am gael trwyddedu ty preifat, ar y sail fod y ceidwad, Mr. Evans, wedi myned i gostau dirfawr er mwyn cyfleusdra Cyfrinfa yr Odyddion sydd yn arfer cyfarfod yn ei dy, yn gystal a rhesymau ereill. Dywedodd fod y Gyfrinfa yn cynwys 240 o aelod- au, ac nad oedd yr ystafell bresenol yn ddigon helaeth. Kings's Head, Aberamau. Dyma'r dafarn agosaf i orsaf y reilffordd.' Sylwodd Mr. Fowler nail oedd yr un apeliad wedi ei wneyd am drwyddedu ty, lie nad oedd chwech neu saith o dai trwyddedig eisoes o fewn ychydig latheni, ac mai yr unig dir ar ba un y gallent hwy ganiatau trwyddedau oedd, fod hyny yn angenrheidiol er cyfleusdra y cyhoedd. Yr oeddynt wedi trwyddedu ty ddoe, ar ben y mynydd, rhwng Merthyr ac Aberdar, o lierwydd fod hwnw yn Ile eyfleus i orphwyso "wrth gerdded ar draws y mynydd. Ond, yn Aberdar, nid oedd angen am 'ychwanegiad yn rhifedi y tai cyhoeddus. Ni fynai ef i neb dybied eu bod yn gwrthod yr apeliadau o herwydd fod y ddeiseb wedi ei chyflwyno iddynt, pa mor bwysig bynag gallai hono fod, a pha mor niferus bynag y gallai fod wedi ei hardystio. Nid oedd- ynt hwy yn ystyried dim ond cyfleusdra y cyhoedd, ac nid oedd esieu dim rhagor. Nid ymdriniwyd a dim arall o bwys, hebiaw caniatau trwyddedau i'r hen dai, gyda cherydd a rhybudd i ambell geidwad oedd wedi troseddu y gyfraith yn ystod y flwydd- yn ddiweddaf. ABERDAR.—Pymthegnos yn ol, gwnaethom sylw o'r dull y mae y rhan fwyaf o fechgyn ieuainc siopau Aberdar yn treulio yr hamdden y maent yn gael trwy gau yn gynar ar ddyddiau Iau. Nid oeddym wedi clywed, ar y pryd hwnw, fod Cymdeithas Gwyr leuainc wedi ei sefydlu yn y lie. Ond hysbyswyd ni wedi hyny fod cymdeithas ragorol yn cael ei chynal yn y Tabernacl, Capel yr Annibynwyr Seisnig, bob nos Iau, dan arweiniad y gweinidog llafurus, y Parch. John Cunnick. Y mae y Gymdeithas hon yn lluosog yn ei haelodau a thraddodir areithiau ar wahanol bynciau, yn gyfnodol. Hefyd, dadleuir yn fynych ar ryw bynciau dyddorol a buddiol. Y mae y trefniadau yn gyf- ryw ag i roddi difyrwch yn gystal ag addysg-yn foddien o adloniant yn gystal a diwylliad. Hyderwn y bydd i bob bachgen ieuanc—a hen hefyd, os mynant—ymuno a'r gymdeithas ragorol hon, yn lie treulio eu horiau segur yn ddiwerth a diddaioni. Nos Iau diweddaf, traddododd y Parch. J. Cunnick araeth ragorol, i'r aelodau, ar Geology. Ceir areithiau cyffelyb yn fynych gan yr aelodau, yn gystal a clian ereill. CWMBACH.-Nos Fawrtli, Awst 31, cynaliwyd cyfarfod dirwestol yn Nghapel Bryn Sion. Cafwyd cyfarfod lluosog a dyddorol. Llywyddwyd gan Mr. Phillips (T.), Eben- ezer; ac areithiwyd gan Meistri Henry Harries, Aberdar; a Richard Saunders, Heolyfelin. Canwyd tonau da gan y Cor, yn fedrus iawn. Canodd Plant y Gobeithlu (Band of Hope) hefyd, y dôn ragorol hono o waith Mr. Rowlands (Asaph Glan Dyfi), Cwmafon, nes swyno pawb. Hefyd, canwyd y Deiiawd, I Edifeirwch y Meddwyn,' gan ddau o aelodau Cor Bryn Sion. BRYN SION, CWMBACH.—Nos Fercher, Awst laf, tra- ddododd y Parch. E. Hughes, Penniain, ddarlith ragorol ar 'Ogoniant y Grefydd Gristionogol,' yn y capel uchod. Yr oedd yno gynulleidfa luosog iawn. Traddododd y ddarlith yn rhad ac am ddim; ond yr oedd yn tra rhagon ar y mwyafrif o'r Darlithoedd y byddwn arfer talu am eu clywed. PONTYPRIDD.—At y Dirwestwyr,—Dymunwyf ar Gym- deithas Ddirwestol Pontypridd hysbySu, trwy gyfrwng y GWLADGARWR, beth yw'r achos fod yr achos dirwestot mor farwaidd yn eu plith. Ai am fod yr holl feddwon oedd yno wedi eu sobri; a'r holl ddiotwyrweditroi yn ddirwestwyr ? Nage, yn ddiau. Bum i yno un nos Sadwrn, tua thair wythnos yn ol, a gwelais fod yno waith dirfawr i Ddirwest eto. Gwelais luaws o feddwon yn rhodio'r heolydd, a swn crechwen yn dyrchafu o'r tafavnau. A ydyw pregethwyr a blaenoriaid yn cefnogi Dirwest? A oes yno undeb rhwng y gwahanol enwadau i alltudio gelyn rhinwedd a chrefydd o'r lie ? Os nad oes, myner y cyt- ryw ar frys. Y mae ei eisiau yna.-Dirwestwr o Ystrad- yfodog. MERTHYR.—DYGWYDDIAD GALARus.-Medi 2.ymgrog- odd Margaret Davies, gwraig John Davies, glowr, Pen- darren. Nid oes neb yn gwybod yr achos iddi roddi ter- fyn ar ei heinioes mor ddisymwth.- GOHES. LLANDILO FAWR.—Traddodwyd darlith yn y He hwn, ychydig nosweithiau yn ol, gan un o'r enw Bardd Gwyllt,' ar I Bwysfawrogrwydd y Bibi i' a rhyfedd y fatb siomiaut ddarfu i bobl Llandilo gael, o herwydd eu bod yn dysgwyl gwell. Yr oedd yn druenus. Cynghorwn y 'Bardd Gwyllt' i droi ei law at rywbeth gwell at ei allu. Cynaliwyd Festri yn Eglwys y 4ref boii, ilr pwrpas 9 sefydlu cyflog Doctor Wastfield, Organydd yr Eglwys. Da genym hysbysu ein bod yn cael cadw y Doctor am y flwyddyn hon eto.-Gohebydd.. BETHESDA.'CWMAMAN.—Sabboth wythnos i'r diweddaf, taflwyd y lie bwn i ddychryn dirfawr, trwy ddarganfyddiad corff byeban wedi ei gladdu, ond yn agos iawn i'r wyneb, fel nad oedd ond y donen las yn ei orchuddio, yn mynwent y lIe uchod. Mae yn arferol i droi ceffylau i bori rhwng y beddau, a thebygol mai ceflyl oedd wedi bod yn pori y diwrnod hwnw, a symudodd y dywarchen oedd yn cuddio'r corff bychan. Decbreuwyd holi aelodau Bethesda pwy oedd wedi ei gladdu. Yr atebiad a gafwyd, na wyddent hwy ddim yn ei gylch. Erbyn hyn, eyfodwyd ef i'r lan, a gwnaethpwyd archwiliad manwl arno. Danfonwyd am yr heddgeidwaid mewn brys, er cael chwilio i'r mater, a daeth Mr. Jones, heddgeidwad Cross Inn yno, a dechreu- odd ar y gorchwyl o chwilio Cwmaman; ac nid hir y bu cyn dyfod o hyd i'r fam, un Margaret Morgan, yn ngwas- anaeth Mr. John Morgan, Glynymoch, sef ei brawd. Yn awr, cafwyd nad oedd y petli mor bwysig, nac wedi ei ddwyn oddiamgylcb yn hollol ddirgelaidd, fel y tybiwyd- ar y cyntaf. Wedi holi y fam ac ereill, cafwyd fod T. Lewis, Ysw., Llawfeddyg, yno, yn gweini ar yr amgylch- iad, ac mai yn farw y ganwyd y plentyn: ac iddynt ddan- fon dau ddyn ieuanc i'w gladdu, oddeutu 3 o'r gloch yn y boreu, i fonwent y lie crybwylledig. Cofied pawb trwy yr holl Gwm, nad tir claddu plant annghyfreitblon yw Mynwent Bethesda, a hyn hefyd heb ganiatad yr Eglwys. FARE TEARS. LIVERPOOL—Ychydig ddyddiau yn ol, cefais yr hyf- rydweh o ymweled a'r Fabel fawr fasnachol lion. Yroedd yn dda genyf ganfod y Cymry yn parhau i gynal eu hiaith, eu crefydd, a'u gwladgarwcb, mor ddiball. Credaf fod mwy o wladgarwch yn Nghymry Llynlleifiad nag yn Nghymry yr ben wlad. Y mae y capelau a'r Eglwysi Cymreig yn Iluosog a llawnion, ac amryw sefydliadau gwladgarol yn cael eu cynal. Ond yr oedd yn ddrwg genyf glywed am yr anngliefnogaeth a roddid, yn ystod y gauaf diweddaf, i'r Darlithoedd Gymreig yn y Concert Hall. Hyderaf y diwygir yn hyn erbyn y gauaf nesaf. Byddai yn dda genyf hefyd pe baiy Cymry yn cefnogi mwy ar eu cydwladwyr sydd yno yn cadw tai at wasanaeth y cyhoedd. Y mae amryw o Gymry parchus yn cadw y cytryw dai, ac » atynt hwy y dylai meibion Gwalia fyned, yn lie at estron- iaid, Cefais i yr hyfrydwch o letya gyda Chymraes o waed coch cyfan-un o deulu Mon, sef Mrs. Roberts, gynt o Cemaes. Y mae ganddi dy hollol gyfieus a chysurus a.t. wasanaeth teithwyr, &c.; a da genyf ci bod yn derbyn cefnogaeth dda. Ymddygwn yn frawdol a gwladgarol at ein brodyr a'n chwiorydd mewn trefydd mawrion.-Glan Meddanen, Mon.

[No title]