Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

FFRAINC.

News
Cite
Share

FFRAINC. Y mae newyddiaduron Paris yn parhau i gy- hoeddi erthyglau esboniadol ar araeth Count Per- signy ar gyfrathach Lloegr a Ffrainc, a rhai o honynt yn dangos teimlad drwg a chwerwder ys- bryd dirfawr at Loegr. Y mae amryw orsafoedd llyngesol newyddion i gael en codi ar hyd arfordiroedd Ffrainc. I ba beth ? A ydyw yr Y merawdwr yn ofni i ni ym- osod arno ef, ynte a ydyw yn bwriadu cael digon 0 lochesfeydd i'w longau pan wel ef yn dda ym- osod arnom ni? Yr ymosodiad trahaus olaf sydd wedi ei wneyd ar Loegr, ydyw pamphledyii a elwir La France dans leg Mara Asiatiques. Yr amcan proffesedig yn nghyhoeddiad y llyfryn hwn ydyw dangos y fantais a ddeilliai i Ffrainc trwy sefydlu Cwmni Traihidiol, gyda phrif orsaf yn Asia. Enwir Madagascar, Cochin China, a Ceres, fel lleoedd cyflens. Gellid cyfiiewid cynyrchion y gwledydd hyny am gynyrchion Ffrainc. Mown gwirionedd, fe gelai Ffrainc India hcdclychol, lie y gallai ei gwyr ieuainc chwilio am olud anrhydeddus, a lie y gallai ei phoblogaeth oriaw gael maes i'w di- wydrwydd. Y mae y llyfryn yn llawn o'r haer- iadau a'r syniadau mwyaf gwrthun. Ond, er mai yr hyn a nodwyd uchod ydyw amcan proffesedig y pamphled, eto nid yw y 30 tudalen cyntaf yn cynwys dim ond sylwadau ar Loegr, ei Llywodr- aeth, a'i phendefigaeth. Yn y He cyntaf, i wneyd cyfiawnder ag ef, y mae yn rhoddi i ni air da. Yn nghanol berw cyffredinol, yr oeddym ni yn heddychol. Pan oedd holl Ewrop yn ymdrechu yn erbyn chwyldroadau, prin y cafodd Lloegr der- fysg dirgelaidd na chyhoeddus; a hyny am haner cant o flynyddoedd. Y mae yr awdwr yn gofyn beth yw yr achos o hyny ? 'A oes gan Loegr Ffurf-lywodraeth ardderchog a Deddf-wneuthurfa z,1 berffaith?' Dim o'r fath beth. Y mae hi, yn hytrach, 'yn cael ei bwyta a'i difa gan y bende- figaetli fwyaf hunanol a thrachwantus a fodolodd erioed,' ac I y mae deddfwiieuthurfa mor annghyd- gordiol a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg ag ydyw bwytawyr eidiongig yn Xhwr Llundain, y rhai sydd hyd yn hyn yn gwisgo dullwisg amser Henry'r Wythfed! Yna dywed fod y pendefigion yn ymdroi mewn golud; y bobl yn cael eu beichio 1 threthi, ac yn cael eu hamgau mewn trueni heb ei gyffelyb I yn unrhyw wlad arall.' Pa fodd, ynte, yr oedd Lloegr yn dawel a heddychlawn pan oedd y rhelyw o Ewrop mewn chwyldroad, —Lloegr, yr hon sydd yTi dyoddef cymaint oddi wrth drais a gormes ei llywyddion ? Y mae'r ateb yn syml. Nid yw chwyldroadau byth yn cael eu gwneyd gan y tlodion. Y maent yn dod oddiwrth ddynion deallgar, heb olud mawr,' ebe'r awdwr hwn. Ond darfu i'r bendefigaeth Seisonig lunio dyfais i gael gwared o'r personau peryglus hyn, trwy eu danfon i'r India gydag apwyntiadau cysurus! Hwy a dawelasant hyd yn nod yr Iwerddon yn y dull yma, ebe'r awdwr hwn; rhoddasant swydd yn Nghwmni yr India Ddwy- reiniol i bob Gwyddel ag yr oeddynt yn ei ofni; ac felly, cafodd, nid yn unig Lloegr, ond hefyd y chwaer-wlad, ei cdadw rhag chwyldroad. Fel hyn y mae y llyfryn hwn yn ymosod ar Loegr. Nid yw ein pendefigaeth yn ddifai mewn un modd; ond y mae yn annhraethol well nag y myn y Ffrancod ei bod. Y mae y cytundeb a China yn derbyn sylw 1< mawr gan y Pays. Cenfydd y papyr hwn bob math o fantais i'r Chineaid trwy gyflwyno Pab- yddiaeth i'r wlad nefol. Rhaid fod y golygydd yn hepian pan yn ysgrifenu yr erthygl hono. Os yw y grefydd hono yn debyg o wneyd y fath les i China, pa fodd na wnaeth yr un lies i Ffrainc, Itali, Hisbaen, a gwledydd ereill ag sydd am am- ser mor faith wedi bod yn ddarostyngedig i ddy- lanwad Pabyddiaeth? Gall y Chineaid fod yn farbariaid; ond, fel y dywed y Debats, nid ydynt yn fwy barbaraidd nag offeiriaid Bolgna, y rhai a ladratasant blentyn Iuddewig oddiar ei rieni am fod morwyn anwybodus wedi ei fedyddio yn ol y ffydd Babyddol! Prin y gallasai y chwyddedig a'r gwaedsychedig Yeh fod yn euog o anfadwaith gwaeth na hwy. Y mae y Pays hefyd yn ymffrostio a'i holl egni mai y Ffrancod yn unig sydd yn haeddu y clod am yr hyn a wnaed yn China. Ond, y mae pob hanes ag y gellir dybynu arno yn dywedyd fod y Ffrancod wedi ou taflu i'r cysgodion yn y gweith- redoedd milwrol a gyflawnwyd yno.

PllWSSIA.

NAPLES.

PIEDMONT.

.Y DWYRAIN.'

[No title]

Family Notices

Advertising

[No title]