Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

BYCHANDER DYN.

News
Cite
Share

BYCHANDER DYN. GAN NICANDER. Beth yw ein dysg, ein talentau, a'n gwybodaeth ? Beth yw ein iaitb, ein llenyddiaeth, a'n cymdeitbas- au ? Cyflewyd ni nis gwyddom yn mha gornel o'r greadigaeth y mae anfeidroldeb natur o'n deutu, a nioan yn rhyw le rhwng y ddau eithafion. Mae ar un llaw i ni anfeidroldeb o fawredd, ac anfeidroldeb o fychander ar y llaw arall, a ninau nis gwyddom yn mba le yn yoyfwng cydrhyngddynt. Mae islaw i ni, yn y greadigaeth, greaduriaid nas gall y llygad noeth mo'u canfod rbag eu bychaned; rhaid i ni wrth gymmorth chwydd-wydrau i allu eu gweled. Mae'r diferyn lle;af o ddwfr yn cynnwys milfil afrifed o bonynt, ac er hyny y mae gan bob un o honynt eu rhanau a'u haelodau priodol i fywyd ac osgogiad. Pa gyn lleied raid fod llygaid a chym- malau a ebyhyrau y rbai lleiaf o bonynt ? Pa Igyn fychaned y rhaid fod dalnau gwaed creaÓIriaid ag y mae defnyn o ddwfr yn fydysawd cyfan iddynt! Os oes ganddynt synwyr, ( a phwy a wyr nad oes ?) i ddirnad ac i fesur maintioli creaduriaid mwy na hwynt eu hunain, byddant yn mesur yr ednogyn a ddisgyn ar wyneb y dwfr He maent yn preswylio, wrth y miloedd o fiiltiroedd o byd, o led, o dry fesur ac o amgylchedd, fel y byddwn ni yn mesnr y plan- edau. Ac nid oes mo'r achos lleiaf i farnu nad oes yn y greadigaeth greaduriaid manach lawer mil o weithiau na'r rbai manaf a allwn ni eu caufod drwy gyfrwng y chwyddwydrau .cryfaf. A thyna esiampl o'r anfeidroldeb sydd islaw i ni o fewn cylch natur. Mae y cyffelyb anfeidroldeb yn yr unrhyw gylch natur uwchben i ni. Mae maint a nifer a pbellder y ser, yn mhell tu bwnt i rifyddiaetb a mesurau dyn. Mae'r haul 196 miliwn o filltiroeddj oddi wrth y ddaear; a chan fod y ddaear yn rhoi Iro crwn o gylch yr haul yn flynyddol, rhaid fod y ddaear gym- maint a byny ddwywaith o bellder, sef tua 400 mil- iwn milltir yn yr haf, pan fo ar y naiJI o-br i'r haul, oddiwrth y man lie bydd hi yn v gauaf, ar yr ochr aralli'r haul. Ond nid yw y pellder anfedhol hwn yn effeithio dim ar faintioli ymddangosiadol y ser. Yr nn faint yn union, byd y gallwn ni ddirnad, yw maint- ioli ymddangosiadol y selen Arcturus i ni yn yr haf ag yu y gauaf, er ein bod yn mhellach oddiwrtbi miliwn o filltiroedd yn y naill dymmor o'r flwyddyn rbagor yn y tymmor arall; hyny yw, nid yw 400 miliwn milltir ond megis dim mewn cydmariaeth i bellder y ser oddi wrtbym. Po cryfaf yr yspienddrych mwyaf o ser sy'n dyfod yn weledig ac Did yw'1' seryddwr dysgedicaf yn canfod un rheswm i farnu Dad oes miliynau lawer o ser y tu hwnt i'r rbai a welir trwy wydrau cryfaf plant dynion. A thyma esiampl o'r anfeidroldeb sydd uwchLiw i ni. Yn mba le yn y cyfwng yr ydym ni, ddynionacb daear, rhwng y ser mwyaf a greodd gallu'r lor, a'r trychfilod manaf ag sy tu hwnt i gyrhaeddiad y chwydd-wydrau cryfaf? Yr ydym yn aafesurol fawrion gyda golwg ar y naill, ac yn anfeidrol fych- ain mewn cydmariaeth a'r lleill. Fe fyddai hyd y nod yspienddrych mawr Lord Rosse yn rhy wan i ddangos y ddaear o'r ser sefydlog agosaf atom. Bwriwch fod creadur rbesymol cymmaint a'r Wyddfa paham nad all enaid fywiocau dyn cym- maint a'r Wyddta? Bwriwch fod dyn cymmaint a mynydd Atlas yn Affrica. Byddai raid i ddyn o'r maint hwnw arferyd chwyddwydr cyn y gallai ei lygaid ein canfod ni, gan mor fycbaiu fyddem wrtbo ef. Mae'r cyfryw ddyn yn canfod ar wyrieb y ddaear, trwy gymmorth y chwyddwydr, ysgogyn o wreinyn bach pensyth, ac mae yn gofyn iddo, Pwy wyt ti, y bywionyn bacb gwarsytb ? Myfi yw Ymberawdwr China, ebe'r bywionyn bychan. Pwy wyt titbau, y gwreinyn bach torsyth ? Myfi ydyw Napoleon y Trydydd, eb yntau. A pbwy wyt tithau sy'n tor- sythu yn y fan yna, y mymryn nas gallaf ond prin dy weled? Myfi yw y Pab o Rufain, Pio Nono. Ho! felly'n wir; mae'n ddrwg genyf os d. rfu i mi aflon- yddu eich myfyrdodau; ond rbaid i mi gymmeryd fy nghenad i ddywedyd wrth basio, eich bod yn gre- aduriaid mallaf a welais erioed a'm llygaid, ac eto, er eich lleied, hwyrach (gvfyr dyn) eich bod yn ffrosti j petbau mawrion. Mae yn syndod i mi fedd- wl fod natur yn medru cynnyrchu pethau mor fych- ain, ac yn fywion hefyd Mae'r dyn anfertbol hwn sy gymmaint a mynydd Atlas, ac sy'n ei ddyfyru ei bun wrth yspio trwy ei chwyddwydr ar fychandra plant Adda, yn angbofio, debygwn i, mai gwreiuynyw yntau wrth greaduriaid milfil mwy nag ef ei bun. Canys bwriwch fod angel diifawr yng ngbanol yr entrych yn syllu ar waitb y greadigaeth fawr ar bob llaw iddo yn yr eangderau difesur. Hwyrach fod yr byn a alwn ni yn greadigaeth, yr bon sy'n cynnwys Did yn unig y gyfundrefn heulog, ond befyd yr holl ser sefydlog ag sy'n welodig i'r llygaid ac yn gan- fyddadwy trwy'r yspienddrych cryfaf, yn ymddangos i'w olwg pelldraidd efyn ddim mwy na dernyn crwn o ddwfr. Er mwyn syllu yn fanylach, mae'n cym- meryd chwyddwydr i weled beta sydd yn y diferyn dwfr hwn. Mae'n darganfod ynddo filoedd o ten ronynau gloewon y rbai byn yw y ser. Mae yn gweled, wrth sylwi yn graff, ryw gylch main llwyd yn cwmpasu'r diferyn bach crwn y cylch hwn yw y llwybr llaetbog. Mae'n cymmeryd chwyddwydr cryfacb, ac yn gallu gweled gwreichionen fecban ddisglaer at faint tywodyn a man ronynau llawer llai yn troi o'i chwmpas y rhai hyn yw yr haul a'r planedau. Prin y mae'n gallu canfod y ddaear; ond am y lloer, nid oes mo'i hanes y mae ei bych- andra yn y gyfundrefn serawg yn ei gwneutbur yn llwyr anweledig iddo. Pa beth sydd yn awr wedi dyfod o'r dyn anfertb ag oedd o faint mynydd Atlas ? Pa le weithian mae Moel y Gest? Maent oil yn ddigon pell o'r golwg yn hollol ddiddymyn eu bych- andra. Pa Ie yn awr y mae'r hwn sy'n ysgrifenu byn o linellau ? Mae'n llawer llai na'r filiwnfed ran o'r llwcbyn lleiaf ag sy'n nofio ar belydr yr haul sy'n tywynu i'w ystafell trwy dwll y clo. Mae'r meddylddrychau hynyn llethu fy meddwl i lawr; yr wyf yn colli fy anadl wrth ystyried anfesur- oldeb bychaneddau ac anfesuroldeb mawreddau gwrthddrychau creadigaeth eangfawr Duw Ner. Mae megis niwlen yn dyfod dros fy llygaid, a'm calon yn curo'n gyflymach wrth ystyried fy niddym- dra fy hun, fy hollol anwybodaetb, a'r berthynas ar- swydus sy rbyngof a rhanau ereill "o greadigaeth yr lor, yr hon sy fel dolenau cadwyn aur, deupen yr hon sydd ym mhell o gyrhaedd llygaid fy nghorff ac amgyffredion fy nealldwriaeth. Nis gwn amcan pa ddolen o'r gadwyn fawr ydwyf fi wedi cael fy ngbyf. lea a'm gosod gan y Creawdwr Dwyfol. Pwy, wrth feddwl am y pethau rhyfedd hyn, a feiddia fod byth mwy yn falcb, neu yn hunanol, neu yn rbyfygus, neu yn anngbaruaidd? Pwy a feiddia mwvach fawrygu ei dipyn talent a'i fymryn gwybod- aeth ? Pwy na wnai o hyn allan ei boll egni i weini lies a chysur i'w dipyn cydgreadur ar y mymryn daear yr ydym yn sengu ar ei hwyneb ac yn y mym- ryn cylch cymdeitbasol o fewn yr hwn y gallo fod genym ddylanwad ? Mae'r ysiyriaetbau uchod yn vstyriaethau anian ac yn ystyriaetbau amser. Ond beth pe troem ein llygaid at y byd ysprydol a thragywyddol yn yr hwn y byddwn oil cyn bir ? Pwy all byth ddychymmygu rhyfeddodau'r byd mawr hwnw ? Pwy all amgyff- red beth fydd ein perthynas greadigol a sylweddau ysprydol y byd sy tu draw Fr bedd ? Pwy fedr ddy- feisio beth fydd gwrthddrychau cydmariaethol y nefoedd a'r ddaiar newydd ? 4 Arglwydd ein lor ni, pa beth yw dyn i ti i'w gofio, a mab dyn iti ymweled ag ef!'

TRAETHAWD AR Y CWRW BACH,'

WALTER SAYAGE LANDOR.