Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
AT EIN DERBYNWYR A'N DOSBARTHWYR.
AT EIN DERBYNWYR A'N DOSBARTHWYR. Gan fod holl drefniant arianol y GWLADGARWR yn awr mewn dwylaw newyddlon, dymunir am i bawb wastadhau eu cyfrifon a Mr. Abraham Mason, Cardiff Street, yn ddiosd—sef yr holl gyfrifon hyd y Sadwrn Awst 28. Os oes rhyw gyfnewidiad i fod yn y nifer a ddanfonir i wahanol ddosbarthwyr, bysbyser hyny yn ebrwydd, canys fe ystyir pawb yn gyfril'ol am bob rhifyn a ddanfonir o'r Swyddfa. Pob archebion a thaliadau i'w gwneyd i Walter Lloyd Gwladgarwr Office, Gloucester Street, Aberdare. Danfoner pob gohebiaeth fel hyn:—Llew Llwyfo, 2, Dean Street, Aberdar.
AT EIN GOHEBWYR.
AT EIN GOHEBWYR. DEWI 0 HIRWAEN.—Pe y cyhoeddem eich llythyr, byddem yn agored i gyfraith. Trueni nad allasech drin y ffeithiau hyny yn fwy boneddigaidd, er, efallai, mai ofer bod yn dyner wrth ddynion fel hwynt. GUTO GOCH.—Rhy ddichwaeth. DarUenwch 'Ddryeh Barddonol' Caledfryn. CASWALLON GLAN LLWCHWR.—Peniliion synwyrol a rheolaidd. Rhaid iddynt aros eu tro, er hyny. Byddwch ymarhous. Derbvniasom ysgrifau Sion Mawddwy, Cymro Gwyllt, Hen Wr o'r Coed, Talariant, Sion Chwareu Teg, Gruffydd Gethin, Gogleddwr, Carwr Gonestrwydd, Caradog Goch, Bleddyn, ac un gohebydd dienw o Faesteg. Cant oil ein sylw manylaf, a chyhoeddwn y rhai a farnwn yn werth, cyn gynted ag y bydd genym Ie. Y mae yn ddrwg genym orfod cadw rhai ysgrifau, o'r naill wythnos i'rHaIi,hebeucyhoeddi, o herwydd fod ein gofod mor gyfyngedig. Caiff y Papyr ei helaethu cyn bo hir.
[No title]
Ni fu genym ni erioed yr ymddiried lleiaf mewn Pabyddiaeth na Phabyddion. Po mwyaf o gynydd a fo ar Babyddiaeth yn y wlad, mwyaf o berygl fydd i ddyogelwch y Goron, a mwyaf o iiiwaid fydd i bob achos rhyddfrydig, diwygiadol, a dynol. Yn y wlad hon, y mae cariad a ffydd- londeb i'r Goron wedi gwreiddio mor ddwfn yn nghalouau y deiliaid, fel mai arwyddo y cariad hwnw yw y ddyledswydd gyntaf a gyflawnir gan bob g<vir Frython ar bob achos o lawenydd, neu wledd. Y mae'r teimlad yn cael ei awdurdodi a'i gyfiawnhau gan y synwyr cyflredin cryf sydd yn ein hynodi fel pobl; canys, yn awdurdod, gallu, a dylanwad y Goron, yr ydym yn canfod y dyogel- wch goreu i'n hiawnderau fel personau unigol ac fel deiliaid o'r Wladvvriaeth. Ac y mae yr. hyn a gymeradwyir felly fel teimlad gwladol, yn cael ei gymeradwyo yn mhellach i ni gan gymeriad pre- senol uchel ein Brenines; ac y mae y llwncdestyn ag y mae teyrngarwch rhesymol yn ei dderbyn fel gwarogaeth i'r Fonarch urddasol a rhydd- ftydig sydd yn ein llywodraethu, yn deffro teiml- adau. parchusach a gwresocach dros y foneddiges enwog, y wraig rinweddol, a'r fam dynergalon. Dyma ckimladau pob gwir Frython; ond nid dyma deimladau pawb sydd yn mwynhau nodded ac amddiffyn Piydeinig. Y mae dosbarth yn ein gwlad na vrydcUnt beth yw teyrngarwch-dos- barth sydd yn trigo yn ymneillduedig yn ein Murnywodraeth, fel entozoon, yn sarhau y trefu- iant ag y mae yn byw ac yn bod ar ei draul. Y dosbarth hwnw yw y Pabyddion. Y mae y Car- dinal Wiseman wedi bod yn y Werddon, ac yn cael ei addoli yno gan y Gwyddelod. Rhoddwyd gwledd rwysgfawr iddo yn Ballinsloe gan luaws mawr o ofFeiiiaid Pabyddol, yn eynwys y swydd- ogion eglwysig mwyaf yn y wlad. Nid oedd ond ?? J*1 S^eyd y wledd hon yn wahanol i wleddoedd mawrion ereill yn gyfiredin, ond yr oedd yr un peth hwnw yn dangos o ba le y mae y gwynt yn chwythu, a pha beth yw teimlad a dymuniad y Pabyddion gyda golwg ar Frenines PrydamFawr. Yr oedd yno areithio ac 'yfed iechyd,' wrth gwrs; ond ni soniwyd yr un gair am enw ein grasusaf Frenines. Yfodd y Tadau Bendigaid i 'Ein Tra Santaidd Dad y Pab,' 'Un- deb Agosach rhwng yr Offeiriaid a'r Lleygwyr ac amryw lwnc-destynau ereill; ond, ni amlyg- wyd y dymuniad lleiaf am iechyd na dedwydd- wch y Frenines. Mae hyn yn brawf nad yw y Pabyddion yn dymuno cydnabod goruchafiaeth y Frenines; nid oes gan rwymau gwladgarweh na theyrngarwch afael yn y byd arnynt. Amlwg yw fod awdurdod fydol a chyfreithlawn yn cael ei sarhau ganddynt, a'u bod yn barod i aberthu holl sefydliadau y wlad i ddyrchafiad awdurdod y Pab. Pa le y mae efFeithiau yr holl dynerwch a r holl ffafr a ddangoswyd i'r Pabyddion ? Trwy y cyiraniaaau blynyddol at goleg Maynooth, fe tagodd ein gwladwriaeth ddosbarth o bobl a fy- nent daro a difa y llaw a estynodd eu hymborth iddynt; trwy agor drysau Ty'r Cyffredin i Bab- yddion, fe ganiatawyd eyfran o allu a dylanwad gwleidyddol i bobl ag y mae eu penaethiaid ys- brydol yn sarhau a beiddio yr hon 'sydd ben a chraidd i'r gallu gwladol hwnw. Nid ydym yn gwadu fod gan y Pabyddion hawl i eistedd yn Nhyr Cyffredin, fel ereill o'r deiliaid; ond fe ddylasai yr holl dynerwch a ddangoswyd atynt eu dysgu i fod yn fwy parchus o'r hon ag y mae yn falch gan bob teyrngarwr gael bod yn ddeil- iad id-li. Ai dyma y ffordd y mae Pabyddion yn m-1Ile1 ad-dalu y rhyddid a gawsant mewn gwlad Brotestanaidd. Mae Pabyddiaeth yn an- nghymewidiol. Yr un yw ei chynieriad yn awr ag erioed. Ei hamcan a'i huchelgais oedd, ydyw ac a fydd tra y parha,—cymcryd cymaint ag a all gael, a chrafangu am ragor. Ni fydd Pabyddiaeth wedi cyraedd ci hamcan hyd nes y caiff y Pab fod yn ben gwladol ac ysbrydol ar Brydain Fawr.
[No title]
Mae darostyngiad y gwrthryfel yn yr India yn sicr bellach. Deallwn oddiwrth y newyddion diweddaraf a dderbyniwyd oddiyno fod y gwrthryfelwyr yn lleihau bob dydd-rhai byddinoedd cyfain wedi eu gwasgaru a'u dy- fetlia yn lIwyr-canoedd yn dyfod i roddi eu harfau i lawr -penaethiaid gwrthryfelgar yn ffoi ac yn ymguddio hyd y nod o wyddfod eu hen ganlynwyr—a'r boblogaeth yn gy- ffredinol yn dymuno gweled LJoegr wedi adferu ei haw- durdod dros yr holl wlad. Mae y Cadfridogion dewr a'u milwyr ymroddgar wedi, ac yn gwneyd gwaith a fydd byth yn enwog, ac, mewn eflaith, wedi dyogelu goruchafiaeth Prydain yn yr India. Ond y mae buddugoliaethau mwy eto i'w cyflawni yno—bnddugoliaethau moesol—nid trwy lu na tlirwy nerth, eithr trwy gyfrwng rheswm, goleuni, gwybodaeth, ac addysg ysgrythyrol. Nid yw yr hyn a gyraeddasotn eisoes i'w ddiystyru. Yr ydym wedi difodi llawer o benboethni, coelgrefydd, a dallineb Indiaidd. Gwnaethom i farchogion Sepoyaidd eistedd mewn cyfrwyau o grwyn moch—perswadiasom y Kumaonesiaid i fwyta cig defaid hir-gynffonog— cyflwynasom bysgod i Bikanee, a dysgasom y Rohiliiaid i philosopheiddio ar y gwalianiaeth rhwng martingale Hedr a bamboo Bengalaidd. Ond y mae un peth neillduol eto ag sydd wedi bod uwchlaw ein gallu i'w wella, sef eu hoffder o hunan-laddiad a llofruddiad. Dyma yr hyn sydd yn gwneyd y gorchwyl o wareiddio a Christioneiddio pob! yr India yn orchwyl gwiranhawdd. Pan y mae gwanu dyn yn cael ei ystyried yn ddrwg llai na gwenwyno cath-pan y mae yspeilio a Uofruddio ar y ffordd fawr yn gyflawniad o ddyledswydd grefyddol-pan y mae mogi plentyn newydd-anedig, llosgi gwragedd gweddwon, achyflymu anadliad olaf marwolaeth y clai, yn gyson a chyfraith gysegredig-gellir dychymygu a'r fath irfau y mae'r Hindwaid yn rhyfela yn erbyn diwygiad. Mae y drwg o lofruddiaeth wedi ei atal i raddau, trwy i'r Llywodraeth Brydeinig gyhoeddi hyny yn drosedd cosp- ldwy. Ond beth am y drwg o hunan-lofruddiaeth ? Ych- pdig o fisoedd yn ol, parodd dynes yn Fwttepore i'w chyf- eillion, o dan gynghor ysbrydol, i'w chwythu i'r Ganges gyda phowdwr. Mewn manau ereill, lie mae benywod yn gweithio ar y maesydd, megis yn Bundelcund, pan y mae y tywydd yn dwymn, neu glefydon yn ffynu, fe deill y merched eu hunain i'r flynonau a'r pydewan, a therfynu eu heinoes er mwyn cael gwared o galedl :un diwrnod. Bydd i gramp mewn aelod beri i'r dyoddefydd ladd ei hun weithiau; ae fe ddifa dynes ei 'hun yn fynych o her- wydd fod cadwyn ei phiser wedi tori, neu os gofyn ei gwr iddi ,bobi bara iddo ar ryw awr afresymol, neu os pawr camel yn agos i'w hoff goeden. Y mne y gwyr a'r gweis- ion hefyd yn llawn mor ddibris o'u bywydau. Hwy a gyf- lawnant hunan-lofruddiaeth am i'w colomenod ehedeg yn groes i'w dymuniadau hwynt ;>eu am iddynt golli pedwar darn o arian neu am fod gelyn allan o gyraedd eu dial- garweh hwynt. Mae amser diweirdeb geneth yn ddigon i beri iddi ladd ei hun. ° Clywsom am ddynes yn Jappan 'yn gwanu ei bron a chyllell am iddi wneyd tro bwngleraidd wrth y ford, ac am ddau ddyn mewn oedran yn lladd eu hunain er mwyn i ddyn arall, gan milldir o bellder o'r lie gael ei wneyd yn agored i angeu anamserol. Pa fodd y mae gwella y drwg hwn ? Gallwn orchfygu yr Indiaid ar faes ygwaed gyda'r cleddyf a'r fidoe: a'r fagnel. Ond nid dyna'r arfau i orch- fygu eu hunanoldeb a'u penboethni. Rhaid i ni ryfela yn erbyn cyfreithiau offeiriadol yr India, trwy rym a gorfod, cyn belled ag y maent yn groes i ddynoliaeth yn gyffredin. Ond, mewn pethau ereill, addysg Gristionogol wirfoddol yw'r unig beth a ddwg yr India i drefn.
[No title]
Mae cryn amser bellach er pan ddygwyddodd y danchwa yn ngwaith glo Ystalyfera, ond y mae yr effaith heb ddar- od eto. 0 ran hyny, pa bryd y derfydd yr effaith coll bywyd chwech o ddynion ? Pa bryd y sychir dagrau y gweddwon, yr amddifaid, yperthynasaua-rcyfeiliionga- larus ? Ond yr hyn y dymunwn ni ei gymhell i sylw y cyhoedd yn awr, mewn cysylltiad a'r ddamwain hon, yw y dyfymad a wehr mewn congl arall o'r Papyr, allan o'r Standard,' newyddiadur dyddiol parchus. Nid ydym wedi [cyfieithu erthygl y .Standard i gyd. Mae ynddi rai sylwadau, os anwir, ag sydd yn gabledd ac enllib ar gyfran o'n cydwladwyr Cymreig, sef y dynion a eistedd- asant mewn rheithfarn yn yr arholiad ar gyrff y chwe dyn a laddwyd yn Y stalfera; end. os gwir, y maent yn sylw- adau a ddylent gael eu taranu o ben Caergybi i ben Caer- dydd, ac o Aberffraw i Abertawy. A yw y rheithwyr hyn wedi ymddwyn yn jhy dyner at Rhys Thomas ? A dra- ddodasant hwy reithfarn gyson S. thystiolaeth Rhys Tho- mas am dano ei hun ? Ai nid oedd ei fdystiolaeth ef yn angos yn amlwg ej fod ef wedi esgeuluso ei waith fel ar- ywy d y gwaith ? Ai ni phrofwyd yn eglur, na fuasai y chwe dyn wedi eu Halld pe buasai ef wedi gwneuthur ei ddyledswydd ? Ac os felly fn, ai ni ddylesid cyhoeddi rhyw reithfarn heb!aw Marwolaeth Ddamweiniol Beth arall a allesid gyhoeddi ? Beth hefyd heblaw Dyn- addiad ?' Pwy fuasai yn cael ei gyhoeddi yn euog ? Pwy lefyd, heblaw Rhys Thomas ? Byddai yn ddrwg iawn jenym ni wneyd yr un crybwylliad annhegj ond rhaid i m ddywedyd ein bod yn hollol gytuno &'t • Standard yn ei gondemniad o ddyfarniad rheithwyr Ystalyfera Nid dynia'r tro cyntaf i'r Saeson gael achos i gyhuddo r eithwyr^ Cymreig o ddangos gormod o ffafr i'w cyd- wladwyr. Yr oedd rhai o'r cyhuddiadau hyny yn hollol annghyfiawn;; ond ai annghyfiawn yr hyn a ddywedir am reithwyr Ystalyfera? Os nad oes ryw gosp i'w gweinyddu am esgeuluso dyledswydd, a'r esgeulusdod hwnw yn achos o angeu Iluaws o ddynion, pa ddyogelweh sydd mwyach i'n miloedd glowyr a'n mwnwyr ? Ai nid oes dim gwerth ar eu heinioes ? Ai dibwys eu dyogelwch ? Gwir fod llawer o lowyr rhyfygus, ynfyd, ac annynol, i'w cael, y rhai na phetrusant beryglu eu bywydau eu liunain, a canoedd oMi cydweithwyr, er mwyn ryw gyfleusdra bychan. Ond ai nid dyledswydd llywyddion gweithfeydd glo ydyw gofalu na chaffo y rhyfygwyr hyny beryglu eu hunain a'u cydweithwyr? Y mae rheolau ynperthyn i bob gwaitb glo, a swyddogion yn cael eu penodi i ofalu bod y rheolau yn cael eu cadw; ac os na fynir ufudd-dod manwl iddynt, ac os bydd diffyg o ufudd-dod yn achos o angau un neu lawer o weithwyr, diau fod y sawl a benodwyd i ofalu am gadwedigaeth y rheolau, ond a esgeulusodd hyny, yn gyf- rifol am bob trychineb a ddylynai. Mae yn rhy ddiweddar i:wella yr hyn a fu yn Ystalyfera; ond nid yw yn rhy ddiweddar i osg?i yr unrhyw mewn gweithfeydd ereill Boed i'r erthygl a ddyfynasom gael ei heffaith briodol.
[No title]
,v?nU^IO-fDEB AC E,Lor^lwr-y7 hw,i sydd yn yflogi mfer mawr o ddwylaw mewn llaw-weithfayn Naor- e m Lloegr—I r dyben o gefnogi ei weithwyr i fyned i'r w aenti'r Irf >'mi3ryd '^weddar, a ddywedodd wrthynt, I p i ^s' y caent eu cyflogau am y diwrnod hwnw lei pe buasent yn gweithio. Ar hyn, apwyntiwyd dir- prwyaeth I hysbysu y meistr os talai efe iddynt am weithio dros oriau, y deuent hefyd yn y prydnawn i gapel y Meth- odistiaid Weeleyaidd. i
Y DANCHWA DDIWEDDAR YN NGWAITH…
Y mae man y gyflafan hon yn mhell oddiwrth y Brif- ddinas; ac nid yw y ddamwain ei hun yn un o'r rhai tostaf a ddygwyddodd mewn pyllau glo. Eto, lie mae byw- ydau chwech o'n cydwladwyr yn cael eu difa, y mae y dygwyddiad yn dyfod yn un pwysig, ac y mae amgylch- iadau neillduol mewn cysylltiad a ffurfiad rheithwyr yn yr ymchwiliadau hyn ag sydd yn hawlio sylw a diwygiad. Y mae y rheithfarn yn un hynod. Y mae Saeson a Chymry hefyd yn ddiau yn falch o brawf trwy reithwyr. Ond ni fydd Cymry na Saeson byth yn falch o gyfraith rheithwyr Ystalyfera. Ymddengys i'ni eu bod yn diffygiol yn hanfod pob rheitbfarn onest, sef bod yn seiliedig ar ei thystiolaethau. Y mae tai galar y chwech aberth hyn yn condemnio y rheithfarn hon gyda grym mwy uniongyrchol a chaled nag unrhyw gyhuddiad mewn ysgnfen. Ond y mae pethau ereill i'w hadolygu yn y gyflafan erchyll hon heblaw dyfarniad hynod y rheithwyr. Diamheu v rhaid ein bod mewn cyflwr tra darostyngedig ac anwar- aidd pan na feddwn well goleuni na chanwyllau noethion i dywys y glowr yn ei orchyl llafurfawr a pheryglus. Fe gyfaddefir fod y goleuni o'r safety-lamp yn egwan ac aneffeithiol, ac heb fod bob amser yn ddyogelwch rhag y llosguwy. Trwy fod y glowr yn awyddus i fyned yn mlaen a'i waith, y mae yn cymeryd ei ganwyll. Y mae yn per- yglu ei bun ac ereill, ac yn cael ei oddef i wneuthur hyny. Lie mae y mwngloddiau yn cael eu hawyru yn briodol, y goleuni goreu yw gas, a chredwn fod y dull hwn o oleuo yn ffyuu yn awr yn ein mwngloddiau. Ond heb broffesu cynyg barn benderfynol ar bwnc mor hollol wyddonol, gallwn hawlio gofyn am ryw oleuni llai peryglus i'n mwn- gloddiau na chanwyll wer noeth.