Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

BRAD Y SEPOYS.

News
Cite
Share

BRAD Y SEPOYS. [EFELTCHIAD 0 M. J. EKRYM.] PENOD XV. AETH y ffoedigion, dan arweiniad Col. Lane, yn mhellach i'r coed, tra'r oedd y Sepoys yn parotoi ymguddfa yn y fan arall, gan lwyr benderfynu dinystrio y milwyr Prydeinig oeddynt ar ymdaith araf tua'r fan. Wedi cerdded llawer, daeth y ffoedigion i ben pellaf y goedwig, at afonig fechan, yr hon a groes- asant; ac yn mhen tua deg mynyd wedi'n hwy a gyrhaeddasant nant mewn man gyferbyn a'r lie yr oedd y Sepoys. Yr oeddynt mewn pryder dirfawr yn nghyleh llwyddiant neges Jessie, canys yr oedd swn offer- ynau cerdd y Uu Prydeinig yn awr i'w glywed yn amlwg-yr oeddynt yn agos. Yr oedd y don a chwareuid yn un araf, a rhyw bruddglwyfedd dwys i'w glywed ynddi. O'r diwedd, daeth y golofn fechan o filwyr i'r golwg. Yr loedd yn gynwysedig o filwyr o wa- hanol rgatrodau, wedi ffoi o Agra, ac yn dwyn gyda hwynt lu o wragedd a phlant, a milwyr a swyddogion archolledig, o bob gradd. Dyna'r achos o'r ymdaith araf. Yn flinedig, a llawer dan glwyfau dyfnion, teithiai y llu byehan yma o 80 o wyr, yn mlaen, gan obeithio gallu cyrhaedd llu arall, dan arweiniad y Cadfridog Wheeler, yn nghymydogaeth Cawnpore; ac am 70 milldir, trwy wlad yn llawn o wrthryfelwyr gwaedsych- edig, hwy a ymladdasant eu ffordd, gan ystaenio eu llwybrau a'u gwaed eu hunain, ac a gwaed eu gelynion. Yr oedd gruddfanau oboen i'w clywed yn y certwyni a dynid gan ychain blinedig; a mwy nag unwaith mewn ryw lecyn oysgodol i gloddio bedd bas i gladdu eu meirwon. Ie, chwareuwch chwi, dabyrddau a llorfau! Teithiwch yn mlaen, ddynion dewr! Y nefoedd a'ch nertho yn awr, canys y mae'r gelyn yn eich gwylied, ac ni wyddoch chwi. Yr oedd haul tywynboeth yr India fel eirias ffwrnes, yn pobi y dagrau poethion ar lawer grudd-llweh creisionboeth yn tywyllu llawer Uygad; ac eto, gyda gwefusau colsynog, yr oedd y swyddogion yn ecisio siarad yn galonus wrth eu milwyr; ac, 'Yn mlaen !-yn mlaen!'—oedd y lief. Gwyddent fod gelynion ffyraig o'u hoi, ond ni wyddent y perygl oedd o'u blaen. Ac yn awr, parodd y Colonel oedd yn llywyddu i'w farch sefyll am ychydig enyd, ac edrychodd yn garedig ar y tri phlentyn oedd ar ei gefn; amneidiodd ar y Major i ddod ato, a phan ddaeth, gofynodd, 'A ydych chwi'n meddwl y gallwn gyrhaedd y coed acw, Oliphant?' Gobeithiaf hyny, syr.' 'Os gallwn, ni a orphwyswn yno am ychydig amser; ac efallai y eawn hyd i ddwfr yn agos i gynifer o goed.' Dechreuasant deithio drachefn, nes dyfod yn agos i'r coed. Yna clywent ysgrech uchel o'r goedwig, a safodd y golofn. Yr oedd y waedd mor dorcalonus a dychrynllyd, fel ag i wneyd i bob cymydog edrych y naill ar y Hall mewn arswyd. 'Beth oedd hyna?' gofynai y Colonel. 'Ryw waedd ryfedd o'r coed,' atebai y Major. 'Ai llais dynol oedd?' 'Prin y gwn i; ac eto yr oedd yn debyg. Ond y mae'r coedwigoedd Indiaidd yma mor llawn o neiniau rhyfedd, ar brydiau.' 'Gwmni Ysgafn, yn mlaen!' ebe'r Colonel. Ufuddhaodd y Cwmni Ysgafn, gyda chymaint o bybyrwch ag a ganiataai eu haelodau Uuddedig; fcc yr oeddynt ar ffln y goedwig. Yno, yn nghysgod y coed, yr oedd Col. Lane, a 1 gyd-ffoedigion, yn gwyro yn isel, ac yn llawn pryder yn nghylch llwyddiant neges Jessie. Ond och yr oedd ei chenadaeth hi.wedi ffaelu! 11 'Y maent yn dod!—yn dod!' meddai Col. Lane, wrth glywed eerddediad y golofn Seisnig yn eglur, yn gystal a swn y tabyrddau a'r llorfau. 'Y maent yn dod, a methodd Jessie a'u rhybuddio o'r perygl sydd yn eu haros. Druan o Jessie, beth all fod wedi dygwydd iddi ? 0, gwyn fyd na fuaswn i wedi myned fy hun yn ei lie hi! Ond y mae yn awr yn rhy ddiweddar. Hargrave, yr wyf am eich gadael yn awr am ychydig. Y mae dyledswydd yn fy ngalw. A ydych chwi yn clywed, Hargrave ?' Yr oedd Col. Hargrave wedi ei ddodi i orwedd wrth fon coeden, a Helen Edwards wedi dodi darn o shawl rwygedig ag oedd gyda hi o dan ei ben. Yr oeddynt wedi sylwi ei fod ef yn ochen- eidio yn ddwfn, a thynu congl y shawl dros ei wyneb, i'w orchuddio, fel y tybient hwy, rhag gwres yr haul. Ond yn awr, gan nad oedd yn ateb nac yn symud, fflachiodd drwg-dybiaeth ar draws meddwl Col. Lane. 'Dduw da!' ebe fe, gan dynu congl y dilledyn oddiar wyneb y swyddog, a'i ollwng i lawr wedi'n yn araf. Dododd ei fys ar ei wefus, gan edrych ar Wootton, yr hwn oedd yn ymyl. A yw ef yn cysgu, syr ?' Ydyw, yn cysgu i beidio dihuno byth mwy! Ond taw! paid gadael i r boneddigesau wybod. Bydd wyliadwrus yn awr, tra y rhedwyf i ry- buddio y milwyr yna o'r perygl. 0, beth a ddaeth o Jessie, tybed ? Gyda hyny, rhedodd a'i holl nerth o'r coed, a gwaeddodd, Sefwch! sefwch! Marchlu yn ym- guddio yn y coed! sefwch Gwelodd a chlywodd y Sepoys ef, a dyna gawod o fwledi yn cael eu golhvng ato. Tarawodd un ei gap, a rhusglodd un arall groen ei foch; ond efe a barhaodd i waeddi, 'Sefwch! Marchlu y gelyn yn y coed l' ac yna tarawwyd ef gan fwlet yn ei wddf, a chwympodd; ond cododd drachefn, pan ddaeth ryw haner dwsin o'r Sepoys ato, gydag udiadau o ffyrnigrwydd. Yr oedd y Colonel wedi ei glywed, a gwaedd- odd yntau, [mewn llais fel taran, ar ei wyr, Sef- wch!' Yna dywedodd is-swyddog archolledig wrth y Cwmni Ysgafn, Dylynwch fi, fechgyn! Swyddog Prydeinig yw hwna! Dylynwch fi! Gwaredwn ef!' Dyrchafodd y dynion floedd; ac mewn mo- ment arall yr oedd Col. Lane yn nghanol brwydr, yn mha un yr oedd gwyr meirch a gwyr traed, cleddyfau a bidogau, ergydion, dyrnodiau, pwyad- au, rhegfeydd mewn Hindwstanaeg a Saesneg, gruddfanau ac ysgrechain, yn gymysgedig. Yn fuan, gorweddai yr hanes dwsin marchogion, a ruthrasant ato o'r coed, yn feirwon ar y llawr, a chyda bloedd uchel o 'Hwre!' amgauodd y Cwmni Y sgafno gwmpas eu swyddog euhunain a Col. Lane. Yn y cyfamser yr oedd penswyddog y gwyr traed wedi trefnu ei wyr i ymladd, ac wedi dan- fon y gwragedd a'r plant o'r neilldu. Gwnaeth marchlu y Sepoys ruthr cyffredinol, ond der- byniwyd hwynt gyda thair cawod o ergydion oddi wrth y Prydeiniaid, a dechreuasant ffoi yn ol i'r coed. Ymunodd ychydig wyr a ffurfient y Golofn Ysgafn a'r brif gatrawd, ac arweiniodd Col. Lane hwynt i'r man lie yr oedd Helen Edwards a Mrs. Lloyd yn dysgwyl gyda phryder annesgrifiadwy. I Chwi a'n hachubasoch ni oil, Col. Lane,' ebe'r Colonel llywyddol. (Yr oedd y ddau swyddog wedi adnabod eu gilydd.) Efe a chwanegodd, Ond yr ydych wedi cael eich archolli yn dost, mae arnaf ofn ?' I Na-wedi ei ladd! Na, dim pwys. Tarawwyd fi yn fy ngwddf, ac yr wyf yn lied wan trwy golli gwaed. A yw eich meddyg gyda chwi ?' Rhedodd swyddog trwy y coed at y Colonel, a dywedodd, I Gorchymynodd Mr. Barnard fi i'ch hysbysu, syr, fod llu mawr o elynion ar ein gwarthaf eto, gyda magnelau.' Syfrdanwyd y Colonel gan y newydd. Ond gorchfygodd ei hun yn ebrwydd, a gwaeddodd, ?!:V§ i-ix .iiV.f IvXtrih iit> Fy newrion wyr! gadewch i ni eu gwynebu fel Prydeiniaid. Dichon eu bod yn rhy luosog i ni, ac y mae ganddynt fagnelau; ond gwyddom sut i ymladd, a sut i farw hefyd, os bydd raid!' ? Erbyn hyn, yr oedd llu mawr o wrthryfelwyr wedi ymuno a'r marchlu Sepoyaidd a ffoisant i'r coed. Gorchymynodd y Colonel i'w wyr fyned yn mlaen mor gyflym ag y gallent, gan ymdrechu cyraedd yr ochr arall i'r coed. Danfonodd y Se- poys ergydion trymion atynt, y rhai a laddasant amryw, ac archolli ereill. Aeth Major Oliphant, a gwaed yn diferu o'i dalcen, o gylch pa un yr oedd ef wedi rhwymo cadach, a dywedodd wrth y Colonel, 'Syr, y mae'n rhaid i ni un ai speicio eu magnelau, neu eu cymeryd oddi amynt. A gaf fi wneyd y cais ?' 'Ceweh.' Pwy ddaw gyda mi ?' Atebwyd ef gan tua 25 o ddynion-rhai o hon- ynt a'u gwaed yn rhedeg o'u harchollion. ? I Colonel,' ebe'r Major; y mae ——, Nefocdd fawr, y mae'r Colonel wedi ei ladd!' Oedd- wedi ei ladd y foment hono, gan ergyd o fagnel. Fflachiodd llygaid y Major gan ddigofaint. Yr oedd ei ychydig wyr yn barod i'r ymosodiad an- nghyfartal. Allan a hwynt o'r coed, i ganol y gelynion, gan geisio myned at y magnelau. Aeth yn ymladd llaw-law rhwng y ddwy blaid, ac yn mhen deg mynyd yr oedd un o'r magnelau wedi ei speicio yn deg, ac un arall wedi ei throi. Ond yr oedd haner gwyr y Major wedi eu lladd, a phob "gobaith am lwyddiant wedi darfod. Ond dal ati i ymladd fel llewod yr oedd yr ychydig wyr, er eu bod yn gweled yn amlwg mai eu lladd a gaffent. 0!' ebe'r Major, 'gwyn fyd na f'ai Wheeler yma! Nis gall fad yn mhell!' Ai ysbrydoliaeth oedd ar y swyddog dewr ? Yn nghanol y gyflafan, fe ddaeth bloedd fawr, groch, hyd i'w glustiau, a thrwy y tan a'r mwg, gwelai lu o filwyr mewn dillad gleision yn rhuthro i dewdwr y frwydr. 'Hwre!' bloeddiai y Ma- jor.' 'Hwre! Dyma Wheeler yn dod Crynwyd y llawr gan drwst magnelau catrftwd y Cadfridog Wheeler, yr hwn oedd wedi clywed yr ergydio o bell, ac wedi rhedeg gyda'i wyr at y fan. Carlamodd swyddog at Major Oliphant, a dywedodd, Yr ydych wedi gwneyd mwy nag sydd yn ngallu dynol, bron. Ciliwch yn ol, ac ni a orphenwn eich gwaith.' Mewn yehydig fy- nydau, yr oedd y Sepoys wedi eu chwalu, ac ug- einiau o honynt yn gorwedd yn gelaneddau ar y Ilawr. Peidiodd y trwst, a chiliodd y mwg. Yr oedd y fuddugoliaeth wedi ei henill. Yn nghanol y gelanedd, disgynodd Syr Hugh Wheeler oddiar ei farch, a dygwyd y boneddigesau ato. Pan dde- allodd Mrs. Lloyd fod y Cadfridog yn myned tua Chawnpore, hi a ddywcdodd, 1 0, syr, a wyddoch chwi rywbeth am fy ngwr ? A yw ef yn Cawn- pore ?' '• v. :-> H Beth yw ei enw Major Lloyd, o'r —ain.' Major Lloyd! Anwyl gydwlad-wraig, y mae yn dda genyf eich hysbysu y gall ef un ai myned gyda chwi i Cawnpore, neu chwi gydag ef, canys y mae ef gyda ni. Anderson, rhedweh i ddweyd wrth Major Lloyd fod ei eisieu yn ebrwydd.' Dyrchafodd Mrs. Lloyd druan ysgrech o orfol- edd; ac yn mhen deg mynyd yr oedd yn mreich- iau ei gwr. (I harhau)

[No title]