Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

COLOFN Y PLANT. I

News
Cite
Share

COLOFN Y PLANT. I (DAN OLYOIAETH MOELONA.) I Hen Ddull Cymreig o Rifo'r Misoedd. I 1fis Ionawr a mis Chwefror I roddi gwellt l'i- ych, A misoedd Mawrth ac Ebrill I ddall y brithyll brych Mai, Mehefin hefyd, Gorffena' gyd ac Awst, A Medi, Hydref, Tachwedd, A Rhagfyr cig ar drawst. PWYI Gwobr Ned Puw. I (Lled-gyifeithiad.) Un o blant bach Canada oedd Ned Puw, yn byw mewn ffermdy ynghanol y wlad. Liane bach siriol ac iach oedd, ac yr oedd pawb yn ei hoffi. Nid oedd iddo froclyr a chwiorydd, ond yr oedd ganddo berthynasau ereill—cefnderwyr a chyfnitherwyr, ac ewythr a iiiodryb- yn byw ar fferm arall yn yr un rhan o'r wlad. Ai Ned a hwythau i weled eu gilydd yn fynvch. 1-n bore, yr oedd Ned yn fwy llawen nag arfer yn mynd tua thy ei berthynasau, oherwydd marchogai ferlyn bycban hardd. Nid ei iddo ef oedd y merlyn, ond un logasai dad iddo am y dydd. Diwrnod oer o aeaf oedd, ac yr oedd yr eira yn drwch ar y ddaear, ond ni hidiai Ned am hynny. Yr oedd arno frys i gyrraedd ty ei ewythr, lie yr oedd cwmni mawr o bobl i fod, a chwareuon o bob math, a gobeithiai yntau ennill y wobr am redeg. Buasai am ddyddiau yn parotoi ar gyfer y rhedegfa hon, ac yr oedd yn medru rhedeg yn dda. Brysia, Sambo," meddai wrth y merlyn, fel pe bai hwnnw yn deall. Mae'r rhedegfa yn dechreu am un-ar- ddeg. Nid allai Sambo fyned yn gyflym iawn, gan gymaint o eira oedd ar y ddaear. Ofnai Ned na chyrhaeddai mewn pryd i gymeryd rhan yn y rhedeg- fa. Trueni fyddai hynny, gan y rhoid medal arian yn wobr, ac yr oedd yntau wedi meddwl cymaint am ei gael. Yr oedd wedi teithio tua hanner y ffordd, pan y daeth at fwthyn unig. Yno trigai hen wr a hen wraig o'r enwau Bob a Ffani Morgan. Gwelsai Ned yr hen wr lawer gwaith yn gweithio yn yr ardd, ond ni fu yn siarad ag ef na'i wraig erioed. Yr oedd y ffordd yn gwella fel y deuid i gyfeiriad y bwthyn, a phan y carlamai'r merlyn bach yn ys- gafn heibio, clywodd Ned lais gwraig yn galw arno. Arhosodd a throdd i edrych. Ffani Morgan oedd yn galw, ac ymddanghosai mewn gofid mawr. "0, machgen annwyl i," ebai, a ewch chwi ar gefn eich merlyn i'r dref i gyrchu'r meddyg ? Mae fy mhriod wedi ei gymeryd yn wael. Mae mewn poen- au enbyd, ac nid oes gennyf fi neb allaf anfon." Fr dref 1" ebe Ned. Mae honno bum milltir oddiyma," a meddyliai gydag ochenaid am y rhedegfa a'r medal arian. Ni wiw i mi adael fy mhriod," ebe'r wraig, ac ofnaf ei fod yn wael iawn. -0. gwelwch yn dda i fynd." Ni wyddai Ned beth i wneud. Yr .oedd yn hwyr. yn barod, ac os teithiai ddeng milltir arall, byddai'r rhedegfa drosodd. Heblaw hynny, nid un o'i gyfeillion ef oedd Bob Morgan. O'r braidd yr adwaenai ef Bob na'i wraig Ffani. Pa raid iddo golli ei bleser er mwyn rhywun dieithr felly? Dyna feddwl cyntaf Ned, yna gwrid- ..odd gan gywilydd. Rhaid i mi helpu'r hen bobl, beth bynnag gyst hynny i mi," ebai wrtho ei hun. "Blin genyf golli'r rhedegfa,, ond does dim i'w wneud." Disgleiriai ei ei lygaid, ac ebai wrth y wraig, Ewch chwi yn ol at eich priod, bydd popeth yn iawn. Gwn ym mha le y mae y doctor yn byw, a chyrchaf ef yn union." Trodd y merlyn i gyfeiriad arall. Sambo bach," meddai, mae gennyt daith bell o'th lfaen." Chwythai'r gwynt yn arw, a deuai'r eira i lawr yn dew, nes gwneud y dydd yn dywyll fel nos. YmddanghoBai'r daith i Ned yn ddiderfyn, ac erbyn hyn I yr oedd pob gobaith am ennill y medal ( wedi diflannu. O'r diwedd cyrhaedd- odd dy'r meddyg a chanodd y gloch. Daeth y forwyn i agor y drws. I Os gwelwch yn dda," ebe Ned, dywedwch wrth y meddyg fod yr hen I Bob Morgan yn wael iawn, a gofynnwch a fydd mor garedig a mynd yno ar ei I union." "Mae'r meddyg ar fynd allan," ebe'r ( forwyn, "dyma'i gerbyd. "Rhoddaf eich neges iddo. Pe baech bum munud yn ddiweddarach buasech wedi ei golli." Araf y teithiwyd yn ol, gan fod y merlyn wedi blino, ac y roedd yn un o'r gloch pan gyrhaeddodd Ned dy ei ■ewythr. Da iawn oedd ganddo roi y merlyn i ofal y gwas a rhedeg i'r ty cynnes He chwareuai'r plant. Dyma Ned! Dyma fe wedi dod o'r diwedd," gwaeddai?r plant, tra cerddai Ned a'll wyneb bochgoch iach i fewn i'r ystafell'l (I'w barhau.) )

Advertising

Cyfarfod Anrhegu MarchogI…

Hirwaun. I

Oddiar Lechwedd Penrhys.

Nodion o'r Onllwyn a'r Cylch.

I Colofn y Gohebiaethau. ;…

Advertising