Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Advertising
GOOD NEWS FOR ABERDARE AND MERTHYR DISTRICTS! In preparation for the Annual Stocktaking at the close ot their financial. year ending March 31st, Bevan & Co., Ltd., Cardiff, Pontypridd, Swansea, &c. are offering the whole of their vast stocks of everything required for Furnishing throughout regardless of cost! The Special attention of Easter Wedding Couples Is directed to this Immense Sale, which affords them the opportunity of obtaining the Reliable Goods of this well-known Firm greatly under regular Prices. Delivery Free up to 200 Miles.
Y Stori.
Y Stori. LLWYBRAUR SARFF. Yn y diwedd efe a frath fel sarff, ac a biga fel neidr." GAN M. H. CHARLES. (Parhad.) VI. Ni ddaeth Evan Powell i'r cwrdd y Sul dilynol, a dywedai na sangai ei drothwy cyhyd ag y byddai Caleb Jones yno. Ffyrnigai a bygythiai. Amlwg ydoedd fod yr un drwg fel pe wedi cymeryd meddiant o hono, a gorfu i Elen Powell ddioddef llawer y dyddiau hynny. Yr oedd y frwydr wedi dechreu o ddifrif, ac arweinwyr y pleidiau yn 'amlwg iawn. Gwnaeth y gelyn ei oreu er drygu Caleb Jones, ond daliodd ef ei dir yn ardderchog. Nid ofnai neb, gwelai'r goncwest. Heriai Mrs. Harries bawb, ac ni chollai un cwrdd; ond yr oedd yn ym- wybodol fod yr olwyn yn troi, a bod Troedyrarth yn cael ei weddnewid. Yr adeg honno aeth y si ar led fod Ann PowelI-merch Pantybrenin-yn mynd i briodi John Williams, mab y Tyddyn Bach. Synnai pawb, oblegid ni chyfrifid plant y tyddynod yn ddi- gon uchel o waedoliaeth i gymysgu a phlant. ffermydd mawrion. Gwas- anaethu ar hyd y ffermydd y bu John Williams nes yr aeth i gymoedd poblog Morgannwg i weithio o dan y ddaear. Deuai adref, unwaith neu ddwy yn y flwyddyn. Treuliai yr adegau hynny lawer iawn o'i amser ym Mhantybrenin; ond ni ddych- mygodd neb fod unrhyw gyfathrach rhwng Ann ac yntau. Disgynnodd y newydd ar glustiau Evan Powell ac Elen ei wraig fel taranfollt. Anfon- wyd am Ann i'w presenoldeb ar un- waith, ac er eu mawr syndod dywed- odd wrthynt ei bod wedi priodi y dydd blaenorol, a danghosodd iddynt ei modrvvy briodasol. Neidiodd Evan Powell ar ei draed, a'i nwydau braidd yn ddilywodraeth. Ceisiodd Elen ei daweli, ond yr oedd yn ofer. Gorch- mynnodd i Ann adael y ty ar unwaith. Boddlonai iddi gael ei dillad, ac hefyd y cerbyd i'w hebrwng i ble bynnag y carai fynd. Ni chawsai gysgu un noson o dan ei gronglwyd ef. Aeth Ann i'r Tyddyn Bach y noson honno, ac ymhen ychydig ddyddiau ymadaw- odd gyda'i gwr i gymoedd Morgann- wg. Dyddiau chwerw oedd y dyddiau hyn i Elen Powell. Meddyliodd lawer gwaith y gallasai ddiogelu ei hunig blentyn, ond yr oedd yr orchest yn ormod. Daliodd hi droion yn chwar- eu a'r sarff, ac ofnai yn awr fod ei dinystr yn agos, yn enwedig gan ei bod wedi ei gyrru o'i chartref. Teimlai awydd angherddol i fynd ar ei hoi, ond methai weld ei ffordd yn glir. Bellach, nid oedd ganddi ddim i'w wneud ond ei chyflwyno i ofal yr Hollalkiog. Aeth tair blynedd heibio, ac ni chlywyd son am Ann. Ni wnai Evan Powell ganiatau i neb siarad Ag ef yn ei chylch, ac ni feiddiai hyd yn oed Elen ddweyd gair wrtho am dani. Cynhyddu a wnaeth dirwest yn hroedyrarth. Sefydlwyd cymdeithas ddirwestol yno, a Band of Hope" i'r plant. Caed y diaconiaid i gyd yn ddirwestwyr, a theimlodd y rhan fwy- af o'r aelodau y dylasent hwythau wneud yr un fath. Brwydrodd Caleb Jones yn galed, a gwelodd fod y frwydr yn troi o ochr y saint," a llawenychai ei enaid. Erlid a gwawdio a wnai Evan Powell a'i ganlynwyr; ond cerdded ymlaen yn hyf, gan "edrych ar Iesu," a wnai Caleb Jones. Un dydd, daeth i glustiau rhai o'r dirwestwyr fod yr Angel" i fyned dan forthwyl yr arwerthwr. Aed a'r new- ydd i Caleb Jones. Anfonodd yntau ar unwaith gais at y perchennog yn gofyn a gawsai eglwys Troedyrarth y cynnyg cyntaf arno, gan ei fod yn andwyo yr Achos, a gwrthweithio'r da. Caed y cais; ac er i'r bragwyr a'r tafarnwyr fod ar eu gore, ac yn cynnyg i'r perchennog gannoedd o bunnau yn fwy na'i werth, llwyddodd gweinidog Troedyrarth i ennill cyd- vmdeimlad y perchennog, a chael yr "Angel" am bris rhesymol. Gorfu i Mrs Harries fyned allan o honno. Tynnwyd v "Trade Mark" i lawr. Glanhawyd y ty, a phurwyd ef a gweddi a chan diolchgarwch i Dduw am y fath waredigaeth. Fel hyn y di- ddyrriwyd y dafarn o bentref Troedyr- arth, a'r wlad a gafodd lonydd. Cyn pen blwyddyn wedi symudiad John Williams a'i briod i Forgannwg, yr oedd y sarff wedi torchi am Ann, druan, ac yn tynhau fwyfwy am dani bob dydd. Aethant i fyw i ganol y temtasiynau, a hithau yn rhy wan i ddal y leiaf o honynt. Cyn hir daeth yn adnabyddus fel un a feddwai yn barhaus, er fod ei gwr yn ddirwestwr aiddgar a selog, ac yn gwneud yr oil a fedrai er ei diogelu. Dringai ef yn raddol drwy ei ddiwydrwydd i safle a chyfrifoldeb yn y lofa. Enillai gyflog da, ond gwariai Ann y cyfan i borthi ei blys. Ganwyd iddynt ddau o blant, ond yr oedd eu cartref yn dlawd a digysur. Gorfu i'w gwr cyn hir gadw ei gyflog rhagddi, a phrynnu angen- rheidiau'r ty ei hunan, ond yr oedd y sarff i fyny a phob ystryw, ac er cael gwirod, gwerthai Ann ei dillad. Cariai yn barhaus i'r "pawn" yr anrhegion gwerthfawr a gawsai gan ei rhieni. Ar rai adegau, er hynny, teimlai awydd angerddol am ddiwygio, ond iyr oedd y gelyn yn gryfach na hi, a'r hen sarff wedi ei hudo. Twyllai ei gwr yn fynych, ac esgeulusai ei phlant bach. Dyna'r modd y treuliai Ann-unig ferch Pantybrenin-ei bywyd priodas- ol. Ymdrybaeddai weithiau yn y llaid. Yr oedd barn Duw megis arni, ond ar ambell awr pan gofiai'r dyddiau gynt, hiraethai ei chalon am Bantvbrenin, ac am ei mam dyner fu yn taflu cysgod ei chynghorion ar lwybrau ei bywyd; a daeth llu o bethaul i'w chof yr hoffai eu hang hofi o-gwela i'r triciau cyf- rwys, a'r yfed ;diarwybod i'w mam hefyd yr anwireddau a wnai er ei thwyllo, ac am y gyfrinach gudd a fu rhyngddi a Mrs Harries yr "Angel." Aeth yno droion, yn ddiarwybod i'w mam, er cael y "Special Blend" wedi'r tro anfarwol hwnnw yng nghwmni ei thad. Ac er mwyn anghofio'r pethau hynny, brysiai i'r dafarn agosaf. I (I barhau. )
I Eisteddfod Heolycyw.
I Eisteddfod Heolycyw. I GAN "CREUDDYN." Llongyfarchwn eglwys y Bedydd- wyr am drefnu i gynnal Eisteddfod yn flynyddol. Y maent felly yn rhoddi cyfle i'r ieuenctyd i feithrin eu talentau mewn gwaith da yn eu horiau ham- ddenol. Nos Sadwrn, Ebrill 4ydd, cynhaliwyd y bedwaredd Eisteddfod yn Ainon, a throdd allan yn llwydd- iant tu hwnt i arfer. Yr oedd y capel yn orlawn, a chafwyd cystad- leuaeth luosog ar yr oil o'r testynnau Llywyddwyd gan Mr Llewelyn Owen, Penybont. Beirniad y gerddoriaeth ydoedd Mr J. Simon Davies, Peny- bont; yr amrywiaeth, Mr J. Edward- Evans, Pencoed; gwobr gwdau, Mrs E. Clatworthy, Heolycyw. Cyfeilydd, Mr Gwilym Harry, B.A., Heolycyw. Y trysorydd oedd Mr James Pal- freman. Yr ysgrifennydd ydoedd Mr Dewi Thomas, a gwnaeth ei waith yn ganmoladwy fel arfer. Gwobrwy- wyd y buddugwyr ar y gwahanol destynnau fel y canlyn Cystadleuaeth ar chwareu y ber- doneg i rai dan 14 oed, "Spring- time," goreu, Annie Gethin Jones, Bryncethin. Unawd i fechgyn dan 12 oed, goreu, D. Rees Davies, Bryngarn. Cystadleuaeth i ferched dan 14 oed, "I am the Way" (Sankey), cyd- fuddugol, Gwen Lewis, Heolycyw, a J. Edwards, Llwyniwrch. Adroddiad (agored), rhanwyd rhwng Miss Gwen Thomas, Penybont, a Mr John Griffiths, Black Mill. Beirniadaeth y cydau, goreu, Mrs Leyshon, Heolycyw. Cystadleuaeth (9) ar unawd bass, "Gwlad fy Nghalon" (D. Thomas). Wedi cael beirniadaeth fanwl dyfarn- wyd Mr D. J. Jones, Maesteg, yn oreu o drwch croen ei ddanedd. Unawd i ferched, "O'r Niwl i'r Nef," goreu, Miss S. J. Lewis, Pen- coed. Cystadleuaeth, yr her unawd, agored i unrhyw lais, "Lead Kindly Light" (D. Pughe Evans). Cystadleuodd deg. Dyfarnwyd y wobr o £ 1 is mewn ymdrech galed i Miss Webster, Abercynffig. Y goreu ar unawd Tenor ydoedd Mr Evan Samuel, Pencoed. Cystadleuaeth i rai darf 16 oed ar y berdoneg, chwareu, "Rosetta." Cyd- radd Daisy Jones Palfreman, Heoly- cyw, a Gwen Jones, Brynna. Cystadleuodd dau gor ar ganu "Pwy welaf o Edom yn dod." Cor Coity, dan arweiniad Mrs G. R. Griffiths, a Chor Heolycyw, dan ar- weiniad Mr Thomas Owen, Glan- gwili. Wedi cael beirniadaeth fanwl dyfarnwyd Coity yn oreu o ychydig. Cynhygiwyd diolch i'r llywydd a'r beirniaid gan Mr Thomas Owen, ac eiliwyd gan Mr James Palfreman.
I Beirniadaeth
Beirniadaeth I Ar Gyfansoddiadau yn Eisteddfod y Cymdeithasau Unedig, Caerdydd, Mawrth 18, 1914. 1.—Cywydd—" Bro Morgannwg." Ni anfonwyd i'r gystadleuaeth hon ond un cywydd, a gresyn hynny, ar des- tun mor swynol. Y mae Morgan yn gynghaneddwr digon graenus, er nad oes fawr newydd-deb na nerth yn ei linellau. Gallasai osgoi llinell fel- 0, Fro hoff! Celf wna fawrhau" a dylasai wybod mai "berth" ac nid "werth" yw'r gair priodol. Wedi dy- wedyd hyn, rhaid ychwanegu fod cryn dipyn o swyn syml yn y cywydd, er nad oes yma linell na braich gofiadwy. Am nad oes yma gywyddwr gwell, gwobrwy- er Morgan. I 2.-Penillion Telyn. Cystadleuodd tri ar y penillion telyn, eithr ychydig yn siomedig yw'r gystad- leuaeth. Y mae Bret am gynnyg at ddoniolwch, ac y mae'n bur ddigrif, chwarae teg iddo. Amheuaf, er hynny, a oes gan- ddo darawiad awenyddol o'r dechreu i'r diwedd. Sonia am 'Ion a llawen,' a cheir ganddo sillafgoll trwstan fel- Y delyn'n methu dala." Wele bennill o'i waith Rhown floedd i'r Doctor ddod i'r Ilys, Roi bys ar bulse yr adrodd; A William John, rhoed wybod lion Pwy gor gerbron a gariodd; A Roberts mwyn, rhoed glywed tine Sawl potel inc a iwsiodd." Y mae gan Ap Dewi well gwaith. Can yntau ar alaw "Pen Rhaw," ond y mae ganddo rai llinellau anystwyth, megis Dyma wlad y geninen werdd." "A'i halawon mad digymar. Aneglur ac anghysylltiol hefyd yw di- wedd y pedwerydd pennill: Cymru Fydd—Eisteddfod fyw Dan fendith Duw a'i ddoniau." Disgwylid rhyw gymaint o dine y gynghanedd o ganu ar y mesur hwn, eithr ni cheir gan Ap Dewi ddim o'r fath. Canodd y Tant Per hanner ei benillion ar gyfer Dull y Gogledd, a'r hanner arall ar gyfer Dull y De. Cynghan- edda'n gryf, er nad yw'r llinellau i gyd mor naturiol neu ergydlym ag y dymun- id. Y mae ganddo yntau un llftiell gloff, sef- Ceir yma gawell a chastell can, a gwell fuasai cyfodliad cyfan na "chyn- dyn—ddrycin." Gresyn na anfonesid i mewn well gwaith, ond y goreu, yn ddi- betrus, o'r trl eystadleuydd yw'r Tant Per. 3.-Englyn-" Yr Ymfudwr." I Cystadleuodd deg, ac er fod pob un o'r englynion yn gywir o ran cynghan- edd, nid oes yma un a "stamp y goron" arno. Teg ychwanegu nad oes yma englyn sal iawn ychwaith, ac fod y goreu a'r gwaethaf yn weddol agos i'w gil- ydd, o ran eu gwerth. Nid ydys am fanylu ar bob un. Hwyrach y gellid rhestru'r ymgeiswyr yn y drefn a gan- lyn: Idwal, Heave Ho, Gwerinwr, Anti- pode, Min y Mor, Ar Frys, Gwell Peidio, leuan, Hen Forwr, a Chapten Cook. Y ddau ddiweddaf sy'n peri peth trafferth i feirniad. Wele englyn Hen Forwr: Un am elw'n ymholwr,—ac i'w daith Cwyd hwyl yw'r ymfudwr A theifl hiraeth fel arwr I ddwfn aig, yn ddiofn wr." Gresyn yw dilyn 'arwr' a 'diofn wr.' Wele eto englyn Capten Cook: Dewr am fad yw'r ymfudwr,—dyn a'i gred Yn gryf mewn gwell cyflwr; Gwae'r moroedd, a grym arwr, Dan boer gwawd wyneba'r gwr.' Y mae hwn yn gryfach englyn na'r un o'r lleill, ond nid hoff i mi yw 'dan hoer I gwawd.' Wedi hir betruso, credaf, er hynny, mai Capten Cook sy'n euro. 4.-Pryddest y Gadair—" Cerdd Goffa Cochfarf." Y mae yma dri bardd yn ymgeisio am > y gadair. Haeddai'r diweddar Goch- farf gerdd goffa deilwng, ar gyfrif ei wasanaeth i Gaerdydd, i Gvmru, ac i'r Gyniraeg. Anffyddlondeb i bortread cywir ohono, er hynny, yw son am dano fel arweinydd Eisteddfod dan gamp, neu fel areithiwr hyawdl. Gwaeth na hynny yw ei bortrou fel awenydd gloyw, neu feistr ar y gynghanedd. Am y marw. dim ond y da," ebe'r hen wireb Ladin. Dylid ychwanegu ati, er mwyn marwnadwyr Cymru, "Am y marw, dim ond y gwir." Y mae gormod o ormod- iaeth yn y cerddi hyn, o bryd i'w gilydd. i Dwy bryddest ganolig sydd yma, ac un gerdd ragorach o gryn lawer. j Tant y Wiad.-N?id yw Tant y Wlad I heb beth medr fel bardd, ond y mae j ganddo lawer i'w ddysgu eto cyn 1 medru'r gamp. Y mae'i bryddest yn frith o gyf-odliadau salw, megis, "Gair- 'h eir ganddo Saer," "glyw-gwiw," a cheir ganddo wallau iaith fel "nes ail aeth i'r angel," ac "0 na dawela y ddrycin," heb son am eiriau tebyg i 'Sacson.' Nid thai nemor sylw i'w ffigyrrau, a'r canlyniad yw llinellau fel y rhain: Os nos oedd ei fynd i'r werin, Nid oedd iddo'i hun ond haf." Ow, syrthiodd y babell luniaidd, Ond byw yw y blodau gwyn." neu, a gwaeth fyth, Ac am Gaerdydd gwynebodd yn dal blanhigyn ir." Dipyn yn hen yw ei gynllun. Yr oedd yn un o'r goreu, pan ganai Hiraethog ar ol Williams o'r Wern. Aeth yn ys- trydebol, erbyn hyn, ac ystrydebol a di- awen yw'r dull hwn o symud at y llefar- wr nesaf: Gwaith Diwyd Cymdeithas yn nesaf lefarai, Gan annerch Gwladgarwch y gwr dys- tiolaethai." Dywedir llawer o bethau priodol ddigon o dan y cynlun hwn, ond heb raen awen, lawer pryd, eithr a fTToreth o ym- adroddion ansoddol; ac nid portreu Cochfarf yw canu fel hyn "Man addas i'r duwiau oedd gwyl yr Eisteddfod, A Chochfarf gai winoedd yn gwenu o'i defod, O'i llwyfan caed gwleddoedd o winoedd ei ddoniau, A'r dyrfa'n ddiflino yn drachtio o'r ffrydiau. Rhaid wrth loywach gwaith a chywir- ach portread na hyn. Dagrau Cymru.—Y mae gan Ddagrau Cymru lanach gwaith, a gloywach awen- yddiaeth. Ceir ganddo yntau "cym- rwyd" am "cymerwyd." Y mae 'cymryd' yn iawn, ond nid oes gwarant hyd eto i 'cymrwyd.' Cyfodli'n salw hefyd yw priodi 'gwladgarwch' a 'chen- edlgarwch.' Seif y bryddest hon yn es- mwyth a hyfryd, a phleser yw ei dar- llen, ond disgyna'r ymgeisydd yn sydyn, dro ar ol tro, a cheir ganddo linellau moel, fel: Mae ffeithiau oes o aberth Yn troi'n ganiadau'n awr." Ac o'r braidd y mae gan Dant y Wlad foelach llinellau na'r rhain: Nid oedd un mudiad yn y dref, Kac un ychwaith yng Nghymru 0 blaid daioni, nad oedd llef Ein Cochfarf dl'osto'n lledu." Canu ar ei gyfer y mae'r bardd, pan gan: Yn enw Cymru safai'n saer I adeiladu'i phennod a dywedyd yr hyn nad yw wir y mae, pan ddywed sylwedd y cwpled hwn ddwywaith ddrosodd: "Englynu a barddoul Oedd ef wrth drin y coed." Wedi'r cyfan, y mae hon yn bryddest gyflawn a swynol iawn, er ei hanafau amlwg. Calon Drom.-Y mae Calon Drom yn addfetach a grymusach awenydd o gryn fesur na'i gydymgeiswyr. Y mae ei Gymraeg yn firain a glan, ac y mae graen a chyfaredd ar bob rhan o'i gerdd goffa. Os oes bai amjwg ar y bryddest, yr hoffter o wneuthur 'sylwadau' yw hwnnw, ae, ar dro, braidd nad yw'r sylw yn swnio'n ddieithr i wr na wyr fawr am ddeddfau tyfiant. Ebe'r bardd "Nid y taranau, ond y mellt sydd yn addfedu'r grawn." Gall hyn fod yn gywir, ond gwell fyddai'r gerdd pe bai llai o bregethu vnddi. Y mae'r darlun a geir o Goch- farf yn hynod o deg a chywir a chyflawn, ac nid oes yma ormodiaeth, oddigerth yn y llinellau Pwy ar y llwyfan o barotach dawn? A phwy jnor llawn o afiaith a thycli ?" Bydd yn bleser gan lu o gyfeillion ein I cyfaill ymadawedig ddarllen y gerdd hon, a dylid ei chyhoeddi yn ddiymdroi. Heb betruster o'r lleiaf, Calon Drom biau'r gadair. GWILI.
Advertising
t O.weh Iml siarad a ohwi am I Ddiffyg Gwaed ) A Cyfansoddir ein gwaed gan gelloedd m coch a gwyn-y coch i faethu'r corff, £ y gwyn ymladd ag afiechyd. Mewn t '?Sl??E Diffyg Gwaed, mae'r celloedd cochion yn ddiffygiol, fwy neu lai. Felly ni a^f y gwaed gynnal y cor?r yn briodol '??? &'ifaethu. Mae'r IIygaidyn?arwaidd, y K J wyneb yn wyn, a daw teimlad  M o ludded difrifol drwy yr holl gyfan- pyV. ???t mdtad. Nid oes dim mor eSeithio! W I mewn achos o Ddifiyg Gwaed a [ ? Wincarnis' Oherwydd lleinw Win- L? n ?. J ? N camis' y corff a ?«w? c?, M<?a?, M ?<!?, a rydd ddisgleirdeb yn y '? 1? llygaid, ddwg rosynnau i'r gruddiau, N ac a rydd ynni newydd, bywiogrwydd H\ ?? tMM?M, a bywyd M?<M i'r holl gor?. i^H .? Dechrenwch weft yn RBAD Anfonwch am brawf-dostrel rhad o Wincarnis' -aid rhyw Aas ODd digon i wneud Has. Amgasm tri stamp octnioc (i datu'&" dudiad). VHHBHHL ?NtM COLBMAN CO.. LTD., B \y W. )3<. Wineamis Works, NorwWh. II QwIa y Bvwvm I < I Cymeradwyir gan dros 10,000 • Feddygon. J ^E0RGE^ I MIRACULOUS EFFECTS! I have suffered from Pile and Gravel for four years, during which time I was quite disabled, and never, during this time, had a whole night's rest. I was at last induced to try a box of your Pile and Gravel Pills, and incredible as it may appear, after I had taken but a few doses, I felt as if I had had another body. Encouraged by the effects of one box, I took another, and now I am free .from all pain, a living testimonial to the miraculous effects of these Pills. Yours truly, D. WILLIAMS, Penralltwen, Newcastle Emlyn. IMMEDIATE RELIEF! I feel happy in bearing testimony to the efficacy of your Pile and Gravel Pills in my own case. Also in numerous other painful cases of long standing in which your Pills have given immediate relief, and in a short time effected a perfect cure so the weak in faith may be assured of their efficacy] to accomplish what they are professed to do. Yours truly, THOS. PHILLIPS, Grocer, etc., Caeremlyn, near Whitland. Y mae y Feddyginiaeth werthfawr^hon i'w chae) mewti tri ffurf. No. i. George's Pile and Gravel Pills (label wen) No. 2. George's Gravel Pills (label las) No. 3. Jcorge's Pills for the Piles (label goch.) Gwertbir y Pelerri Byd-glodus hyn yn mhob man, mewa Blvchau 1/ a 2/9 yr un. Gyda'r Post am 1/2 a 2/10. Gochelwch Dwyllwyr I-Gofynwch yn eglur am "^George's Pills," a gwelwch eioh bod yn eu cael. PERCHENOG- J. E. CEORCE, HIRWAIN, ABERDARE.