Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
12 articles on this Page
Advertising
HYSBYSIAD. YSCOL Y GWYNFRYN AMMANFORD. Sefydlwyd 1880. PRIF ATHRO: J. Gwili Jenkins, M.A. Anfoner am y Telerau a'r Rbaglen a banes Llwyddiant at y Prif Athro.
Advertising
W. WilliamslCo. JEWELLERS, &a.. 29 Castle St., Swansea. SPBoiatlt/es: l8ct. GOLD DIAMOND, RUBY AND SAPPHIRE ENGAGEMENT RINGS, 22ct. GOLD WEDDING RINGS, l8ct. GOLD KEEPERS. GOLD AND SILVER WATCHES. Gymry hoff, dewoh it y Cymro Os am beirdd fodrwyao ftor, Oriaduron ao awrleisiaa, Oeman a chadwynau claer: Tsrectol gelfydd, hln-fynegyaa, Qwres-fesurydd, cwmpawa mOr Geir gan Williams, Heol y Cartell Trowoh i mewn i wel'd ei fltor.
Y CYNHWYSIAD. I
Y CYNHWYSIAD. I Ar y Twr yn Aberdar.Tud. 1 Cwrdd Ymadael y Parch. W. T. Francis 1 Oolofn Llafur 1 Llwybrau'r Sarff 2 Beirniadaeth Gwili ar Gyfan- soddiadau Eisteddfod Caer- dydd 2 Beirdd y Bont 3 Materoliaeth yn Goresgyn Cym- ru 3 Taith i Lydaw 3 Nodiadau'r Golygydd 4 Hwnt ac Yma 4 j Y Cymdeithasau Dyngarol 5 O Deifi i'r Mor 5 j Colofn y Plant 6 f Anrhegu Marchog Ynyshir. 61 Ymladdfa Dyrnau ym Morgan- I nwg 6 Adolygu'r Adolygiad 0' 6 Colofn y Bobi Ieuainc „ 7 Difyrrwch y Beirdd 7 Nodion Abertawe 8 Colofn y Beirdd 8
Ar y Twr yn Aberdar.I
Ar y Twr yn Aberdar. I Y Bobl a Gyfarfum." Dyna destyn darlith y Cynghorwr T. W. Williams ym Methel, Trecynon, nos Wener, Ebrill 3ydd. Ymddengys iddo gyfarfod a rhai o ddynion mwyaf y weinyddiaeth bresennol, megis Asquith, Rufus Isaac, etc. Dywed hen wag oedd yn gwrando mai'r argraff a gafodd y ddarlith arno ef oedd na chyfarfu'r darlithydd a neb gymaint ag ef ei hun. Gobeithio nad a hyn i glustiau'r Cynghorwr. Teithio ar y Sul. Penderfynodd eg- lwys Bethesda, Abercwmjboi, yn ddi- weddar nad oedd ei gweinidog i deithio .ar y Sul; na chwaith y gweinidogion fyddo'n gwas&naethu'r eglwys. A wyr rhywun 1J.ll1 eglwys arall yn gwneud peth tebyg? Ni ryfeddem glywed am ereill yn awr yn dilyn ei hesiampl. Dylid caniatau rhywfaint o ryddid, megis pen- derfynu ar hyd taith y Sul, oblegid ni fyddai'n ddoeth i'r gweinidog fyned nos Sadwrn i eglwys yn y cylch ar gyfer bore'r Sul, ac aros hyd fore'r Llun, tra oi eisieu gartref nos Sul. Dylid ymhell- ach nodi'r canlyniad o dorri'r ddeddf hon, a chysylltu'r gosp a hi. Gwnai hynny ei grymusu. Nid yw aelodau yr eglwys ym Meth- «sda i gymeryd rhan mewn cyngerdd chwaith ar y Sul. Nis gwn a olygir wrth hynny nad oes hawl i wrando canu, na chanu eu hunain ar y Sul. Gall "cymeryd rhan" olygu pob un o'r ddau. Y perygl yw i ambell aelod gymeryd mantais oddiwrth aneglurder y pender- fyniad i gefnogi cyngerddau, a dianc yn ddianaf am na chymerodd ran ynddynt. Cynhaliodd Eglwys Bethlehem, Aber- cwmboi, ei chyfarfodydd pregethu Sul a Llun, Ebrill 5ed a'r 6ed. Gwasanaeth- wyd gan y Parchn. E. T. Owen, Llan- geler, a R. Williams, A. T.S., Brychgoed. Dywedir fod y cyrddau yn boblogaidd. Derbyniodd Mr D. Rees, Cwmaman, ei lun fel cydnabyddiaeth am ei wasan- aeth amlochrog am ddeugain mlynedd ynglyn a gwaith dyngarol. Cynhaliwyd y cyfarfod anrhegu yn Ysgoldy Noddfa, a chadeiriwyd gan Mr. J. Powell, M.E. Ymesgusoda pwyllgor Llyfrgell Aber- dar dros esgeuluso yr Adran Gymraeg am nad yw darllenwyr yn gofyn am lyfrau Cymraeg. Clywais am fasnach- wr yn colli ei gwsmeriaid yn ymyl y llyfrgell am reswm gwahanol, sef am nad oedd yn cadw nwyddau a ofynnid am danynt. Feallai i ddarllenwyr Cym- raeg dderbyn yr un driniaeth yn y Llyfr- gell hon fel nad ydynt bellach yn tra- fferthu gofyn yno am lyfrau yn eu hiaith eu hunain. Cyhoeddwyd llawer o lyfrau o dro i dro yng Nghwm Aberdar, ac ymddang- osodd llyfrau ereill o ddiddordeb i'r cylch y blynyddoedd hyn. Byddai'n fantais i hwyllgor y Llyfrgell wybod mai un o'r lleoedd mwyaf anhebyg i ddod o hyd iddynt yw eu Llyfrgell hwy. Prawf hyn gymaint o sylw ga llenyddiaeth y genedl yno. Paham y rhoddir y lie amlycaf i gyd i'r newyddiaduron Saesneg yn yr ys- tafell ddarllen ? Pentyrrir y papurau Cymraeg ar eu gilydd ar y byrddau sydd yno. Nid oes gymaint ag un newydd- iadur Cymraeg ar y ddesc hir sydd yn yr ystafell. Cwn am un fu'n chwilio am y Darian yno, ac a fethodd ddod o hyd iddi. Bum yno yn edrych wedi clywed hynnny, a chefais hi, y "Faner," y "Celt," etc.. yn bentwr ar fwrdd o'r neilldu. Tybed nad yw'r "Darian" yn werth ei dodi yn y golwg?
Cwrdd Ymadael y Parch. W.…
Cwrdd Ymadael y Parch. W. T. Francis, Gwawr, Aberaman. Cynhaliwyd yr uchod nos Fercher, Ebrill 8, yn y Gwawr. Llywyddwyd yn ddeheuig gan y Parch. J. Griffiths, Calfaria, Aberdar. Dechreuwyd y cwrdd drwy weddi gan y Parch. D. Hopkin, B.A., Trecynon. Dywedodd y Llywydd fod yn ddrwg ganddo fod yn y cwrdd. Yr oedd yn hoff o gwmni Mr Francis ar gyfrif ei natur dda a charedig. Efe oedd cad- eirydd cwrdd gweinidogion y dos- barth, a bu ei aros yn y cwm yn llawer rhy fyr. Ymadawai o anfodd Eglwys y Gwawr, hynny'n beth dymunol. Gwyddai am Galfaria, Llan- elli; bu yn weinidog yno'i hun, a dymunai lwyddiant Mr Francis yno. Yr oedd y Parch. Tywi Jones, Golygydd y "Darian," yn y cyfarfod fel dyn dieithr. Eto gwyddai fod i Mr Francis air da yn y cylch. Nid oedd yn amser hapus ar weinidogion yn unlle, ond gwell oes gynhyrfus nag oes farw. Y Parch. B. Williams, Abernant, yn y cyfarfod i ddymuno'n dda i Mr Francis ac i Eglwys y Gwawr. Yr oedd yn flin ganddo fod Mr Francis yn myned pan oedd efe ei hun newydd ddod i'r cylch. Blin ganddo na chaffai lawer o'i gwmni. Yr oedd yn adnabod Llanelli yn dda, a dymunai lwyddiant Mr Francis yno. Byddai'n dda gan y Parch. —. Llywelyn, M.C., fod heb weld y cwrdd. Magwyd Mr Francis ac yntau yn ymyl eu gilydd. Teimlai y gallai fynd yn agos ato. Yr oedd yn wir flin gan weinidogion Aberaman ei golli. Yr oedd yn dda gan y Parch. W. Davies (A.), Mountain Ash, gael cyfle i ddymuno'n dda i Mr Francis. Yr oedd yn un o'r brodyr mwyat hu- man" yr oedd yn bosibl ei gwrdd. Ofnai ddyn nad alfai chwerthin. Yr oedd Mr Francis yn ddyn eang ei farn a'i deimlad. Bendith arno. Dechreuodd y Parch. W. A. Jones, Cwmdar, yr un Sul a Mr Francis yng Nghwm Aberdar. Yr oedd Mr Francis yn mynd i fam eglwys Mr Jones. Yr oedd yn eglwys dda. Yr oedd Mrs Francis yn wraig ddistaw garedig. Yr oedd yn gynhorthwy mawr i'w phriod. Yr oedd yn flin gan y Parch. Cynog Williams fod Mr Francis yn mynd pan oedd cymaint o angen, dynion da yn y dyffryn. Nid macs i weithio yn- ddo oedd yr Eglwys, ond gallu i weithio. Nid ar y gweinidogion oedd y bai am wagter cymharol y capeli. Yr oedd y llanw estronol wedi dod i'r cymoedd, a'r ysfa am bleser yn fwy nag erioed. Meddai Mr Francis gym- hwyster i gwrdd a gofynion Llanelli. Cyflwynodd y brawd da, John Wil- liams, "work-table" i Mrs Francis ar ran y chwiorydd. Cynhwysai ei galon fwy nag a fedrai lefaru. Canmolodd chwiorydd y Gwawr, a dywedodd fod Mrs Francis yn un o'r goreuon yn Israel. Hiraethai ar ot y ddau. Diolchodd Mrs Francis yn gynnes am y rhodd, a chyflwynodd Mrs Wil- liams, Elm Grove, tuag ugain cyfrol i Mr Francis. Y mhlith y llyfrau yr oedd Beibl Morocco hardd oddiwrth Mrs Rachel Morgan, a elod hynaf y Gwawr, a hi yn 84 mhvydd oed. Tystiolaethodd Mr Francis i gared- igrwydd diderfyn yr eglwys iddo. Bu y chwiorydd, yn arbennig, yn gysur iddo ar hyd ei weinidogaeth. Cawsai eu gras a'u talent. Canmolai weinidog- ion bob enwad yn y dyffryn. Yr oedd angen cefnogaeth oreu'r eglwysi ar- nynt. Gobeithiai yr arweiniai Duw weinidog arall i'r Gwawr, a dymunai ei bendith fwyaf. Cyflwynodd y Llywydd lyfr i Mr Francis ar ran gweinidogion Bed- yddiedig Dosbarth Aberdar. Yr oedd y Parch. J. B. Davies (A.), Abercwmboi, yn adnabod Mr Francis yn Aberduar. Er pan oedd yn Aber- aman cawsai ei gwmni ymron bob wythnos. Nid oedd neb yn fwy parod i gefnogi achosion da. Yr oedd yn frawd hynaws ac yn bregethwr da. Ar ol iddo fynd y gwelid ei werth. Yr oedd y cwrdd yn un prudd i'r Parch. J. Lewis, M.C., Godreaman, er cynnyg ei wneud yn un llawen. Yr oeddent yn colli dyn da a phregethwr da. Safasai Mr Francis ar y mur yn wrol. Yr oedd yn wir ofidus ganddo ei fod yn mynd. Gwnaethai David Rees y Gwawr ei oreu gyda Mr and Mrs Francis. Yr oedd Mrs Francis yn bresennol ymhob cwrdd. Siaradai yn dda am bawb. Par- haent i weddio dros y ddau. Ategai y Parch. R. S. Rogers, Mountain Ash, bopeth a ddywedasid yn y cwrdd. Hoffai gwmni Mr Fran- cis bob amser. Gwyddai rywbeth am Lanelli. Yr oedd yn dref grefyddoL er fod hyd yn oed Llanelli wedi newid llawer yn ddiweddar. Yr oedd yn sicr y byddai Mr Francis yn hapus ac yn llwyddiannus yno. Dymunai lwyddiant yr eglwys yn y Gwawr. Men may come and men may go, But I go on for ever." Dyna deimlad y Parch. H. P. Jenkins (A.) yn y cwrdd. Bu Mr Francis yn ffyddlon i'w genadwri a gadawsai ei o! ar yr ardal. Yr oedd darn o'r siarad yn mynd i Lanelli yn symudiad Mr Francis. Bu y Parch. W. R. Lewis, Cwm- aman-yntau wedi chwilio am fro arall-lawer ynghwmni Mr Francis. Buont yn gweddio llawer gyda'u gilydd. Meddai Mr Francis syniad uchel am y weinidogaeth ac am hawliau crefydd. Fe'i deimlai'n fiifl fod y gymdeithas agos yn cael ei datod. Siaradwyd hefyd gan y Parch. Henner Thomas, Godreaman. Darllenodd y Parch. D. Bassett, Gadlys, benhillion bwrpasol, a gor- ffennodd y cwrdd drwy weddi. Bu rhaid i'r Parchn. Joseph James, Cwmbach; R. H. Davies, B.A., Cwmr bach, ac M. Jenkins, Abercwmboi, fynd cyn cael cyfle i siarad, a gofid. iai y Parch. Cefni Jones, Hirwauni T. Thomas (A.), Godreaman, a Phelidros drwy lythyrau nad allent fod yn bresennol. I
COLOFN LLAFUR. ! I !
COLOFN LLAFUR. GAN II PEREDUR." GAN "PEREDUR." CaetMwed yr Aifft. > Son am gaethiwed yr Aifft, dywed dihareb fod hanes yn ail adrodd ei hun yn amgylchiadau y ddynoliaeth. Wrth esfconio a chymharu amgylchiadau caethiwed yr Israeliaid yn yr Aifft gynt, cawn fod yna berthynas gyfatebol agos iawn i amgylchiadau Llaful y dydd- iau hyn. Y mae gormes a thrahausder y dosbarthiadau llywodraethol a chyfal- afol y fath ag i achosi aflonyddwch a cheintachdod na welwyd erioed mo'i bath o'r blaen. Oddiwrth bob ym- ddangosiad, y mae byddinoedd Ilafill- yn yiiiftynhoi, ac yn ymuno i barotoi ar gyfer gwneyd un symudiad mawr rhyddhaol o gaethiwed Eifftaidd y gyfundrefn bresennol i ryddid a breint- iau y Ganaan Gymdeithasol. Gwir- eddir amgylchiadau 4,000 o flynyddau J yn ol gan brofiad o amgylchiadau cyffelyb yn yr ugeinfed ganrif. Mor lleied ac araf y dadblyga gwareiddiad. Uniad yr Undebau. I I Y mae trefniadau penodolyn cael eu gwneyd i gael undeb a chydweith- rediad cydrwng yr Undebau Mawrion- Gweithwyr y Relwes, Y Cludweithwyr, a'r Glowyr. Y mae dydd yr ymraniad- au a'r undebau bychan unigol wedi myned lielbio, a'r tueddiad yn mhob cyfeiriad yw undebu yn un fyddin fawr. Nid oes iachawdwriaeth mewn un ffordd arall, a goreu i gyd po gyntaf y perffeithir y gweithrediadau Mawr- Undebol hyn, fel y diogelir llesiant y gweithwyr, yng ngwyneb gormes y meistri. Mr. Brace a'r Chwecheiniog. Yng nghyfarfod LTndeb y Glowyr yn Nghaerdydd yr wythnos ddiweddaf. ed- liwiodd Mr Brace, A.S., yn hallt iawn i'r cynrychiolwyr am yr annheyrngar- wch mewn cysylltiad a chodi y cyfran- iad. Dywedodd fod mwyafrif undebau y wlad yn talu mwy mewn wythnos, mewn aelodiaeth, na dalai glowyr y Deheudir mewn mis. Wrth gymeryd i ystyriaeth brinder y fund mewn Haw. a'r gweithrediadau ddisgwylir oddiwrth yr Undeb y flwyddyn ddyfodol, y mae canlyniad y falot ar godi y tal yn dram- gwyddis ac anghalonogol i'r eithaf. I.L.P. > I.L.P. Dathla Plaid Annibnol Llafur ei hun- flwydd-ar-ugain oed y Pasc hwn yn Bradford. Keir Hardie oedd y Llyw- ydd cyntaf, ac efe yw y llywydd eleni eto. Y mae y "Labour Leader" a'r "Christan Commonwealth" yn rhoddi gofod helaeth i hanes y dathliad hwn. gan roddi hefyd ddarluniau 0')' gwahan- ol bersonau sydd yn flaenllaw yn y mudiad. Un nwydd-ar-ugain o lwydd- iant eynyddol yw yr hanes, ac nid oes yr un mudiad gwleidyddol erioed wedi dangos mwy o frwdfrydedd ac aberth yn ei ddatblygiad. Mawr lwyddiant i'r gymanfa yw ein dymuniad ni. Glowyr Glan. Nos Wener nesaf ca gweithwyr a gwragedd yn Nhrecynon gyfle ar- dderchog i glywed anerchad ac eglur- had ar gynllun baddonau pen y pyllau gan Mr Edgar Chappell, Caerdydd, yn y Neuadd Gyhoeddus. Gobeithio hefyd y ceir gweled y gweinidogion cref- yddol yn bresennol er mwyn iddynt gael ysprydiaeth i gymeryd y cwestiwn i fyny, a'i nawddogi, oblegyd, yn sicr, gallant hwy wneyd llawer er llwyddiant yr ymgyrch lanhapl hon.
Caerdydd.
Caerdydd. Gwener y Groglith. Yng nghapel Bethany, St. Mary St., cynhaliwyd Cymanfa Ganu flynyddol y Methodistiaid Calfinaidd yn Nosbarth Caerdydd, dan arweinyddiaeth Mr J. T. Rees, Mvs. Bac., Aberystwyth. Cafwyd cyfarfod defosiynol a cherddorol ar radd flaenaf gan y plant yn y bore, yr hwn oedd dan lywyddiaeth Mr Gwilym Hughes, ysgrifennydd Mudiad Coffadwr- iaeth Cymru i'r Brenin Edward VII. Yn y prydnawn cafwyd cyfarfod neill- duol o wresog gan y cantorion mewn oed, dan lywyddiaeth Mr E. Hum- phreys, Crwys Road, ac un arall yn yr hwyr, dan lywyddiaeth Mr Edward Jenkins, Y.H., Pembroke Terrace. Er mwyn rhoddi seibiant i'r cantorion caf- wyd can gan Miss E. Jones, Senghen- ydd Road, ac anerchiad hwylus ac hanesyddol gan Dyfed. Yr oedd y cyf- arfodydd oil a naws nefolaidd drwy- ddynt, a'r canu yn ol barn pawb yn uwch ei safon na'r un gymanfa flaenor- ol- Cyfeiliwyd ar yr organ gan Miss Bessie Thomas, Pembroke Terrace, merch yr ysgrifennydd llafurus, Mr. Thomas Thomas. Yr oedd yn ddrwg gennym ddeall fod y trysorydd, Mr Dd. Beynon, yn methu bod yn bresennol yn herwydd afiechyd. Gobeithio y ca well- had buan, ac y gwelir ef fel arfer a'i ysgwydd yn dyn wrth yr olwyn grefydd- ol Rhyddfrydiaeth. I Yr wythnos diweddaf anerchodd Mr. Bowenig, yr ymgeisydd Seneddol Rhyddfrydol, amryw gyfarfodydd yng ngwahanol adrannau o'r ddinas. Yr un a gynaliwyd yn Ysgoldy Gladstone llywyddwyd gan y Cymro gwladgar Mr Evan Owen, Y.H.
Er Coffa I
Er Coffa Am y diweddar anwyl Mrs Elizabeth Lewis, priod Mr W. T. Lewis, Brynhyfryd, Hirwaun, yr hon a hunodd yn yr lesu, Ionawr 28, 1913, yn 69 oed, ac a gladdwyd yn Mynwent Eglwys Penderyn, Chwefror y 3ydd, yng nghanol cawodydd dagran cyfeillion Ill. Pan y galwyd hi i'r gwynfyd, Pan aeth adref at ei Duw, Priod hoff sydd 'nawr mewn tristvd Heb ei chwmni mwyach yw. Gwag yw'r anial i'r chwiorydd Oedd mor hoff o honi hi, Lie o'r blaen y oaent lawenydd 'Nawr bair golli dagrau'n Hi. Bn yn gydmar ac ymgeledd Cymwys, trefnus, a di-stwr; Mewn tawelwch a thangnefedd Y cydgariai'r iau a'i gwr. Ni chaed hafal hon am warchod Aelwyd cartref—diwyd fu, Dyfal i'r dyfodol ddarbod Pleser mawr oedd myn'd i'r ty. Trefnodd hefyd dv i-liagoraeli Mwy parhaol iddi hiin, Ac yn hwnnw mae hi bellach Yn molianu Mab y Dyn. Gweithiodd yma i ledaenu Son am dano hyd yn mhell, Heddyw'n gwneyd y gwaith dan ganu, Heddyw'n medru gwneyd yn well. Chwith yw meddwl na chawn yma Fwy o'i chwmni anwyl hi; Melus meddwl cawn gydwledda Eto yn y nefoedd fry. Briod hawddgar a chwiorydd Daw yr amser i chwi pan Gewch fod gyda hi'n dragywydd Ond fel hi gael Iesu'n rhan. CYFAILL. Teimlai ddvddordeb mawr yn v gwaith eenhadol, a chvnorthwvodil lawer ar ei phriod gyda rhasgliad eenhadol Nebo am flynyddau.
[No title]
Am bob math o Argraffwaith ymofyner yn Swyddfa'r "deader" a'r Parian," 19 Cardiff Street, Aberdar.
I Gair o'r Cylch.
I Gair o'r Cylch. ( I Gapel Rhondda yr oedd tynfa tyrfa nos Iau, Ebrill gfed, i'r gyngh- erdd oedd yno gan y cor dan arwein- I iad Mr D. W. Thomas, arweinydd y capel ers llawer o flynyddau. "Daniel" I oedd y gantata ddewisiedig gan y cor eleni, ac aethant trwy'r gwaith yn rhagorol a phortreiasant yr holl gym- eriadau i'r tipyn. Hawdd oedd gweled fod y cor a'r arweinydd wedi bod yn llafurus iawn a chyfoeth o dalent gerddorol yng Nghapel Rhondda. Chwareuwyd ar yr organ gan Mr R. W. Thomas, organnydd yr eglwys. Cymerwyd rhan gan Mr Henry Lewis, Nelson; Mr W. Hirwen Beynon, Pontypridd, a Madam Mills Reynolds, L. R. A. M., Pontypridd. Llywyddwyd gan Mr J. W. Davies, M. E., Great Western. Wedi cyflwyno y diolch ar- I ferol diweddwyd, a'r dyrfa wrth ei bodd yn barod i'w gwrandaw eilchwyl. Nid oes cof gennyf i mi glywed clir- ach datganiad erioed. Byddaf yn cael y miwsig yn ami, ond dim o'r geiriau, ond nos Iau cawd y ddau. Yr oedd yn hyfrydwch mawr gweled: y Parch. J. Young, y diweddar weini- dog, yno, ac yn cymeryd rhan. Y Ddrama yn Bontypridd.-Nos Lun, Ebrill 6fed, yn Neuadd Fawr Pontypridd, awd trwy ddrama "68" gan Ddosbarth Cymraeg Libanus, Trefforest. Yr oedd y lie yn 11awn o Gymry y dre a'r cylch. Cafwyd o ddwy awr i ddwy a hanner o actio byw a buddiol. Pan dynnwyd y lien daeth Efail y Pentre a Tom Roberts y Gof a'r pentrefwyr i'r golwg. Cym- eriadau y ddrama:—Tom Roberts, Gof y Pentre, Mr John E. Jones; John Jones, Pentrefwr. Mr William Haddock; John Huws, Pentrefwr, Mr William Hughes; Bob Parri, Pentref- wr, Mr Ed. Edwards; Arthur Wil- liam, Tenant Neuadd Fawr, Mr Arthur Lane; Cadwaladr Owen, Ys- trad Uwchaf, Mr William Davies; John Ifan, Hendre Wen, Mr David J. Wiliams; Robert Huws, Wern Ola, Mr P. Edwards; Robert William, Caeau Gwynion, Mr James Jones; William Williams, mab Caeau Gwynion, Mr Dan Davies; Tom Ro- berts, Gof y Pentre, Mr J. E. Jones; Parch. D. Morris, y Gweinidog, Mr D. David; Powell, Yswain, Plas y Wern, Mr John Jones; Herbert Lloyd, y Steward, Mr R. Douglas; Dafydd Morgan, Mr Tom Jones; Florence Powell, merch Plas y Wern, Mrs Douglas; Gwen Williams, gwraig Caeau Gwynion, Mrs B. Phillips; Cipar, Mr D. Morgan. Yr oedd y pedair act yn rhagorol, a gwledd i unrhyw gymydogaeth fyddai trem ar ddrama 68" gan Ddramyddion Libanus. Swynol oedd tannau y delyn dan fysedd Miss Roderick, a Madam Thomas Gowan yn canu. Yn Calvary, Heolycoed, Trefforest, y dydd o'r blaen, cynhaliodd y Bed- yddwyr Saesneg eu cwrdd chwarter. Yn absennoldeb y llywydd, Mr J. Nest Jones, Trealaw, cadeiriwyd yn fedrus gan y Parch. T. Jenkins, Cil- fynydd. Yr oedd yno gynadleddau cynnes, a phenderfynwyd cychwyn achos yn y Gilfachgoch. Mae yno le cynnyddol. Tebyg bydd y Saeson a'u llygad yn agored tua Threbanog, Penycoedcae, a'r Beddau, etc. Cawd papyr gwych gan y Parch. D. G. Hughes, Coedpenmaen, a phregeth hwylus gan y Parch. J. Elias, Ynys- ybwl. Yr oedd y trefniadau yn rhagorol gan yr eglwys a'r gweinidog, Parch. E. Lewis. Clywais fod cwrdd iawn wedi bod ym Mheniel y nos o'r blaen ar derfyn bugeiliaeth y Parch. W. Lewis. Mae Mr Fellows yn gweithio yn ddiwyd yn eglwys fach y Ddraenenwen, a chynnydd sydd yno. Mae yn debyg y bydd cwrdd agoriadol yn Soar yn fuan ar ol cael seddau a phulpud new- ydd—myn'd yw hanes y Parch. E. Gronow a'r frawdoliaeth. J I CYFAILL JOHN.
rBwrdd y Golygydd. j
Bwrdd y Golygydd. j 0 herwydd y dyryswch a berir gan y gwyliau rhaid cadw llawer o'r goheb- faethau drosodd yr wythnos hon. D.S.—Dechreuir yn y "Darian" yr wythnos nesaf Golofn o Adolygiad ar Weithrediadau'r Sennedd. A
Advertising
CROEN. CNAWD. ASGWRN. RHAID GOFALU AM Y 11M.. NYN. Esgeulusdod 0 unrhyw niwaif I rbtl hyn drwy ddamwain now glafyrf off Blood PoUonlng a Marwolaeth. Meddyginiaftth Efltithiol. Er mwyn ysgol Ptrygl rhauf ai ymarf* mown pryd. •DOES DIM MOR LLWYDDIANIft A 8ICR A GOMER'S BALM. Mae Hwn yn awr yn oael ai gydambrag gan filoedd fel V meddyglin mwyat tier a diogel a ddarganlyrfiwy* erioed at iaehau Clwyfau, Atchollion, Tardd- lantau y Cnawd. Craoh a Nldd Mhenau Plant. Liosgiad. au, Y Ilal. d a n a u 6 o u r v Y, J L I U I ad Plant, Benywod a Botbanod, Tarwden, Cou t. GymaJau Poenue, 4 houmat- „ yr ??? p?, fy n,? les. Poen Yr oedd pen fy min. ?n.HS;. tYu mewn stat ociLry?IG* H 'nod 8 Gwellbsodd Gomer I Hal. eftelthlol hi yD bur fuaD." at Cl WYFAU ar COESAU. Mlloedd yn tystlo I'w EfTelthlau Rhyfeddol. RHODDWGH BRAWF ARNO Gwellhad sydd stop Ar worth ? bob Chemi.t a Store. I/ii.  a?co ?Cetn?ar < B.aa!!?m. ?M?y*- ?1 A/r i ? '??? ?"? "?? ar Swch. Heb hyn Did yw Ky??. N?* Hfh ?th (P.O. Deu 8t.mp? Sner??u&ae. Manufactu?nt Ch_.  L.D.I.. PMarth. Caf-W. CWRTHODWCH BOB PETH ARALia. Oelch Lacy THE UP-TO-DATE LONDON TAILOR, WHO SERVES YOU PERSONALLY AND Cuts all Garments Himself. Specialists in MOURNING ORDERS. 222 HIGH STREET, SWANSEA. Return Railway Fare sHowed to Purcbasers upon mentioning thid Taper. Telir Pris Tien pryuwyr yma ac yn 01 on id?nt enwi ?MAN Y GW?THIWR. YN AWR YN BAROD. 'Social Problems in Wales.' 163 pages. Vm net; Post Free 1/3. Addressee, delivered at the United Schoo of Sooial Service for Wales." A book every Patriot should read. Smd without delay to the Publisher,- MORGAN & HIGGS, Publishops, Printeps, AG., 18 Heathfleld Street, Swansea.