Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

COLOFN Y BOBL IEUAINC.1

News
Cite
Share

COLOFN Y BOBL IEUAINC.1 DAK OLYGIAETH DYFNALLT. CYMRU YN Y BUMED GANR1F. Yr oedd Cymru tua'r un cyfnod mewn tryblith crefyddol. Hen gre- fydd y llwythau brodorol oedd Der- wyddiaeth, a dyma hefyd oedd cre- fydd y Peithwyr a'r Brithwyr o'r Gogledd. Er i'r Rhuieiniaid lotruddio yr Archdderwydd a'i ganlynwyr yn Y nys Mon o dan Suetonius Paulinus, adgyweiriwyd llawer allor drachefn a thrachefn i'r hen dduwiau ym mher- fedd y fforestydd tywyll; ar lan llyn- oedd lie nad oedd llengoedd y Rhu- feiniwr yn tramwy, ac wrth hen ffynonau a dybid oedd wedi eu poblogi a duwiau caredig. Yr oedd Derwyddiaeth wedi gafael yn nych- ymyg y Brython, ac nid gwaith hawdd oedd ei ddiddyfnu oddiwrthi. Mawr iawn oedd gallu'r Derwydd Ganddo ef yr oedd cyfrinach dirgelwch ar- glwyddiaeth ar bwerau anweledig. Yr oedd tynged rhyfel a gwlad yn ei law yn ol syniadau ofergoelus yr oes; ganddo ef yr oedd geiriau doethineb a gwybodaeth ar ei gof. Yr oedd ei air yn ddeddf; porthodd ogwydd cre- fyddol yr Iberiad am oesau, ac er fod ei grefydd yn costio'n ddrud i'w genedl mewn aberth a phangfeydd, eto, daliodd y Brython i ymlynu wrthi yn hir wedi i'r goleu newydd dorri ar y wlad. Dechrcuodd yr Eglwys Brydeinig ddod yn allu yn y wlad hon tua 200. 0 hynny allan llwyddodd Cristionog- aeth yn rhyfeddol fel cyfundrefn ac fel crefydd. Y chydig wyddom am y cyfnod a'r modd y sefydhvyd yr Eglwys Brydeinig. Ond gwyddom ei bod yn sefydliad crefyddol o bwys, ac yn lied berffaith ei threfniant erbvn 400. Yr oedd hefyd yn ddigon cen- hadol ei hyspryd i anfon allan gen- hadon i bregethu ac esgobion i am- ddiffyn y ffydd mewn cynghorau lie yr oedd doniau goreu'r cyfandiroedd yn cydgwrdd. Cymerodd y sant le y Derwydd, a daeth bywyd duwiol yn fwy o allu na gwybodaeth gyfriniol. Yr vmdrech nesaf yn yr Eglwys oedd rhwng y ffydd Gatholig a'r heresi a elwid yn Belagiaeth. Un o'r mynachod mwyaf dysgedig a mwyaf duwiol ei fuchedd yn ei oes oedd Pelagius. Nid oes lie i ameu nad Brython oedd yntau o waedoliaeth. Yn wir, os yw'r traddodiad am dano yn werth ei goelio, yr oedd yn Gymro o waed coch cyfan. Addysgwyd ef fel y rhan fwyaf o wyr dysgedig yr oes hon ym Mangor Iscoed. Ni pher- thyn i ni wyntyllu na beirniadu ei syniadau yn y golofn hon. Digon yw I dweud fod ei ddysgeidiaeth yn rhoi ei phwyslais ar nerth yr ewyllys ddvn- ar urddas dyn fel dyn. Dyma a'i dygodd i wrthdarawiad a diw- invddiaeth. Bu ei ddaliadau yn foddion i gynhvrfu y gwersyll Cristionogol trwyddo. Enillodd dyrfa fawr o ddi- lynwyr ym Mhrydain ac ar y Cyfandir, a hyd yn oed yn Asia. Gahvyd cyngor ar ol cyngor i ddadleu ac ymresymu'r mater condemniwyd Pelagius gan yr Eglwys yn y naill ar 01 y llall. Heresi Pelagius I ddeffrodd ddigofaint y mynach Jerome yn ei gell bell yn Bethlehem. Yr oedd Awstin Fawr, Esgob Hippo, yn ystyried Pelagius yn rhyfelwr medd- I yliol gwerth ymwregysu i'w gyfarfod, ac nid anghofio wrth ddadleu ag i ddwyn tystiolaeth uchel iawn i'w gymeriad. Meddai, "Nid yn unig yr wyf wedi ei garu, ond yr wyf yn ei garu o hyd." Arweiniodd Pelagiaeth yr Eglwys Brydeinig i dryblith mawr iawn; dyryswyd ei threfniadau; rhwvgwyd ei llywodraeth, ac arweiniodd i gryn lawer o benrhyddid mewn materion crefyddol. Y fath oedd sefyllfa ddi- rywlad crefydd ac eglwys yn y wlad, < fel y danfonwyd dau esgob yma o'r Cyfandir, sef Garmon a Bleiddiau, ac er iddynt ar y pryd ddistewi plaid y Pelagiaid, daliodd yr heresi i flino yr Eglwys sut bynnag hyd Gymanfa fawr Llanddewi-brefi pan y llwyddodd Dewi Sant i gladdu'r cyfeiliornad heb obaith adgyfodiad byth mwy o dan yr un enw. Dyma gipolwg' felly ar gyflwr Cymru yn ddaearol, yn gym- deithasol, yn wladol, ac yn eglwysig. Yn hyn oil, gwelir fod cenedl newvdd yn y "mould," ym meddu ymwvbydd- laeth lied annibynol mewn I vstyr gre- fyddol, ond o'r braidd wedi cael syn- iad am werth un deb cymdeithasol a gwladol. At genedl yn y sefyllfa yma Y daeth Arthur Rhamant a Dewi Sant. Yr oedd angen adeiladydd castell i ddiogelu Cymru'n wladol yr oedd aogen adeiladydd teml i ddiogelu Cymru'n ysprydol. Ac os gwir y traddodiad ymddangosodd y ddau rnegis dan yr un blaned.

Graig, Briton Ferry.I

I Carmel, Pontyrhyl.I

Sciwen.I SCIWen. ,

Sylwadau Sylwedydd o i Gwm…

.,Adolygiad.I

I.Ar Lannau Tawe.

1 "Difyrrwch y Beirdd."

Gohebiaeth.

Advertising