Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

Y Cymdeithasau Dyngarol.

News
Cite
Share

Y Cymdeithasau Dyngarol. Perthyn i ni fel cenedl lawer o ddi- ffygion y genedl fach. Rhaid hefyd y perthyn i ni ragoriaethau y genedl fach, ond yn bresenol nid ein da, yn gymaint a'n drwg, sydd yn eglur yn y cysylltiad hwn. Braidd y credwn ein bod fel Cymry, wedi bod yn deilwng o anian, yng nghylch y Cymdeithasau dyngarol. Dywedir am y diodon, Pysgodyn bach tebyg i god, a'i groen yn llaes fel pe byddai god heb haner ei llanw, ei fod yn elyn marwol i shark. Ceir ef yn dianc yn ddianaf o grombil y shark. Bwyty fur cylla y gelyn gan borthi ei hun nes enill ei ryddid, ac i'r hen ysglyfaethwr farw, oherwydd na fedd ddrws ar ei gylla. Dyna ydyw anian, mae rhyw iawndal parhaus am bob diffyg neu wendid yrnddangosiadol. Fel y dywed y Gair, perffeithia nerth mewn gwendid. Ni wna y Cymro hyn. Parchodd y Cymro erioed arch y Galilead borthai y miloedd a'i canlynai. Dywedai "Cesglwch y briwfwyd gweddill." Paham? Fel "na choller dim." Dir- mygwn fel cenedl hefyd y syniad o undeb. Nid ydym wedi profi gwerth bod fel y sarph yn gynllwynga r a chall. Gwelwn rai dynion ddangosant an- Wybodaeth yn annog y Cymry i geisio cael prisiad ar wahan a Lloegr er mwyn dibenion y Ddeddf Yswiriant WladoJ. Dealla llawer o aelodau y Cymdeithasau Dyngarol fod y Llywodraeth wedi gosod dynion yn ben fel gweinyddwyr dan y Ddeddf o ran eu defnyddioldeb a'u gwerth y byddai penaethiaid duon Basuta cystal a'r mwyafrif o honynt. Coron crcfft vw ei medr. Ni fu y Cymdeithasau Dyngarol erioed yng Nghymru, yn neillduol yn yr ardaloedd gweithfaol, yn dim ond cyfrinfaoedd "tubercular." oherwydd pla mawr y genedl, sef ei glyniad wrth yr achos bach. Mynwent fawr i gyfrinfaoedd dyngarol ydyw Cymru. Mae elfen fasnachol amlwg yn rhedeg trwy y gyfrinfa. Dilynwyr oeddym ac nid blaenoriaid yn y linell hon. Dywedwn yn ami taw yr hen a wyr a'r ieuanc a dyb. Rhyfedd er hynny fel y gwawdiem y gwirionedd yn y Cymdeithasau Dyngarol. Y can- lyniad ydyw nad oes yng Nghymru Urdd Gymreig yn werth ugain swllt y bunt. Profiad y Ddeddf yn niwedd y tair blynedd fydd taw un drud neill- i duol i Gymdeithas Ddyngarol ydyw y Cymro. Eto mynnai rhywrai iddo gael ei ddadrys o blith y Saesop ac eraill a'i brisio ar ei ben ei hun. Mantais fawr i Gymru fu ei chysyllti- ad a Lloegr yn y Cymdeithasau Dyn- garol. Pe byddai yr Odyddion wedi bod galled ag ufuddhau i reolau yr prdd, byddai llawer mwy o Odydd- ion yng Nghymru. Heblaw hynny byddent yn gadarnach a gwell eu sefyllfa. Nid drwg oedd cynllun yr Hen Hebreaid yn ymadael a'r Aipht ym myned a thoraeth o bethau yr Aiphtiaid ganddynt. Ffolach lawer y cawn y Cymry yn barotach i roddi i'r Hebrcaid ddaw i'n plith grogbris am sothach, a bod yn garedicach i bawb na Chymro anturia fasnachu. Na, ni thai i ni ddirmygu y Cymdeithasau tuhwnt i Glawdd Offa. Mae helbul y Cymdeithasau wedi dal Cymru. Rhaid ni lie y mae y materol yn y cyfrif ddysgu gan y graddedigion mawr, tebyg i John D. Rockfeller, Andreas Carnegie, a'r frawdoliaeth bwysleis- lant y gwirionedd orwedd dan y rheswm dros gasglu "y briwfwyd gweddill." Peth cynnil drafod fel y gwyr y rhai hyn ydyw cyfalaf. Gan mai dilynwyr ydyw Cymry, rhaid iddynt gofio mai dysgu ac efelychu raid iddynt. Nid oes gennym le i feio ar y Saeson am hyn, gan i ni adael cynifer o feusydd i'r Sais. Sylwer heddyw heblaw ein bod fel Cymry yn dueddol i gyfrif Sais yn rhywbeth, ni ofalwn yn ddyladwy fod y plant yn cael cyfleusderau i fynd i gylch un- weddiaeth flin ac anniddorol. Gallem enwi nifer ltiosog o foddau i ennill bywioliaeth nad oes nemawr Gymro yn ennill ei fyvvoliaeth yn y modd hwnnw. Gadawsom y Cymdeithasau yn bennai i Saeson, a da hynny gred- wn, gan mai eithriad ydyw bodolaeth Cymdeithas gref a sylfaenwyd ac. a lywiwyd bob amser gan Gymry. Nid ein diffyg profiad o drin cyfalaf yn unig sydd wedi bod yn golled i gyfrinfaoedd y wlad, ond ein tuedd famol i ymrannu yn achosion bach, ac hefyd y diffyg o barchu y rheolau. Bei-ir y dafarn ac yn gyfiawn, ond cofier mae dyled fawr ar Gvmru i'r dafarn. Rhoddodd lety i grefydd, dyn- garwch, a'r eisteddfod. Heblaw hyn, a allwn anghofio gwerth y Gymdeith- as. Mae y dafarn yn gyfrifol am lawer o ddiwylliant. Ymrafaeliem yn grefyddol am le i godi temlau alcan, priddfeini, a cherig, fel y gallai dynion gael lie ar y Sul, am, dyweder, dair awr. Gadawem iddynt fyned i'r Illyoydd ncu y lie mynnent yn yr wythnos. Chwareu teg i'r dafarn, cadwai ei ddrws yn agored, a dywedai ei dan siriol mewn iaith ddiamwys ar nos oer, tyred i fewn. Ni cheisiwyd gwella y dafarn ond ei difodi. Paham na allem o Fanasseh o dy gael rhyw ddaioni? Onibae y dafarn pa le y cawsai y Cyfrinfaoedd le i gynnal eu cyfarfodydd? Gwyddom am ochr arall Y dafarn hefyd. Na, fu gwyr y teml- au yng Nghymru ddim yn deilwng o u crefydd i'r Cymdeithasau. Ni fuo n" fel Cymry yn effro fel aelodau, ac os ydyw y Ddeddf i gael ei gwein- du yn Hawn a digoll, nid cyfeillion ymry anogant hwy i fynnu y cyfrif ar Wahan i Gymru. Gan fod y Sais yn foddion ein cynnwys paham y byddwn ^°led a gwarafun hyn iddo. Manteis- )wn er ein Iles, ond gofalwn na chaiff j yr un fantais i fyned o'n blaen, os gallwn fod ar y blaen ein hunain. Yma credwch i mae yn fendith i ni nad ydyw yn gofyn am ein gwahanu. Pennod ddu ofnadwy ydyw hanes Cymru fel y mae a fynno a'r Cym- I deithasau Dyngarol. Na wrandawn ar y dynion etholvvyd dan y Ddeddf ym mhob peth, gan y tystiwn mai nid j eu haddasrwydd i'w gwaith a'u i cymeradwyodd i'r swyddi hyn. Pe j delai rhai o honynt o Fawrth, byddai yn wyrth pe gallent fod yn fwy anwy- bodus o Gymdeithasau Dyngarol. Ym- dafled yr aelodau o ddifrif i fyfyrio y sefyllfa a gwneuthur eu goreu i ofalu fod y dyfodol yn llai gwallus a diofal. Dylai hanes y cyfrinfaoedd fod yn gynhorthwy mawr i bob aelod wybod pa fodd i lywio yn y blaen yn y dyfod- pl. Braidd y credwn y caniateir i'r wladwriaeth fod yn gaeth ac i'r llyth- yren wedi cael y cyfrif tair mlyneddol, a gwae Cymru os mai ar ei thraed ei hun, wrthi ei hun y saif. Gall llawer benderfynu na thai godro yn ol yr hen I drefn. Dyna fu yn bla ofnadwy yng Nghymru oedd y godro digydwybod, ac y mae Cymru yn enwog am hyn. Bydd y wyliadwraeth ar y godro yn i llawer mwy llwyr wedi cael y prisiad I cyntaf dan y Ddeddf, ond yn bresenol gwylied y Cymry na thwyller hwy i geisio bod ar wahan yn y cyfrif. Mae cysgod yn werthfawr pan fyddo poeth- der haf yn taro yn syth ar ddyn, a bydd bod yn yr adwy hon yn gyfrif i Gymru yn y prawf, yng ngwyneb haul a llygaid goleuni. Cyfunwn a gofal- wn o hyn allan na'n ceir ar wasgar, I dyna wedda i genedl fach. Cynhilwn hefyd gan y rhaid talu am ryddid. I I.G. I

) | Godre Ceredigion.I i

0 Deifi i'r Mor.

Capel-y-Cwm, Llansamlet. I

ITreforis.I

Aberdar. I

Advertising