Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

Beirdd y Bont. I -;

News
Cite
Share

Beirdd y Bont. I (Parhad.) I GAN BRYNFAB. Pan ddaethum i fyw yn ymyl dinas y Maen Chwyf, yr oedd yma lwyth cryf o hiliogaeth awengar. Feallai y byddai I cyatal i mi eu henwi yn y fan hon. Dyma nhw:-Myfyr Morgannwg, Ap I Myfyr, Ieuan ap Iago, Mathonwy, Ieuan Wyn, Dewi Harran, Glanffrwd, Dewi Wyn o Esyllt, Cenydd, Ieuan Glyn Cothi, Merfyn, Carnelian, Dewi Alaw, Gwyngyll, a Mabonwyson ar ami bererindod o ardal Llanfabon. Erbyn heddyw, nid oes dim ond Dewi Alaw, Merfyn, Gwyngyll, a minnau yn aros ni ein pedwar yw patriarchiaid barddol y Bont. Myfyr Morgannwg. Yr oedd Myfyr wedi rhoi heibio barddoni cyn i mi ei adnabod, ac wedi ymddyrysu yn anialwch Derwyddiaeth. Bu yn fardd o gryn fri, ac yn gawr medrus yn y gwahanol fesurua-caeth a rhydd. Canodd awdlau a chywyddau gwychion. Sychodd awen Myfyr wrth ymdroi yng nghyfrinion yr ieithoedd Dwyreiniol, a cheisio esbonio popeth o ddechreuad y byd oddiar safle Derwydd- iaeth. Awrleisydd ac oriadurydd oedd ef wrth ei grefft. Efe oedd meddyg awr- leisiau y Bont, a'r ardaloedd cylchynol, am lawer o flynyddoedd--hyd nes i'r Allmaenwyr a'r luddewon ddod i gyd- ymgais ag ef. Llawer gwaith y bum yn ei dy a rhyw figwrn o awrlais i'w osod yn ei Ie ac nid yw Rocyn Jones yn fwy medrus i osod migwrn bardd yn ei le, nag oedd Myfyr i ad-drefnu migwrn awrlais, a rhoi cryfder ac anadl yn ei gyfansoddiad. Rhywfodd, yr oedd ef, yn niwedd ei oes, wedi suro tuag at y byd barddol. Nid oedd neb yn barddoni wrth ei fodd, ac yr oedd Gorsedd y Beirdd" wedi mynd yn "orsedd bengoll" ganddo, oddiar y cyfnod y dechreuwyd anwy- byddu Gorsedd y Maen Chwyf. Bu adeg, pan oedd Myfyr yn anterth ei fri, ac yn cael ei gydnabod fel Arch- dderwydd Cymru. Efe oedd meistr y seremoniau yn "Eisteddfod fawr Llan- gollen" yn 1858, pan oedd Eben Fardd, Glasynys, Ab Ithel, Ceiriog, ac eraill, yn ddeiliaid ffyddlon i frenin yr orsedd. Ond wedi i feirdd Cymru fynd yn aflyw- odraethus, ac i beidio talu gwarogaeth i'w awdurdod, aeth fel draenog i'w gwd, ac ni chafwyd ef ohono hyd ei fedd. Bu cyfarfodydd y Maen Chwyf-ar yr Albannau, mewn bri am nifer o flynydd- oedd. Deuai beirdd o bellder mawr i'w hurddo gan yr Archdderwydd. Un- waith y bum i yn ddigon defosiynol i fyned i gyfarfod y Derwyddon, ac ni theimlais yn ddigon hyf, y pryd hwnnw, i fynd i fewn i'r cylch cysegredig. Yr oedd cylch Gorsedd y M-aen Chwyf yn llawer mwy cysegredig na chylch Gor- sedd Beirdd Ynys Prydain, o dan ddeddf fanylaf Eifionydd. Rhaid oedd diosg yr esgidiau cyn esgyn i fcwlpud Myfyr, fel pe buasai hosanau yn daclau mwy dihalog na lledr a phwyntrhedyn. Ond yr oedd yn rhaid ufuddhau i'r ddeddf, a gofalai pob bardd a fwriadai siarad oddiar y Maen, nad oedd tyllau yn ei hosanau. Cyrhaeddodd Myfyr Morgannwg oed- ran mawr, a thawel huna yng Nghladdfa Gyhoeddus Glyntaf-heb fod ym mhell o'r lIe y bu yn cyhoeddi Y gwir yn erbyn y byd," "Yng hgwyneb haul, llygad goleuni." Ab Myfyr. Yr oedd Ab Myfyr yn llawer gwell bardd na'i dad, er nad oedd cylch ei wybodaeth mor eang. Ni ddyryswyd y mab gan ysbryd Derwyddol y tad. Cymdeithaswr o'r iawn ryw oedd Ab Myfyr, ac ni fyddai neb yn ei gwmni yn hir heb fod ar ei ennill. Canai ef yn y mesurau caeth a rhydd yn hwylus a medrus. Cryn orchwyl oedd ei guro ar englyn neu ddau, ond nid oedd ei anadl ond byrr. Enillodd lawer o wobrwyon yn Eisteddfodau Morgannwg, a chystadleuodd ac enill- I odd hefyd yn yr Eisteddfod Genedlaeth- ,01. Dyma ei englyn i'r Eira," a'r nod Cenedlaethol -trno:- Blawdog wy, Jblodau gauaf,oer a glan, Lliw'r goleuni puraf Yw eira, 'n ysgafn, araf, Ddyry Ion ar fedd yr haf. Athronydd gwych oedd efe, a byddai ■ arliw athronyddol ar ei gyfansoddiadau. Yn wahanol i'w dad, yr oedd yr elfen ddigrifol yn fyw ynddo. Hoffai gym- deithas y frawdoliaeth farddol, ac nid oes neb yn fwy ei barch nag ef ym mhlith Beirdd y Bont. Awrleisydd oedd yntau, fel ei dad; a bu yr holl bethau defnyddiol sydd yn cadw yr amser, oddiyma i lan y mor, yn canu ei glod yn soniarus cyhyd ag y bu byw. Hunodd Ab Myfyr cyn gweled hen ddyddiau, a gorffwys rhwng yr un muriau a'i dad. Ar ei gofgolofn ceir yr englyn diweddaf a gyfansoddodd—a i gafwyd yn ei logell, wedi iddo farw. Dyma fe Y pennaf, olaf elyn—yw manv, Y tymhorol derfyn; Ennyd yw i newid dyn, Y byd ad, mae'n bod wedyn. (I barhau.)

Advertising

Materoliaeth yn Goresgyn Cymru!

Advertising

Taith i Lydaw.

Hermon, Sciwen. I

Advertising