Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

Nodion o Abertawe. I

News
Cite
Share

Nodion o Abertawe. I Dan nawdd Temlwyr Da Phila- delphia .(B.), Hafod, Abertawe, nos Fercher, Ebrill iaf, traddododd y Bonwr Arthur E. Jenkins, Manselton, athraw yn Ysgol y Bechgyn, Hafod, ei ddarlith boblogaidd ar "Ganeuon Gwerin y Cymry." Daeth tyrfa luosog ynghyd, a chadeiriwyd gan y Bonwr Thomas, dilledydd gyda Chappell a'i Gwmni, Abertawe. Yr oedd yn amlwg i'r gynnulleidfa fod y dar- lithydd wedi astudio ei bwnc yn drwyadl, a chanddo ddawn arbennig i gyflwyno ei fater mewn modd attyniadol. Dosrannodd ei bwnc fel y canlyn, a roddodd enghreifftiau o honynt drwy gyfrwng cwmni o fech- gyn oedd wedi eu hyfforddi ganddo i'r diben:-( i) Alawon Telyn, Merch Megan; (2) Alawon Serch, Tra Bo Dai; (3) Alawon Gwladgarol, Y Fwyalchen Ddu Bigfelyn; (4) Alawon Arferion, Hela'r Dryw; (5) Alawon Galwedigaethau, Cneifio'r Defaid: (6) Alawon Suo-ganu, Y Saith Rhy- feddod; (7) Alawon Milwrol, Rhyfel- gyrch Cadben Morgan a Difyrrwch Gwyr Harlech. Ac yna cafwyd cvfres o hen benhillion a'r "Ben Rhaw," er mawr fwynhad i'r gwrandawyr, a chafodd y darlithydd a'i barti o fechgyn gymeradwyaeth galonnog ganddynt. Eisteddfod Dosbarth Cymraeg Cym- rodorion Abertawe.-Mae gan Gym- rodorion Abertawe lawer o feirniaid llym fel sydd gan Gymdeithasau cyffelyb, hwyrach, ar hyd a lied ein gwlad. Hola y cyfryw, pan y gofynnir iddynt ymuno a'r Gymdeith- as, pa les sydd yn deilliaw o hynny, pa ddaioni mae y Gymdeithas wedi neu yn wneud ? Onid nifer o bobl ydynt yn cyfarfod i wrando ar ddar- lithiau am enwogion-beirdd ac hynafieithwyr a chyffelyb bethau, a churo d wy la w a gwaeddi "Clywch, Clywch?" Nid yw y Cymrodorion wedi gwneud y peth hyn, a'r peth arall. Paham nad yw'r Gymraeg yn cael ei dysgu yn yr Ysgolion Ddyddiol? Paham mae ein gweinidogion yn traddodi pregethau hanner Saesneg yn ein pwlpudau ? Paham mae y prif swyddi yn cael eu rhoi i Saeson yn ein gwlad ? A chant a mwy o bahamau o'r fath, na, ni ymunant hwy a'r Cymrodorion nes y gwelont eu bod yn gwneud rhywbeth. Wel, ynte, er mwyn son am rywbeth sydd wedi cael ei wneud gan Gymrodorion Aber- tawe y rhagymadroddir fel yna. Sonia y penawd am Eisteddfod, ac Eisteddfod gan Ddosbarth Cymraeg. Boed hysbys i ddarllenwyr y Darian" i'r Cymrodorion tua phedair mlynedd yn ol gychwyn mudiad i sefydlu Dosbarthiadau Cymraeg yn y dref a'r cylch i'w cynnal yn yr hwyr, ac er mwyn sicrhau liwyddiant y mudiad gwahoddwyd yr holl Eglwysi Cymraeg i ddanfon cynrychiolwyr i gyfarfod y Cymrodorion i dynnu allan drefnlen fyddai yn cyfarfod a gofyn- ion y Bwrdd Addysg, er sicrhau y breintiau estynnai i ddosbarthiadau cyffelyb. Derbyniwyd yr awgrym gyda brwdfrydedd ar y pryd, a sefydlwyd tua ugain o ddosbarthiadau yn y gwahanol eglwysi, ac aeth pethau yn mlaen yn ddymunol am dymor neu ddau, ond yn raddol llaeswyd dwy- law, ac er anghlod i'r Eglwysi nid oes braidd yr un yn fyw heddyw. Dan nawdd y Cymrodorion sefydlwyd dosbarth arbennig i Saeson, ac hys- hyswyd hyn drwy gyfrwng y newydd- iaduron Ileol a chylchlythyrau, a chaf- wyd rhywfaint dros ugain o ddis- gyblion y tymor cyntaf. Penodwyd yn athraw, y Bonwr J. Celfyn Williams, a bu ei lwyddiant gymaint fel y cafodd uchel gymeradwyaeth Mr. O. M. Edwards, Prif Oruchwyliwr y Bwrdd Addysg. Cynhyddodd y disgyblion o dymor i dymor, fel y gorfodwyd cael athraw ychwanegol, a phenodwyd y Bonwr D. Spurrell Davies yn is- athraw. Eleni mae rhif y dosbarth dros driugain, a'u sel a'u diddordeb gymaint fel y penderfynnwyd diweddu y tymor ag Eisteddfod. Ymhlith y disgyblion ceir cyfreithwyr, ysgrif- weision, athrawon, athrawesau, etc., yn Saeson a thramorwyr. Ceir yma wr a gwraig sydd wedi bod yn y wlad braidd un mis ar ddeg yn cyfieithu o'r Saesoneg i'r Gymraeg, ac o'r Gym- raeg i'r Saesoneg. Dywed un Awstrian, "I can do very veil with the Velsh, for you pronounce the words as they are spelt, like in my own language, but as for the English a chryma ei ysgwyddau yn ffordd awgrymiadol ei bobl." Cyn- haliwyd yr Eisteddfod nos Fawrth, Ebrill 7ed, yn Ngwesty Cameron, a daeth nifer luosog ynghyd o'r dis- gyblion a chyfeillion y mudiad. Gwel- wyd yn bresennol y Bonwyr John Meredith, llywydd y Cymrodorion; J. Lovat Owen, Y.H., D. Rhys Phillips, F.L.A., Llyfrgell Cymraeg; D Hicks Morgan, B. A., ysgrifennydd Cymro- dorion; D. Morlais Samuel, is-lywydd; T. J. Williams Hughes, ysgrifennydd, Arianol Cymrodorion; T. J. Rees, B. A., Cyfarwyddwr Addysg; D. R. D. Prytherch, M.A., Prif-athraw, Ys- gol Sir Penygroes, Caernarfon; J. Evan Rowlands, cyfreithiwr; Harry A. Thomas, Mr a Mrs Joseph Davies, Mrs T. H. Tomlison, Mrs John Meredith, Mrs D. Rhys Phillips, Mrs David Harris, Mrs D. Spurrell Davies, Dr a Mrs Vaughan Thomas, y Mcistresi Gibbon, a Mr J. D. Wil- liams, Golygydd y "Cambrian Daily Leader. Llywyddwyd yr Eisteddfod gan Mr C. H. Tomlison, cyfreithiwr, ac ysgrifennydd y Dosbarth a'r Eis- teddfod. Y beirniaid oeddvnt: — Cerddoriaeth, Dr. Vaughan Thomas, M.A., Mus.Doc.; Cymraeg, Mri. John Meredith, Llywydd y Cymro- dorion; D Rhys Phillips, F.L.A., Llyfrgellvdd Cymraeg; Arlunio, Taro Hoelion, Mr H. C. Hall, Abertawe; Gwaith Nodwvdd, Mrs Vaughan Thomas, Mrs Spurrell Davies; Traethodau, Mr J. D. Williams, Golygydd, "Cambrian Daily Leader." Cyfeilvdd, Dr. Vaughan Thomas, B A. Ysgrifennydd, Mr C. H. Tom- lison; Trysorvdd, Mr J. W. Thorpe. Y buddugol yn y gwahanol gystad- laethau oeddynt a ganlyn Traethawd, "Y Dosbarth Cym- raeg," awgrymiadol a beirniadol, y gwobrau'n rhoddedig gan y Maer i, Bonwr Henry Purser; 2, Bonwr J. Hubert Roberts; 3, Bonwr C. H. I Tomlison. Unawd ar y Berdoneg, rhanvvyd rhwng y Fonesig Winifred Lewis, Mumbles, a'r Bonwr J. W. Thorpe. Adroddiad Cymraeg, i, Y Fonesig Blodwen Phillips; 2, Mrs C. T. Rhys. j Gwaith Nodwvdd, i, Y Fonesig Callard, Prif-athrawes Ammanford; 2, Y Fonesig C. Padden; 3, Y Fones- ig Edith Lewis. Arlunio'n ddifyfvr, i, Y Fonesig Leyshon (Megan); 2, Y Fonesig Blod- wen Phillips. Darllen Cymraeg ar y pryd, i, Y Fonesig Blodwen Phillips; 2, Y Fon- esig James, "A.B. 3, Bonwr R. J. Williams. Curo'r Hoelion gan y Rhyw Deg, i, Blodwen; 2, Y Fonesig Winifred Lewis. Cyfieithu o'r Gymraeg i'r Saesneg, i, Y Bonwr R. J. Williams; 2, Blod- wen; 3, Mrs Purser. Darn Corawl, "Gwnewch Bopeth yn Gymraeg," Parti Dosbarth y Bon- wr Spurrell Davies, dan arweiniad y Bonwr J. W. Thorpe. Cyflwynwyd y gwobrwyon gan Mrs J. Evan Rowlands. Cafwyd unawdau rhwng y cystadlu gan Dr. Vaughan Thomas, Mr L. J. Seymour, a Mrs Thorpe, ac ar y crwth gan y Bonwr Willie Roberts, yr offeryn o wneuth- uriad ei frawd. Ar hanner y gweithrediadau cafwyd sciblant i fwynhau lluniaeth flasus a ddarparwyd gan bobl y gwesty, ac i ymgomio'n ddifyr gyfaill a chyfaill. Nodweddwyd y gweithrediadau hefyd gan feirniadaethau y Doctor athrylith- gar. Dadlennodd deithi newydd yn ei bersonnoliaeth, llawn o'r digrif a'r cragwrus, ac hir gofir ei feirniad- aeth ar y darn corawl. Dau gor oedd i gystadlu, ond cynllwynodd nifer i fynnu gwneud trydydd, ac aethant ati yn ddirybudd er mawr ddifyrrwch i bawb a chanwyd gyda hwyl pob un, yn ol a debygwn, yn arweinydd iddo'i hun, a chafodd y Doctor ei gyfle, a gwnaeth y goreu o honi. Diweddwyd j noson ddedwydd trwy ganu "Hen WTad fy Nhadau a Duw gadwo'r Brenin." Haedda'r athrawon ym- roddedig a'u disgyblion ffyddon a Chymdeithas y Cymrodorion bob cymeradwyaeth am sefydu y dosbarth a'i wneud mor llwyddianus, a phob crach-feirniad penwag ei Iuchio i-- bwll hwyaid lleidiog. Mae gwrthwynebiad goreuwyr Abertawe i'r bwriad o agor yr Orielau Celf ar y Sabath wedi profi yn rhy gryf i'r Cyngor ei anwybyddu. Pen- derfynwyd felly ei ddileu oddiar y cofnodion yn y cyfarfod gynhaliwyd dydd Llun, Ebrill 6ed. Dengys hyn, pan y deffroir cydwybod y cyhoedd, fod ganddynt ddylanwad ysgubol, ac na feiddia awdurdodau penrydd eu diystyru. Ond y gamp y dyddiau hyn ydyw dihuno'r gydwybod grybwyll- edig. I TALNANT.

Y Feddyginiaeth i Ddiffyg…

[No title]

Etholiad Cyngor Dosbarth Caerffili.…

Treherbert.I

Ferndale. I

Danygraig, Alltwen.I

■II Colofn y Beirdd.I