READ ARTICLES (13)
News
ADGOF. AM GWYDDERIG. I Gan Glan Carnant, Nanticoke. I Ar ol blynyddoedd lawer o adnabydd- iaeth bersonol o'r bardd-foneddwr Gwydderig, cafwyd adgofion melus a phrudd-hiraethlawn am dano ar bryd- iau, a rhyw fwynhad-tristaol i mi fydd eu croniclo, am fod ein cyfaill anwyl wedi mynd "tu draw i'r lien." Un o I fechgyn Brynaman oedd y bardd, a'i l enw bedyddiedig oeid Richard Wil- lims. Mabwysiadodd y ffugenw "Gwydderig" oddiwrth enw yr afon sy'n rhedeg cydrhwng Trecastell a Llanym- ddyfri, a dechreuodd wisgo'r ffugenw I pan oedi Caledfryn yn golygu y golofn farddonol yn y "Gwladgarwr." Brawd dirodres. syml, gwreiddiol a naturiol ydoedd. wedi ei waddoli a synwyr cyff- redin cryf, ac yr oedd yn un o blant an- wylaf natur. Hoffai lwybrau'r wawrddydd, y myn- ydd, a'r ddol; teithiai ei hun ar droion i ben ceunentydd cysegredig natur hen, i fwynhau bendithion gloewaf cyfrin- achau Duw. Yr oedd yn well ganddo ddringo clogwyni arddunol anian na'r llwybrau cyhoeidus. Bu yn aelod ffydd- Ion o deml ysblenydd natur hyd ei fedd, "yn moli Duw yn nheml y dail." Llawer ymgom felus a gawsom ar ol anfon llythyr-gerdyn i mi i'w gyfartod ar ben waun Nantgwineu, ryw haner y ffordd o'r Garnant i Brynaman, a byddai helyntion llenyddol y cylehoedd yn dod dan sylw ar un o hen dwyni'r I Waun. Yr oedd ganddo got gafaelgar fel gwe'r prifgopyn. Yr oedd awdl Brwydr Maes Bosworth Eben Fardd ar ei got o'r dechreu i'r diwedd. Coflaf yn awr iddo awgrymu y pryd hwnw foi y bai a elwir camosodiad gan Eben yn ei awdl odidog yn y linell flaenaf o'r cypled canlynol: "0 Gymro teg, mae'r gwaed da Yn naturiaeth Victoria." Nid oes eisieu dweyd wrth ddarllen- wyr y "Drych" mai efe oedd brenin yr urdi englynol yn y De. Yr oedd saer- nio englyn mor rhwydded iddo ag an- adlu. Yr oedd ganddo amynedd diflino i wau llinellau cywrain; ceir ganddo rai o'r englynion cywreiniaf yn yr iaith Gymraeg. Enillodd amryw droion ar yr I englyn yn yr Eisteldfod Genedlaethol. Cariai gorff cyhyrog yn agos i bum troedfedd a deg modfedd o daldra, o ymddangosiad tywysogaidd, gwyneb siriol, a chalon agored, hawddgarwch a boddlonieb fel yn gwledda ar ei wyneb. pryd cariadlawn. Chwith lawn fydd genym, os cawn ein harbed i fynd am dro i'r Hen Wlad,1 fydd talu ymweliad a man fechan ei fedd yn mynwent Gibea, Brynaman. Bu yn gweithio dan y ddaear nes idio gyraeddyd ei haner cant oed; bu yn carto glo dan yr hen oruchwyliaeth yn mhwll Brynaman; gweithiodd am dym- or yn Washington Territory, Drifton a Hazleton, yr Amerig; hefyd os wyf yn cofio yn dda, bu yn gweithio am ysbaid byr yn nglofa Treorci. pan oedd Gurnos yn weinidog yno. Arweinioid yrfa ddarbodus iawn pan yn gweithio; gwnaeth ddigon o dda'r byd hwn i'w alluogi i fyw heb galedwaith yn ystod y chwarter canrit gweddill o'i dymor. Dyna engraifft dra ragorol gwerth ei hefelychu gan bawb. I Yr oedd yn hynod hoff o'i bibell mewn cwmni, "ei enau fel simneu fawr" bob amser. Wrth ddweyd stori, teimlem rhyw arddeliad swynhudol yn ei ffraeth ddywediadau hamddenol. Ceid portre- ad adlewyrchol o'i anianawd hapus yn yr englyn a osodoid ar ei flwch myg- lys. Yr oedd y blwch alcan yn barodj bob amser yn y ty i estyn croesaw i'r frawdoliaeth farddol i gyfranogi o'i ys- brydiaeth cyfareddol. Dyma'r englyn: Dwg ataf safn dy getyn-gad y byd Gyda'i boen am dipyn; 'E ddaw rhyw Iwydd ar ol hyn- Arfoga, cymer fygyn! Cofus genyf iddo ddweyd wrthyf un tro pan yn dychwelyd o dy ei hen gyf- aill Dewi lago, Waencaegurwen, iddo gwrdd a donci un o ragmen y dyffryn ar y Waun, a phan yn nesu yn gyfagos ato, dechreuodd gicio ac oernadu nes diaspedain creigiau'r cwm, a gorfu i'r bardd gymeryd y traed i gyfeiriai y Benwen, ac wedi cael ei draed dano; anadlodd yr englyn canlynol i'r donci gwallgofus: Ciciwr, oernadwr yw Nedi-yn byw A bod dan y perthi; March dyn tlawd, a'i frawd o fri— Car i dincer yw donci. Fisoedd cyn ei farwolaeth derbyniais lythyr hirfaith oddiwrtho yn desgriflo ei daith o Frynaman i ddwr y mor yn Aberaeron. Cynwysai ei nodiadau res o'r englynion doniolaf a ddarllenasom erioed, a diweddai ei epistol fel hyn: Yn wir Glan bach Yr un o hyd, er yn hen—yw'r anian, Er hyny'n anniben; Bywyd dwl mewn byd di-wen Ydyw bywyd heb awen. (I'w barhau.)
Advertising
Llog Sylweddol a llyogBlwch. Dyna mae buddsoddwyr yn ehwitio am dano heddyw, ac yr ydym yn ei gynyg iddynt. DeliwD ni mewn First Mort- gages ar flermydd yn ardal- oedd cynyddol Kansas, a sicr- hawn 51 a 6 y Cant o Log IJdá dyogel web perffaith. Yr ydym yn y busnes er's 15 mlynedd, ao nid oes yr un 0*n buddsoddwyr wedi colli doler drwy fuddsoddiad gyda m. Ond anfon oerdyn atom, t'oh oyfeiriad arno, bydd yn btoeer genym anion manylion i chwi. Thomas Mortgage Co., EMPORIA, KANSAS.
News
Y DIWEDDAR ROLAND HUGHES, BETHESDA, G. C. Dydd Gwener, Mawrth y 15eg, bu farw y diweddar a'n hanwyl frawd, Roland Hughes, Hill St., Gerlan, Beth- esda, Arfon. Er mwyn ei feibion, Roland Hughes a Samuel Hughes, Quincy, Mass., a'i ymweliad yntau ddwy waith a gwlad y Gorllewin, goddefer ychydig ofod fel gair o goffa am dano ar ddalenau'r 'Drych.' Mor anhawdi sylweddoli fod un o'i gryfder ef yn gorwedd heddyw yn y beddrod llaith! Y corff talgryf, y gwyneb gwridgoch; dyn nad oedd gweithio ddim ond megys chwareu dan ei ddwylaw; dyn nad allai'r rhiw serth lesteirio ei gam wedi diwrnod o waith. Y gweithiwr dihafal, yn neillduol felly yn nglyn a phob achos da. Bu'n ar- weinydd y gan yn nghapel y Gerlan (M. C.) am ddeuddeng mlynedd ar hugain; yn athraw ffyddlon, ac yn barod i gymeryd pob rhan yn ngwaith yr Ar- glwydd. Dewiswyd ef ac un arall gyda'u gil- ydd yn flaenoriaid yn yr eglwys bum mlynedd yn ol; a phrudd yr amgylch- iadau, bu'r ddau farw o fewn tri mis i'w gilydd. Cyflawnasant y swydd i fodd- lonrwydd pawb, ac nid oedd debyg idd- ynt yn eu sel i gyfarfodydd yr wythnos. Onid oes rhyw hiraeth yn ein dal, a thrymder ysbryd yn ein llethu, wrth feddwl fod John Jones a Roland Hughes, heddyw'n fud ac na chlywir byth eu llais yr ochr yma i'r lien? Dyma'r Groglith yn dod, a'r Gymanfa Ganu, un ag yr oedd R. H. yn rhan o honi, a hithau yn rhan o hono yntau. Onid efe oeid ei cholofn grefaf; bu'n ffyddlawn iddi heb fwlch am faith flyn- yddau, ac efe oedd ei harweinydd ddydd yr wyl un o'i throion diweddaf. Ond, daeth pall ar nerth, a chwympodd un o'r colofnau cedyrn. Ddeufis yn ol, gwelem y wedd yn dechreu curio, a di- frifoldeb dwysach yn ei wynebpryd, fel rhagfynegiadau o ryw ymwelydd dy- eithr. Aeth y pryd bwyd yn faich, a bu raid galw'r meddyg. Cyngorwyi ef i fynd i Bangor dan weithred lawfeddyg- ol. Bu yn yr infirmary am chwech wythnos, wedi enill serch ac edmygedd cyfeillion a gweinyddesau; ond, ni wyddai efe druan fod ei glwyf yn an- feidygadwy. Aethom yno gydag ef y diwrnod cyntaf, a rhyw ofn am ei adfer- iad megys cwmwl yn hofran. Daeth yn ol i'w gartref gyda'r go- baith o wella, ond gwyddem ni braidd i sicrwydd mai rhywbeth arall oedd ger- 11aw. Yr oedd ei lygaid yn bradychu rhyw anffodion cuid. Yn mhen y pyth- efnos daeth y wys olaf, ac ehedodd el ysbryd yn dawel at yr Hwn a'i rhoes. Ddydd Mawrth, y 19eg, hebryngwyd ei weddillion i dy ei hir gartref yn Glan- ogwen. Daeth tyrfa luosog yn nghyd, a dangosodd yr ardal ei pharch dwfn i un o'i dynion cryfaf mewn cymeriad a moes. Profedigaeth fawr i'w weinidog, y Parch. R. W. Jones, M. A., oedd methu bod yn ei angladd o herwydd gwaeledd. Gwasanaethwyd wrth y ty ac ar lan y bedi gan y Parchn. Alun T. Jones a T. L. Joseph (A.). Canwyd, 'Mae 'nghyf- eillion adre'n myned,' 'Pererin wyf mewn anial dir,' a'i hoff don (Dyffryn Baca) ar y geiriau 'Er mor chwerw dyfroedd Marah.' Gymaint o weithiau y bu efe ei hunan yn arwain yr un emynau angladdau eraill. Ond, wele y llais hyglyw, y cadernid di droi yn ol wedi cilio ymaith megys niwl y boreu. Heddwch i'w Iwch hyi ganiad yr.ud- gorn.—W. Roberts (Gwilym Llafar).
News
HYSBYSIAD 0 BWYS. Y Lie I Ymofyn am Gynorthwy o'r British Patriotic Fund. Carem gyhoeddi yn y 'Drych' er tyudd gwragedd ac eraill ag sydd yn dybynu ar y dynion a ymunasant a byidin Can- ada yn y wlad hon, mai y cyfeiriad i an- fan am y cynorthwy o'r British Patriotic Fund ydyw: The British Consul, 44 Whitehall St., New York City. Gyda diolch i'r 'Drych' am ei garedig- rwydd yn cyhoeddi yr uchod. _u- Utica, N. Y. Sergt. C. R. LONG. Utica, N. Y.
Advertising
Llyfran a Cherddoriaeth. "Cyaondeb y Ffydd." Person yr Ysbryd a'i Waith, Cyf. IV., Dr. Cynddylai Jones, $1.2.5. Pregethau Dr. Owen Thomas, 95c. Rhys Lewis (Danie Owe.), English, 75e. Spurrela Welsh-English Dictionary (Bodvan Anwyl), $1.10. Richards Weleh-Engltsh, English-Welsh Dictionary in one volume $1.00. "Perorydd yr Ysgol Sul" (J. T. Rees), H. N., 85c. Solffa, 50c Rbodd Mam, dwyieithog, 5. y dwsin. Rhodd Mam (J. Parry, Caer), Cym- raeg neu Saesneg, 35c. y dwain. Hyfforddwr (T. Charles), Cymraeg neu Saesneg, 75c. y dwsin. Holwyddoreg (J. O. Jones, Bala), Cymraeg neu Baesneg, 65c. y dwsin. layfr yr Athraw, 40c. y dwsin. Llyfrau Elfenol (Cerldwen Peris), Llyfr I., 35c.; Llyfr II., 50c.; Llyfr III., 65c. y dwsin Testament Daearyddol, Roan Gilt edge, 7&c. Testament Bach Cyfeiriadol 30c. EøbonladMl a Gwerslyfrau y Cyfundeb ar law. Yr oil o'r Caneuou Cymreig ar werth yma am y prieian lselaf. Songs of Wales, H. N., Lllan. 91 ft; Amlen,$1.50. TeUr sylw prydlon i bob archeb gyda'r mail. W. GAERWENYDD THOMAS, 2 Clarke Place, Utica, N. Y. -BA KER 9 S I COCOA I 1 Diod=fwyd blas= I us heb un bai 1 1 Wedi ei wneyd o ffa | | cocoa detholedig a 1 gymy sgir yn ddeheu- I ig ac a barotoir drwy | I foddion peirianol per- 1 1 ffaith heb ddefnyddio i fferyIlon o gwbl. Mae | | yn berffaith bur ac | | iachus, ei Has yn | i ddanteithiol,blas gyn- I 1 enid y ffuen cocoa I j I arno* 1 I ?? Cynwysa pob ? ?? pecyn gonest yr | arwydd mas- nachol hwn. | err IPiroloedit ya mig tan 4? M \W Walter Baker 1 j?h ? & Co. Ltd. I MU/? M Myd!wyd<7<0 ? Dorchester, Man. S PEG. U.S. PAT. OFF. S
Family Notices
GENHPR10DHWARW lJofynir Tal, yn ol 25 centi am bob ped. air Uinell. am gyhoeddi Barddon- iaeth yn Ngholofn y Oenedigaethan a'r Karwolaethan. GANWYD. JONES.—Ebrill 11, 1918, i Mr. a Mrs. Griffith Jones, 7349 Vincennes Road, Chicago, II1., mab. Mae efe a'r fam yn dod yn mlaen yn rhagorol. -0 a NEWID PWLPUDAU. Gan y Parch. B. Davies, Powell, South Dakota. Ebrill 2, 1918.-Tua diwedd lonawr, cychwynals am Garvin, Minnesota, i geisio llanw pwlpud y Parch. D. R. Jones am gyfnod o dair wythnos. Nid hir y bum yn yr ardal cyn deall fod personoliaeth y gwr da hwn wedi suddo yn ddwfn i galonau y praidd, ac yn un a fawr berchid gan bawb o'i gydnabod. Gan mai newid ddywedais oeddym, caf- odd y ddwy eglwys newid bwyd, ac mae hyn yn eithaf priodol mewn dyddiau pan y mae cymaint o newid. Yr ydym yn newid ymborth y corff y dyddiau hyn yn fwy nag arfer; gwelir y johnnie cake, y bara haidd, a'r bara ceirch yn dod i'r bwrdd, ac weithiau fara na wyr neb ond y cook beth yw. Cefais yr uch- od mewn hotel yn ddiweddar, a gofyn- ais i'r waiter pa fara oeid, ond ni wydd- ai. Yr oedd enw iddo ar y menu, ond ni wyddai el ystyr, a diameu ei fod yn teimlo yn debyg i'r waiter hwnw gynt, pan ofynodd teithiwr un diwrnod iddo am Washington pie, methai a gwybod beth oedd y dyn yn ei feddwl, ac yn hy- trach na bradychu ei anwybodaeth, daeth a pisyn o chocolate pie iddo, gan
Advertising
UNDERTAKING HARVEY KErLBACH- UNDERTAKER, 512 Columbia Street, Utica, N. T. Phone 8691. R OBERT Batley. Harry S. Gordon H. F. Slawson Funer Co. Parlors 3 ft 6 Blandina, Williams Bldg Open day and night. Phone 173 FRANK G. LANKTON, Ed. J. Burke, THE LANKTON-BURKE CO., Inc. Successors to Lankton ft Crocker, Undertakers. Motor Berries. t2 Steuben Park. Telephone No. 4 F. A. OASSIDY 00. VNDBRTAUA, 41 GENESEE ST., UTICA, N. T. Yn agored ddydd a noe. Telephone 181 JJUGH WILLIAMS UNDERTAKER 1115 WEST ST. UTICA. B. T. TELEPHONE 2600-J. linn H D SHELDON 1 UNDERTIIKEB1 æl æ "Official Undertaker æ = to the æ æ Cambrian Benevolent æ i Society ë = of Chicago" æ i 912 W. Madison St., Chicago | æ Telephone Monroe 393 5 utmwwiimMiiiiiiutiniiHmiuniiriuun ♦
Family Notices
feddwl y gwnai hono y tro, ond medd- ai'r teithiwr, 'Say, waiter, I ordered Washington pie, and not Booker Wash- ington!' Cydymdeimlaf a llawer un pan y .mae cymaint o newid ar enwau pethau. Gobeithio y bydi yr oil yn fendith er gorchfygu unbenaeth (auto- cracy) trwy'r byd, a sicrhau democracy gweriniaeth yn gyffredinol, ond son am newid ymborth yr oeddym. Felly caf- odd yr eglwys hon amser dymunol dan weinidogaeth Mr. Jones. Felly ysgrif- enydd hyn o eiriau; cafodd amser rha- gorol, beth bynag gafodi y praidd. Hy- deraf beth bynag, na fu y cyfnewidiad yn angeu iddynt. Bum yn aros gyda Jonathan Lewis; mae efe yr un enw a fy nhad, felly yn ddyn go dda. Cefais bob caredigrwydd ganddo ef a'i briod hawdigar. Yn Powell y treuliodd Mr. Lewis ran fawr o'i amser, ac y mae yn adnabod mwyafrif y sefydliad. Cefais fantais fel hyn i wneyd cyfeillion new- ydd. Bum yn lie Thos. Phillips, Ben Thom- as, J. R. Hughes a John Griffiths. Cef- ais ddiwrnod pur arw i weled Mr. Hughes; efe yw dechreuwr canu yr eg- lwys Saesnig, ac y mae wedi ei ddonio yn y gangen hon, ac'yn hynol ffyddlawn gyda'r achos. J. Griffiths oedd yr unig flaenor gan eglwys y wlad, ond da gen- yf ddeall fod yr eglwys hon erbyn hyn wedi dewis rhagor o flaenoriaid, set Jabez Thomas a John Walters. Bu y Parch. E. W. Griffiths a James Price, Horeb, yn yr eglwys yn cynorthwyo gyda'r dewisiad. Mae Walters yn fedrus gyia'r canu, ac y mae yn hanfod- ol bwysig cael canu da, ac un fedr ei arwain yn briodol. Mae Jabez Thomas yn fab i bregethwr, yr hwn fu yn achos i gychwyn yr achos yn Garvin, a sicr fod ysbryd y tad wedi meddianu y mab, gan ei fod yntau yn llanw ei le mewn brwdfrydedd. Thomas Phillips yw trysorydd yr eg- lwys, yr hwn sydd yn byw yn agos i bentref Garvin. Cafodd yr eglwys goll- ed fawr trwy farwolaeth Hugh Wil- liams, y blaenor. Bum yn gweled ei weddw, ac y mae yn llawn sirioldeb a digon i ddweyd. Bum hefyd yn Tracy, tua saith mill- dir o Garvin; nid oeddwn yn adnaboi neb yno ond John Phillips, ond nid oedd yn cofio dim am danaf yn awr. Bum yn ei gartref clyd tua pum mlyn- edd yn ol, a chefais garedigrwvd'i mawr y pryd hwnw fel y tro hwn. Hef- yd yn ddamweiniol un diwrnod wrth edrych am y Post Office, ae yn dod am gornel y Bloc, daeth dyn i gwrdd a mi, a. gofynais iddo lie yr oedd y Post Office, ond cyn dweyd lie yr oedd, meddai, 'Mr. Davies, o b'le daethoch chwi?' Yr oeddym ein dau yn hurt am beth amser, a hwn oedd Elias Jones sydd yn awr yn byw yn Tracy, Minn- esota. Cwrddais ag ef yn Lake Crystal adeg y Gymanfa Gyffredinol, a buom yn cydfwyta yn He Mrs. Hugh Owen, a buom yn ymgomio yn ddifyr. Ysgol dda i ddyn ieuanc yw cael eistedd wrth draed rhai fel hyn. Un felly yw Mr. Jones, er yn amddifad o un llygad, eto y mae yn ddarllenwr mawr, ac yn feid- yliwr ar ei ben ei hun; heb lawer o addysg ysgol ond ei ysgol ei hun, y mae vn eithriad am ei wybodaeth a'i gof. Pryd bynag yr af trwy Tracy, af i weld yr hen bererin eto. Adwaenai amryw y ffordd hon, ac Aberdeen, a bu allan yma rai blynyddoedd yn ol, a sonia am ddod eto. Yr oedd ei wraig, Mrs. Jones, hefyd yn adnabod amryw y ffordd hyn, ac o'r un fan a Mrs. John B. Evans. Mrs. Owen Rowlands a Mrs. John P. Hughes. Hefyd merched y Nant, fel y gelwii hwy yma, Mrs. Wm. Williams, Cresbard. a Mrs. Miriam Wil- liams, Ipswich. Cefais wybod tipyn, am Cambria, Wis., trwy y gydnabyddiaeth yma. Hefyd Henry Jones, teiliwr wrth ei alwedigaeth, cwrddais ag ef eto bron fel y cwrddais ag Elias Jones, a bum yn ei weithdy yn son llawer am sir Ddinbych a sir Gaernar- fon. Y mae Mr. Jones wedi teithio llawer ar Gymru a Lloegr, a dyidorol oedd gwrando arno yn mynd tros yr hanes, yn cadw ei dy er pan gollodd ei anwyl briod. Y mae Mr. Jones, o Man- kato. yn berthynasau i'r hen Gristion. Gadewais Tracy am Mankato. (I'w Barhau).
Advertising
WAR ATLASES. Darllenwch yr hysbyslad am War Atlases ar tudalen 8 o'r rhifyn hwn. Bydd unrhyw un o'r tair yn gymortb sylweddol i ddylyn symudladau y byddinoedd yn y rhyfel presenol. ———— ———— PHILADELPHIA, PA. Yr Eglwya Gymreig ar 21st St. a Fair- mount Ave. Gweinidog—Parch. R. E. Williams, 56 N. 53rd St. Moddion—Pregethn y Sabboth am 10:30 A. M. a 7:00 P. M. Ysgol Sul, 3:30 P. M. Cyfarfod Gweddi, nos Fer- cher am 8. Cyfarfod y Bobl Ieuainc, Iau Cyntaf, Trydydd a'r Pumed am 8 P. M. Yr oil o'r uchod yn unol a'r amseriad newydd. 0 Orsaf y Reading neu y Pennsyl- vania cymerer Car No. 16 ar Market, neu No. 48 ar Arch St. Real Estate Insurance City property Fire, Liability, bought, sold, rent- Automobile, Plate ed, exchanged and Glass, etc. managed. STANLEY W. JONES 309 Arcade Building, UTICA, N. Y. Bonda Loans Mortgages Tel. 2861 MISS EDITH MALDWYN WELSH CONTRALTO Concerts, Recitals, Eisteddfodan, Oratorios. d d ress- 527 W 121st St.. NEW YORK CITY DAVID J. JONES Successor To WILLIAM W. JONES. BARRE—QUINCY—WESTERN MONUMENT5 SHOP—1506 MILLER ST., UTICA, N. Y. Gelwir ar gals unrhyw nn I ddangos arnllunlau a aamelan. (
News
CHICAGO, ILL. Cefais wledd feddyliol o'r fath oreu heno, wrth wrando ar Dr. Arthur Wal- wyn Evans yn areithio yn yr 'Engle- wooii Evening Club' ar 'Beth wnaeth America i mi.' Mae Dr. Evans yn siar- adwr rhwydd a llithrig, yn parablu yn eglur a chyflym, mor ddiofn a Bili Sun- day. Yr oedd y capel yn orlawn o Americaniaid, ac ni fum erioed yn fwy balch o wrando Cymro yn siarad yr iaith Saesneg ar unrhyw lwyfan. Car- em i bob Cymro ei glywed, yn enwedig y rhai hyny sydd wedi dod o'r Hen Wlad, am ei fod yn dweyd profiad ami un. Nid oedd arno gywilydd o'i fod wedi cael ei eni yn Nghymru Wen. Yn hytrach yn gorfoleddu yn hyny, dywed- odd fod gwlad ei enedigaeth mor fach fel y gellid ei gosod yn nghornel Tal- aeth Illinois; eto i gyd, ei boi wedi codi dynion mor fawr sydd heddyw yn sef- yll ar binaclau uchaf y byd, megys D. Lloyd George; Llywydd Hughes, Aws- tralia; Evans Hughes, ac amryw eraill. Os daw Dr. Evans o fewn eich cyraedd, mynwch ei glywed, gwna les i chwi. Cydymdeimlir yn fawr a Mr. a Mrs. Bob Griffith ar y South Side yn ei galar dwys ar ol ei hunig fab, Robert; bach- gen golygus, hawidgar, cryf yr olwg, 32 mlwydd oed. 'Yn nghanol ein bywyd yr ydym yn angeu.' Clywais i 'Sons of St. David's' gael cyfarfod ardderchog yn Hebron nos Sadwrn diweddaf. Dr. Ceredig Jones a'r Anrh. Webster Davies yn llawn tan a hwyliau Cymreig. Clywais fod 'Kymry Society of Chicago' wedi ethol 'live wires' yn swyddogion am y flwydd- yn ddyfodol: Mr. Lemuel Foulkes Owen a Mr. Lewis M. Jones. Mae yn anhawdd cael eu gwell.—Chiacogwr.
News
MANKATO, MINN. Cafodd Mrs. D. M. Jones y newydd trist yr wythnos o'r blaen fod un o'i brodyr wedi ei ladd yn Ffrainc. Ei enw ydoedd Sergt. John Evans, ac yn aelod o'r S. W. B. Aeth i Ffrainc yn Rhagfyr, 1915, gyda brawd ieuengach, a chlwyfwyd y ddau. Cafodd John ei ladd oddeutu Chwefror 15 yn Ffrainc. Yr oedd wedi enill y Military Cross yn mis Awst diweddaf am ryw waith neill- duol, ond ni chafodd y fraint o ddod i Lloegr i'w derbyn. Mae y brawd arall ar hyn o bryd yn Itali. Mae Joseph Jones (brawd arall i D. M. Jones) a'r teulu yn symud o Man- kato yr wythnos hon i fyw i Denver, Colorado. Maent wedi bod yn Mankato am yn agos i bum mlynedd, ond nid yw ei iechyd wedi bod yn dda, ac maent yn symud i Denver gan obeithio cael iechyd gwell. Y mae efe wedi dysgu y grefft o painter a paperhanger yn yr Hen Wlad. Gymry Denver, os gellwch ei gynorthwyo mewn unrhyw fodd teimlaf yn ddiolchgar. Mae llawer o fechgyn Cymreig Mankato a'r cylch wedi ymuno a'r fyddin; yn eu plith mae Dan Lloyd a Willari Wigley yn Ffrainc; Dr. Lloyd, Meredith ac Owen Griffith, Uriah Jones, Owen Wil- liams, C. Hughes, Victor Jones, ac eraill yn y gwahanol wersylloedd. Nid oes yr un dyn ieuanc mewn oed milwrol yn y capel Cymraeg ar hyn o bryd, ag eithrio Dave Roberts, mab yr anfarwol Gwyn- gyll, efe yn gweithio i Uncle Sam yn y
Advertising
Gwella Tor Llengig. Amryw flynyddau yn ol wrth godi gormod pwysau torais fy Ilengig (rupture). Dywedai meddygon mai fy unig obaith am wellhad ydoedd llaw- feddyginiaeth. Nid oedd gwregys (truss) o un budd i mi. O'r diwedd ces afael ar rywbeth a roddodd wellhad llwyr a buan i mi. Mae blynyddoedd wedi myned heibio, ond nid wyf wedi cael fy mhoeni ddim, er fy mod yn dylyn gorchwyl caled fel saer. Ni chyflawnwyd llawfeddyginiaeth, nl chollwyd amser, ni chaed dim poen. Nid oes genyf unpeth i'w wertbu, ond janfonaf fanylion cyflawn sut 1 gael jgwellhad sicr heb fyned dan gyllell y meddyg-Eugene M. Pullen, Carpen- ter, 90.9D Mareellus Ave., Manasquan, N. J. Gwell i chwi dori yr hysbysiad hwn a'i ddangos i eraill sy'n dyoddef oddiwrth dor Ilengig-dichon y bydd i hyny arbed bywyd, neu o'r hyn lleiaf arbed poen a pherygl llawfeddygin- iaeth. EGLWYSIG. Egtwyl Gynulleidfaol Miner's Mills, Pa. 0 herwydd ymddiswyddiad ein parch- us weinidog, y Parch. Theophilus Dav- ies, yr hwn a'n gwasanaethodd am dymor maith yn hynod o dderbyniol, bydd yr eglwys uchod mewn angen am wasanaeth gweinidogion i lanw y pwl- pud am dymor, ac hefyd yn edrych allan am un ag y gall ei alw i'w bugeil- to. Carem ohebu a gweinidogion ag sydd yn agored i alwad.—Cyfeirier, T. R. Griffiths, Abbott 8t.. Miner's Mills, Pa. INFORMATION WANTED Of the whereabouts of William Owen (late of Sling, Beaumaris, and of Steu- benville, Ohio). Inquirer, his wife, Margaret Owen, care of Plas Rhos- colyn, Holyhead, Anglesea, N. Wales, Great Britain. WM. W. ROBERTS REAL ESTATE. LOANS. BONDS. APPRAISALS AND INSURANCE. Farms for Sale or Exchange for City Property. Good List of Farms to be sold by April 1st. A good time to buy Real Estate at low Prices. 246 GENESEE ST.. UTICA. N. Y.  "'wJS.?.?S.- —^NO EX^PENS«E we will M —hear conrereabon of your friends, send you a new AcousbcOD. -ever)' OOUM-iud M yoa L We gumantee it or you ow sTenhd is is ptohse itiveply eoepnlae blteo d hoevmer DEAFrumewwid m tot. he Acmuticm at our expenn ,h,.h„p«Mv*«.bw<>™r ||| ur Ktua rthe Acousticon at our expense t300.?000 ???r" UN? LMMM* 'r Write vntr.i 300,000 deaf people to heM. mm ■ ■ days' free home trial. GENERAL ACOUSTIC COMPANY, 1300 Candler Bldg., New York Beautiful Bust and Shoulders BBsB)? it/w\MMN *? pcesiMe if you will wear a acientiCctUy constmeted Ia-ieZiii. Brassiere. Mr??<r? ?!C"Mt Thf dra<?in? weight of an unconfined bust 80 stretches the  ■B1 f '??w\ ) N?t 8Upportig muscles that the contour of the 6pre is spoiled. g BR| ft jmnEigiM W ? put the bust back where it be- g M 10np. prevent the fan bust from g! BB? ? ??S?\M< ????MMMMN t ??Mi&?K -?? OUE having the appearance of Bab- g BB?M? ? t t* t8S8t"? ??vJ??????t t <* ?, ?j7 ?o'S7? biness, eliminate the QM?er of tg BB??N t''?'??& S??'????K?t L ttOA?C<'t?'i?f? dragging muscles and confine the °'?*' Cef'hoftheehoutdertiviDtt g iRBt graceful line to the entire upper body. g??-/  ?8??SM w They are the daintiest Md most serviemble garments lmaci- IT nable—come in all materials and styles: Crow Back, Hook EE???? ???HSf A Front. Surplim Bandeau, etc. Boned with Wa!ohn." the ta A rustte? boning-permitting wubiog without removal. Have your dealershow you Bien Jolie Brassieres, if notstook- S ed, we will gladly send him. prepaid, samples to show you. a BENJAMIN & JOHNES, 51 Warren Street, Newark, N. J. g MlllllllllllllllllllllllllllllimillllllllllllllllllllllllHIIIlllllllllllllllllllllllllllllllllUIIIIIIIILi i iaii onery Pircular-q llooklefJ3 fiaialogs | .1 cEstimates on flequesb I 1- 11hos. J. G riffi thsl I Printing I Publisliing [ and Binding i I Griffiths lluilding, sfiotel and Jiiberbij @f:3.1 ê Mica, J1.. J. | = \J'" c: = .III I iiui iiiinii I I III I I iiiiiiiii initi iiiii iiii [I III iiiii III iiiiiilf- CUNARD ESTABLISHED 1840 Regular Cargo and Passenger Service New York-Liverpool New Yri-Falmonth-Londot New York-Bristol Drafts-Money Orders. Mail or Cabu Great Britain, Ireland Scandinavia, Italy. France, Portugal, Spain, Switzerland. For further information apply, 21-24 STATE ST., NEW YORK Telephone 3300 Broad AGENTS YN UTICA, N. Y.-A. M. Rob- erts, fI8 Howard Ave.; J. H. M&cQarrltjr, Mann Building. POULTNEY-W. H. Rowland. NEW YORK MILLS-Grifr Williams. GRANVILLE-Rees G. Williams. MILWAUKEE. WIB.-J. Eiias Jones. SU Shepard Ave. 8LATINGTON. PA.-Daniel G. Pierce. THE NOTED POEM "THE WAR." Bv Sagns. One copy, 5c.; 20 for 50c.; 40 for $1.00. Apply to L. G., Box 42, Bangor. Sask., Canada. NEW TREATMENT THAT KNOCKS RHEUMATISM 50c. BOX FREE TO ANY SUFFERER. Up in Syracuse, N. Y., a treatment for rheumatism has been found that hundreds of users say is a wonder, re- porting cases that seem little short of miraculous. Just a few treatments even in the very worst cases seem to accomplish wonders even after other remedies have failed entirely. It seems to neutralize the uric acid and lime salt deposits in the blood, driving all the poisonous clogging waste from the system. Soreness, pain, stiffness, swelling just seem to melt away and vanish. The treatment first introduced .1koi Mr. Delano is so good that its owner wants everybody who suffers from rheumatism or who has a friend so afflicted, to get a free 50c. package from him to prove just what it will do in every case before a penny is spent. Mr. Delano says: "To prove that the Delano treatment will positively over- come rheumatism, no matter how severe, stubborn or long standing the case, and even after all other treat- ments .have failed, I will, if you have never previously used the treatment, send you a full size 50c. package free if you will send your name and address with 10c. to help pay postage and dis- tribution expense to me personally." F. H. Delano, 726-E., Wood Bldg., Syracuse, N. Y. I can send only one Free Package to an address. Line and Halfrtone guts For all printing purposes. Let us get you up a design for the heading of your business stationery. Pen- cil sketch furnished free of charge rmma Don't you wan't a cut of your- aelf M&lBUBUI Write for prices and samples iiiiI Thomas J. Griffith* Printer and Publisher Hotel and Liberty Streets UTICA, N. Y. 1859 1917 FERRIS & CO. GENERAL INSURANCE SERVICE Clarendon Building, 219 Genesee St Phone 1186-J WILLIAM D. FERRIS Pe Do T)ONES sl41 West Adams St CHICAGO, ILL Agent y "Drych" a'r "Cambrian." Agent yr holl gwmniau agerlongawt 1 ac ofr Hen Wlad. I deithwyr a bryn- ant docynau ganddo cyfarfyddir hwynt t yn y stations ar en Sordi i Gymra.
News
CONGREGATIONAL MINISTERS OF AMERICA. On receipt of$1.00 I will mail post- paid a beautiful engraving containing a group of 97 of the leading Welsh Congregational Ministers of America. Size 22 x 28.—A. C. Evans, 33 East Ross St., Wilkes-Barre, Pa. Post Office, ac yn gwmpeini i'w fam unig ar hyn o bryd. Cafwyd Eisteddfod lied dda yn Lake Crystal ar Ddyid Gwyl Dewi, ond fel dywed W. O. Hughes, gresyn na fuasai mwy o gystadleuaeth mewn gwlad fel Blue Earth County, lie mae yma ddigon o dalent lenyddol, barddonol a cherdd- orol. Drwg genym nad oeddem yn abl i diyfod i Eisteddfod Utica eleni am fod cof am y pleser a gawsom yno y flwyddyn ddiweddaf yn fyw yn ein cof hyd heddyw, ond gobeithiwn ddyfod eto ryw ddydd, os byw ac iach. Da iawn y gwnaethoch i ddewis Hugh C. Jones (Carmelyn) i gymeryd lie y diweddar Gwyngyll fel 'short hand reporter' i'r 'Drych.' Mae gan Hugh C. ddigon o amser ac yn llawn abl i gyf- ilawni y gwaith yn anrhydeddus. Dys- jgwyliwn gael llawer o'i ysgrifau ar du- dalenau y 'Drych' yn y dyfodol.—D. M.