Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
[No title]
'Brwydrau Anweledig.' Pryddest Cydfuddugol Eisteddfod Mitchell Day Providence 1916. Yr anweledig mawr! Yr ydwyt ti Tu hwnt i'm hamgyffrediad—byw'r wyf 11 Yn y gweledig; eto ambell ddydd, Fy meddwl dyr i mewn i'th gylchoedd cudd, Y rhai nas gall gwyddonwyr pena'r byd, Er maint eu dysg a'u hymchwil ddod 0 hyd l'r nerthoedd cyfrin sydd drwy'u hyrddiol waith Yn gwasgar arswyd drwy y cread maith. 0 oes i oes fe wnaed ymbrawfion lu Er dwyn ger bron ddirgelion nefoedd fry, A ehyirif am y nwyon mawr eu nerth Ymfrwydrant yn eu rhwysg fel rhengau certh Gan Iwwlh weithiau gyda'u fflamllyd fellt Wneyd yr orielau heirdd i gyd yn ddellt. Cynyrius oil yw gwyneb eang nef, Ac ysbryd rhylel a'i deyrnwialen gref Oeyrnasa yn ei nerth; er hyny cudd l'r Gwyddon doethaf yw y cyffrawd sydd Yn dirgel weithio dan yr oil o it -1 ü'r golwg y mae brwyurau mwya r byd. Yn nghrombil hen y ddaear weithiau mae W,Irenau ,n gruddfan gan gyhoeddi gwae! Y tan gronfeydd ymferwant y pryd hyn, A'u twrf mal taran groch, y ddaear gryn. Vesuvius! Etna! crynu y maent hwy Gan daflu allan losgwy fwy na mwy- Rhaiadrau tan, a'r trefi heirdd y sydd Yn oddaith fawr. Er hyny, cudd Yw'r egwyddorion sydd o dan yr oil. Nis gwelir hwy; maent fel 'dolenau coll.' Albanau'r flwyddyn hefyd, un'r ol un, Pe meddent iaith a dystient yn gytun, Fod brwydrau anweledig ynddynt hwy Yn cael eu hymladd; bywyd wthia drwy Gadluoedd o elynion. Rheidiol yw I bob planigyn ymladd, os am fyw; Ond pwy er hyn a wel y grym y sydd Mal ysbryd byw yn brwydro nos a dydd? Y brydferth ardd yn nghyd a'r meusydd teg, I'an y mae Eilir gyrhï w. imi c.hwosr Yn deffro ein ir:>r.■■■■ ) :M i, •! liyddinoedd cryfion yn ii gwae. Nis gwelir hwy; eu swn ni chlywir chwaith. flu nos sy'n ddu, er hyny, gwnant eu gwaith. Uhagluniaeth fawr y Nef-ei threfniant doeth Sy'n mhell tu hwnt i'r meddwl mwyaf coeth Byth ei amgyffred; gelyniop eofn sy' Am gau ei ffordd, ond trwyddynt a yn hy'. Ond pwy ddarnoda'r egni grymus sydd Rhyfeddol yw! aruthrol yn ei nerth, A'i gynyrch sydd o anmhrisiadwy werth. Bwriadau dwyfol lor! Ei gyngor hedd, Er ymgyrch oesol, saif ar gadarn sedd. Ni syfl o'i le, nid oes i'w hanes ball; Mae'r un o hyd er holl ystrywiau'r fall. Efengyl Duw! mae hi yn dal ei thir; Nis gall y gau byth ddiorseddu'r gwir Ei brwydrau anweledig ydynt lu. Drygau ysbrydol megys dreig y sy', Yn rhuthro arni gyda gwanc ddi-hedd Am wel'd y dydd i'w rhoddi yn ei bedd. Bedd Efengyl gras! Ffrwyth Cariad Duw! Ni chloddir byth; mae i dragwyddol fyw. Cynlluniau dirgel yr un drwg o hyd- Y brad a'r dichell leinw'i halog fryd A fethant oil; Mab Duw o hyd y sydi Yn gryfach na'r cryfarfog. Dod mae'r dydd Y llwyr ddinystrir ei guddfanau ef, A gwyneb daear wneir fel gwyneb nef. Y Cristion, yntau, wyr yn eithaf da Am frwydrau anweledig; mynych ca' Ei glwyfo ynddynt; parod yw i ro'i I fyny'r ysbryd, hyd nes mae yn troi At Dduw am nerth, am oleu gorsedd graB I ymladd ac i goncro pechod cas. Ei saeth-weddiau oddiar fwa ffydd A glwyfant y gelynion mwyaf cudd. Y Cristion wna ei waith. a ga' wrth raid, Ysbrydol nerth; mae Duw ei hun o'i blaid. Dyddenir ef ac esmwyth-heir ei boen; Rhyfela wna dan ganu Salmau'r Oen. Pan daena nos ei haden lydan, ddu, A'r cadau anweledig o bob tu Yn ymffyrnigo, nes y mae eu llid, Mal gwreichion cochwyllt yn goleuo'r byd, Diysgog yw ei ddelfryd ef pryd hyn, Er duwch nos try'r oil o'i gylch yn wyn. Ca' nerth wrth raid i ymladd brwydrau cur; Anfarwol ydyw perchen calon bur. Brwydrau fy mynwes ddyid 'rol dydd, Achosir gan Epil y fagddu; Gwnant wybren fy mywyd yn brudd; Mae ynddi Philistiaid yn llechu; Mae pechod a'i filwyr wrth law Yn nyfnder fy natur lygredig; Hwy'm llanwant a gofid a braw, A gwawdiant bob peth cysegredig. Anelant eu saethau o hyd, A gwanant bicellau gordanllyd; Fy nghwympo sy'n llanw eu bryd, A'm damnio yn ngherwyn yr eilfyd. Ymguddiant yn ddystaw, ddi hedd; Llawn malais a digter yw'r gethern; Llofruddio y Da yw eu gwledi- Hyfrydwch eu calon ei uffern; Yr lesu bendigaid ei Hun, 'Rol dyfod o hafddydd Paradwys, Ymlwybrai drwy'r ddaear yn flin, Ychydig a gafodd o orphwys. Mewn brwyir o olwg y byd, Y bu yn unigrwydd y mynydd; Archelyn dynoliaeth drwy'i hud, Amcanodd ro'i terfyn i'w gynydd; Yr Ardd a Chalfaria y sydd, Yn fanau ei ingoedd ofnadwy; Arosant drwy'r oesau yn guld, Y gwaddod nid yw yn draethadwy. Penaethiaid Gehenna yn llu O'i gylch yn ddirgelaidd ymwibient; Ni thraethwyd y brwydrau a fu; Tywyllwch am oriau a'u cuddient. Y nefoedd a'r diaear pryd hyn Ymladdent am gael goruchafiaeth; Haul ddua, a'r ddaear a gryn. Pel pe b'ai ar fin trancedigaeth Pwy ddichon egluro yn llawn, Y dirgel egnion weithredant, Mae chwilio i ddyfnder yr lawn, Yn llethu ar unwaith bob gwyddiant. Y brwydro o'r golwg a fu, Yn hanes digymar yr leBu; Lloerigrwydd hil anwn a'u rhu, Y'nt bethau nas gellir eu traethu. Edom a Bozra yw'r byd, Mae brwydrau dirgelaidd yn mhob- man; Dan ffrewyll cynddaredd o hyd, Goreugwyr y gwledydd sy'n grudd fan. 'Does lanerch ar ddaear ein Duw Y gellir ei sangu'n ddyogel; Na mangre nad ellir cael briw, Mae'r gelyn yn cynllwyn yn ddirgel. Pan f'om yn nhy gweddi a chan, Yn diolch am goncwest Calfaria, Teifl atom beleni o dan, Dystrywiai pe gallai ein noddfa. Ein noddfa a'n nerth ydyw Duw, Mae ynddo gadernid tragwyddol; Y gelyn ffyrnicaf ei ryw, Pan gyfyd a dery yn farwol. Ond wele, y diwedd a ddaw, Y brwydrau dirgelaidd a beidiant; Cudd-gelloedd y ddaear, a'u braw, Oleuir gan wynddydd gogoniant. I fyny mae ymdaith ein byd, Gorchfyga ei gyfrin elynion; Eu llwybrau bradwrus i gyd, Arweiniant at Orsedd a Choron. Hawddamawr fyd! o fewn yr hwn ni bydd, I gael ei hymladd byth un frwydr gudd. Byd purdeb a gwirionedd-byd o hedd, Byl maw! chan, byd cariad ar ei sedd. 0 hyl*r-v Ii'v dP, v d b fT) fi i iz,- I j »' '• v f i o i wyrtrau anweledig. NcTol fvii gw vn ein byd, Os ynddo bydd ein cartref clyd. I, Parch. WM. R. EDWARDS. Scranton, Pa.
CYFARFOD TYSTEB Y PARCH. THEOPHILUS…
CYFARFOD TYSTEB Y PARCH. THEOPHILUS DAVIES, PLAINS, PA. Gan y Parch. David Jones, Scranton, Pa Mae y brawd anwyl a chariadus uch- od wedi ymneillduo yn wirfoddol o ofal ei eglwys, am fod ei olygon wedi pallu, ac am ei fod yn argyhoeddedig fod llwyddiant yr achos yn gofyn mwy o ofal ac o lafur nag a fedrai efe roddi iddynt o dan yr amgylchiaiau presenol. Er ei fod wedi myned yn hollol ddall, y mae llawn can gryfed ei gorff yn awr ag yr oedd ugain neu ychwaneg o flwyddi yn ol, ac mor siriol ei ysbryd ag y bu yn yr adeg oraf ar ei oes. Daeth i'r wlad yma o Lanelli yn 1881, ac or- deiniwyd ef i gyflawn waith y weinidog- aeth yn Mineral Ridge, Ohio, a bu yno hyd ddiwedd 1883 pan y daeth i Miner's Mills neu Plains. Sefydlwyd ef yma yn Ionawr, 1884, ac nid oes ond dau o'r gweinidogion fu yn gwasanaethu ar yr achlysur yn aros, sef y Parch. Gwrhyd Lewis, Ton'refail, D. C., a'r Parch. T. C. Edwards, D. D., Eiwardsville. Y mae efe a'i eglwys wedi cydweithredu a chydweithio yn dangnefeddus iawn am 34 o flynyddau. Mewn undeb a'u gilydd y maent wedi llwyddo i adeiladu capel newydd eang a chyfleus ar fan uchel yn y dyffryn lie y gwelir hyd yn mhell i bob cyfeiriad. Adroddwyd yn ddyddorol fel un medrus i 'ddweyd stori' gan y Parch. T. C. Edwards, D. D., y modd y cludwyd yr hen adeilad o Mill Creek, lIe y cych- wynwyd yr achos i fyny i ben y bryn hwn. 'Myrtwydd yn y pant oedd yr eg- lwys yn y cyfnod hwnw, ond yn awr y mae yr adeilad newydd ar le uchel a dylifiad pobloedd lawer iddo i addoli. Torwyd yr hen gapel yn ei hanes,a dyg- wyd ef i fyny yn ddwy ran, ac asiwyd ef ar y tir y saif y deml bresenol, ac yno y bu yr eglwys yn cyfarfod am law- er blwyddyn wedi dyfodiad Mr. Davies atynt. Heddyw, y mae ganddynt un o'r adeiladau mwyaf dymunol yn y dyffryn. Yn ei ymyl saif persondy braf sydd yn gaffaeliad mawr i'r gweinidog a'r eg- lwys. Mae y naill a'r llall mewn diwyg lan a threfnus, yn brawf oofal a dy- ddordeb y bobl yn y meddiant tymorol sydd ganddynt. Yr un yw cyflwr mewnol ac ysbrydol yr achos. Mae yr aelodau wedi cynyddu yn dri-dyblyg er pan y mae Mr. Davies yn eu plith. Dug yr olwg ar bob peth tu mewn a thu allan i'r adeiladau hyn brawfion fod y bobl sydd yn eu mynychu yn rhai effro a gofalus, a byjd yma faes rhagorol i frawd teilwng i fod yn olynydd y gwein- idog da hwn, sydd yn ymneillduo nid am ei fod yn hen, afiach, a gwan, ond am fod y rhai sydd yn 'edrych trwy y ffenestri wedi pallu.' Pregethodd idd- ynt am y tro olaf fel gweinidog nos Sabboth, y Pasc, Mawrth 31, 1918. Dy- weiwyd wrthyf fod yr adeilad yn or- lawn, yn beryglus o lawn ar yr achlys- ur, a bod y bregeth yn adolygiad manwl o gyfnod ei lafur yn eu plith. Cydna- byddai yn ddiolchgar gydweithreiiad y swyddogion, yr aelodau a'r cymdeithas- au gwahanol sydd yn perthyn i'r eg- lwys. Ewyllysiai ranu y clod rhwng y bobl ac yntau, a chydunant i godi eu Hebenezer a dywedyd 'Hyd yma yr Ar- glwydd fu yn gymorth i ni.' Daeth i feddwl swyddogion a blaen- oriaid yr eglwys nad allasent adael y cyfnod arbenig hwn i fyned heibio heb ddangos arwyddion pendant o'u parch i'r proffwyd oedd wedi myned i mewn ac allan o'u blaen am gyfnod mor faith, felly penderfynwyd cynal cyfarfod neill- duol i anrhydeddu y gwr nos Fercher, Ebrill 3, 1918. Hysbyswyd y ffaith hon ar dudalenau y 'Drych,' a phrofwyd trwy y gohebiaethau a'r rhoddion a dderbyniwyd fod llawer iawn yn ewyll- ysio cyduno a hwy i roddi parch i'r gwr a ewyllysient hwy ei anrhydeddu. Daeth tyrfa fawr yn nghyd hyd oni lanwent y lleoedd yn nghylch y drws. Pan ddaeth adeg dechreu, cymerwyd at lywyddu gan Hugh Price, aelod o'r eg- lwys, ac un o swyddogion glofeydd y cylch. Chwareuwyd 'Star Spangled Banner' gan y gerddorfa, y gynulleidfa yn Sefyll-yna canwyd emyn Seisnig ar DODfy-Botel. Arweiniwyd mewn gweddi gan y Parch. E. J. Morris, Wilkes- Barre. Dylaswn grybwyll fod tri yn eistedd yn yr areithfa heblaw y llyw- ydd, set arwr y cyfarfod, E. J. Morris a Dr. Edwards. Tri o'r gweinidogion cynulleidfaol hynaf yn y dyffryn ac wedi gwasanaethu eu heglwysi-Mr. Morris am 30, Mr. Davies am 34, a Dr. Edwards am 44 o flwyddi. Darllenwyd llythyrau caredig oddiwrth y Barnwr John M. Garmon, Wilkes-Barre, a'r Barnwr H. M. Edwards, o Scranton. Siaradwyd gan y brodyr canlynol yn ystdd dwy awr o gyfarfod: David Jones ac Isaac T. Williams, Scranton; Rich- ard Powell, D. D., Rendham; A. L. Rowe, Nanticoke; J. M. Pritchard ac E. J. Morris, Wilkes-Barre; J. D. Thomas, Taylor; Ivor Thomas, Wilkes- Barre; T. C. Edwards. D. D., Edwards- ville; W. Glyn Williams, Wilkes- Barre; Mr. Waters, Hudson; D. Parry Jones, Pittston; P. M. Williams, I Y BRENIN GEORGE A'R FRENINES MARY GYDA'R MILWYR. Plains; Emrys Thomas, Edwardsville, a W. D. Owens, Pittston. DarHenwyd anerchiad goreuredig i Mr. Davies gan y llywydd, yr hon oedd wedi ei hysgrifenu gan Edgar Williams, Abbott St., un o blant yr eglwys, a chyflwynwyd y cyfryw i Mr. Davies. Galwyd ar Mrs. Elizabeth D. Davies, un o aelodau yr eglwys yn Mill Creek, i gyflwyno rhodd sylweddol o arian i Mr. Davies, yr hon oedd wedi cyraedd y swm anrhydeddus 0 $659.30 y noson hono, a gwyr yr ysgrifenydd fod ych- ydig wedi dyfod i law wedi y cyfiwyn- iad. Gwnaeth Mrs. Davies ei gorchwyl yn ddeheuig, ond hawddach oedd wylo na siarad, a rhwydd y gallasai hi fel Ceiriog ddweyd 'Ti wyddost beth ddy- wed fy nghalon.' Atebwyd yn ddoeth, teimladwy a phwrpasol gan y gwr y chweny-chwyd ei anrhydeddu nid gan ei eglwys a'r gymydogaeth yn unig, ond gan eglwysi a chyfeillion yn y dyffryn, ac mewn dinasoedd a thalaethau eraill yn ein gwlad. Dyledus ydyw nodi ein bod wedi cael gwledd gerddorol hefyd y noson hon. Yr oedd y detholiad yn hapus iawn. Canwyd gan Misses Jennie Griffith a Jane Jenkins, hefyd gan Roger Howell a'i ferch ddwy walth, a chan Mr. Howell ddwy gan ragorol iawn. Mwyn- hawyd y canu yn fawr gan y dyrfa. Canwyd i ddiweddu gan y dorf, 'Blest be the tie,' a gollyngwyd ni trwy weddi gan y Parch. Dr. Edwards. Bellach, mwynhaed ein brawd ei seibiant oddi- wrth lafur gweinidogaethol, a chynydd- ed ei oleuni 'pa nesaf y daw at yr hwyr' yw ein dymuniad.
ADGOFION AM GERDDORION MAESTEG,…
ADGOFION AM GERDDORION MAES- TEG, D. C. Darllenais gyda llawer o bleser lythyr Mr. Geo. Mark Evans, M. B., yn y 'Drych' am Ebrill 4ydd, am rai o gan- torion a cherddorion Maesteg, D. C. Eto teimlaf ei fod wedi gadael allan rhai a ddylasai gael ei henwi. Dywed mai cor Salem oedd y cor goreu yn y Llwyni. Beth am gor Tabor dan arweiniad y cerddor a'r arweinydQ campus, Dafydd Williams, brawd Abraham Williams y Te, ac ar ol hyny dan arweiniad cerdd- or glas, a llawer o rai diweidaraf nas gallaf ei henwi, gan fy mod yn y wlad hon er ys haner can mlynedd? Beth hefyd am gor Carmel dan ar- weiniad Phillip Morgan, mab y Parch. William Morgan, Llan, gynt? Sonia am ganu 'Every Valley' mewn cystadleu- aeth pan y cipiodd John Powell y wobr oddiar Ap Mawrth, ond ni soniodd Mark am Ap Mawrth fel arweinydd oorawl. Bu Ap Mawrth yn hynoi o lwyddianus gyda chor o Taibach enillodd amryw wobrwyon mewn Eisteddfodau. Nid byth yr annghofiaf Eisteddfod Aber- kenffig yn 1866; Ap Mawrth yn arwain parti o un-ar-bymtheg, 'Merch Megan' DRYCH-EIGHTEEN (John Thomas) a'r ysgrifenydd yn canu tenor. Enillasom y wobr. Y beirniad oedd Dafydd Williams, ac enillod j Ap Mawrth a Pencerdd (o Denver, Colo.), ar y deuawd y 'Bugail a'r Bardd,' ond gorfu iddynt ddianc am eu bywyd o Aberkenffig. Dylasem nodi hefyd am Mr. John Madoc, tad Ap Madoc, fel dechreuwr canu cynulleidfaol. Efe oedd Tad y de- chreuwyr canu yn Maesteg. Hefyd cof gan yr ysgrifenydd am y 'Penny Read- ing' a dechreuai Ap Madoc fel dadgan- wr. Byddai yn canu, 'Ti wyddost beth ddywed fy nghalon,' nes gwefreiddio y dorf. Daeth Llew Llwyfo am dro i'r Maesteg, a gorfu i Ap Madoc ganu yn y cyngerdd. Dyma ddechreuad Ap Madoc, Llew Llwyfo, James Savauge, ac eraill fel concert party cyn iddynt gychwyn am America. A ydyw Mark yn cofio am hyn? Sonia am gor Soar, ond ni enwodd Dai o Llwydarth, un o'r hen arweinwyr. Bu y cor mewn bri am beth amser. Ond ni fyddai hyn o sylwadau yn gyf- lawn heb air am T. Morgan y Telliwr (Llyfnwi) (tad Taliesin Morgan, ar- weinydd coraw! yn Ocean Grove, N. J.), fel arweinydd cor y Llan yn Eistedifod y Coety, '0, cadw ni, darfu am danom;' yr ysgrifenydd yn canu alto, hefyd Pen- cerdd, Denver, Colo. Aethom a'r wobr, a mawr oedd y swn yn y Llan. Canwyd clychau yr hen Eglwys y plwyf. Wrth derfynu, diolchaf i Mark am ysgrifenu mor rhagorol. Carwn gael ei gyfeiriad gan fy mod inau yn un o blant yr Hen Blwyf.—Dafydd Lenor
Advertising
FARM FOR SALE. A Dairy Farm of 73 acres. Six miles- north of Utic&-Inquire of Thomas J. Griffiths, "Drych" Offioe, Ctica, N. Y.
[ VENEDOCIA, OHIO.__-____I
VENEDOCIA, OHIO. I Gan Trefor. Ymadawodd y Parch, a Mrs. R. J. Williams a'u merch fechan, Ethel, ddydd Mercher, Mawrth 20, am dro i Stamford, Conn. Nid yw ein hanwyl frawd yn teimlo yn dda, ac ar orchymyn y meddyg, mae wedi myned i gymeryd ychydig seibiant. Ein dymuniad a'n gweddi fel ardal yw ar iddo yn fuan iawn gael ei adfer i'w gynefin iechyd, fel y caiff flwyddi lawer i fod o wasan- aeth yn ei winllan, a chael oes hir i bregethu yr efengyl dragwyddol, yr hyn waith sydd wrth fodd ei galon. Bu y brawd. Mr. Joseph Hughes, yn bur wael am amser, a da iawn genym ei weled yn abl i fyned o gwmpas. An- hawdd ganddo yn ei saldra oedd peidio darllen ar gyfer gwers yr Ysgol Sab- bothol. Ami y byddwn yn gofidio na buasai mwy o gyffelyb feddwl yn eu parotoad ar gyfer ei ddosbarth. Dal yn bur wanaidd y mae Mr. Hugh T. Thomas, wedi ei gaethiwo er's talm bellach; hefyd nid yw Mrs. Thomas, ychwaith yn gref. Dymunwn i'r ddau gael cryfhau, a hyny yn fuan. Bu Miss Margaret Roberts, merch y diweddar Mr. a Mrs. Jonathan Roberts, yn wael iawn; awd a hi i'r ysbyty i ddinas Van Wert. Cafodd yno bob go- fal, a gwnaeth ei brawd a'i chwaer yr oil yn eu gallu iddi, a dangosodd y cym- ydogion a allent o gydymdeimlad a hwy. Da yw ei gweled wedi cael dod adref. Dymunwn iddi gael dod yn holl- iach a hyny yn fuan. Drwg genym ddeall fod Mrs. Evan T. Morgan yn wael iawn, a hyderwn yn fawr y bydd iddi droi ar wellhad yn fuan. Ddydd Mercher, Mawrth 20, bu farw Mr. William E. Jones, yn nghartref ei ferch, Mrs. Richard Chapman, Colum- bus, Ohio. Yr oedd iddo ei nodwedd- ion, a'r rhai hyny yn amlwg lawn, a chredwn mai nodwedd amlwg iawn yn ei fywyd oedd ffyddlondeb i grefydd. Yr oedd yn neillduol; yr oedd ei galon yn y cynteddau. Colled fawr i'r eglwys yw colli y ffyddloniaid. Yr oedd yn siaradwr cyhoeddus da iawn, yn dion- iol, nid yr un fath a neb arall, ond safal ar ben ei hun. Yr oedd hefyd yn weddiwr mawr. Meddai ar ddawn gweddi, a byidem yn teimlo bob tro wrth ei glywed ei fod yn medru myned ar ei union at Dduw. Gwag yw ei le yn ein treflan, a gwag yw ei le yn yr Ysgol Sabbothol, a holl gyfarfodydd yr eg- lwys. Chwith meddwl fod W. E. Jones wedi mynd. Cafodd oes faith, a men- trod d er fod pwysaublynyddoedd maith yn pwyso arno, i'r Gymanfa Gyffredin- ol ddiweddaf yn Lake Crystal, Minn., a chafodd lawer o fwynhad ynddi ac i siarad am y Gymanfa wedi dod yn ol. Nos Lun, Mawrth 25, yn ei dy ei hun, gan y Parch. Trefor Williams, unwyd mewn priodas Mr. David Orus Morgan, mab Mrs. T. S. Morgan, a Miss Eunice Jones, merch Mr. a Mrs. A. B. Jones. Erbyn hyn mae y gwr ieuanc wedi dy- chwelyd i Montgomery, Ala., lie y mae wedi bod er's misoedd yn y training camp. Dymunwn iddynt hir oes a phob dedwyddwch. Nos Fercher, Mawrth 27, bu y brodyr ieuainc. Mr. Ambrose Breese, mab Mr. a Mrs. R. S. Breese, a Mr. Robert Jones, Mr. Luther Jones, meibion Mr. a Mrs. Jonah Jones, a Mr. Brown, o Dalaeth Indiana, yn cynal cyngerdd yn y Cam- brian Hall. Yr oedd cynulliad rhagorol wedi dod yn nghyd, a da iawn genym eu croesawu y tri cyntaf i'w cartref i blith eu hen gyfeillion da genym weled golwg mor dda arnynt, a phob arwydd eu bod yn ddynion ieuainc fel Daniel gynt yn meddwl yn fawr o grefydd eu rhieni. Cafwyd cyngerdd ardderchog. Dymunwn i'r cyfeillion anwyl hyn bob llwyddiant, ac 1. fedru canu a'u lleisiau peraidd lawer i'r deyrnas. • I
"Rhydd i Bob Meddwl ei Farn…
"Rhydd i Bob Meddwl ei Farn ac i Bob Barn ei Llafar." Atebiad. Mri. Gol.: Pwy oedd y bardd hwnw a aeth i weled Pont Menai, ac a wnaeth benill i'r llewod cerfiedig? Yn y lie cyntaf dywedaf mai nid Pont Menai yw y fan ag y mae y llewod, ond ar ddau ben i'r Bont Britannia, yr hon sydd ryw filldir fwy neu lai yn nes i Gaernarfon, dros yr hon y croesa rheilfford1 y London and North Western, yr hon sydd yn rhedeg o Lundain i Gaergybi neu Holyhead. Pont Menai a feddylir wrth y Bont grogedig sydd yn perthyn i'r ffordd fawr o Holyhead i Lundain, dros yr hon yr elai y Goach Fawr gynt cyn bod tren, ond ar y tubular bridge mae y llewod crybwylledig fel y dywedais o'r blaen. Perthyn i'r rheilffordd y mae. Gan hy- deru y bydd hyn yn foddhaol i'r dad- leuwyr. NORTH MAN. Cywiriad Gwall. Mri. Gol.: Yn y 'Drych' y troion di- weddaf, gwelais anogaethau i ohebwyr ieuainc fentro i'r maes er llanw lleoedd yr hen ohebwyr a alwyd at eu gwobr, a'r rhai sydd yn aros yn deisyf am seibiant. Yn wir, gwaith caled i'r di- brofiad ydyw gosod ei feddyliau yn chwaethus; ond mae dechreu i bob peth. Yn fy ysgrif ar y 'Gwr ieuanc Cyf- oethog,' gwelaf i mi wneuthur cam- gymeriad parthed y benod yn yr Actau. Y paragraph olaf yn y IV. Benod ddylai fod, ac nid y benod fel y mae yn yr ys- grif. Gan mai apelio yr wyf am eglur- had ychwanegol parthed gorchymyn y cyfoethog, teg ydoedd ar fy ran hysbysu y gwall a nodais uchod er hwylusdod i'r brawd E. P.Davies. DISGYBL IEUANC. Ymofyniad. Mri. Gol.: Carwn wybod trwy gyf- rwng y 'Drych,' a ydyw y M. C. Cymreig fel sect yn cael ei chyfrif yn un o'r deuddeg dosran perthynol i'r sect Bres- byteraidd. Hefyd, a ydyw y M. C. Cym- reig oil yn dal mai nid edifeirwch yw amod maddeuant fel y dywed Dr. Wil- liams yn ei ysgrif ddoniol yn 'Nrych' Ion. 10, ar y testyn 'Duwinyddiaeth D. P. Price?' A ganlyn yw ei eiriau: 'Ffydd fyw, a hono yn rhodd Duw yw amod maddeuant, nid edifeirwch.' Yn nesaf, a ydyw y person sydd yn ymofyn am aelodaeth gyda'r M. C. yn rhwym o gredu, neu, o leiaf, honi ei foi yn credu y rhan yna yn nghredo y sect cyn bod yn gymwys i dderbyn aelodaeth? 'Edifarhewch' oedd gair cyntaf pre- aeth loan Fedyddiwr (Math. 3:2). 'Edifarhewch' oedd gair cyntaf Crist pan ddechreuodi bregethu (Math. 3:17), 'Canys ni ddaethym i alw rhai cyfiawn, ond pechaduriaid i edifeirwch' (Math. 9:13); 'eithr onid edifarhewch, chwi a ddifethir oil yn yr un modd' (Luc 13:3, 5). 'Felly y bydd llawenydd yn nef am un pechadur a edifarhao, mwy nag am onid un pum ugain o rai cyfiawn, y rhai nii rhaid iddynt edifeir- wch.' 'Mae llawenydd yn ngwydd an- gelion Duw am un pechadur a edifar- hao' (Luc 15:7, 10). Dyna ychydig o ddywediadau Crist, ac mae Pedr wedi credu y geiriau ac yn troi allan gyda brwdfrydedd, 'Edifar- hewch, a bedyddier pob un o honoch yn enw lesu Grist, er maddeuant pechod- au' (Act. 2:38). 'Edifarhewch gan hyny, a dychwelwch, fel y dileer eich pechodau' (Act. 3:20)., 'Hwn a ddyr- chafodd Duw a'i ddeheulaw, yn Dywys- og ac yn lachawdwr, i roddi edifeirwch i Israel, a maddeuant pechodau' (Act. 5:31). Pa un, ai Pedr dlawd a diddysg, ai ynte y Dr. doeth, D. W. a'r M. C. sydd agosaf i ddysgeidiaeth Crist yn nghylch maddeuant ? Elgin, 111. D. P. PRICE. Cymry yn y Fyddin Brydeinig. Mri. Gol.: Yr oedd erthygl ddyddorol Mr. Humphrey Griffith ar y Royal Welsh Fusiliers yn dwyn ar gof i mi yn adeg tua 1867, pan ddaeth yr Ail Adran o'r 23rd o Canada i Aberhonddu. Yr oedd cryn son am ei dyfodiad, a byddai meistr yr ysgol y dyddiau hyny yn dweyd llawer wrthym am wrhydri y gatrawd, o Albuera hyd y Crimea. Yr oedd cryn nifer o wyr y Crimea a'r Indian Mutiny yn y rhengoedd y pryd hyny yn gwisgo llawer o fedals ac addurniadau eraill, ond ni chlywais neb o honynt yn siarad Cymraeg, ac ni chlywais i neb o'r ardaloedd agos ym- uno a hwy. Yn mrwydr yr Alma, yr oedd y 7th a'r 23rd yn mrigad Syr George Brown yn rhuthro y bryn, a chawsant golledion a chlod y frwydr. Syrthiodd amryw oedd yn dwyn baner y 23rd, ond cariwyd hi i gopa y Bryn gan Luke O'Connor, er wedi ei glwyfo yn enbyd. Cafodd y V. C.; daeth wedi hyny yn. colonel y gatrawd. Bu farw Major Gen. Syr Luke O'Connor, V. C., tua dwy flynedi yn ol yn 84 oed, wedi ei godi o'r rheng. Wedi sefydliad y drefn dalaethol, cafodd Wrecsam, G. C., ei gwneyd yn ben cadle (depot) i'r 23rd, R. W. F. Yr un adeg gwnawd Aberhonddu yn depot y South Wales Borderers (24th Catrawd), a Chaerdydd yn depot Welsh 41st., ac o'r manau hyn byddai y catrodau Cymreig yn cael ei llenwi yn amser tawel heddwch, ond nid oedd y ffaith eu bod wedi ymuno yn y lleoedd hyn y brawf eu bod yn Gymry. Na, yr oeld canoedd o Wyddelod, Seison ac eraill i'w cael ynddynt, fel ag y ceir Gwyddel, y Cymro a'r Albanwr, yn mhob catrawd Seisnig. Ceir Cymry yn y guards R. A., R. E., R. M. C., &c. Mae y galwad eithriadol am filwyr yn y rhyfel fawr hon wedi chwyddo bron bob catrawd yn y fyddin Brydeinig i fod yn fyddin ynidi ei hun. Gorchfygu y gelyn yw y gwaith mawr, a He mae cyrff mor fawr o ddynion yn cymeryd rhan dros gylch mor eang, nis gellir dysgwyl i ohebwyr wneyd sylw mor fanwl ag yn yr hen amseroedd. Wrth ffromi am mai Welch, ac nid Welsh sydd ar yr arwydd nodau, ac eis- ieu rhyw ganmoliaeth arbenig, mae rhai Cymry selog yn dangos cryn fych- ander. Shell Lake, Wis. J. D. EVANS. 'Y Pregethwr a'r Gwrandawr.' Mri. Gol.: Pan yn darllen Plas Gwyn yn y 'Drych,' yr wyf yn ei ddarllen gyda dyddordeb, er nad wyf yn cydfyned a phob peth o'i eiddo fel duwinydd yn yr erthygl Mawrth 21, pan y dywed 'Nid yw Plas Gwyn yn dal y cyfamod Gweithredoedd fel y'i heglurir yn y 'Pregethwr a'r Gwrandawr,' llyfr ddaeth allan yn benodau yn y 'Drysorfa Fawr,' ac a gyhoeddwyj yn llyfr dan yr enw ar ol hyn, ac y mae P. G. yn cymell darllenwyr y 'Drych' i'w ddarllen. Nid wyf yn bwriadu myned i ddadl a'r brawd neu chwaer pwy bynag ydyw yr awdwr, ond dygodd y sylw i'm cof adeg ryw driugain mlynedd yn ol, pan oedd dosbarth o ddynion ieuainc yn cymeryd dyddordeb yn y pynciau duwinyddol, a'r llyfr uchod, a chorff o dduwinydd- iaeth Paterson oedd dan ein sylw. Mae adgofion melus am yr adeg, a'r hen eg- lwys Ebenezer, Twyn Carno, Rhymni. 0, amser bendigedig! Mae yr oil oedd yn y dosbarth wedi croesi y Hen, a'r athraw Rees Williams, un o'r blaenor- iaid dwfn-dreiddiol ar y pynciau oedd dan ein sylw. Gan fod y 'Pregethwr a'r Gwrandawr' genyf, cymerais awgrym- iad P. G. i'w ddarllen, ac y mae yn gywir fel y nodir ganddo yn nghylch cyfamod gweithredoedd. Fel hyn y dywedir yn yr erthygl, 'Nid yw Plas Gwyn yn dal y cyfamod gweithredoedd fel y'i heglurir yn y 'Pregethwr a'r Gwrandawr;' er engraifft, nid oedd y cyfamod hwnw o natur cyfamodau dyn- ion,' ond fel hyn yr oedd y wybodaeth yn cael ei dysgu genym, ac yn eistedd yn esmwyth ar ein meddyliau. Dyma grynodeb byr o'r addysg-'Trwy ufudd- dod dyn yr oedd addewid yn y cyfamod gweithredoedd, ond trwy ufudd-dod Crist oedd addewid yn y cyfamod gras. Duw a dyn oedd yn y cyntaf, a'r person- au Dwyfol yn yr ail; cyfamod a chread- ur ffaeledig oedd y cyfamod gweithred- oedd; cyfamod gras a Bod anffaeledig. Cyn y cwymp amlygwyd y cyfamod gweithredoedd; ar ol y cwymp y cyf- amod Gras. Trwy nerth naturiol y dyn ei hun yr oedd yn sefyll yn y cyfamod gweithredoedd, ond ar allu a ffyddlon- deb Crist y mae yn sefyll y cyfamod gras. Nid oedd offeiriad yn y cyfamod gweithredoedd, na mechniydd, na proff- wyd, na chyfryngwr, ond yn y cyfamod gras yr oedd offeiriad, mechniydd, proffwyd a chyfryngwr. Yn y dyddiau hyny buasai mewn cyfarfod ddadl boeth ar Dduwdod Crist, neu santeiddrwydd y Sabboth, ac ys- brydoliaeth y Beibl. Yn y cyfarfodydd hyny, ni chai neb ei arbed, tynid y cleddyf allan o'r wain, a defnyddid ef yn ddiarbed, ond rywsut ni byddai neb yn lleyta teimladau chwerwon. Rhodd- id mynegiant i lawer o syniadau rhy- fedd; ond y mae yn sicr i'r cyfarfodydd hyny wneyd lies dirfawr, ond erbyn heddyw 'does dim son am y Dr. Chalmers a Chalfiniaeth, Lord Boling- broke ac Institutes Calfin, neillduol- rwydd yr iawn, a chyffredinolrwydd yr efengyl. GWILYM DDU 0 WENT. Barn Dr. Daniel Williams am y Plas Gwyn. Mri. Gol.: Diau mai barn wael iawn sydd gan y Dr. parchedig am erthyglau meistrolgar P. G.; ond pwy o ddarllen- wyr craffus y 'Drych' sydd yn creiu fod yn y Dr. gymwysder i farnu gwr o safle y Plas? Ystyriaf y Dr. y goheb- ydd mwyaf annheg, annghyson, ac an- nghywir, o holl ohebwyr clau eich wythnosolyn; ac mae'r ffaith ei fod yn weinidog yr Efengyl yn gwneyd ei gyflwr yn fwy gresynus. Yn 'Nrych' Mawrth 28, cyfeiria at erthyglau gwychion P. G. fel rhai anys- grythyrol, anathronyddol, anwyddonol, annysgedig, a'u bod yn annerbyniol gan ddarllenwyr deallus eich papyr clod- wiw. Dro yn ol ceisiai ein perswadio na ddeallai y P. G. dduwinyddiaeth am mai athronydd ydoedd, ond yma dywed ei fod yn anathronyddol am fod sawyr Wesleyaeth yn ei erthyglau. Ofnaf fod rhywbeth yn ngholl yn yr hen frawd, ac na ellir o ganlyniad ei ddal yn gyfrif- 01 am yr hyn ysgrifena. Sylwn mai yr unig reswm ddyry y Dr. dros erthyglau P. G. ydyw, ei fod yn hoffi duwinyddiaeth John Wesley yn fwy na duwinyddiaeth John Calvin. Y casgliad teg o hyn yw, fod yr 20,000,000 o Wesleyaid sydd yn y wlad hon, a mil- oedd eraill sydd tuallan i'r enwad ag sydd yn gogwyddo i'r unrhyw gyfeiriad, yn llu o bobl anysgrythyrol, anathron- yddol, ac annysgedig, ac yn anneilwng o sylw a pharch. Pe dygwyddai y P. G. hoffi crtiwinyddiaeth John Calvin yn fwy na'r eiddo John Wesley byddai ei erth- yglau yn ngolwg y Dr. y cynyrchion goraf a chyfoethocaf mewn duwinydd- iaeth ac athroniaeth. Mae perarogl Wesleyaeth yn ffroenau y Dr. yn fwy gwenwynig na 'gas fumes' y German- iaid. Mae dyn gorgul fel efe yn fwy o rwystr i lwyddiant crefydd Crist, ac i undeb Cristionogol, na dwsinau o an- ffyddwyr eyhoedius. Mae cadwynau haiarn Calfiniaeth mor dyn am dano fel nas gall ymryddhau o honynt. Ysgrifenodd y Parch. John Hammond lith fuddiol ac amserol yn ddiweddar ar 'Gredu Credoau,' a gwnai les mawr i galon a phen y Dr. pe y'i cnoid hi yn briodol. Cydolygaf a Mr. Hammond na chlywir o unrhyw bwlpud Cristionogol fod credu credoau yn cadw enaid; ond rhaid addef mai y tebycaf at gredu pethau felly yw y Dr., oblegid dywed fod credu athrawiaethau Wesleyaidd yn an- ysgrythyrol, ac os ydynt yn anysgryth- yrol pa obaith sydd genym fel enwad, serch ein bod yr eglwys Brotestanaidd gryfaf yn y Talaethau? Wel, ni raid i Bias Gwyn wrth am- diffynydd. Nid wyf yn ei adnabod; pa un ai pregethwr ai Heugwr yw, nis gwn, ac nid yw o nemawr bwys ychwaith. Hyn a wyddom ei fod yn un —os nad y penaf un—o'r ysgrifenwyr galluocaf, mwyaf gwreiddiol a dewraf, a enfyn ei lithoedd i'r- 'Drych.' Mor rymus a nerthol ydynt fel yr ysgydwant i'r gwaelodion sylfaeni hen gredoau sydd ar syrthio yn deilchion i'r llawr. I Mae darllen ymosodiadau a brathiad- au y Dr. a'i giwaid ar y P. G. yn barhaus yn gwneyd i ni feddwl am y dywediad hwnw o eiddo y clodus Dr. Young: 'Slight peevish insects round a genius rise, As a bright day awakes a swarm of flies; With hearty malice, but with feeble wing, To show they live, they flutter and they sting.' Roslindale, Mass. E. EDWARDS. 'Y Gwir, a dim ond y Gwir.' Mri. Gol.: Yn y 'Drych' am Mawrth 28ain, yn eich Nodion Personol, darllen- ais y brawddegau a ganlyn: 'Yr ydym yn .awr ac eto yn dyfod o hyd i hanes marwolaeth hen gyfeillion a derbynwyr o'r 'Drych' am lawer o flynyddoedd, ac eto ant allan o'n byd heb i neb wneyd sylw o hyny. Nid yw hyn yn anrhyd- edd i Gymry cyfrifol yn medru ysgrif- enu.' Gwelais ar unwaith fod y Gol. a minau wedi cerdded yr un llwybrau yn ein myfyrdodau. Pa beth sydd i gyfrif am syniadau fel yr uchod? Ai difater- wch ai annghariad? Gwelaf ryw oheb- ydd neu gilydd, a arferai ysgrifenu yn dystewi. Yn naturiol, gofynaf beth a ddarfu iddo. Efallai drwy ryw gyfrwng arall, clywaf ei fod wedi marw, ond dim gair yn y 'Drych?' Gwelais y dydd o'r blaen gyfrol o'r 'Congregational Year Book,' ac wrth edrych dros restr enwau gweinidogion wedi marw yn ystod y flwyddyn, er fy syndod gwelais enw Owen Jenkins, Collinswood, Ohio, wedi marw er Chwef., 1916, yn Cleveland, lie y mae canoedi o Gymry. Arferai Mr. Jenkins, nid yn unig dderbyn cyhoeddiadau Cymreig, ond yr oedd yn lienor da a go- hebodd yn achlysurol i'r 'Drych.' Er ei fod yn 'naear hen Ohio' er ys dros ddwy flynedd, ni anfonoid neb air i'w hoff newyddiadur i fynegu hyny. Pwy yn barotach ei gymwynas ar lanau y Tawelfor. ac yn fwy caredig ei deyrnged i goffa y marw na Jac y Cig- ydd? Ond pan ddisgynodd y lienor ei hun i'w fedd yn naear Washington, fel pe buasai efe yr olaf o'r llenorion yn y Dalaeth, ni anfonwyd ganddynt air o hanes ei 'ing olaf.' Dywedodd Gol. y 'Drych' eiriau caredig am dano—teyrn- ged hen gyfaill, a chanwyd cywydd coffa gan un arall, ond dim gair o'r glanau! A gladdwyd y Cigydd, druan? Ai nii oedd yno Gymro yn ei angladd a allasai anfon gair o hanes arwyl gwr mor hynaws? Gweinidogaethodd y Parch. H. J. Whitby yn Pittston, Pa., ac Emporia, Kansas, i gynulleidfaoedd Cymreig, a gohebodd i'r 'Drych,' ond pan hunodd yntau, ni fu neb mor garedig ag anfon gair in hysbysu am ei fynediad ymaith. Mewn cyhoeddiad Seisnig y gwelais i unrhyw grybwylliad ei fod yntau wedi tewi yn y glyn. Nid prinder gohebwyr oedd yn Kansas! Gwr adnabydius dros flynyddau law- er yn Mhennsylvania fu John Edwards a weinidogaethodd yn Lansford a Pitts- burgh, ond er iddo farw yn Porto Rico, heb Gymro yn agos, tybiwn fod iddo hen gydnabyddion yn y Talaethau, os yn rhy bell o fan fechan ei fedd a rodd- ent flodeuglwm er cof am dano yn y 'Drych.' Yn ddiau, nid yw engreifftiau fel a nodwyd ond ychydig o luaws! Yn ngholofn y Nodion Personol hef- yd, gwelaf gais yn cael ei wneyd ar ryw un anfon gair o gofiant i Cadle! Mewn rhifyn blaenorol, gwnaed cais cyffelyb mewn cysylltiad a marw y Col. Phillips, Cymro o safle arbenig heb son am ei gysylltiadau gwir Gymreig fel mab Cyw Ionawr. Fel Cymro, yr wyf yn gwrido wrth feddwl fod gohebwyr Scranton mor hwyrfrydig i anfon gair o deyrnged i goffa y lienor a'r bardd Cadle; Cadle fu mor ffyddlon flynyddau hirion! Efe fu mor garedig ag anfon hanes marw cymydogion o feirdd, megys Dewi Cwmtwrch, Celyddon, Dan- iel Ddu ac eraill. Pan groesodd efe ei hun drwy y glyn, bu raid i'r 'Drych' ofyn i ryw un ysgrifenu gair am dano! Chwychwi Atheniaid, gwybyddwch nad oes farddoniaeth mewn annghariad a difaterwch o'r fath. Trueni na fyddai rhai o honoch sydd yn gallu anfon odlau hiraeth (?) i Eisteddfodau o bob math am wobrau yn dysgu ymarfer ychydig yn nes adref. Dywedodd Puntan eiriau canmol- iaethus am y gohebydd Cymreig, ond son yr oedd Puntan. yn ddiau, am oheb- wyr Cymru Fu, ac nid am Gymry sydd yn y Talaethau. LLAIS 0 BELL. Ewyrth Arglwydd Rhondda. Mri. Gol.: Wrth ddarllen yr ysgrif yn y 'Drych' o'r 'Genedl,' daeth i'm meddwl wneyd 'chydig nodiadau am ei ewyrth sef brawd ei fam, Thomas Jos- eph, yr hwn ddechreuodd ei yrfa fel mesurydd (surveyor) dan Crawshay Gyfarthta. yr hwn a briolodd ferch yr hen Ddafls Blaengwawr, Aberdar. a rhoddodd yr hen Ddafis gynorthwy i T. Joseph agor level lo yn y Deri, ac wedi hyny rhoddodd gynorthwy iddo agor pwll glo yn Blaenycwm, Rhondda. Rhoddoid Davis Blaengwawr waddol blynyddol i'w ferch, gwraig Thomas Joseph, a phan anwyd Dafydd, mab hynaf T. Joseph a'i wraig, rhoddodd waddol blynyddol i'r bachgen, yr hws pan yn faban a syrthiodd gan anafu ei fraich chwith. Ganwyd i Thomas a Mrs. Joseph deulu mawr, set tri o fechgyn; David, Tom a Willie, a phump o ferched; ac er fod y gwaith yn tala yn dda, a gwaddol dda yn dod i'r wraig a'r bachgen hynaf ar log, y swm osod- odd Davis Blaengwawr iddynt, yr oedd Thomas Joseph yn byw yn afradus ac yn treulio llawer iawn o'i amser yn Llundain a Barry yn ogystal a'r Palas yn Blaenycwm, ac yn gwario mwy na'r incwm o'r gwaith ac incwm gwaddol y wraig a'r bachgen ac yn benthyca arian yma ac acw yn Lloegr, a phan aeth pris y glo mor uchel yn yr Hen Wlad yn 1873, gwerthodd y gwaith am bris mawr i gwmni o Lundain, ac yn mhen amser blinodd y cwmni ar y gwaith glo, a chafodd Thomas Joseph ef yn ol am lai na'r haner, er ei bod wedi gwario cryn swm i wneyd gwelliantau mawr; ond ni fu Mr. Joseph yn hir cyn mynd i lawer o ddyled eto, a benthyca swm o arian yn Leeds, a phan ddaeth yn amser i ialu yn ol, nid oedd dim gan Mr. Joseph i dalu, a gorfu i'r arianwyr o Leeds gymeryd y gwaith er ceisio cael ei arian yn ol, ond yn mhen ychydig gwertbasant ef i Crawshay Bailey, a gorfu i Thomas Joseph fyw ar incwm y wraig a'r bachgen hynaf hyd y bu farw. Cafodd Thos. Joseph well mantais i ddod yn gyfoethog na Sam Thomas, ei frawd-yn-nghyfraith, pe buasai wedi byw yn syml yn Nghymru, yn He gwar- io ei eiddo yn Llundain a Barry, gan gadw morwynion mewn tri He a thaI. renti mawr yn Llundain a Barry. Un tro yr oedd eisieu cogines ar Mrs. Joseph, a meddyliodd am anfon am gogines ei brawd, Sam Thomas, Sgubor Wen, gan gynyg mwy o gyflog iddi, a dywedodd Mr. Joseph wrthi na wnai cogines Sam Thomas ddim o'r tro i goginio yn Ty Draw, sef y Palas, am na wyddai y ffordd i wneyd dim ond berwi cawl a thatws yn nhy Sam Thomas; felly anfonwyd i Lundain am gogines. Clywais fod y rhan fwyaf o'r teuln wedi marw er ys blynyddau, a thebyg fod rhai o'r merched wedi priodi. Priododd y ferch hynaf a doctor cyn i fl ddod o Blaenycwm. Yr oedd Tom yn gyfreithiwr; Willie yn gwneyd dim ond o gylch y gwaith, a David yr un fath; felly, fe welir y fath wahaniaeth dir- fawr rhwng Arglwydd Rhondda a'i gefndryd trwy gynildeb tad Arglwydd Rhondda, a thrwy afradlonedd brawd ei fam. Grocer hefyd oedd yr hen Ddafia Blaengwawr, a'i hwb mwyaf oedd paik oedd pris y blawd i fyny yn Nghymru flynyddau lawer yn ol, ac iddo fynd allan ar y pilot i gyfarfod a Hong yn dod o Ffrainc a phrynu eu Ilwyth ar yr hen bris, a gwneyd mil o bunau mewn un dydd pan ddaeth y Hong mewn i borthladd Caerdydd. Yr oedd yr hen Ddafis wedi selio'r fargen cyn i'r Hong ddod i fewn, a phaa ddeallodd y cadben fod y pris wedi myni i fyny, yr oedd yn gynddeiriog wyllt, ond nid oedd dim help; yr oedd pob peth mewn du a gwyn gan yr hen Ddafis, ac yn fuan agorodd waith glo Blaengwawr. ac wedi hyny weithiaw Ferndale. CYMRO CLOFF