READ ARTICLES (6)

Advertising
Copy
0 E)rrcb, A WELSH WEEKLY ESTABLISHED 185 V taraed Every Thursday Morning. THOMAS J. GRIFFITHS. Proprietor. UTICA. N. Y. IMPORTANT TO ADVERTISERS.—The attention of business men in general is sailed to Y DRYCH as a superior adver- tising medium, being read by thousandL4 who cannot be reached by any other pub- ticatlon. It has a large circulation, with aubecrlbers in every State and Territory jf th. Union, in Great Britain and the brfrttsb Dependencies. It is the recognized National Organ of the Welsh People.

Detailed Lists, Results and Guides
Copy
Y GWEINIDOG FEL GWEINYDDWR. Lled-gyfieithiad o ysgrif 'The Minister an Administrator,' a ymddangosodd mewn misolyn Seisnig. Gan Ap Bleddyn. T mae y gweinidog yn cael ei hun ambell waith yn debyg i Cesar, pan gafodd Gaul, wedi ei rhanu i dair rhan. Felly yntau, y mae i fod yn bregethwr, hefyd yn fugail, ac yn olaf yn weinydd- wr. Ychydig, os unrhyw un, a all fod yn gyfartal gryf yn yr oil o'r tri gallu hyn. Y mae y pregethwr mawr ambell waith yn rhesymol wan fel bugail. Nid eyfrinach yw hyn! Y mat, yu wir hefyd nad ydyw gweinyddwr da yn bregeth wr mawr, er nad ydynt yn barod i gyfadief hyny bob amser. Ond nid oes un rhe- dwm da na allai pregethwr cryf a hwyl- iog fod yn rhesymol effeithiol yn y ddau ttilu arall, ond iddo wneyd ei feddwl i dreio, a chadw at hyny. Yr oedi y diweddar Dr. Sparhawk Jones yn dywysog yn mysg pregeth- wyr; yr oedd hefyd yn fugail da iawn, ond efallai, nid wrth natur felly, eithr wedi dewis bod felly, yr oedd o'r braidd wedi gwthio ei hunan i hyny. Clywais ei fod un diwrnod well ei gau i fyny oddiwrth ei waith bugeiliol gan y ddan- odd, ac iddo ddweyd wrth gyfaill fod y ddanodd yn ddrwg, ond ei bod yn well na gwneyd galwadau bugeiliol!! Ond fy marn i ydyw y gall unrhyw weinidog ag sydd wedi cael addysg gweddol, a chalon dyner a barn dda, fod, ac y dylai fod, yn weddol alluog yn yr oil weddau o'r gwaith tair-rhanog hyn. O'r hyn ileiaf gall orphwys yn dawel y bydd dysgwyliad iddo chwareu yr oil o hon- ynt gyda'i law dde, a rhoi y bass i fewn gyda'i law chwith! Y bass ydyw y cant a mil o bethau eraill a ddysgwylir oddi- wrtho. Yn awr, gadewch i mi siarad am y gweinidog fel gweinyddwr yn unig. Dyma lie daw y pregethwr yn oruch- wyliwr masnachol ei eglwys-dyma ys- tyr y testyn. Y mae y gweinidog i hy- fforddi, ysbrydoli ac arwain ei bobl mewn trefniant effeithiol. Am hyny, y mae yn angenrheidiol idio weled yn glir i ba le y mae am fyned, a gwybod y ffordd i fyned. Y mae yn rhaid iddo gael gweledigaeth, a bydd yn rhaid iddo fod yn abl i ffurfio trefniadau i ateb ei weledigaeth, a hyny yn feirus. Dyma ydyw gweinyddiaeth dda. Llai na hyn nid yw ddim. Gweledigaeth, trefniant, a medrusrwydd neu gallineb. Y mae rhai o honom yn methu mewn un, ef- allai mewn dau o'r rhai hyn, ond yn an- aml y ceir gweinidog nad oes ganddo yr un o'r teithi hyn. Ac y mae yr hwn sydd yn feddianol ar yr oil o honynt, yn sicr o fod yn llwyddianus fel gweinydd- wr. Y mae rhai o honom yn methu yn ein gweinyddiaeth. Yr oeddwn unwaith yn adnabod gweinidog ffyddlon, a phregeth- wr galluog, ond fel gweinyddwr yn holl ol anfedrus. Yr oedi yn hapus mewn gweledigaeth eglur, ac wedi ei fendithio a barn dda i gynllunio, a'i gynlluniadau bob amser yn ddiasgen; er hyny, bydd- ai wedi synu ei bobi cyn y byddai wedi eu gorphen, ni allai byth gicio y hel i'r nod. Yr oeid ynddo rywbeth cuddiedig yn debyg i'r dynameit, byddai wedi chwythu pethau i fyny cyn y bydd- ai yr ergyd yn barod i fyned allan, ac yna byddai yn rhyfeddu na allai wein- yd iu, ond ni byddai neb arall yn rhy- feddu dim. A hyny, oblegid ei fod ar ol mewn deall y gair bach 'medrus.' Dyma un arall, yr oeddwn yn adna- byddus iawn o hono, ac yn fyw heddyw! Gweledigaethau! Ie, digon o honynt, a rhai go dda hefyi, ond ambell waith yn ddim ond gweledigaethau? Y mae yn gallu clecian ei chwip yn uwch na neb, ae yn gallu cychwyn i fyny y rhiw yn gynt na neb yr wyf wedi. ei adnabod, a bydd pobl ei eglwys, lie bynag y bydd, ar y cyntaf yn dechreu gwthio, neu dynu nu waeddi. Ond i newid y ffigiwr, yn fuan bydd nwy y gweinidog wedi rhedeg allan, nid ydyw byth yn gorphen ei or- uchwylion esgynol, neu y mae wedi methu ffeindio y llwybr i binacl llwydd- iant, neu y mae yn methu cadw arnynt ar ol eu darganfod. Y mae bob amser ¡ yn syrthio yn ol i waelod y rhiw, ac yna dechreua brysuro i edrych am ffordd newydd fwy deniadol. Nid wyf yn gwy- boi a yw yn fyr o'r gallu i drefnu ynte y gallu i hyny wrth unrhyw waith, ef- allai y ddau, neu efallai mai wedi siarad ei hun allan y bydd. Cadw at beth hyd nes y'i gorphenir sydd fwy na haner y rhedegfa. Pan oedd Andrew Carnegie yn fachgen, tal- odd ymweliad a pherthynasau yn Ohio, .ic yno yr oedd cefnier iddo yn rhedwr diail, a ryw ddiwrnod rhodiodd her i Andy i redegfa am chwarter milldir, yr hon oedd i derfynu yn ymyl afon fech- an. A dyma gychwyn, ac yr oedd y eefnder hir-goesog wedi rhedeg mwy na haner y ffordd yn mhell o flaen Andy Cyr-goes, ac yna taflodd ei hun ar y glaswellt, gan ymrolio a chwerthin. Ond dyma Andy yn dyfod, ac ni chymer- odd sylw o hono, eithr yn mlaen ag ef a'r cefnder yn gwaeddi, 'Aros Andy, oni weli y gallaf dy faeddu?' Oni nid oedd Andy yn gwrando, hyd nes iddo gyraedd yr afon. Yna cymerodd dadl le rhyng- ddynt. 'Andy, onid oeddit yn gweled fy mod yn mhell o dy flaen?' meddai ei gefnder. 'Oeddwn,' meddai Andy. Felly, gwyddost y gallaf dy faediu?' 'Wel do, fe maeddaist fi yn y rhan gyn- laf,' meddai Andy. 'Wei, gwelaist fi yn aros!' 'Do.' 'Paham na fuaset ti yn aros?' 'Wei, mi redais i am dy fod ti wedi aros. Nid oes neb yn enill dim, os yr aroso yn fyr o'r hyn y mae am ei gyraedd.' Deuai llawer o weinidogion yii weluyddwyr rhagorol, pe buasent ond yn cwblhau yr hyn y maent yn ei gychwyn. Ac yn sicr, y mae dynion mewn unrhyw gynulleidfa yn siwr o golli eu parch at eu gweinidog os y bydd iddo ddeehrau yn rhagorol, ond yn aros ar haner y ffordd i ymrolio mewn I glaswellt digonedd. Ac yn wir, yr wyf yn ddirgel yn eu parch at eu gweinidog os y bydd iddo ddechreu yn rhagorol, ond yn aros ar haner y ffordd i ymrolio mewn glaswellt digonedd. Ac yn wir, yr wyf yn ddirgel yn eu parchu am hyn, er fy moi yn weinidog fy hunan, ac yn wejnyddwr gwael. Efallai na ddylwn I ddywedyd hyn yn rhy uchel! O! oes; y mae eraill. Dyna y pre- gethwr yr ydych yn ei adnabod. Y mae arno ofn mentro hyd yn nod i geisio gweledigaeth. Dyma y gwr na wnaiff ymgymeryd a dylyn unrhyw ddull new- ydi. Nid oes arno eisieu clywed am danynt. Fel ambell i gynulleidfa, yr yd- ych yn gwybod am danynt. Mae y pre- gethwr hwn yn canu y rhan o'r 'Gloria,' 'Megys yr oedd yn y dechreu, ac y mae yr awrhon, ac y bydd yn wastad, yn oesoedd. Amen.' A gallecli feddwl wrth ei sel yn dywedyd yr 'Amen,' ei foi newydd ddarganfod yr 'Amen' fawr yn y 'Lost Chord.' 0, ie, yr ydym wedi darganfod rhai tebyg i hyn, 'Ni allwn ni weled y ffordd yna!' neu y maent ofn cymeryd at y gwaith. Clywais un yn dweyd, 'Y mae y dull yna sicr o ffaelu yn fy eglwys i.' Y mae y dyn hwn a phob un o'r un dosbarth, na wnant geis- io gwneyd dim (ni ddywedals gwneyd pob peth) yn naturiol yn weinyddwr gwael. Dynion y 'rut' ydynt, peidiwch a'u beio, chwiliwch am reilen ffens. Arwyddion o afiechyd yn yr eglwysi ag y mae y dynion hyn yn gweinidog- aethu iddynt ydyw. Caiff y cyntaf eg- lwys gwerylgar, a rhwygiadau, yn gynt neu hwyrach; yn gyffredin yn fuan iawn. Yr ail, byid ganddo eglwys an- nghysurus, goegus, neidio yn mlaen a rhedeg yn ol. Bydd gan y trydydd eg- lwys farw. Y mae yr ystyriaethau hyn yn fy ar- wain i awgrymu: 1. Fod i weinyddu amgylchiadau eg- lwys yn dda, yn golygu nad yw gwein- idog i geisio, gyru na gwthio; nid yw chwaith i gael ei ffordd ei hun er gwaethaf pawb a phob peth. Bydi yn rhaid i'r gweinidog sydd yn meddwl, ac yn gweithredu fel hyn, newid ei feddyl- iau a'i weithrediadau, neu gymeryd ei osod yn nosbarth gweinyddwyr gwael. Gweinyddiaeth dda, nid ydyw trwy yru nac mewn gorfodaeth. 2. Ar y llaw arall ni olyga gweinydd- iaeth dda, roddi i fewn yn ddiymadferth i drefniadau mympwyol. 'Mr., ydych chwi yn gweled hwn a hwn,' neu 'Mrs., gwnewch chwi fel hyn ac arall.' Y mae y ddau osodiai 'gyru yn ddidrugaredd.' neu ymollwng fel heb asgwrn cefn yn ddau gae peryglus ag sydd yn gorwedd yn mhell tu draw hyd yn nod i derfynau gwyllt llwyddiant. Dyma y Scylla a Charybdis, rhwng y rhai y mae pob gweinidog sydd yn breuidwydio am weinidogaeth ragorol i lywio ei hun a'i eglwys. Os y beiddia yru yn rhy agos i Scylla fe golla ei ben bugeiliol, a dylai wneyd hyny. Ac os y bydd yn cadw yn rhy agos i Charbydis a'i baldordd, fe sugnir i lynclyn anweithgarwch a di- ddymdra. 3. Nid ydyw tynu cynlluniau, a'u cadw iddo ei hun yn weinyddiaeth dda, chwaith. O'r holl ddynion, dylai y gweinidog fod gyda'i ddiaconiaid a byrddau eraill ei eglwys a'i bobl, y mwyaf agored a didwyll, yn enwedig gyda pha bethau ag sydd arno eu heis- ieu, a pha fodd y mae yn bwriadu eu cael. Y mae yn wir y cyferfydd a gwrthwynebiadau ambell waith. Dyma yn rhanol y mae bwrdd blaenoriaid yn dda, i wrthwynebu. Yr wyf yn meddwl hyn, wrth ei ddweyi; y mae y bwrdd hwn yn bodoli i wrthwynebu symudiad- au cyfeiliornus, gymaint ag y mae i ddal i fyny y rhai da. Os bydd y bwrdd yn werth ei halen, fe wnaiff y naill a'r Hall. Lie y gweinyddwr ydyw dangos pa- ham y dylai y peth hwn neu y peth arall gael ei wneuthur. Os y gall wneyd hyny yn eglur, bydd y blaenoriaid, a holl fyrddau eraill ei eglwys, yn sicr o gyd-dynu ag ef. A phan y bydd gwein- yddwr doeth yn cael ei wrthwynebu mewn pethau da, a chynlluniau doeth (y mae hyn yn dygwydi weithiau), yna beth? Dyna lie daw y 'rub' onite! Bydded iido ildio, fel dyn, a gwneyd hyny mewn ysbryd da. Nid yw myned yn groes, ac yn grebachlyd, a chas, byth yn myned a neb i unlle, os nad ydyw y person yn arch-deyrn gwirioneddol, ac er hyny, nid ydyw yn ddyogel. Y mae annghydweliadau rhwng y gweinidog a'i ddiaconiaid braidd bob amser yn ni- weidiol iddu ef, ?'r ffordd aw;oethaf, ond yr oreu i brofl hyn ydyw ei threio. Oud yr wyf yn begio arnoch i beidio hyny. Am danaf fy hun, ni byddaf yn cynllunio i fod yn absenol o fy mhwl- pui, neu newid pwlpudau, na gwneyd an rhyw beth a fydd yn taro ar fy rhwymedigaeth I fy eglwys, heb yn gyn- taf siarad gyda fy niaconiaid. Yn wir, felly, dylai materion mwy ddylyn yr un gymeradwyaeth ddyogel. < Frodyr, cym- erwch eich diaconiaid i fewn i'ch ym- ddiriedaeth. Siaradwch y materion gyia hwynt yn gyntaf, yna gweithred- well. Y mae yn dipyn yn mhellach i fyned heibio corneli (square deal) wrth gwrs, ond y mae y ffordd yn llawer mwy gwastad, a gall un dynu llwyth trymach, a gwneyd gwell amser yn y diwedd. Nid oes gwahaniaeth pa mor dda y mae ambell i symudiad, fe weith- ia allan yn well trwy gydweitnredia:1, '.C y mae cydweithrediad yn hawddach i'w gael yn mlaen Haw, ac nid ar ol hyny. Y dull o fyw yn mynyddoedd Kentucky ydyw saethu yn gyntaf, ac yna ymddiheuro. Y mae y dull hwn yn in da, os am ymladlfa, ond yn un gwael os am heddwch, gweithgarwch a char- ;ad. Dyma rai cyngorion cyffredin y ffeindiwch yn gweithio, pob dant olwyn mewn dant olwyn trwy holl beirian- waith yr eglwys. Gwybod i ba le yr yd- ych am fyned. Bod yn ofalus i fapio y ffordd, a phan yn cychwyn, gofalu fod y llestr olew gyda chwi. Yn awr, dy- welaf yn ddidderbynwyneb, y mae yn syndod genyf ffeindio pa mor rhagorol a da, a synwyrol, y mae y rhan fwyaf o'r byrddau eglwysig a'r bobl. Fel rheol, y mae y diaconiaid, yr ymddiried- olwyr, swyddogion yr Ysgol Sul, a gwa- hanol gymdeithasau yr eglwys yn hollol gyda ni, y mae arnynt eisieu ymddiried ynom, ac y maent yn ein caru, ac yn barod i wneyd unrhyw beth drosom, ac erddom, ag sydd yn eu gallu, a gwneyd yr oil a ofynwn iddynt, ond yn unig. 1 ni yn hynaws ddangos iddynt pa fodd. Wel. medd ambell i weinidog, nid dyna fy mhrofiad i? Y mae yn ddrwg genyf drosto. I mi, y mae y ffaith o'u hewyll- ysgarwch i gynorthwyo yn ffynonell o obaith gwastadol a gwir lawenydd.

News
Copy
--Flynydloedd yn ol cyhoeddodd g-weinidog-a alwn yn A-lyfr, ac adol- ygwyd ef, yn dra anffafriol, gan wein- idog arall a alwn yn B. Ysgrifenodd A. iythyr ffyrnig at olygydd y papyr lle'r ymddangosodd yr adolygiad i ddywedyi na ddylesid gadael i B. adolygu llyfrau o gwbl! Chwarddodd B. yn uchel pan glywodd, a dywedodd na ddylai dyn ys- grifenu llyfrau os nad allai ddyoddef adolygiad. Yn mhen peth amser cy- hoeddodd B. ei hun lyfr, ac adolygwyd r,f, yn yr un papyr fyth, gan C., gwein- idog arall. Pur feirniadol oedd yr adolygiad. Ysgrifenodd B. at y golyg- ydd i ddywedyd na chymerai'r papyr mwyach am gyhoeddi o hono y fath ymosodiad annghyfiawn ar ei lyfr ef! Y mae golygydd yn dysgu cynefino a rhyw amlygiadau fel hyn o'r 'ddynol natur.'

News
Copy
I CIPDREM AR DDYNION OD YR ALLTWEN. I (Shoni-Tri-Lliw). I Gan Cyw Cloff, Scranton, Pa. I Saif pentref yr Alltw n ar lan afon droellog y Tawe, wyth milldir i fyny yn mynwes y cwm pry ¡erth o ddinas enwog Abertawe. Tu ol i'r ardal lan- wedd, saif yr hen graig ysgythrog, a gellir tybio o bell fod bysedd amser a natur wedi trawsffurfio hyny o borfa fu'n tyfu arni yn fath o wallt gwyn i goroni ei chopa o barch ac anrhyde jd i'w hynafiaeth. Tystia daearegwyr ei bod wedi sefyll ar ei sawdl i herio ys- tormydd y canrifoedd, ac wedi bod yn Uygad-dyst i orymdeithiau cenedlaethau dirif, a saif heddyw mor gadarn ag erioed. 'Er gwaetha'r corwyntoedd fu'n curo ei phen, Tra'r cewri twymgalon; Letyodd angylion, Sy'n mhlith y nefolion balasdai uwch- ben.' Son yr ydwyf am hynafiaeth yr hen graig, am y cred lluaws o'r ardalwyr ei bod wedi tyfu i'w niaintioli presenol o 'dwmpath gwadd' y gerphenol. Mae'n ddiau i drigolion yr ardal gael sail i'r grediniaeth hon wrth wrando ar yr hen bererin od 'Tri Lliw' yn tyngedu ei fod yn cofio cyn i natur esgor ar graig yr I' Allt, a phan nad oedd mynydd March Hywel ond glaslanc o'i gymaru a'r cawr eyhyrawg ymddangosan bresenol. Yr oedd pawb a adwaenai Shon yn cydnabod ei fod yn her., ac er mwyn l^oli'r cyfnod a'r ganiif y ganwyd ef, gwnaeth rhai o wèileh yr ardal gadw cyfrif o flynyd Iau profiad yr hen Shon. oblegid mynych yr adrocidai am y blyn. yddau a dreulioiiM n/wi id y 'Blacks,' yn nghyd a'r cyfnodau hirion fu yn crwydro crasdiroedd y t-tead, a'i deith- iau o wlad i wlad. Galwyd am archwil- wyr rywdro i archwilio'r cyfrifon, ac os ydoedd tystiolaeth yr archwilwyr yn gywir, y tebygolrwydd yw fod Shon wedi bod yn cydoesi a'r cynddiluwiaid. Gwadai Shon iddo fod yn nofio gwyneb y dyfnder yn 'menagerie' Noah, ac y mae'r ffaith Udo orcesi'r diluw yn myn- ed yn mhell i gadarnhau gosodiad Proff. Wm. North Rice, L1. D., Ph. D., athraw yn ngholeg y WcsJeyaid, sef 'nad yw traddodiad cylTredinol o'r diluw yn ffaith ag sydd yn prof cyffredinolrwydd y diluw.' Ac ebe'r gwr dysgedig, 'It may be affirmed without any hesitation that a deluge universable as regards I the human race, at the date given by traditional chronology B. C. 2348 is utterly incredible.' Tebyg iawn, felly, fod John Evans ar un o'i deithiau i'r gwledydd pell ar y c.vfnod hwnw y bu yn edifar gan Dduw iddo greu dyn, ac iddo lanio yn un o'r porthladdoedd hyny lie na fu diluw. Gwr naill glun ydoedi Shon, a chobler wrth ei alwedigaeth. Dywed rhai iddo golli ei glun tra yn cael ei drochi gan y Bedyddwyr yn afon Tawe. Ai tybed mai clun yr hen gobler ydoedd yn rhwystr iddo gael mynedfa helaeth I deyrnas nefoedd, neu ynte i ryw shark roddi ei bresenoldeb mewn modd gwyrthiol ar yr achlysur i argraffu ar feddwl a chalon y dyrfa bwysigrwydd a chysegredigrwydd yr ordinhad o fed- ydd? Dywedir na fejyddiwyd llawer yn y Tawe wedi hyn. Nis gwn pa un ai cyfnod o gysglydrwydd ysbrydol feddianodd yr ardal ynte i'r shark fod megys llew ar y ffordd i ogoniant trwy'r dwr, ac i'r ailanedigion ymuno a byid- inoedd yr Annibynwyr o barch i'w clun- iau, deithio tua Paradwys dros y tir. Dywed rhai o hynafgwyr yr ardal i Shon gyfarfod a damwain yn potteries Ynysmeudwy, ac mai hyny fu yn achos iddo gael ei amddifadu o'i aelod pwysig ond dywedai yr hen Shon ei hun iddo golli ei glun o flaen un o danbelenau ollyngwyd o 'long Tom' Napoleon yn mrwydr boeth Waterloo, a sicr yw mai Shon ddylasai wybod oreu. Dywedir i Shon fyned am bedwar mis o dramp ryw dro, ac iddo sicrhau gwaith fel gyrwr un o'r ceffylau ydoedd yn tynu badau ar gamlas Castellnedd. Nid hir y bu cyn cael ei ddyrchafu .yn gad- ben ar y bad, yr hyn a roddodd. gyf- leusdra iddo i astudio'r chart, y cwm- pawd a morwriaeth yn gyffredinol. Fe wyr y cynefin a morwriaeth, y gofynir mwy o athrylith a chymwysder arbenig i lywio bad ar gamlas deunaw troed- fedd, a chadw rhag myned i wrthdaraw- iad a'r creigiau peryglus, nag i hwylio Hong ar y cefnfor llydan heb na thy na thwlc yn y golwg, rhag myned yn llong- ddrylliad. Dychwelodd Shon yn ei ol i'r ardal, a thebyg i hyn, yn fyr, ydoedd hanes y daith yn ol 'Tri Lliw': Ar doriad gwawr hirddydd Mehefin cychwynais ar daith i Abertawe. Pan yn uiyned i waered trwy'r cwm, clywn y gwew yn canu ei dau nodyn peraidd yn y pellder, mor ddiwyd fel pe bae am i'r hoP drigolion dleffro 1 wrando ar ei holaf gan i'r tymor. O'i hamgylch yr oedd yr asgellog gor ar gangau'r coed yn canu eu hemyn bflreuol i'w Crewr doeth a da, 'am y bara ddaw bob boreu, yn rhad o'i ddwylaw Ef.' Gwelwn y glaswellt yn gwargrymu dan bwys perl- au arianaidd o wlith, a'r blodau amryw- liw fel pe am wylo dagrau llawenydd o dan swyn a chyfaredd peroriaeth yr adar. O! foreu hyfryd, mae natur hedd- yw fel pe wedi ymddilladu yn ngwisg- oedd ei ogoniant. Yn swn y gornant ruthrai'n wallgofus dros y dibyn, gwel y Tawe yn ymlwybro'n ddioglyd tua'r aber, clyw gynganedd felus cydrhwng rhaiadr y gornant a murmur yr afon, pa rai ganant ddeuawd 'Y mor, y mor i mi' ar eu taith, Yn ymyl y ffordd, cod- odd gragen-eragen ydoedd a godwyd ar y traeth yn Mumbles gan un o blant yr Ysgol Sul fu yno yn pleserdeithio dydd Sadwrn; cododd Shon hi at ei glust a chlywodi swn y mor yn y gragen, a iaith y gornant a'r afon, cod- odd awydd angerddol yn ei fynwes i fod yn forwr. (I'w Barhau).

News
Copy
Y FYDDIN CYMREIG. Gan John Morgan, Garfield, Utah. Darllenais ysgrif Humphrey Griffiths, o Utica, gyda dyddordeb, er y dywed ynddi rai pethau nad oes sail iddynt. Nid wyf fi Sais-addolwr, ond wedi dweyd pob peth, nid oes neb wedi gwneyd mwy o ymladd, a. llai o siarad am dano, na'r catrodan hollol Seisnig. Yr hen 23rd yw y Fusiliers Cymreig, ac hyd y fiwyddyn 1914 yr oedd ganddi fwy o 'battle honors' ar ei baneri nag unrhyw gatrawd arall a gynwysai ddim ond dwy fataliwn o 'regulars.' Y nesaf at y Fusiliers Cymreig, a gyda dim ond un yn llai na hi, saif y 'Black Watch' enwog, sef y Royal Highlanders yr hen 42nd. Mae y Gordons (75th). Lan- cashire Fusiliers (20th) a'r Northum- berland Fusiliers (5th), 'Y Fighting Fifth' fel ei gelwir hi gyda ryw un neu ddau o 'honors' yn llai na'r hen 23rd. Ond y mae catrodau eraill gyda mwy o lawer o 'battle honors' ar eu baner na'r Fusiliers Cymreig, a dyma hwy: Y Royal Fusiliers (City of Lon- don) yr hen 7th; y King's Royal Rifle Corps, yr hen 60th; y Prince Consorts Own) Rifle Brigade a'r Worcesters (29th Foot), oni yr oedd gan y catrod- au olaf yma bedair bataliwn o regulars cyn y rhyfel, felly yn sefyll gwell cyf- leusderau i gael eu dethol am wasan- aeth mewn rhyfeloedd na'r catrodau yn cynwys dim ond dwy o fataliynau. Dyna'r ffordd yr oeddynt yn rheoli peth- au yn y fyddin Brydeinig, un fataliwn gartref a'r llall ar wasanaeth tramor, yr Aifft, Gibraltar neu Deheudir Affrica. Gorsaf neu gartrefle y Fusiliers Cymreig yw Gwrecsam, ond cyn y rhyfel nid oeid dim ond y 'recruits' i'w gweled yno, yr oedd y fataliwn gyntaf yn Devonport, a'r all rywle rhwng yr Aifft a'r India. Ar ol rhyw ychydig o wasanaeth o dan Schomberg yn y Werddon, dyma'r Fusiliers Cymreig yn croesi'r mor i ym- ladd, nid yn erbyn yr Ysbaen, chwedl y brawd o Utica, ond i ymladd yn y rhy- fel a elwir 'War of the Spanish success- ion,' ac yn erbyn y Ffrancod yr ymladd- ent, ac yn Flaniers y cymerodd y rhan fwyaf o'r brwydrau le. Yr oeddynt o dan y marchog enwog John Churchill, y cyntaf o dduciaid Malborough, a'r gelyn o dan.yr enwog Marshalls Paxe o Turenne, yn amser Louis XIV. (ac nid Louis y pedwerydd fel y dywed y cyfaill o Utica). Yr oedd y Fusiliers Cymreig yn mrwydrau enbyd Blenheim, Rami- lies, Cadenarie a Malpaguet, y ddi- weddaf yn nghanolbarth Ewrop bron ar lanau yr afon Danube. Hefyd yr oedd wmbreth o ymladd yn y ffosydd yn bodoli yr adeg hono, yn enwedig tua chymydogaeth Douai, y naill ochr yn ceisio cloddio o dan y llall i'w chwythu i fyny, a'r ymladd yn dost gyda bidog- au, 'bombs a hand grenades' fel y maent yn awr, a hon'yn yr un gymyd- ogaeth. Mae Flanders a'r rhan o'r wlad ag sydd ar gyffiniau Ffrainc wedi mynd o dan yr enw 'cockpit of Europe' er's canrifoedd, ac heddyw mae'r ymladd mwyaf tost a welodd y byd erioed yn cymeryd He arno. Ceir hanes y Fusiliers Cymreig yn croesi'r mor unwaith eto yn amser Sior yr Ail, ac yn gallu ymfalchio yn yr enw 'Minden' ar y faner. Yn yr un frwydr yr oedd y Lancashire Fusiliers, y Royal a'r Northumberland, a dyma'r tro cyn- taf i wyr traed mewn Uinell i ymosod ar, a chwalu y gwyr meirch, yr hyn bar- odd syniod mawr i'r swyddogion Ffrengig. Yr oeddynt yn rhan hefyd o'r terrible British column' (hanesion Ffrengig) a ymladdodd mor ddewr yn mrwydr Fontenoy. Mae Fenimore Cooper, y nofelydd Americanaidd, yn son am dewrder yr hen 23rd yn yr ym- osodiad ar Bunker's Hill. Y lie nesaf y cawn son am danynt ydyw yn yr Aifft o dan y Cadfridog Abercromby, tua 1801. Hefyd yr oedd y gatrawd hon wedi ei dethol i ffurfio rhan o'r ol-golofn amser enciliad mawr Syr John Moore i Corunna, a dyoddefodd golledion mawr yn y frwydr hono, a hi oejd y gatrawi olaf i fynd ar y llongau am gartref i Brydain. Dyma hwy eto yn yr Ysbaen o dan Syr Arthur Wellesly (Due Wel- lington) yn 1808,'yn ymladd yn Vimiera Lolica, Torres Vedras, Salamanca, Talavera, ac yn ffurfio rhan o'r Fusi- liers brigade gyda 7th (City of Lon- don) 21st (Royal Scots) a'r 87th (Royal Irish Fusiliers) yn yr ymosodiad byth- gofiadwy a achubodd y dydd yn mrwydr Albuera; y Fusiliers Cymreig yn dyo- ddef yn dost yn yr ymosodiad gan gym- eryd Badajoz mewn ystorm yn 1812. Yn' San Sebastian a Guidas Rodrigo 1 ceir hwy wedi hyny, ac ar ol hyn yn ffurfio rhan o'r Light Division enwog o fyddin Wellington, yr adran hon o'r fyddin o dan Syr James Picton, un o is-swyddogion goreu ar staff Welling- ton. Ar ol rhyw bump neu chwech o flynyddoedd o ryfela, dyma Wellington yn llwyddo i yru y Ffrancod yn ol o gyffiniau Portugal ar draws yr Ysbaen i fynyddoedd y Pyrenees, a chymer- odd brwydrau ofnadwy le yn mysg cymoedd, mynyddoedd a chreigiau y Pyrenees, sef y Nive. Nivelle, Orthes, Fuenter-d'rt-or. yn gorphen gyda baddu- goliaeth fawr yn Vittoria. ac ar ol chwe mlynedd neu ragor o ymladd ofnadwy. dyma'r Cyngreiriaid o dan Wellington, ) sef y Prydeinwyr, Portugeaidd a'r Ys- baenwyr yn llwyddo i wthio byddin y gelyn yn rhifo mwy o lawer o Ffrancod o dan ei swyddogion goreu oidigerthi, Napoleon, sef Massena, Darronot, :1' Marmont, Soult, Junot, Sacket, ac eraill. dros y Pyrenees, ac o'r diwedd yn rhoi 'knock out blow' iddynt yn mrwydr I Toulouse. (I'w Orphen yn ein Nesaf).

News
Copy
¡ I I MYFYRDODAU HOPHNI. I I Cynorthwy Gweddi yn nglyn a'r Rhyfel. I Penod VII.-Rhan laf. I Ar un olwg, 'diwrnod tywyll du, diwr- nod cyrnylog a niwliog,' ie, a dydiiau felly yw y dyddiau yr ymgymerwn ag ysgrifenu y llinellau hyn arnynt yn mhrofiad pob Cymro gwladgarol, a gwerinol ei ysbryd. Dyddiau ag y mae Israel Duw yn Rephidim, ac Amalec greulawn trwy bob dyfais ac ystryw annynol yn ceisio eu dinystrio. Dealla y darllenydd mai at y rhyfel yn Ffrainc y cyfeiriwn, ac at ymosodiad byth- gofiadwy y Germaniaid ar y Prydeinwyr a'u cynorthwywyr-yn enwedig y blaen- af, pryd yr honir fod lluoedd o filwyr Prydain wedi eu cymeryd yn garchar- orion, ac eraill wedi eu lladd, er y tystir nad yn agos gynifer ag sydd wedi eu lladd o filwyr y galynion. Gwir nad yd- yw y gyflafan drosodd, ac nad ofnwn gyda golwg ar y modd y diwedda y rhy- fel, ac mai y Cyngreirwyr sydd yn ym- ¡ ddangos i ni ar yr ochr iawn. ac mai hwynthwy sydd yn ymladd oddi ar eg- wyddor. Eto gofidiwn i feidwl fod eis- ieu abertji mor enfawr mewn bywydau a meddianau i wrthsefyll yr ymosodiad- au a wneir. I I ni, y mae y syniad mai ar y Prydein- wyr y gwneir yr ymosodiad cyntaf hwn yn awgrymiadol, ac yn arwyddo fod y rhyfel i raddau pell rhwng lluoedd Duw a, lluoedd Satan. Tra nad yw Prydain heb ei beiau, megys ei pherthynas a'r fasnach feddwol, &c., eto medd ei rhin- weddau hefyd, a rhinweddau sydd yn tra gorbwyso ei beiau. Dyma, yn sicr, un o'r cenedloedd sydd wedi gwneyd mwyaf tuag at wareiddio y byd. ac i ledaenu gair y bywyd. Dyma y genedl sydd wedi bod yn fwyaf pur i Grist a'i groes, ac wedi codi tiriogaethau cyffel- yb-y rhai a anwylent y fam-wlad o'r herwydd, ac o herwydd yr egwydiorion teg yn unol a pha rai y cant eu llywodr- aeth ganddi. Dyma hefyd y genedl a gafodd yr anrhydedd gan Dduw i enill yn ol hen ddinas gysegredig' ei genedl etholedig a fuasai yn llaw y gorth- rymwyr am gynifer o flynyddoedd, ac fe Iwyddodd i wneyd hyny heb chwalu yr un adeilad ynddi; a dyma hefyd un o'r cenedloedd a berchir fwyaf gan yr holl fyd. Nid rhyfedd ynte fod y gelynion a'u llygaid ar hon, a'u henaid yn ym- losgi gan eiddigedd maleisus tuag atL Pe y gallent wneyd rhwyg yn rhengau hon, a gwaedu hon yn ddigonol nee peryglu ei bywyd, buan y caent y byd dan eu traed wej'yn, a gorfodent ein gwlad fawr ninau i dalu y doll. Hyn bar i'n pobl feddylgar i ddechreu ym- ddeffro ac i ofyn, Beth a wnawn? Pa fodd y gallwn gynorthwyo i enill y- fuddugoliaeth? Enwir llawer ffordd y gallwn wneyd hyny, ac y maent yn rh&- symol a da i gyi. Ni ddymunem dyna y gronyn lleiaf oddiwrthynt. Ond y mae un ffordd yn ymddangos i ni ag y mae llawer yn annghofio ei phwysig- rwycld, sef ffordd gweddi. 'More things are wrought by prayer Than this world dreams of.' A math o apel at gwmni Bryn Gweddt y bwriadem i'r ysgrif hon fod. Meddwt yr oeddym am gynorthwy Moses, Aaron a Hur i Josua, a'i lu, i orchfygu Amalec. Gwir mai ar Josua a'i filwyr y disgynal y gwaith o arfer y cledd, ac iddynt hwy, mae'n debyg, y rhoddid y clod gan y bobl gyffredin, ond rhaid cofio fod gan y rhai a alwn ni yn gwmni y Bryn Gweidi ran lawn mor bwysig i'w gwneyd at enill y fuddugoliaeth. Nid oedd Josua lew ar y gwastadedd ddim yn ddigon, heb Moses weddigar ar y bryn, na'r milwyr arfog gyda'r gelyn ddim yn diigon heb y cwmni gweddigar gyda Duw. Buom yn dychymygu gweled amryw yn Israel yn parotoi ar gyfer yr ym- osodiad. pob un a'i waith ei hun, a phan ddaeth yr awr i daro wele bob milwr yn cymeryd ei le yn y rhengau ar orchymyn Josua. Ond ychydig oedd yn deall yr holl drefniad. Dacw sylwi nai oedd prif flaenorydd Israel, sef Moses, yn y iyddin. na'i frawd Aaron, na Hur (ea brawd-yn-nghyfraith, fel y tybir). Pa le yr oeddynt hwy? A oedd ofn y gelyn wedi eu dal" Nid yw yn debygol hyny, canys dyn gwrol oedd Moses wedi arfer bod, ac nid oedd dim argoel ei fod wedi newid ei gymeriad. Pa. Ie yr ydoedd ynte? 0 bawb dylasai efe fod yn y fydd- in. Buasai ei' bresenoldeb ef yn werth deng mil o wyr pe i ddim ond i galonogi y milwyr! Mwy na hyny, onid oedd gwialen Duw' ganddo-y wialen a fu yn offeryn i wneyd cynifer o ryfeddod- au o blaid Israel Ni fuasai fawr iddo adael y wialen gyda hwynt, os na dieu- ai gyda hwynt ei hunan! Efallai pe bu- asai y wialen ryfedd gan Josua y buasai ei phwyntio at rengoedd y gelynion yn ddigon i agor bwlch trwyddynt, fel yr agorasai y mor. Ond, na, nid oedd efe na'r wialen ddim yno. A gwaeth fyth, nid oedd Aaron yno chwaith. Yr oedd Aaron yn well siaradwr cyhoeddus na Moses, er nad oedd agos mor ddylan- wadol gyda'r bobl, ond, am dro felly, buasai anerchiad ganddo o werth an- mbrisiadwy i galonogi y milwyr! Ond nid oedd Aaron chwaith yn y llu! A dyna Hur-y gwr, gydag Aaron, y gar dawodd Moses ofal y genedl iddynt wrth odrau'r mynydd! (Ex. 24:14). Pa le yr oedd ef? Yn absenoldeb Moses ac Aaron buasai o werth mawr iddynt i gadw trefn a thangnefedd yn mhlith y bobl! Ond nid yw yntau chwaith yn y lie y dylasai fod! Y fath gywilydd a gwarth! Dynion goreu Israel ddim yn eu lie, ac yn esgeuluso eu dyledswydd- au, a hyny yn un o'r amgylchiadau pwy- sicaf yn hanes y genedl! 'Nis gallwn byth faddeu id :I)"nt: ebe'r bobl duchan- gar. 'Dylid eu llabyddio am y fath dros- edd!' A ryfeddwn i ddim nad oedd llu o ddeisebau yn cael eu hanfon i fyny at Moses i ofyn y rheswm am ei absenol- deb, ac i wrthdystio yn erbyn yr ym- ddygiad, ac efallai i erfyn arno newid ei gynllun a brysio i flaen y fyddin. Ond newidiodd Moses mo'i gynllun! Na, na, nid mynd wrth ei gynllun ei hun yr oedd, ond wrth gynllun Duw; ac fe ddeallai hwnw yn rhy dia i newid ei gwrs hyd nod ar gais holl Israel. Yn Ex. 18:19, dywed yr Arglwydd wrth Moses, 'Bydd di dros y bobl ger bron Duw, a dwg eu hachosion at Dduw.' Math o gyfryngwr dros y bobl ger bron Duw oedd Moses i fod, yn ol y gor- chymyn yna; ac nid pan dderbyniodd y gorchymyn y dechreuodd ar ei orch- wyl, ond flynyddoedd cyn hyny, er nad i'r un eithafion, na chyda'r un dyfalwch. Buasai Moses unwaith yn dybynu mwy arno ei hun nag y gwnelai yn awr, a llai ar Dduw. Ond fel yr agorai trefn y nef o'i flaen cawn ef yn newid ei blan, ac yn dybynu mwy ar weddi. Pan dorai ysbryd gwrthryfel allan yn y gwersyll. syrthio ar ei wyneb ger bron Duw i ddwyn pethau i drefn. Yr un modd pan lefai y bobl arno, llefain ar Dduw wnai ef. Pan ymddangosai fel pe bai yr holl. genedl yn myned i gael ei difrodi o her-