Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

NEWYDDION CYMRU. I

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

NEWYDDION CYMRU. I -Yn mwrdeisdrefi Fflint ceir tafarn ar gyfer pob 176 o'r trigolion. -Yn Wydlgrug. cyhuddwyd gwraig ieuanc o'r enw Mary Sheldon o amlwr- iaeth. Gohiriwyd yr achos. —Cafodd Arthur Price, 15eg oed, mab Mr. T. Price, Vale Terrace, Tredegar, ei tadd yn nglofa Whitworth, Tredegar. -Yn llys ynadon yr Abermaw, dirwy- wyd gwraig i ffermwr i bum punt a'r costau am werthu haner pwys o ymenyn am bris uwch na'r un cyfreithlawn. —Y mae'r casgliadau tuag at y Gofeb Hedd Wyn wedi cyraedd y swm o 117p. 18s. 6c. erbyn hyn. —Enwir Syr Francis Edwards, A. S., fel un tebygol o gael ei ddewis yn Ar- glwydd Raglaw sir Faesyfed, yn lie y diweddar Syr Powlett Milbank. —Hysbysir marwolaeth T. J. Linekar, organydd eglwys Wesleyaid Colwyn Bay, yn dra sydyn. Yr oedd yn gerddor o gryn fri, ac yn fawr ei barch yn y lref. -Yn Xghaerdydd. cyhuddwyd Elsie Cullen, 18 mlwydd oed, o ladrata modrwy gwerth lOOp. oddiar ei meis- tres, Mrs. Maud Gwendoline Box. Go- hiriwyd yr achos. —Mewn cyfarfod o Fwrdd Ysbyty Penmaenmawr a Chonwy, yn Nghonwy, y dydd o'r blaen, bu cwestiwn cadw moch yn nglyn a'r ysbyty yn Groesynyd, dan ystyriaeth. Wedi cryn drafodaeth pasiwyd i beidio caniatau i foch gael eu cadw yno. -'Dychweliad y milwyr, a dyled- swydd yr eglwys yn wyneb hyny,' oedd mater y drafodaeth yn Nghyfarfod Mis- 01 Mon. a gynaliwyd yn Llanfechell yn ddiweddar. Agorwyd y mater gan y Parch. J. J. Evans, Niwbwrch, a gallai Mr. Evans draethu yn well nag odid neb yn Mon ar y mater, o herwydd ei brofiad maith gyda'r milwyr. —Soniwyd yn ddiweddar am y safle diifrifol yn nglyn a phapyr. Yn awr y, mae'r Llywodraeth wedi penodi 'Con- troller' i'r papyr yn lle'r Bwrdd oedd yn arolygu'r cyflenwad o'r blaen. Yn Nhy'r Cyffredin y dydd o'r blaen hys- byswyd pwy ydoedd, a dywedwyi nad oedd ganddo unrhyw brofiad blaenorol gyda'r gwaith! -Y mae y Corporal David Williams, milwr o Bangor. wedi anfon i lyfrgell y diinas hono hen lyfr Gweddi Pabaidd a ddarganfyddodd yn mysg adfeilion Ueiandy yn Peronne, ar y' Somme. Cyfrifir y llyfr yn chwanegiad dyddorol at y Ilyfrgell. —Mewn cyfarfod o Bwyllgor Cofeb Gwroniaid Gogledd Cymru, a gynaliwyd yn Mangor. dywedodd R. J. Thomas fod I y swm o 61.000p. wedi ei addaw at y gofeb—34.000p. o ba un oedd eisoes wedi ei dalu. Sir Fon oedd ar ben y rhestr gyda 12.,520p., yn cael ei dylyn gyda 6.056p. o Liverpool. -Yn Llanelwy. rhoes Maud Annie Mary Walsh. 34ain mlwydd oed, Gemig Street, ei hun i fyny i'r heddgeiiwaid, gan ddweyd ei bod wedi taflu ei baban tair wythnos oed i'r afon Glwyd. Daeth- pwyd o hyd i'r corff yn ystod y pryd- nawn. Dywpdid fod meddwl y diynes wedi ei anrnharu. —Ceir y llinellau a ganlyn o'r 'Hen Gyfaill,' neu Almanac 1847, John Ro- berts. Caergybi: Yr agerlongau mawrion A rwygant donau'r eigion, A'r ager-gerbyd. hyd ein tir, A lunir ar olwynion. Mae rhai'n darogan eto Odiaethach ffordd o deithio, Set awyr-gerbyd hyfryd hynt, Ar edyn gwynt i deithio. —Mewn achos o iawn-dal i wediw a wrandawyd yn Llys Man-ddyledion Conwy y dydd o'r blaen. cyflwynodd y cyfreithiwr fil am 24p. 5s. lle. am gost- au' claddu.-Dywedodd y Barnwr fod y swm hwnw yn ormod o lawer i'w wario ar gynhebrwng.—Y Cyfreithiwr: Fel pob peth arall y mae costau claidu wedi cynyddu er dechreu y rhyfel. Yr oedd 3rrarch yn costio deg punt, yr elor- gerbyd a'r bedd yn 6p. 5s. Yna yr oedd dilladau. Cohiriwyd yr achos gan fod y Barnwr yn awyddus i weled yr hawl- yides. —Sonia'r Parch. Eynon Davies, yn ei nodiadau yn y 'Tyst,' am ymosodiadau'r gelyn ar Lundain. Dywed: 'Mewn rhy- feloedd yn y gorphenol yr oedd milwyr y teyrnasoedd yn ormod o ddynion i wlawio tan a. dinystr a chelanedd ar hen pobl dawel fel yr hen bobl a'r plant a lofruidiwyd neithiwr trwy orchymyn y Caisar.' Cashaf ddulliau'r Almaen o ryfela gymaint a neb, ond yr wyf wedi blino braidd clywed pobl yn siarad fel pe buasai pob rhyfel cyn hyn yn rhyw bic-nic Ysgol Sul. —Dywed gohebydd yn y 'Darian' y dylai'r wlad wneyd rhyw gydnabydd- iaeth genedlaethol i Beriah Evans am ei lafur dros Gymru. Cyisynia awdwr nodiadau 'Yn Fan ac yn Ami' yn yr un papyr. ac ychwanega: 'Os nad ydym yn camgymeryd y mae miloedd o werin ein gwlad a fyddai'n falch o'r cyfle i fwrw eu hatling i'r drysorfa hon pe dim ond o bit-ch i hen olygydd 'Cyfaill yr Ael- wyd.' Tybed, hefyd, na ddylai rhai o'n haelodau Seneddol hawlio gan y Llywodraeth gydnabyddiaeth iddo. —'Yr wyf yn hollol ddiniwed, syr,' meddai Davii James, 44 oed, gweinidog gyda'r Bedyddwyr, cyn-weinidog eglwys Seion (B.) Treforris, pan gyhuddwyd ef yn mrawdlys Morganwg, a gynaliwyd yn Nghaerdydd (ger bron y Barnwr Shear- man) gyda'i fab, George James, IS oed, ffermwr, Maestir Manor Farm, Velin- dre, o ladrata a ierbyn defaid, Rhagfyr 5, 1917, a dyddiadau eraill yn ystod yr un mis. Dywedodd y mab hefyd ei fod yn ddi-euog. Parhaodd yr achos am bum niwrnod. Caed David James, y tai, a'i fab, George James, 18 oed, yn euog. Dywedodd y Barnwr mai gwaith poenus oedd dedfrydu gweinidog yr efengyl. Yr oedd wedi tori dau or- chymyn. Bwriwyd y tad i ddeunaw mis o garchar gyda Ilafur caled, a'r mab i naw mis. —Yr wythnos o'r blaen, aeth gwasan- aethyidion a thorwyr beddau Corffor- aeth Merthyr allan ar streic ar gwes- tiwn chwanegiad cyflog. Achosodd hyn gryn anhwylusdod yn nglyn a chladded- igaethau, a cheid golygfeydd trist yn mynwent Cefn Coed. Un diwrnod aeth gwr 1'r fynwent gan ofyn caniatad i agor bedd y teulu i gladdu ei brioi, a dechreuodd ar y gwaith ei hun, a'r dagrau yn llifo dros ei ruddiau. Cyn- orthwyid ef gan ychydig o gyfeillion, ond erbyn myned i lawr at y priddfeini gwelwyd fod y beid yn rhy lawn i gyn- wys corff ei briod, a bu raid codi arch plentyn bychan allan oddi yno, a'i dodi y tu ol i goeden yn y fynwent tra yr oedd claddedigaeth y wraig yn cymeryd lie. Cafodd rhai o'r pfidlfeini eu sy- mud, ac ail ddodwyd yr arch fechan yn y bedd. Ar derfyn gwasanaeth an- gladdol arall yn y fynwent darfu i'r gweinidog a weinyddai apelio at gyfeill- ion i estyn cynorthwy i gau'r bedd ar ran y teulu. I o MARWOLAETHAU. Y Deheudir. Abercynon.—Mawrth 7, Greenfield St., Annie, gweddw Alfred Blake. Abertawe.—Mawrth 4, St. Thomas, Margaretta. priod E. J. G. Jones, M. D.. a merch Mrs. David Williams, The Park, Gowerton. Barry.—Mawrth 6. York Place, Rachel, priod Wm. Williams (Messrs. D. Davis & Sons), yn 72 oed.—Mawrth 3. Har- bor Ri.. Thomas Morgan, priod S. Morgan, diweddar Hengoed. yn 63 oed. Blaenllechau.—Mawrth 6, High St., Mrs. Richard Walters, ffrwythydd. Bridgend.—Mawrth 8, Bank House, Margaret Davies, gweddw Henry Davies, Llanymddyfri, yn 78 oed. Brynmawr.—Mawrth 7, Bryn Villa, Mary Jane, gweddw Henadur A. E. Evans. Caerdyid.-Mawrth 6. Theobald Rd., Mary, gweddw y Parch. David Thom- as. yn 80 oed.—Mawrth 10, Penywaen Rd.. Hugh H. Philips (fferyllydd), yn 53 oed.—Mawrth 9. Cottrell Rd., John Lloyd, yn 75, garddwr. Clydach Vale.—Mawrth 12, Marian St., David James, diweid Hafodlas, Tre- garon. r'; Coedely.—Mawrth 2. Gladys St., Gwen Jones (diweddar Cross Inn, Llan- trisant). Docks, Caerdydd. Mawrth 7, Ann Elizabeth Rees, gweddw Wm. Rees. Ffynon Daf.—Mawrth 11. Tabor St., John, priod Rachel Roberts. Ffynon Daf.—Mawrth 11, Tabor St., John. priod Rachel Roberts. Hirwain.—Mawrth 1, Bungalow. Eliza- beth Evans. priod David Evans. Llanfihangel Talyllyn.—Mawrth 19, y Parch. Thomas C. Richards, yn 61 oed. Merthyr.—Mawrth 10, D. Davies, pob- yjd, Wellington St., yn 77 oed. Penygraig. Rhondda.—Mawrth 7. Amos Hill, priod Mary, John, diweddar Swan Hotel. Pet erson-on-Ely.-Ma wrth 6. Perlianna House. William Rees, casglwr trethi. Pontypridd.—Mawrth 6. Donald Camp- bell, Draper, Gelliwastad Road.— Mawrth 7. Llanbradach St.. Richard Henry Jenkins, diweddar Tenby, yn 77 oed. Pontyclun. — Mawrth 9. Catherine Thomas (ysgolfeistres), merch y di- weidar William ac Ann Thomas, Miskin Village. Porth.-Mawrth 10, Aberhondda Rd., Sarah, priod Howell Davies.-Mawrth 11, Leslie Terrace, diweddar Ynysbwl, Richard Jones. Trealaw. Yn ddiweddar, Caroline Thomas. Trealaw Hotel. Troedyrhiw. — Mawrth 6. Brynhyfryd Villa, Wm. Davies, yn 82 oed. Ystrad Mynach.—Mawrth 10, Penallta Rd.. Wm. Edwards, yn 74 oed. Ystradowen.—Mawrth 6, Talgan Castle, Ann Lewis, gweddw Evan Lewis, yn 65 oed. ———— elo

Advertising

I WINNIPEG, CANADA. I

Advertising

YMADAWIAD Y PARCH. THOMAS…

Advertising

ILLITH 0 LINN GROVE IOWA.…

Advertising