Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

RHYFEL YN EWROP

News
Cite
Share

RHYFEL YN EWROP Y RHUTHR FAWR YN FLANDERS.— LLYTHYR YR YMERAWDWR CARL. Y PRYDEINIAID A'U CEFN AR Y MTTR.—Y GYNADLEDD WYDD- ELIG. Y Gelyn yn dal ati.—Yr Awyrvvyr Prydeinig.—Yr Americaniaid yn curo y Germaniaid yn Toul.-Colledion y Germaniaid. Yn ol yr adroddiadau o'r ffrynt\ or- llewinol yn Ffrainc a Belgium, y mae y Germaniaid wedi darfod a'r rhuthr fawr, ond gwnant ymosodiadau ffyrnig mewn rhai manau arbenig. Ymddengys fod ganddynt alluoedd mawrion at law yn nghymydogaeth Basse, lie y gwnaent ymosodiadau nerthol er's rhai dyddiau. Nid ydynt yn tori drwodd fawr yn un mai, er eu holl ymdrechion enbydus, yn erbyn cryfleoedd y Prydeiniaid yn benaf. Y mae y Germaniaid yn enill yn ol eto yn raddol y lleoedd a gymerodd y Prydeiniaid flwyddyn yn ol, ac y maent eto yn nghymydogaeth Vimy Ridge. Ganol yr wythnos cyhoeddwyd un ffaith ddymunol, sef fod y tanforolion yn colli tir a'u gwaith wedi lleihau yn fawr. Y mae eu difrod yn myned yn Ilai er's tair wythnos. Yr wythnos cyn y ddiweddaf, chwech oedd y cyfrif; pedair llong dros 1,600 tunell, a dwy o lai. Yr oedi y golled yr wythnos cyn hyny yn dair-ar-ddeg. Yn y cyfrif di- weddaf i law, dwy long Ffrengig sudd- wyd. Yn y wasg ddydd Gwener, deuai ad- roddiadau i law am ymosodiadau nerth- ol iawn ar linell Bassee ar 30 milldir o led. Ymddengys mai yno y gwnai y Germaniaid eu hymosodiadau mwyaf grymus yn ystod dechreu yr wythnos; ddydd Gwener yr oedd y Prydeiniaid yn symu-3 yn ol gan gadw gafael yn yr uchelderau. lie y gwnaent wrthsafiad cryf, y Germaniaid yn colli yn enbydus yn eu hymosodiadau yn gyrff fel eu harfer. Hysbysid ddydd Gwener hefyd nad oedd y gelyn yn cymeryd fawr o ddim o fantais idiynt, gan fod y lleoedd a gymerent ar y gwastad. y Prydeiniaid yn dal at yr uchel leoedd gan wrth- sefyll y gelyn yn llwyddianus. Gwna y Germaniaid ymosodiadau tanllyd gyd- a'u magnelfeydd ar rai o'r lleoeid Pry- deinig. ond ymddengys y gwastraffent lawer o dan. Yr adroddiad swyddogol a gyhoeddid ddyjd Gwener oedd fod y fyddin Bryeinig yn dal ei llinell yn gyfan, er yn symud yn ol o fanau nas gellid eu dal, gan wneyd cryn ddifrod o'r gelyn. Nid oedd gobaith o gwbl am ddarfyddiad yr ymdrech ofnadwy hon yn ardal Bassee ddiwedd yr wythnos. Gwna Germani ymdrech heb ei bath i gael buddugoliaeth yn y rhanbarth hwn, ac abertha luoedd i'w chael. Ddydd Gwener, cyhoeddid llythyr rhy- fedd o eiido Ymerawdwr Awstria at ei frawd-yn-nghyfraith, y Tywysog Sixtus de Bourbon, sef llythyr a ymddiriedwyd iddo gan yr Ymerawdwr. ac a gyflwyn- wyd i'r cyn-Arlywydd Poincare. Gwnaed sylw mawr o'r llythyr yn y wasg yn gyffredinol, ac yr oedd yn ddynoethiad dyeithr o ragrith yr Ymer- awdwr Carl. Yn gyhoeddus y mae Carl yn siarad yn chwyddedig a bygythiol bob tro y gwna, a dedgyn ei ymlyniad wrth Germani gan son am fuddugol- iaethu ar y gelynion yn awr ac eto, ac eto yn y llythyr cyfrinachol hwn dywed yr Ymerawdwr feddyliau a theimladau ei galon a'i farn ddiragrith.. Y mae eymharu yr Ymerawdwr fel y'i ham- lygir yn y llythyr ac yn ei ddadganiad- au cyhoeddus yn ei brofi yn rhagrith- iwr, ac yn ddyn dan fraw y Kaiser, ac wedi ei gadw yn mlaen yn y rhyfel gan 9fn y Kaiser. Nid yw yn ddyn digon cryf i ofalu am fuddianau ei wlai, eithr dylyna y Kaiser a Germani i ddinystr ei wlad ei hun. Un o bethau mwyaf dyddorol ei lyth- yr yw ei fod yn cydnabod hawl Ffrainc i Alsace-Lorraine, a dedgyn hefyd y dy- lid dychwelyd ei hannibyniaeth Iwyr i Belgium, yn nghyd a iawn am ei choll- edion. Dylid gwneyd yr un fath gyf- iawnder a Serbia, gyda chaniatau iddi agoriad i'r mor, yr hyn a wrthodai Aws- tria cyn y rhyfel. Y mae y dynoethiad rhyfedd hwn yn un o ddygwyddiadau pwysfawr y rhyfel, ac feallai yr arwain- ia 1 heddwch rhwng Awstria a Ffrainc, os y gellir cael yr Ymerawdwr i anwy- byddu y Kaiser a'i awdurdod. Byddai yn glod dirfawr i Awstria ac enillai gydymdeimlad yr holl fyd. Nis gall yr Ymerawdwr fyned yn ol ar ei ddadganiad hwn, a charem wybod golygiad y Kaiser am y llythyr hwn o eiddo ei gyfaill a'i gydymaith, yr Ym- erawdwr Carl. Ddydd Sadwrn, daliai yr adroddiadau yn nglyn ag ymosodiadau cyndyn y Germaniaid yn Flanders. Yr oedd y peniadau newyddiadurol yn gyffrous. a digalonai pobl wrth feddwl am yr ym- drech barhaus hon heb arwydd o ddar- fyddiad. Hysbysid fod y Prydeiniaid wedi symud yn ol i'r man pellaf, lie y gorchymai y Cadfridog Haig nad ydynt i roi ffordd bellach. Felly ymddengys y gellir dysgwyl trai yn y rhuthr fawr ddechreuodd dair wythnos yn ol. Dad- gana y pencadlys yn Ffrainc ymddiried- aeth yn y byddinoedd cyngreiriol, a dys- gwylir y bydd tro yn yr ymdrech ar fyr. Y mae yn siwr fod y cyfan yn cael ei ddwyn yn mlaen yn ol cynllun. Y mae rhyw ddygwyddiad pwysfawr yn agos- hau. Yn ei anogaeth i'w fyddin i ddal hyd yr eithaf yn erbyn y Germaniaid, hws YS t Haig fod byddi" Ffrengig yn brysio i'w cynorthwyo. Y mae yn hys- bys fod galluoedd yn nghadw gan y cyncreiriaid yn Ffrainc ond fod y moddion trosglwyddiadol yn araf. O'r diwedd ar ol bod yn eistedd am wyth mis, y mae y Gynadledd Wyddelig wedi dyfod i benderfyniad yn nglyn a ffurf o lywodraeth i'r Werddon ag y dy- munir ei gyflwyno i'r Senedd Brydeinig yn. Llundain. Y mae yn 21 o adranau; ac er nad oedd mwyafrif mawr yn y [Gynadledd o blaid pob adran yn gy- maint ag y dylasai fod, y mae yn ddi- gonol i greu gobaith y daw daioni o'r penderfyniad. Trefna i roddi annibyn- iaeth fewnol i'r Werddon, senedd fel sydd yn LIundain. gyda gallu llawn dros reolaeth fewnol yr ynys, ei gwein- yddiad, ei deddfiad a'i threthiad, gyda'r eithriad o'r tollau.. Y mae yn gychwyn- iad addawol, a gobeithir y daw hedd- weh a hawddfyd i'r Werddon drwyddo. Yn y wasg ddydd Llun, yr oedd y newyddion o Ffrainc yn fwy addawol a chalonogol. Hysbysid fod y Prydeiniaid yn dal yn gadarn yn erbyn ymosodiad- au lluoedd y Germaniaid, ac fod ym- drech y gelyn yn ofer. Rhuthrid llu- oedd ar fan neu ddau gyda phenderfyn- iad ffyrnig oni syrthient yn ol yn ddeilchion. Hysbysid hefyd fod colled- ion y Germaniaid yn ofnadwy. Ni wnaeth y gelyn lawer o ymosodiad o gwbl yn erbyn yr adran Ffrengig-Felg- iaidd. Prydain yw nod eu Hid penaf, a chredant mai Prydain yw y maen tram- gwvdd a'r graig rhwystr; felly gwnaent ymgais arbenig i chwalu y graig hon, ond hyd ddiwedd yr wythnos yn ofer. Nid oedd y Germaniaid ar linell o wyth milldir wedi llwyddo i dori drwy y llin- ell Brydeinig er eu holl ymdrechion grymus. eithr taflwyd yn ol bob tro ac yn mhob man. Profa papyrau a gawd ar gyrff Germaniaid byw a meirw mai aracan. mawr yr ymosodiad hwn oedd gwahanu y Prydeiniaid a'r Ffrancod, ac felly dori drwodd i'r rheilffordd rhwng Calais a Paris. Rhoddir clod annghyffredin i'r awyr wyr Prydrinig, y rhai a wnaent lawer iawn oidi uchod i rwystro y rhuthriad- au Germanaidd drwy hedeg yn isel uwch eu penau. a thanio ar gyrff o fil- wyr Germanaidd ac atal gwaith eu mag- nelwyr, a chwalu rhai o'r magnelfeydd. Y mae y Prydeiniaid wedi cael 'uwch- afiaeth nodedig ar yr Hwniaid yn y frwydr fawr ddiweddaf. Yn yr alroddiadau ddydd LInn. sonid am ymosodiad y Germaniaid ar yr Americaniaid yn rhanbarth Toul. Ar ol tanbeleniad drwy y nos (Wener) gyda than a nwy, gwnaeth y German- iaid ymosodiad ar y ffosydd American- aidd, ond trodd eu holl ymdrech yn fethiant. Collodd y gelyn haner un rhuthrgorff o filwyr a ymgeisient gyr- aedd y ffosydd. Ddydd Mawrth cyhoeddid y newydd fod y Germaniaid yn diffygio, ac yn dar- fod gyda'u hymosodiad yn Flanders. Ymdiengys mai eu cynllun yn awr yw chwilio am y manau gwanaf yn llinell y Prydeiniaid. ond ni chant fod yno fan gwan. Ymddengys y llinellau Ameri- canaidd, Ffrengig a Phrydeinig yn gedyrn. Hysbysid hefyd fod y llinell Brydeinig yn cael ei chadarnhau o'r fyddin yn nghadw. Cesglir oddiwrth garcharorion Ger- manaidd fod y Germaniaid wedi colli 50 y cant (sef yr haner) o'r fyddin ymos- odol, heblaw peth anferth o geffylau, a'u bod yn dyoddef yn fawr oddiwrth brin- der ymborth a nwyddau. Hysbysid fod y llinell Brydeinig yn ymgryfhau yn gyflym. Chwareu rhan ddirmygedig y mae yr Ymerawdwr Carl, yr hwn sydd newydd anfon gair i'w gydymaith yn Potsdam yn sicrhau ei fod gydag ef hyd y di- wedd. 'Fy megnyl yn y gorllewin,' ebe efe yn ffrostgar, 'yw fy ateb olaf.' Y mae Awstria a Germani yn enwog am eu twyll a cyfrwysdra.

Advertising

SLATINGTON, LEHIGH CO., PA.…

INEW YORK A VERMONT. I

[No title]

I COFEB HEDD WYN.

I PERFFORMIAD 0 DDRAMA YN…

CHICAGO, ILLS.

I -NODION 0 OSHKOSH. WIS._

Advertising