Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Advertising
GVV ALIA MOUSE 429 W. 21st Street, New York City Phone Chelsea 1906 DAVID WILLIAMS. Y Ty Cymreig agosaf i'r Cun- ard, y White Star a'r American lines. Gwerthir tocynau i bob parth o'r byd am y Prisiau isel- af gyda'r gwahanol gwmniau. Yr wyf a phrofiad blynyddau, ac felly a mantais i sicrhau y lle- oedd goreu. Cyfarfyddaf a phawb ond cael gair yn mlaen. Llety glan a dymunol i ymwel- wyr. Prisiau rhesymol. HOW TO RAISE THE MONEY FOR THAT RED CROSS FUND, THE WAR RELIEF WORK, OR TO SWELL THE INCOME OF YOUR CHURCH, SOCIETY OR YOURSELF. THAT IS A VERY PRESSING AND VITAL QUESTION The usual methods of raising funds are overworked and the re- sults are but temporary. What is needed is a steady income and the only way to get it is to offer something everyone is interested in every day. What plan is easier and more certain to produce than to secure the profit from the sale of an article which all your friends use once if not three times daily? \Ve have a simple plan whereby any club, church or individual can add a considerable sum weekly to their income. We are doing it for several Ladies' Aid Societies, Employee's Co-operative Associa- tions and private parties and can refer to their success as a proof of our plan. Write for detailed information. G. T. MATTHEWS, 105 Water St., New York.
Y TRYDYDD ECHWYN RHYDDID.
Y TRYDYDD ECHWYN RHYDDID. Anerchiad a Draddodwyd yn y Cyfarfod Gwladgarol a gynaliwyd yn nghapel Moriah, Utica, N. Y., nos Fawrth, Ebri II 9. Gan John 0. Thomas. llyvvydd y Cyfarfod. Amcan y cyfarfod ydyw creu yn hel- aethach fwy o ysbryd gwladgarol ynom fel Cymry yn y ddinas a'r cylchoedd, a dangos hefyd i'r cenedloeid eraill ein bod yn fyw ac effro i symudiadau mawr a theilwng y cyfnod pwysig presenol. Credwn nad yw cymdeithas y Cymreig- yddion. nac ychwaith y pwyllgor dan arweiniad llywydd y Gymdeithas. Rich- ard \V. Owen, yn tybied ein bod yn ol i genedloedd eraill yn ein gwladgarwch, yr egwyddor ag y dylid ei meithrin a'i dysgu yn fwy felly yn awr nag mewn unrhyw gyfnod yn hanes y byd. Yr yd- ym yn ymfalchio ein bod yn Gymry, gan y credwn fod ein cenedl fach ni mor frwdfrydig, pur, hyw a pharod i wneyd ei rhan a'i dyledswydd. a'r un genedl sydd yn gysylltiedig a'r Allies yn yr ymgyreh ofnadwy presenol. Y mae Cymru, gwlad anwyl ein gen- edigaeth. wedi ac yn gwneyd ei rhan, nid yw wedi osgoi, na gwneyd esgusod- ion a chymeryd mantais er peidio gwneyd ei rhan yn y rhyfel ofnadwy hwn. Ni bu yn rhaid meddwl am es- gusodi Cymru mewn cysvlltiad a Deddf Gorfodaeth, er bod ganddi gystal hawl i Home Rule ag unrhyw ran o Brydain Fawr. a mwy felly gan ei bod- wedi bod yn fwy pur a ffyddlon i'r llywodraeth na'r un rhan arall yn y deyrnas. Y mae wedi gadael i Ddadgysylltiad yr Eg- Iwys a phethau pwysig eraill oeddynt yn addawedig iddi gael eu rhoddi o'r neilldu. a dim ond un amcan mawr yn ei llywodraeth. sef enill buddugoliaeth ar y Kaiser. Y mae Cymru wedi aberthu 280,000 i 300.000 o fechgyn goreu y genedl. ac os codir yr oedran eto. fel yn ol pob tebyg y gwneir o 41 i 50. bydd miloedd eto yn ymuno a'r fyddin er rhoddi i lawr am byth y fell- dith fwyaf fu yn y byd yma erioed, militariaeth Brwsiaidd. 0, ydyw, y mae Cymru fechan dlawd, fel y dywed- ir, yn gwneyd ei hun yn dlotach nag erioed. a hyny o'i goreu; y mae yn ys- grifenu hanes yn y cyfnod ofnadwy hwn o hanes y byd, nid gyda phin ac inc ond gyda gwaei goreu, cochaf a phuraf ein cenedl. Pwy na byddai yn Gymro yn wyneb hyn, a hyny pan y mae un o'n hasgwrn yn arwain y byd i'r pethau goreu a mwyaf gwareiddiedig, a dyr- chafedig a gafwyd erioed, sef D, Lloyd George, gweledydd a gweithiwr mwyaf yr oes. Ac yn awr y mae America, gwlad ag y mae y mwyafrif mawr o honom wedi ei mabwysiadu fel ein car- tref, ac yr ydym yn credu mal hi yw y wlad oreu dan haul y nefoedd, y wlad ag sydd wedi sefyll ac ymladd dros ryddid a chyfiawnder ar hyd yr amser o Washington hyd yn awr. Y mae hith- au (fel y dywedodd yr Arlywydd Wil- son y dydd o'r blaen) wedi myned i'r ymgyrch. ac y mae am wneyd ei rhan 'without stint or limit;' y mae y wlad hon, ni a gredwn. am roddi y 'finishing touch' ar yr ymdrech hon. Y mae Ffrainc a Lloegr, Belgium, Rwmania, Canada, Itali, China. Scotland, Cymru a Rwsia weii gwneyd ac yn gwneyd y gwaith caletaf (rough work), ac y maent wedi ac yn ei gyflawni yn ar- dderchog, ac y mae ein bechgyn ninau, miliwn o hdnynt. meddir, yn barod yn Ffrainc, a miloedd eto yn canlyn i wneyd eu rhan i enill buddugoliaeth ar y gelyn. Y maent wedi gadael eu gwlad a'u cartrefi, ffarwelio a rhieni a, pher- thynasau anwyl iddynt, tori eu cysyllt- iad a chymdeithas oedi wedi cymeryd blynyddoedd i'w ffurfio, ac a oedd yn anwyl iddynt, gadael sefyllfaoedd oedd yn golygu dyfodol o lwyddiant iddynt, wedi aberthu y cwbl ar allor dyled- swydd. O. ie, y mae y bechgyn hyn fel bechgyn Cymru wedi aberthu eu byw- ydau a phob peth ar allor rhyddid a chyfiawnder. Y maent yn gwneyd hyn er ein mwyn ni, er mwyn ein plant, a phlant ein plant, yn wir er mwyn dyn- oliaeth hyd ddiwedd amser. Y maent hwy wedi rhoddi eu goreu, ac yn awr "I y cwestiwn ydyw hwn, a ydym ni yn rhoddi ein goreu er sefyll yn gryf y tu cefn iddynt. Y gwir yw, y mae llu o Gymry sydd a moddion ganddynt yn arianol nad ydynt yn gwneyd dim i gynorthwyo yn yr argyfwng ofnadwy sydd yn hanes y byd; y maent yn barod i weld bai ac i rwgnach yn erbyn rhai sydd yn gwneyd, a pharod hefyd, ysyvvaeth i weddio am heddweh. Nid oes arnom eisieu heddwch; eisieu buddugoliaeth ar y gelyn sydd arnom, ac yna, a dim hyd hyny, y cawn hedd- weh iawn, a hwnw yn un parhaol. Yn awr, y mae ymdrech y Third Liberty Loan yn myned yn mlaen; methiant gyda hyn fyddai yr un cam pwysig a derbyniol gan Germani i'n gorchfygiad. Ond ni bydd yn bosibl iddo fethu! Bydd i'r bobl ateb i'r al- wad hon gyda'r un brwdfrydedd ag y darfu iddynt gymeryd i fyny y ddau fenthyciad arall. Y mae yr ymdrech ag sydd yn myned yn mlaen yn Ffrainc y dyddiau hyn yn tanio pob person ag sydd ag enaid ynddo, gyda phenderfyn- iad newydd fel ag y maent yn barod i aberthu pob peth er mwyn rhoddi ter- fyniad buan i'r difrod ofnadwy ag sydd yn cymeryd lie o herwydd unbenaeth a barbareiddiweh. Y mae gorchfygiad y Kaiser yn sicr, ac fel y dywedodd ys- grifenydd y Trysorlys McAdoo, 'Let us hasten it by asserting America's might with increased vigor in concert with our gallant comrades.' Swm y Loan yma yw tair biliwn o ddoleri. Er cych- wyniad y rhyfel o Ebrill y cyntaf hyd ddiwedd Rhagfyr, costiodd i'r Llywodr- aeth naw biliwn o ddoleri, swm aruthr- ol i feddwl am dano, onite. Rhoddwyd benthyg i'r Allies o'r swm hwn bedair biliwn, saitli cant a thri a deugain o filiynau o ddoleri. Yn ychwanegol at y swm yna y mae y Llywodraeth yr wythnos ddiweddaf wedi addaw un bil- iwn a phum can miliwn o ddoleri, y cwbl mewn loans i'w talu eto. Yr ydym yn teimlo yn falch fod ein gwlad yn alluog arianol i gynorthwyo yr Allies gyda'r fath swm aruthrol yn eu hangen. Y mae cost y llywodraeth yn fisol yn un biliwn o ddoleri, a bydd iddo fyned ar gynydd fel y bydd y dynion yn cael eu galw i'r fyddin a'r rhyfel yn myned yn mlaen. Hyd yn hyn y mae un ran o chwech o gostau y rhyfel wedi dod oddiwrth drethi a derbyniadau (revenues) eraill; y gweddill oddiwrth Liberty Loan Bonds, War Saving Stamps a Certificates of Indebtedness. Y mis hwn y mae y Llywodraeth yn galw ar y wlad i gymeryd i fyny y dryd. edd Echwyn Rhyddid. Y mae rhwym- ebau yr echwyn yma yn cael eu gwerthu gan holl fanciau y wlad mewn symiau $50 ac uchod, ac yn dwyn llog o 4^4 y cant, ac vn daladwy mewn deg mlyn- edd. Gwir y gellir eu gwerthu unrhyw a ieg, gan y bydd galw yn y farchnad ar bob pryd am rwymebau ag sydd mor ddyogel i'r prynwr, ond ni chymeradwy- ir hyn os na bydd rhaid gwneyd hyny. Peth arall, gwneir trefniadau fel y gellir newid y bond gyntaf a'r ail am y drydedd, a chael Hog o 414 y cant. Y mae rhai yn dweyd am wastraff a thwyll yn nglyn a hyn gan rai yn y Llywodraeth; peidiwch a'u coelio hwy. Un o gastiau y Kaiser yw hwn, rhyw- beth i godi annghydfod, cynwrf a surni yn y wlad, gwyliwn rhag y, rhain, dyma un o'i gyflegrau mawr; nid 72 miles y mae y gwn yma yn saethu. ond dros holl diriogaeth yr Allies. Tebyg fod yna bethau nad ydynt yn iawn mewn peir- ianwaith mor fawr a llywodraeth y wlad yma; y mae yna yn naturiol 'screw loose' yn rhywle, ond peidiwn a cheisio ymguddio yn nghysgod esgusodion gwael a disail fel yna. Y mae ein dy- ledswydd ni yn aros, ac os na bydd i ni ei chyflawni yr ydym yn euog o 'treason.' Nid siarad, ond ei gwneyd, ac os na wnei di, nid wyt yn onest (loyal) i'r wlad; yr wyt yn fradwr ac yn helpu y Kaiser. Wrth gymeryd y bonds yma yr ydym yn cynilo hefyd, ac os yw y wlad yma yn werth ymladd t-drosti y mae hefyd yn werth cynilo erddi. Bobl ieuainc, gair wrthych chwi, ac y mae yn gwerth sylw pawb o honom. Cyn gwario arian afreidiol, ystyriwn a meddyliwn, a all ein gwlad yn y dydd- iau enbyd hyn fforddio i ni wneyd hyny. Pob doler a gynilir a gynorthwya yn ddeublyg pan yn peidio eu gwario am afreidiau, ac yn ail yr ydych yn rhoddi eu benthyg i'r llywodraeth, Er enill y rhyfel hon rhaid i ni wneyd ein goreu, os na wnawn, yr ydym yn yslacwyr o'r fath waethaf. Yslacwyr ddywedais i. 0, ie, o'r fath waethaf. digon hawdd galw y bechgyn sydd yn ceisio ym- esgusodi o wneyd eu dyledswydd wrth yr enw hwn. ond gyfeillion, pan y meddyliwn ni yn ystyriol am hyn, yr ydym yn gorfod wynebu y ffaith, Pa beth a rydd dyn am ei einioes. Y mae ymuno a'r fyddin yn meddwl bod yn agored i golli bywyd, ofynir dim fel hyn genym ni, ond gofynir i ni wneyd ein goreu trwy brynu cymaint a allwn o Liberty Loan Bonds a War Saving Stamps. Y mae genym bob ymddiried yn ein bechgyn eu bod am fynu buddu- goliaeth neu fedd, a'u bod wedi eu trwytho a'r ysbryd, 'mai mil gwell yw marw yn fechgyn dewr na byw yn fech- gyn llwfr.' Mi fydd yna rai o'n bech- gyn yma yn dod yn ol, yn fuddugol- iaethus mi hyderwn; rhai wedi eu clwyfo, eraill yn y profiad mai Baich.yw y byd heb iechyd. Er ei gael yn aur i gyd. Yr wyf yn gobeithio y caf fyw i weled yc amser hyfryd yna. Dyna yr amser y bydd ein cantorion yn canu 'When the boys come home.' bydd eu canu yn well nag erioed; bydd ein corau rhagor- ol yn canu yn fwy soniarus y pryd hyny; y canu cynulleidfaol a gawn y pryd hwnw a fydd yn fendigedig; mi gredaf fi y byddai inau yn gallu canu y pryd hwnw. Dyma amser fydd hwn, onite; y rhyfel wedi darfod, dynoliaeth, rhyddid a chyfiawnder yn teyrnasu, ond wyddoch chwi beth, fydd genym ni ddim rhan na chyfran yn y llawenydd ac yn y fuddugoliaeth os na byddwn ni wedi gwneyd ein dyledswydd, na fydd yn wir. Njilwr bach o Gymro a gyfar- fydtlais y dydd o'r blaen, yr hwn sydd yn y fyddin ac yn gwersyllu yn Camp Dix. Meddai wrthyf, 'Yr wedi gwneyd cais am gael fy nhrosglwyddo o'r Medi- cal Corps i'r Infantry.' 'Paham,' medd- wn inau. '0,' meddai, a'i lygaid yn tanio. 'Nid oes yn dod i wasanaethu i'r Base Hospital yn awr ond y bech- gynt a thraed fflat ganddynt; rhai a rhyw ddrwg ar eu golwg, a gwrth- wynebwyr cydwybodol, ac nid oes ar- naf eisieu cael fy nghyfrif yn y dos- barth yna. Hoffwn gael myned i'r ffrynt ac ymladd wyneb yn wyneb a'r gelyn-rhoddi fy ngoreu er enill budd- ugoliaeth ar y gelyn.' Ysbryd rhagorol, meddwn, ysbryd y dydd, ie, a'r un ys- bryd a ddylai feddianu pawb o honom ninau gartref a rhaid ei gael os ydym am drechu y Kaiser. Rhaid wrth arian a chynilo gyda bwydydd yn ogystal a dynion. Fydd yna ddim nefoedd new- ydd ar ol y rhyfel yma. ond mi fydd daear newydd, egwyddorion y nefoedd yn llywodraetliu pawb a phobpeth dros wyneb y byd i gyd. Mynwn gael rhan i ddwyn hyn i ben, a hyny mor fuan ag sydd bosibl. Prynwn rwymebau rhydd- id i'r swm mwyaf yn ein gallu.
Advertising
STATEMENT OF THE OWNERSHIP. Management, Circulation, etc., re- quired by the Act of Congress of Auerust 24. 1912. Of "Y Drych," published Weekly at Utica, New York, for April 1st, 1918. State of New York, County of Oneida. Before me, a Notary, in and for the State and County aforesaid, personally appeared Thomas J. Griffiths, who, having been duly sworn according to law, deposes and says that he is the owner of the "Y Drych," and that the following is, to the best of his know- ledge and belief, a true statement of the ownership, management, etc., of the aforesaid publication for the date shown in the above caption, required by the Act of August 24, 1912, embod- ied in section 443, Postal Laws and Regulations. 1. That the names and addresses of the publisher, editor, managing editor, and business managers are: Publisher, Thomas J. Griffiths, 11 Liberty Street, Utica, N. Y. Editor. D. R. Williams, 11 Liberty St., Utica, N. Y. Managing Editor, R. M. Williams, 11 Liberty-St., Utica, N. Y. Business Manager, Thomas J. Griffiths, 11 Liberty St., Utica, N. Y. 2. That the owner is: Thomas J. Griffiths, 11 Liberty St., Utica, N. Y. ■ 3. That the known bondholders, mortgagees, and other security holders owning or holding 1 per cent. or more of total amount of bonds, mortgages, or other securities are: None. THOMAS J. GRIFFITHS (Owner). Sworn to and subscribed before me this 10th day of April, 1918. LEWIS E. WILLIAMS. Seal Notary PulbIic Oneida Co., N. Y. Mv Commission expires March 1, 1919. Crydcymalau Gwellhad Girtref gan Un ii Cafodd. Yn ngwanwyn 1893 cefais ym- osodiad o'r Crydcymalau (Muscular and Inflamatory Rheumatism). Dyoddefais lawer, fel y gwyr y rhai sydd dano, am dair blynedd. Trei- ais feddyglyn ar ol meddyglyn, meddyg ar ol meddyg, end droa dymor yn unig y gwellhawn. O'r diwedd, darganfyddais gyffyr a'm gwellhaodd yn gyflawn, ac ni ddy- chwelodd y boen. Rhoddiiis ef i amryw oedd yn gorwedd dan y crydcymalau, a bu yn effeithiol i wellhau yn mhob achos. Mae arnaf eisieu i bob dyoddef- ydd oddiwrth y crydcymalau dreio y meddyglyn hwn. Na anfoner sent; dim ond eich enw a'ch cyfeir- iad, ac anfonaf ef yn rhad i chwi i'w dreio. Wedi ei chwi ei dreio, a'i gael y feddyginiaeth ag y chwil- iech mor ddyfal am dano, gellwch anfon ei bris, set dolar, ond deall- wch nad oes arnaf eisieu eich arian, os nad ydych foddlawn i hyny. Onid yw hynyna yn deg? Paham y dyoddefwch ychwaneg pan y mae gwellhad yn cael ei gynyg yn rhad? Peidiwch oedi. Ysgrifenwch hedd- yw. Mark H. Jackson, 726-F. Gurney Bldg., Syracuse, N. Y. Mae Mr. Jackson yn ddyn ymddir- iedol a chywir. EVAN WILLIAMS Great Welsh Tenor. Management, Wolfsohn Musical Bureau, 1 West 34th Street. New York City.
LLYFRAU AR WERTH. I
LLYFRAU AR WERTH. Y mae genyf esboniad y Parch. John Jones (Idrisyn) ar yr Hen Destament yn bedair cyfrol ar werth, wedi eu rhwymo a lledr cryf a hardd. Mae y cyfrolau tua modfedd a thri chwarter o drwch yr un. Mae yr awdwr wedi casglu o weithiau 250 o brif feirniaid y byd. Mewn cadwraeth dda. Tair cyfrol o bregethau y diweddar Barch. Thomas Richards, Abergwapn, wedi eu rhwymo a llian ac mewn cad- wraeth dda; dan olyglaeth Edward Mathews, Eweni. Yr oil yn rhad.— Wm. G. James, 522 Prospect St., Hill- yard, Wash. :.i r.!
Advertising
I EAT E. )fit Yn Nn¡;hanolbarth .Canada: He gellch brynu tir frer- mio da a gyfyd 0 20145 bWSlel 0 we1l1th $2.00 am $15 i $30 vr acer, mae'n hawd sicrhau proffid. Talodd am- Sm?M?j????P?????& ryw o?ermwyrGortlewinbarth Canada \degau 0 hOD- t o'r U. D.) .am cu tir gyda? un crop. Mae cyfteusdr? i wneyd too per cent. 0 I wahodda Canada chwi yn gynes i scfydlu ar | Drefad Rhad 160 o Aceri I || neu sicrhau tir' am bris isel yn Manitoba, Saskatchewan, S ?u Alberta. Meddyliwch beth allwch wneyd gyda S gwenith $2.00 y bwsiel a thir mor hawdd ei gael. Cynyrchfjljl^ rhagorol 0 geirch, haid a Hin. Ffermw cymysg yn bromdio. Ysgolion da, marhnadoedd cy!1eus, hinsawdd dda. Ysgri-f AA?LJtJL?'Rl !? B fenH am lenyddlaeth a manyhon yn nghylch toHau rhell, 7J. el ffordd?ostvngoHSupt. Immigration, Ottawa. Canada, neu, MJ'' ? ?i&'A  0. G. RUTLEDGE, 0 S 1 301 E. Genesee St., Syracuse, N. Y. S ffl Canadian Government Agent. I Prynwch Rwymebau y Trydydd Echwyn Rhyddid I 1 Ni ellwch golli os y buddsoddweh. 1 I Nis gellwch enill os na fuddsoddwch. § First National Bank of Utica I SWYDDOGION. | a Charles B. Rogers, Llywydd. Frank A. Bosworth, Is-ljrwydd. ffi G. H. P. Gould, Is-lywydd. William C. Wrfight, Is-gyfrifydd. I fi Henry R. Williams. Is-lywydd a Hugh T. Owen. Is-gyfrifydd. a Chyfrifydd. I I !J<IøØIJJI.tJiI" Clwb yr Echwyn Rhyddid Ymunwch chwi heddyw drwy dalu $1.00 am • bob rhwymeb $50 ag sydd arnoch eisieu- ac yna yr un swm yn wythnosol, neu mor ami ag y dymuriweh. Byddwn yn ddwbl falch o'ch gwasanaethu, gan ein bod wrth wneyd hyny yn gwasanaethu y Llywodraeth hefyd. A gynorthwywch chwi i wneyd y Trydydd Echwyn Rhyddid yn llwyddiant ? Deuwch i fewn heddyw neu yfory. CITIZEN'S Trust Company O dan y Faner Phone 546-Private Branch Exchange 8ENECA SQUARE, UTICA, N. Y ♦ AELOD 0 GYUNDREFN FANCIOL TALAETH NEW YORK. FEDERAL RESERVE BANK. ?SS?NES??N?S?NSS??????????E????SSS?BNN !PARHAU Y CYNYGlADl UE! j j=5 Daw i'n Haw yma yn barbaus lythyrau yn holi a ydym yn parhau y |g £ cynygiad o Anrhe? gyda'r "Drych" a'r "Cambrian", ac yr ydym wed! |j ? penderfynu rhoi y cyfle eto yn vstod y ddau fis nesaf. Anfonir copi o'r || 11 vfr pob logaidd i"RHAMANT BYWYD LLOYD GEORGE"!|g  (The Life Romance of Lloyd George) 9 ? ? (CAN BEMAH EVANS) |§ ? (C?Tiraeg neu Saesneg,) yn anrheg i unrhyw un a dalo am y "Drych" §j ? i fyny hyd Ionawr ?af, ?9t9? neu i bob un a enfyn enw newydd gyda ffl ? blaendal o $2.00, ?neu gydag enw newydd am "The Cambrian" gyda na ? blaendal 0 $ J .25. ? Mae'r cynyg hwn i rai'na dderbyniasant y Myfr yn HaenoroL |I| S Mae yn y Uyfr ddeuddeg 0 benodau, ac un ar bym- | I Mae yn v Ilyfr ddeuddeg o benodau, ac un ar bym- yc theg 0 ddarluniau hardd. ? Gwerthodd wrth y miloedd yn Mhrydain, a | ? dywed y newyddadurion ei fod y Ilyfr goreu ddaeth | ? aUan o'r wasg ar y Gwr Mawr o Griccieth, a dyn | 1 mwyaf Prydain Fawr heddyw. "A vivid sidelight j| 1 of the psychology of]a man and of a nation," medd | iFH H y "Manchester Guardian" am dano. |j ? Ysgrifenwch heddyw i sicrhau copi at | 1 THOMAS J. GRIFFITHS, 1 H "Drych" Office, Utica, N. Y. 3! 6 
NEWYDDlON CYMRIJ.
NEWYDDlON CYMRIJ. -Mae haen newydd o lo, oddeutu chwe' miliwn o dunelli, wedi ei ddar- ganfod yn Nyffryn y Rhondda. -Dywed un o'i organau y bydd Ar- glwydd Rhondda yn y Cabinet yn fuan. Dydd pobl y papyrau newydd ydyw heddyw. -Ilell o fod yn unol ar y pwnc dir- westol yw pwyllgor Cyngrair Eglwysi Rhvdd Cymru. Gohiriwyd y ddadl yn Mhwyllgor yr Amwythig. a cheir brwydr arno mewn cyfarfod eto. —Yr wythnos o'r blaen. priododd Miss Mina Thomas, unig ferch Syr Owen Thomas, a Capt. Gerald Allen, Major yn y Royal Flying Corps, mab Mr. Robert Allen, Coolgrena, Cork. -Dywedir fod dau newyddiadur Cym- raeg wedi myn'd i orphwys dros dymor y i-hvf(,I. Dywed? y rhyfel. Dywed golygydd newyddiadur arall mai cario yn mlaen er budd y cy- hoedd. ac nid er elw i'w feistr, y mae yntau. —Y mae'r aradr fotor wedi bod yn trin rhanau o barciau Coed Alun, a Phlas LIanfair, ger Caernarfon, yn ddl- weddar. Ni bu aradr yn rhai o'r tir- oedd hyn yn egbof neb sydd yn fyw. Troir rhai ugeiniau o aceri o barciau'r Faenol a Phenrhyn hefyd. —Gofyna Ellis Davies, A. S., am ragor o drethi ar gyfalaf. M^e'r trethi ar ym- borth yn gyfartal i :3p.: 10. ar gyfer pob teulu o bump, a phwysa treth yr in- cwm yn drwm ar rai sydd yn cael cyf- log isel. Ac am hyny rhaid mynd yn ddyfnach. i bwrs y cyfoethogion. -.viae Lloyd George yn Gymro rhag- orol, a gwvr sut y mae ysgrifenu llythyr mewn Cymraeg graenus. Mae rhywun wedi anfon allan yn ei enw lythyr sydd a'r gair "stelcian' ynddo. Ai tybed mai'r Prif Weinidog a ysgrifenodd y gair yna? —Richard Williams, swyddog yn nglyn a'r General Post Office, Birming- ham, sydd wedi ei benodi yn bostfeistr hen dref Daniel Owen. Bydd yn ymaf- lyd yn ei ddyledswyddau newyddion yn y Wyddgrug yn fuan. Cyn symud i'r suburbs i fyw, bu Mr. Williams yn ael- od ffyddlawn yn Hockley Hill, hen gap- el y diweddar Barch. John Prichard. Hysbysir am farwolaeth Mrs. Rath-j bone, Green Bank, Sefton Park, Lerpwl, I' gweddw William Rathbone, a fu yn ael- od Seneddol dros Arfon. Cymerai I ddyddordeb mawr mewn gwahanol sy- mudiadau cymdeithasol yn Lerpwl a'r cylch, y bu ei phriod yn nglyn a hwy, a chychwynodd ei hunan amryw o sef- ydliadau rhagorol yn y ddinas. Bydd colled fawr ar ei hol. —Beth yw rhai o achosion diryvviad yr Ii Ysgol Sul? Dyma ateb arall, "Ceir math ar falchder cymdeithasol neu 'snobyddiaeth' sy'n peri fod rhai o'r rhai sydd yn 'dod yn mlaen' yn y byd yn cefnu arni. Gellir enwi athrawon y prif ysgolion. ysgolfeistri. athrawon yr ysgolion elfenol a chanolraddol. cyf- reithwyr, clercod banciau, ac eraill." Onid oes gormod o wir yn hyn? —Galwodd Lloyd George amryw o ael- odau Ty y Cyffredin i Downing Street y dydd o'r blaen, ac wedi cau'r drws eglurodd iddynt sut y mae pethau rhwng y Llywodraeth a'r wasg. Ym- ddengys fod atebiad y Prif Weinidog yn foddhaol iawn, oblegid terfynwyd drwy data diolchgarwch. Un gwych yw Mr. Lloyd George. Hen stori yw hyna, eb- ai rhywun. Ie, ond mae cryn lawer o bobl yn Nghymru heb ei chredu. -Bu gweithwyr corfforaeth Bangor ar streic yr wythnos i'r blaen, a pharodd y streic gryn lawer o anhwylusdod i'r ddinas. Y mae yn debyg nad oedd dig- rifwch y peth yn apelio at y rhai oedd yn dyoddef yr anhwylusdod, ond bum yno ar neges yn ystod yr wythnos ac nid allwn lai na theimlo fod ochr ddig- rif i'r peth. Nid oedd na nwy na thryd- an i'w gael. ac yn y stesion yr oeddis wrthi yn brysur yn parotoi liampau olew. -Hysbysir fod Ysgrifenydd Pwyilgor yr Ymborth. yn y Rhondda. wedi dar- paru ffurfiau neillduol ar gyfer pregeth- wyr teithiol. ac y gall y rhai sydd yn y tai capeli ac yn 'cadw'r mis' gael cyf- lenwad ychwanegol ar gyfer eu hym- welwyr. Ond daigenir fod yn rhaid i bob pregethwr gario gydag ef ei siwgr ei hun. —Prin y mae glowyr y De yn hoffi gwaith y Llywodraeth yn gwahodd ar- weinwyr y gweithwyr i fyned am dro i'r Cyfandir ar gost y wlad. Gwell i bawb nad oes ganddo neges aros gar- tref. Mae llawer o wir yn hyna, ond daw ambell un yn ol i felldithio'r Wein- yddiaeth. Mr. Horatio Bottomley. er engraifft. —Galwyd sylw yn Nhy'r Cyffredin, at achos Mr. D. G. Davies, cyfreithiwr, gynt o Fethesda. a ddedfrydwyd i dair blynedd o benydwasanaeth yn Mrawd- lys Caernarfon, yn mis Ionawr diwedd- af. Gofynodd Ellis Davies i'r Ysgrifen- ydd Cartret'ol a wnai ymchwiliai i'r achos, gan fod tystiolaeth feddygol wedi ei rhoddi adpg y prawf fod D. G. Dav- ies wedi bod yn epileptic anfeddygin- iaethol er's pedair blynedd ar ddeg, a chan ei fod, ar ol hyny, wedi myned o'i bwyll? Atebodd Syr George Cave nad oedd y carcharor hwn wedi ei gofrestru fel gwallgof. Fel canlyniad ei brawf (yn yr hwn y pleidiodd yn euog) a'r ddedfryd cafodd ergyd drom. oni deall- ai'r Ysgrifenydd Cartrefol fod gobaith da i'w iechyd wella yn ngharchar gyda gofal. "ttr oedd eisoes beth gwellhad. Gofynodd Ellis Davies ai onid oedd Syr George Cave yn gwybod fod y meddyg wedi tystio fod D. G. Davies yn wallgof o fewn pythefnos wedi'r ddedfryd, a bod y Barnwr yn y Frawdlys wedi an- wybyddu'r holl dystiolaeth feldygol? Dywedodd Syr George Cave nad allai ddelio a'r mater hwnw. ond nid oedd yn ffaith fod y meddygon wedi dywelyd ei fod yn wallgof. Mr. Davies: Ydyw. y mae. o MARWOLAETHAU. Y Gogledd. I Abergele.—Yn ddiweddar, y Parch. L. D. Jenkins, B. A., rheithor. Bala.—Mawrth 11, yn Fairbourne, Robt. Lloyd Jones. gynt o Mount Place, yn 54 oed, Bontddu.—Mawrth 11. Evan Roberts, Ty'nycornel (gynt Bwlchcoch) yn 57 oed. Bethel.—Mawrth 11. Oliver, mab ieu- engaf Mr. a Mrs. John Hughes. Bryn Llwyd, Saron. yn 23 oed. Corwen.—Mawrth 10. John Rhys, mab hynaf y Parch. John Williams.— Mawrth 16. Mrs. Catherine Roberts, Tycanol. Maerdy, yn 83 oed. Caernarfon.—Yn ddiweddar, Elizabeth, gweddw Evan Davies, fitter, 9 Edward St.—Mrs. Hughes. 3 Clarke Place. Caergybi.—Yn ddiweddar. W. Roberts. Diwydfa. London Rd. Dinbych. —Mawrth 7. Miss Mary Wil- liams. Hiraethog House, yn 58 oed. Dolgellau.—Mawrth 13. Evan Rees, Hoot Maker. Glyndwr Bldg., yn 68 oed. Dinorwig. Yn Hen Golwyn. Mrs. Howells. sef merch i Mr. Jones. Tan- y-fron. Egremont. ger LerpwL-Mawrth 14. Mrs. Mary Roberts, 22 Green Lane. Everton.—Mawrth 14. Miss Gwendolina Jones, merch Mr. a Mrs. David T. Jones. 55 Faraday St. Fairbourne.—Mawrth 11. Robert Lloyd Jones, yn 54 oed. Foiycrosses.—Mawrth 12. Mrs. Sarah Evans. Penymaes, yn 84 oed. Harlech.—Mawrth 17. Robert Williams, Fronfair. Llanfair. yn 83 oed. T,erl)wl.-Mawrth 15. Mrs. C. Parry, 16 Great George's Road. Waterloo.—Yn ddiweddar. Margery Hamilton, merch Mr. a Mrs. Robt. F. Parrv. 30 Russell St. Llanrhaiadr. ger Dinbych.—Mawrth 11. Mrs. Ellen Williams, Clwb Cottage. Llandudno.—Mawrth 10. Miss Fanny Evans. Glanymor. yn 42 oed. Penygroes.—Mawrth 4. yn Beuoni, De Affrica. John Humphreys. Penboi. Mon.—Mawrth 14. yn Lerpwl, Owen Roberts, peirianydd gyda'r Cork Steamship Co.. a mab y diwedd- ar a Mrs. Wm. Roberts, o'r lie uchod. Ysbyty Ifan.-Mawrth 7. David Wil- Hams. Groesffordd (Ty'n Llan gynt). -0.- Y Deheudir. I Aberdar.—Mawrth 10. Jane Jones, Herbert St. Aberkenffig. Mawrth 18. Gertrude, priod Windsor Davies. Bridgend. Mawrth 15. Brynhyfryd, Church Rd.. Henry David Evans, Anthony & Co.. grocers, yn 63 oed. Builth Wells.—Mawrth 12. Maesygraig, John Roberts, yn 75 oed. Caerdydd.—Mawrth 16. yn y Glan Edy Hospital, Martha Matilda, prioi David Edwards, diweddar Grangetown.— Mawrth 13. Albert Edward, mab Mr. a Mrs. E. R. James, 61 Broadway, yn 23 oed.—Mawrth 18, 55 Broadway, David John, Plumber, yn 42 oed, priod Caroline John. Mawrth 11, St. Fagans St., William Blackford. priod Ann Jones, hen bilot. Cathays. Monthermier Rd.. Phyllis May, merch Mr. a Mrs. Davies, yn naw oed. Coytrahen.-Mawrth 16. yn Pyliau, Reynold Jones, yn 68 oed. Dowlais.—Mawrth 11, Bryn Seion St., John Evans (diweddar Jones, Dickin- son & Co.). Llanilltyd Faerdre.—Mawrth 10. Pound Farm, Tom Morgan, mab David Mor- gan. New Tredegar—Mawrth 12. Queen's Rd., Mrs. Maria Thomas, yn 81 oed. Pontcanna.—Mawrth 16. Glamorgan St., Hopkin Jenkins, diweddar Leck- with Bridge. Pontypridd.—Mawrth 16. Grongaer Terrace, Edward Jones. Porth.-Mawrth 14. Glyn Gwendraeth, Davies St., Mount Pleasant. Daniel, priod Ann Roberts.