Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

NODION 0 NANTICOKE, PA.

News
Cite
Share

NODION 0 NANTICOKE, PA. Gan y Parch. A. L. Rowe. ) Nanticoke, Ebrill 6. 1918.—Bellach mae Pasc 1918 yn mhlith y pethau a fu. Heblaw ein dwyn i gof am oruchafiaeth ogoneddus ein Ceidwad hynaws a graa- ol, ar angeu a'r bedd, yn nghyd a'r ben- dithion ysbrydol mawrion, a gwerth- fawr syid yn deilliaw i'w ganlynwyr ffyddlon fel ffrwyth ei adgyfodiad, bu y Pasc eleni yn gyfrwng prudd-der medd- wl a thristwch calon i filoedd o deulu- oedd trwy eu hadgoffa am y tadau tyn- er, y meibion glewion, a merched pryd- ferth a gwylaiid, pa rai a amddifadent eu hunain o gysuron cartref clyd a chymdeithas perthynasau anwyl a chyf- eillion hoff, gan aberthu eu bywydau er mwyn amddiffyn eu gwlad yn ngwyneb trais ac annghyfiawnder y Kaiser balch, hunanol, diegwyddor a dideimlad. Ein cysur yn y dyddiau terfysglyd ac en- bydus hyn yw, mai yr Arglwydi sydd yn teyrnasu ac y bydd iddo yn ei amser da ei hun ddwyn i ben y rhyfel er lies y byd yn gyffredinol, ac er gogon- iant iddo ei hun. Deallwn fod y brawd Rees Evans o'r lie hwn wedi ymadael am Youngstown, Ohio. Mae Mr. Evans yn aeloi ac yn ddiacon ffyddlon a defnyddiol yn eg- Iwys Annibynol Seisnig Bethel. Y mae yn ysgolhaig gwych, yn dduwinydd da, ac yn gerddor gwych, ac o gymeriad glan, a gwelir ei eisieu mewn Ilawer cylch yma; a bydded i Gymry crefydi- ol Youngstown wneyd sylw o hono a'i gadw yn ddiwyd yn ngwinllan yr Ar- glwydd er lies eraill yn gystal ag ef ei hun. Cafodd y llwch hwn. yn nghydag er- aill o'r dref hon, y fraint o fod yn ughyfarfod ymadawol y Parch. W. Glyn Williams yn South Wilkes-Barre. Yr oedi y capel eang wedi ei lenwi gan gynulleidfa barchus a deallgar. Caf- wyd cyfarfod dyddorol iawn dan lyw- yddiaeth ddifyrus a doeth archesgob indipendia fawr y cwm poblog hwn, sef Dr. T. C. Edwards, Kingston, Pa. Dy- wedwyd pethau da iawn am Mr. Wil- liams a'i deulu anwyl. Mae ein harwr yn ddyn cyflawn iawn. Y mae yn breg- ethwr sylweddol, yn fardd gwych, yn Eisteddfodwr aiddgar, ac yn gerddor soniarus. ac yn ddyn da, ac yr wyf yn sicr y bydd i eglwys barchus New Castle ei werthfawrogi. Pob llwydd i chwi yn weinidog a phraidd i fod yn fendith i'r byd ac yn ogoniant i'r Hwn a roddes ei fywyd trosom. Mae yma ganoedd o galonau yn teim- lo yn ddwys am anffawd yr Hybarch a'r anwyl Theophilus Davies, Plains, sef colli ei olwg naturiol; ond gwn fod ei olygon ysbrydol yn gryfach nag erioed, a dymuniad cyffredinol Cymry goreu tref y Nant yw am iddo gael mwynhau gweddill ei oes mewn tawelwch a chys- ur nes y gelwir ef i'w gartref tragwydd- ol i fwynhau hindda diderfyn yn mhres- enoldeb yr Hwn y bu yn pregethu am faith flynyddau gyda ffyddlonieb a melusder digymar. "0 Frenin, bydd fyw byth" yw dymuniad fy nghalon. Mae y cyfeillion canlynol wedi bod yn mhair cystudd. ond ar wellhad. Cyfeir- io ydwyf at Edwari T. Jones,' Noble St.; Luther Thomas, Hanover St.; Mrs. Morgan Rees, Green St.; a Mrs. David R. Davies, Park St. Mae yr oil o hon- ynt yn bobl gwir barchus, a dymunwn iddynt adferiad buan. Y dydd o'r blaen clywais fod Mr. John J. Thomas, arolygydd Ysgol Sabbothol Moriah. wedi bod mor garedig ag an- rhegu tua haner cant o blant yr ysgol a phob o basgedaid o felusion ar Sul y Pasc. yr hyn a werthfawrogwyi yn fawr gan y rhieni yn gystal a chan y plant. Ystyriwyf hyn yn weithred teilwng o efelychiad gan bob arolygydd ysgol sydd a'i amgylchiadau yn gallu caniatau hyny. Dylid gwneyd pob ym- :!rech i enill sylw a serch y plant, os am Ysgol Sul lewyrchus. Diolch i chwi,l Mr. Thomas, am eich caredigrwydd i blant Moriah. —

COLUMBUS, OHIO.

Y FFORDD I GODI ARIAN.

Advertising

SLATINGTON, LEHIGH CO., PA.…

tBEAVER CREEK, OREGON.

Advertising

NODION 0 -CARROLL, NEB. If

Advertising