Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Advertising
m IDrcb. WELSH WEEKLY ESTABLISHED 1851. Iwraed Every Thursdav Moraine. THOMAS J. GRIFFITHS. ProDrietor. UTICA. N. Y. IMPORTANT TO ADVERTISERS—The mention of business men In general is oalled to Y DRYCH as a superior adver- tising medium, being read by thousands who cannot be reached by any other pub- lication. It has a large circulation, with -ub.qeribem in every State and Territory of the Union, In Great Britain and thf British Dependencies. It is the recognized National Organ of the Welsh Pf .'ple.
GWEITHIWN, CYNILWN, CYFRAN-WN.
GWEITHIWN, CYNILWN, CYFRAN- WN. Can Sam Ellis, Utica, N. Y. Dyledswydd amlwg pob dyn yn y wlad hon ydyw gwneyd ei oreu er cynorth- wyo ein Llywodraeth a'r Cyngreiriaid 1 enill y dydd yn y rhyfel ofnadwy pre- senol. Afreidiol ydyw ymhelaethu ar y paham yr aethom i ryfel a Germani. Mae'r neb a ymesgusoda rhag gwneyd ei ran dros ei wlad a dynoliaeth, am na T paham yr ydym mewn rhyfel, naill ai yn ynfytyn neu ddyhiryn. Cymeraf yn ganiataol fod holl ddar- llenwyr y 'Drych' yn argyhoeddedig o gyfiawnder ein safle, ac yn barod i weithio a gweddio am i'r Kaiser a'i gyd- Iofruddwyr gael eu darostwng hyd yn uffern. Mae miloedd o'n bechgyn ar faes y gwaed, canoedd o filoedd eraill yn ymbarotoi, a byddinoedd Ffrainc a Phrydain mewn ymdrech farwol a'r Hwniaid. Mae ein milwyr yn sicr o wneyd eu dyledswydd eithaf, a'r pwnc pwysig i ni a adawyd i gadw'r tan i gyneu ar yr aelwyd gartref, ydyw ym- ddeffro i'n cyfrifoldeb o wneyd a allom er cynal breichiau y bechgyn a ym- laddant drosom. Gallwn wneyd hyny yn effeiCwol drwy weithio, cynilo a chyfranu. Mae digon o waith i bawb, a'r hwn na fyn weithio na fwytaed ychwaith. NH ydyw o un gwahaniaeth pa an a oes gan un foddion i fyw heb weithio al peidio, gan fod bwyd yn rhy brin i neb gael bwyta bara seguryd. Mae galwad mawr am ddynion i weithio ar y ffermydd, ac i adeiladu llongau, a gwneyd arfau rhyfel. Nid oes berygl ychwaith i neb dori deddf foesol pe gweithiai dros wyth awr y dydd. Mae enill y rhyfel yn gan mil pwysicach na chydymffurfiad a rheolau Undeb y Meistri neu Undeb y Gweithwyr. Mae y gelyn ddyn yn ein mysg yn hau efrau annghydfod, a cheir nifer yn barod i werthu eu gwlad am wobr an- nghyflawnder. Mae y I. W. W. a'r Sos- taliaid fel Judas gynt yn proffesu mawr ofal am y tlodion, ond nid oes ond yr ehud yn gwrando arnynt. Mae safle resynus Rwsia yn gofgolofn 1 ynfyd- rwydd a bradwriaeth y cynyrfwyr hyn. Credaf fod gwneyd gwn yn waith mor gysegredig ar adeg fel hon ag ydyw pregethu yr Efengyl, gan hyny yn 'gwneuthur daioni, na ddiogwn, canys yn ei lawn bryd y medwn y Germaniaid, onl ddiffygiwn.' Peidiwn hefyd a thuchan o herwydd prinder siwgr ac ansawdd y bara, a materion dibwys oyffelyb. Ystyriwn gyflwr enbydus Belgium, Serbia, Armenia, Poland, a gwledydd eraill pan deimlwn awydd beio y 'bara gwael hwn.' Dyn aned- wydd iawn ydyw y grwgnachwr, a phob amser yn cario baich diangenrhaid ar ai feddwl. Nid oes genym nemawr o achos cwyn hyd yn hyn yn y wlad hon, a phrin y sylweddolwn yr aberth raid wneyd cyn y medrwn orthrechu y Kaiser a'i dduw. Nid digon gweithio ychwaith. Rhaid wrth gynildeb a darbodaeth. Derbynia yr amaethwr brisiau da am ei nwydd- au, enillir cyflogau mawr gan y gweith- wyr, ac y mae masnach yn flodeuog yn y wlad. Gwir fod costau byw wedi codi yn aruthrol, ac y mae yn anhawdd i deuluoedd mawr a ddibynant ar gyf- log un i dalu eu ffordd. Ond y mae dynion sengl a'r teuluoedd hyny ag y mae amryw o'r aelodau mewn oeiran gweithio yn medi cynauaf toreithiog, ac y mae hunanles, heb son am wlad- garwch, yn galw arnynt i gynilo erbyn diwrnod gwlawog. Gwneir apel gan y Llywodraeth at bawb o honom i brynu Rhwymebau Rhyddid. Mae'r telerau yn hwylus i bawb a allo brynu. Nid ydyw prynu y Bonds yn llawer o hunan-aberth, canys wrth helpu ein llywodraeth yr ydym yn helpu ein hunan. Pan y mae y bech- gyn yn aberthu eu bywydau yn Ffrainc, peth bychan ydyw i ni roddi benthyg ein harian i'r llywodraeth am log gweddol dda. Peidiwn ychwaith a dys- gwyl wrth y cyfoethogion i wneyd hyn. Yr ydym ni y bobl gyffredin, mor llu- osog o'n cydmaru a'r cyfoethogion, fel y bydd ein man symiau lluosog yn gor- bwyso eiddo y dosbarth cyfoethog. Mae mwyafrif pobl y wlad hon yn y sefyllfa y gweddiai y Salmydd am gael bod ynddi, "Na ddyro i mi gyfoeth na thlodi." Teimla pawb a fuddsodda ei arian yn y Liberty Bonds eu bod yn rbanddalwyr yn y Weriniaeth Ameri- canaidd, ac yn rhoddi hoelen yn arch y Kaiser. Mae gwerth moesol mewn darbod- aeth a chynildeb ar wahan i'r amcan neillduol y dadleuwn drosto yn awr. Gwell yw yr hwn a lywodraetho ei am- gylchiadau ei hun, na'r hwn a deflir amgylch-ogylch gan ei flysiau a'i chwantau. Ni fu erioed well cyfleus- dra i weithredu Cristionogaeth ymar- ferol na'r cyfnod presenol. Gwneir gwaith ardderchog gan y Y. M. C. A. a'r Red Cross yn nglyn a'r fyddin. Gweinyddir i angenion corfforol ac ys- brydol ein bechgyn gan y naill a'r Hall o'r cymdeithasau. Rhaid wrth symiau aruthrol o arian i gario'r gwaith yna yn mlaen, ac apelir am gyfraniadau yn yr eglwysi at bawb sydd a chalon ddyn- ol yn curo yn ei fynwes. Mae i neb a gauo ei dosturi, ac a wrthyd wneyd a all mewn. cyfranu tuag at y cymdeith- asau hyn yn perthyn i'r dosbarth ag y lywedir am danynt ddydd a ddaw, "Bum newynog, ac ni roisoch i mi fwyd, yn ngharchar, ac ni ymwelsoch a mi." Mae'r cybydd a addola ei arian, a'r oferddyn a'u gwario am oferedd yn gyfartal euog o fod yn oruchwylwyr annghyflawn. Enllibir y cymdeithasau hyn gan y gelynion o fewn ein pyrth er ceisio atal cefnogaeth iddynt, a drwg oedd genyt ddarllen sylw bychanus am y Y. M. C. A. yn y "Drych" dro yn ol gan un ddylasai wybod pethau gwell. Dysg- ir un wers bwysig i ni drwy offerynol- iaeth y rhyfel, set nad ydyw meddian- au dyn yn eiddo hollol a diamodol iddo. Camgymeriad mawr y Sosialiaid ydyw pwysleisio eu hawliau yn ddibaid, heb son am eu rhwymedigaethau 1 gym- deithas a gwladwriaeth. Cyn terfynu hyn o lith wasgarog, teimlaf awydd rhoddi cyngor i dri dos- barth o ddarllenwyr y "Drych." Yn gyntaf, y dosbarth ieuanc. Meithrin- wch y rhinweddau o gynildeb a hael- ioni. Mae eich hunanbarch, eich cys- ur, a'ch defnyddioldeb yn y dyfoiol yn dybynu i raddau helaeth ar eich gallu i ddarbod yn y presenol. Na hidiweh os cyfrifir chwi dipyn yn hen ffasiwn gan y sports. Profiad y sports yn ddiwedd- arach ar redegfa bywyd ydyw, "darfu yr haf, aeth heibio y cynauaf, a ninau ydym heb fod yn gadwedig yn foesol nac amgylchiadol." Hefyd rhaid ymar- fer haelioni yn gyfamserol a chynildeb, os am feddu cymeriad cymesur. Mae perygl i gynildeb ddirywio yn gybydd- dod, os na chyd-dymerir ef a haelioni. Y dosbarth nesaf ydyw y canol oed. Gan fy mod yn bersonol ar y terfyn- gylch rhwng y ddau ddosbarth a en- wyd, hyderaf fy mod mewn cydymdeim- lad a'r ddwy blaid. Y dosbarth canol sydd yn carlo pen trymaf o faich y wladwriaeth, ac atynt hwy yn benaf yr edo-chir am ofalu 'to keep the home fires burning.' Yr ieuanc raid ymladd, a'r canol oed adewir adref i weithio, cynllunio a chalonogi yr Ieuanc. Hwynthwy ddysgwylir i wneyd y gwaith pwysicaf gyda phwnc y bwyd, a phwnc y Liberty Bonds. Temtaslwn y canol oed ydyw canolbwyntio ei serch a'i ddyddordeb yn ei fuddianau a'i deu- lu ei hun. Teimla mai ei dy yw el gas- tell, ac mal ei deulu ydynt brif wrth- ddrychau e1 serch a'i ofal. Ceir cyfle dihafal yn awr i blanu egin gwladgar- wch a hunanlywodraeth yn mediyliau yr oes sy'n codi. Gwell dysgu (nid gor- fodi) y plant i brynu W. S. S. na ni- weidio eu hiechyd drwy ormod o foeth- au. Enill y rhyfel ydyw prif bwnc y cartref, yr eglwys, a'r wladwriaeth ar hyn o bryd, ac mae lladd yr Hwniald yn waith mor barchus ac angenrheidiol ag a fyddai lladd llygod mawr mewn yd- lan neu flaidd mewn corlan ddefaid. Os credwn fod Duw yn y nef, a chyf- iawnder ar yr orsedd, rhaid credu fod gweithredoedd anfad yr Hwniaid yn haeddu cyflawn daledigaeth. Yn olaf, gair o apel at yr hen. Y mae ganddynt hwythau eu rhan. Mae llaw- er o honynt wedi byw am flwyddi maith yn y wlad dda hon, ac wedi preswyllo mewn tir heddychol, a rhai well ym- gyfoethogi yn fawr. Wele gyfleusdra braf Iddynt agor eu calonau a datod llinynau eu pyrsau, ac ad-dalu rhyw gymaint am y breintiau fwynhasant yn ystod eu pererindod. Yr un yw eu profiad ag eiddo Jacob gynt pan ddy- wedodi, 'A'm ffon y daethym dros yr Iorddonen hon, ac wele yn awr yr yd- wyf yn ddwy fintai: Nid ydoedd yr eiddo a ddygodd llawer o Gymry clyd y wlad hon gyda hwynt dros y Werydd nemawr mwy o werth na ffon Jacob, ac o ganlyniad y maent yn ddyledwyr i'r wlad a'r bywyd Americanaidd am gyfleusdra i lwyddo. Mae yr holl freintiau crefyddol a fwynheir genym wedi costio gwaed gwroniaid y gorphenol, ac y mae pob peth werthfawrogir genym mewn en- bydrwydd oddiwrth drais yr Hwniaid. Mae hen wlad ein tadau wedi gwneyd ei rhan yn arwrol, ac unol (ac eithrio ychydig basiffistiaid), ac y mae yr Unol Dalaethau yn sicr o wneyd gwrhydri cyn rhoddi y cleddyf yn y wain. Tra y mae y dewrion yn brwydro drosom, bydded i ni ag sydd'yn annerbyniol o ran oedran, iechyd, neu amgylch- iadau, wneyd pob peth o fewn ein gallu i wneyd y byd yn werth i'r oesoedd a ddel i fyw ynddo. ———— I
Y FYDDIN GYMREIG. 1
Y FYDDIN GYMREIG. 1 Gan John Morgan, Garfield, Utah. I Gellid tybio oddiwrth ysgrif H. G. nad oedd neb ond y Fusiliers Cym- reig yn ymladd yn Neheudir Affrica. Y prawf goreu o gynesrwydd yr ym- ymladd yw y rhestr colledion, a bych- ain iawn oedd y Fusiliers Cymreig mewn cydmariaeth a'r Manchesters, y Devons, y Warwicks, y Northamptons a chatrodau eraill hollol Seisnig y gellir eu henwi. Yr oedd un fataliwn o'r Devons a'r Manchesters wedi eu cau i fyny yn Ladysmith o dan Syr George White tra yr oedi bataliwn arall o'r un gatrawd o dan Syr Redvers Buller yn ffurfio rhan o'r fyddin oedd yn ceisio ei waredu. Mae H. G. dipyn bach o'i le pan yn son am y Welsh Regiment o flaen Cronje yn mrwydr Paardeberg. Mae ei lythyr drwyddo draw yn fwy neu lai o grynodeb o hanes y Fusiliers Cymreig, ond cofier mai nid y Fusiliers Cymreig yw y Welsh Regiment. Hon yw yr hen 41st Foot, a chartrefle y gatrawd yw Caerdydd. Dyma'r unig gatrawd Gymreig ag iddi arwyddair (motto) Cymreig, sef 'Gwell Angeu na Chywilydd.' Cyn i'r Armageddon presenol -gych- wyn, y gatrawd ag iddi fwyaf o Vic- toria Crosses oedd yr hen 24th (South Wales Borderers) a enwogodd ei hun- an amser amddiffyniad Rorke's Drift, yn y Zulu campaign 1879. Ond yn y rhyfel presenol y gatrawd I enill fwyaf o Victoria Crosses ydyw y Lancashire Fusiliers, maent yn ddigon ar y blaen yn hyn o beth, ond cofiwch hyn, nid yw hyn yna yn dweyd fod y regiment hono yn un ronyn dewrach na chatrodau eraill. Glaniodd y fataliwn gyntaf o'r Fusiliers Cymreig yn Havre, Ffrainc, Awst lOfed, yn rhifo 1,100 o wyr. a swyddogion. Mewn llai na pythefnos yr oeddynt yn Mons, a'r 'retreat' fawr i'r Marne, ac yn fuan wed'yn ar yr Aisne, a thua mis Hydref yr oedd yn ffurfio rhan o'r 'contemptibles' ar- dderchog o dan Syr John French yn gwrthsefyll yr ymosodiad ofnadwy yn Ypres, sef brwydr gyntaf Ypres, lie yr oedd 125,000 o Brydeinwyr mewn ffos- ydd wedi eu gwneyd ar frys yn gwrth- sefyll ymosodiad 600,000 o Ellmynwyr oeddynt ar gymeryd Calais a porthladd- oedd eraill y Sianel, y Welsh Regiment Fusiliers Cymreig a'r Worcesters yn achub y dydd. Ond cofiwch hyn, fod rhai o'r catrodau Seisnig wedi ymladd y tu hwnt i unrhyw glod a ellir rodii iddynt, un gatrawd o ganolbarth Lloegr yn dod allan o'r ymladd uffernol gyda dim ond un swyddog a 97 o wyr o agos i 1,200 ar ddechreu y frwydr. Un adran Seisnig yn dod trwyddi gyda 43 o swyddogion, a llai na 4,000 o wyr allan o 450 o swyddogion a dros 14,000 o wyr. Welodd y byd erioed ddim gwell dewrder na hyn, na gwell ymladd. O'r holl ddynion yn y gwahanol fyid- inoedd Prydeinig mae 70 y cant o hon- ynt yn dod o Loegr, a Lloegr hefyd sydd wedi dyoddef 75 y cant o'r colled- lion. Ffeithiau yw y rhai hyn, a ffeith- iau sydd yn dweyd yn ddigon plaen pa genedl o ynysoedd Prydain sydd yn dyoddef fwyaf yn y rhyfel presenol. Gadewch i ni, frodyr, fod yn ddigon gonest a rhoi credyd i'r rhai y mae credyd yn ddyledus, ac ymatal rhag brolio ein hunain yn ormodol. Mae brolio yn yr awyr yma, ac nid oes neb wedi gwneyd llai, hyd yn awr, ac yn brolio fwy na ni yr Americanwyr. Bu- agai unrhyw un wrth ddarllen y new- yddiaduron yn casglu ein bod yn gwneyd yr holl ymladi, ac er yr holl siarad, nid yw ein colledion ar dir a mor er y dechreu, ond rh:)¡11e tua mil o ddynion. Pan fyddwn ni ynddi yn wir- ioneddol, bydd ein colledion rywle tua 25,000 i 40,000 mewn wythnos, ac nid rhyw fil mewn deg mit o amser. Mewn ysgrif a ymddau\:r»odd yn y 'Drych' dro yn ol, yr oedd yr ysgrifen- ydd yn dweyd fod mwyafrif y Prydein- wyr yn myddin Canada yn dod o'r Ys- gotlani, Cymru a'r Iwerddon. Dim o'r fath beth, mae mwy na'r drydedd ran, neu yn agos i 40 y cant, o holl fyddin Canada yn cael ei gwneyd i fyny o fro- dorion o Loegr. Dyma'r ffigyrau a gy- hoeddwyd gan yr awdurdodau yn Ottowa am yr adran gyniaf a groesodd y mor yn 1914, yr adran hono ymladi- odd mor ddewr yn ail frwydr Ypres mis Ebrill, 1915. Y cyfanrif oedd 31,389, yn gwneyd i fyny fel y canlyn: Lloegr, 13,377, neu 43.2 y cant; Ysgot-J land, 3,891, neu 12.7 y can.; Iwerddon, 1,631, neu 5.1 y cant; Cymru, 349. Pry- dain Fawr, 19,549, neu 6-.9 y cant; Canada, 8.986, neu 28.6 y cant; gwled- I ydd eraill, 2,854, neu 9 y "ant. O'r oil ag sydi wedi ymrestru gyda byddin Canada hyd yr awr hon. mae tua 53.55 y cant yn dod o Brydain Falsr, ac o'r Prydeinwyr, mae 75 y cant yn dod o Loegr. Ffeithiau noeth yiv y rhai hyn, ac nid awyr boeth, a dyuia un Cymro 'beth bynag sydd yn ddigon gonest i roi y credyd i'r hyn a elwlr 'y pre- dominant partner' yn ynysoedd Pry- dain. Mae agos i dri chan mil o Gymry wedi ymuno a'r fyddin, ac o'r cyfanrif yma mae agos i 50 y cant yn dod o sir Forganwg. Ond dyma bjth rhyfedd, pan mae torf lawer o bob! Morganwg i fyny o flaen y llysoedd am feddwdod a phechoiau eraill, byddwn ni y Cymry yn edrych i lawr ar TJorganwg ar- dderchog fel ysmorvn O. ie, nid y Cymry mo honynt, na choeliai fawr, y llanw Seisnig sydd i'w feio. Israeliaid yn wir ydym ni, y Cymry. A dweyd y gwir, pobl go sal ydym er ein holl frolio, yn eithaf parod i roi y bai ar y llanw Seisnig am y drwg, ond nid ydym ddigon o ddynion i ranu'r clod gyda'r llanw Seisnig am fod Morganwg ardderchog wedi codi agos i 50 y cant o'r fyddin Gymreig. Na, frodyr, mae'r llanw Seisnig o Forganwg yn adran gref iawn o'r fyddin Gymreig, ac os ydym ni, yr Israeliaid yn wir, yn gwneyd ein dyleiswydd yn yr argyf- wng presenol gystal ag y mae y llanw Seisnig yn Morganwg, bydd pob peth yn dda. Dyma'r ffaeledd mwyaf yn yr ysgrifenwyr Cymreig yn y 'Drych' maent yn rhy fostfawr o lawer. Dowch i ni gymeryd y ddiareb Seisnig fel gwers, set 'Self praise is no recom- mendation.' 1 i
I CREDU CREDOAU. I
I CREDU CREDOAU. I I Gan Hirnant. Ymddangosodd yn 'Nrych' Mawrth 28ain dan y penawd uchod, ysgrif gan y Parch. John Hammond, yn mha un yr ymdrecha i amddiffyn y pwlpud Cymreig, a dywed: 'Gwneuthur gwrth- dystiad yr wyf yn erbyn y slap a roddir yn awr a phryd arall i'r pwlpud am ddysgu fod credu mewn credoau yn cadw dynion,' ac yn mhellach yn mlaen, 'Nid credu credoau neu athrawiaeth sydd yn achub dynion.' Eto, 'Pan wnaeth Pedr gyffes mor ardderchog o'i Feistr 'Ti yw Crist, mab y Duw byw,' nid ei ganmol am ei gredo a wnaeth yr Arglwydd, ond ei adgoffa mai nid cig a gwaed a ddadguddiodd hyn iddo. Daeth y ffaith a'r gwirionedd a'r argyhoeddiad i'w feddiant trwy ddadguddiad.' Mae yr ysgrif hon yn galw am i ni edrych pa beth a feddylir wrth y geir- iau a ddefnyddir, Cred, a dadguddiad, ac hefyd wahaniaethu rhwng cred a choel (belief and credulity). Nid yw cred yn weithrei wirfoddol, ond yn or- fodol ar y person, a hyny yn ol ei re- swm, a'r rheswm yn ddybynol ar ei broflad a'i wybodaeth gyffredinol. Er engraifft, mae rhai pethau y mae yn rhaid i ni eu credu, a hyny yn erbyn ein hewyllys, o achos ein bod yn gwy- bod eu bod yn wir, ac ar y llaw arall bethau nas gallwn eu credu eto yn er- byn ein hewyllys, o herwydd ein bod yn gwybod eu bod yn ffugiol nea anwir- eddus. Mae yn debygol fod pob dyn yn byw mor agos ag y geill i'r hyn y mae yn ei wir gredu, ond nid i'r hyn y mae yn broffesu ei gredu. Dylem wneyd gwa- haniaeth rhwng cred wirioneddol a chred broffesedig. Mae y ddau air cred a ffydd o'r bron yn gyfystyr, fe- allai fod y gair ffydd yn cario y syniad I o ymddiried ychydig yn mhellach na'r gair cred. Er engraifft: Ar ein ffordd adref yr ydym yn dod at lan llyn sydd wedi rhewi trosodd. Wedi gwneyd ym- chwiliad o drwch y rhew, &c., yr ydym yn dod i'r gred y daliai ni i fyned tros- odd. ond o herwydd diffyg ffydd (llwyr ymddiriedaeth) awn filldir neu ddwy yn mhellach o amgylch y llyn yn lie mentro croesi ar y rhew, ac ar yr un pryd yn credu y buasai yn ein dal. Coel (credulity) yw ein derbyniad (acceptance) fel gwirionedd adroddiad o unrhyw ddygwyidiad, neu ffeithiau hanesyddol, fel pellder yr haul oddi- wrth y ddaear, neu fod cylchfesur y ddaear yn 25,000 o filldiroedd, &c., ar air rhywrai neu rhywun yr ydym yn ei ystyried yn eangach ei wybodaeth a'i brofi'ad na ni. Mewn geiriau eraill, credu ar awdurdod; mae genym gym- aint ffydd yn yr adroddwr, ac mai gwir yw yr hyn a edryd I, fel ag yr ydym yn ei gredu. Cred wallus yw mewn llawer ystyr, ac o herwydd parodrwydd llawer o bobl anwybodus a chrediniol (credul- ous) i dderbyn adroddiadau dyeithriail sydd a golwg barchus arnynt, ac yn ffraeth eu llefariad, neu yn wir eu cyd- nabod, mae miloedd lawer yn cael eu twyllo bob blwyddyn er eu dirfawr golled. Gair arall y dymunwn alw sylw ato yw dadguddiad. Pa beth yw ei ystyr? Mae un awdwr yn rhoddi y darnodiad a ganlyn: 'Revelation when applied to religion, means something communi- cated immediately from God to man.' Ond pan edrydd y dyn unrhyw beth a ddadgudiiodd Duw iddo, i'r ail, a'r ail i'r trydydd, ac yn y blaen, nid dadgudd- iad yw mwyach i neb o honynt ond yn unig y cyntaf, ar ol hyn mae yn mynd y peth a elwir gan y Sais yn 'hearsay,' ac nid yw tystiolaeth o'r fath yn dder- byniol yn ein llysoedd. Dywed Mr. Hammond am Pedr, 'Daeth y ffaith, a'r gwirionedd a'r ar- gyhoeddiad i'w feddiant trwy ddad- guddiad Duw ei hun.' Gwelir felly fod yn orfodol ar Pedr wneyd y gyffes a wnaeth (dim diolch iddo). Ac os yd- ym yn credu fod Duw yn ddidderbyn- wyneb, gallasem ddysgwyl iddo roi yr un dadguddiad i'r rhai eraill oedd yn bresenol, felly buasent oil yn barod i wneuthur yr un gyffes. A yw y pwlpud Cymreig yn euog o ddysgu fod credu credoau yn foddion i achub dynion nis gwn, ond yr wyf yn sicr i mi glywed y rhai a elwir yn efen- gylwyr mewn cyfarfodydd diwygiajol Seisnig yn pwysleisio mai yr oil oedd yn angenrheidiol i fod yn gadwedig oedd credu, ac fel prawf yn adrodd yr adnod hono, Act. 16:31, 'Cred yn yr Ar- glwyid Iesu Grist a chadwedig fyddi. A gwelais ugeiniau yn myned yn mlaen i gyffesu, a gwelais hefyd yn mhen am- ser, feallai, fwyafrif o'r cyffeswyr hyn wedi Ilithro, os dim, yn mhellach yn ol nag oeddynt yn flaenorol i'w cyffes. Mae yn ddiameu genyf fod y cyffeswyr hyn ar y pryd yn meddwl eu bod yn credu. A yw yn bosibl i ni dwyllo ein hunain yn hyn? Carwn i Mr. H. ein goleuo ar y mater hwn. Nid ysgrifenu er mwyn codi dadl yr wyf, ond er mwyn cael goleu ar y mater, gan yr wyf yn tybio el fod o'r pwys mwyaf i bob un sydd yn ymwneyd a chrefydd.
INODION 0 WEST PULLMAN, CHICAGO,…
NODION 0 WEST PULLMAN, CHI- CAGO, ILLS. I Gan Idris o'r Llwyn. Ebrill 22, 1918.-Swn rhyfel yn y gwynt sydi yma fel pob man arall, a dyna yw y prif destyn siarad arno gan bron bawb. Derbyniodd David R. Hughes nodyn oddiwrth eu mab, Arthur, yn hysbysu ei fod ar dir y byw. Mae efe yn nghanol y frwydr fawr yn rhywle yn Ffrainc. Hefyd daeth gair oddiwrth Harvey Hughes, efe yn awr yn parotoi at fyned allan gyda y gwyr meirch. Mab yw efe i Mr. a Mrs. Oliver Hughes, Wallace St. Mae fy mab, John, yn Great Lakes, Ills., a bydd yntau yn mynd allan yn fuan gyda chwmni I chwareu yn y sein- dorf (band) ar rai o'r llongau rhyfel. Fel hyn y mae llawer o gartrefi yn cael ei hamddifadu o'u plant hoff. Yn ddiweddar, unwyd mewn glan briodas John Burbey a Miss Mabel Hughes. Mae Mabel yn ferch i Mr. a Mrs. David B. Hughes, Eggleston Ave., ac yn un o flodau prydferthaf y fro. Dy- munwn bob llwyddiant i'r par ieuanc. Llawenydd mawr sydd yn nheulu Hugh A. Morris am eni merch fach dlos i'r byd; ei henw fydd Anna Margaret. Mae y fam a'r ferch yn dod yn mlaen yn rhagorol. Mae Robert H. Prichard a'r teulu yn ddedwydd iawn yn eu cartref newydd ar Normal Ave. a 121st St. Mrs. Harry Jones, o Cambria, Wis., sydd yma ar ymweliad byr a'i pherthynas, sef Oliver Hughes.
IA OES I'R EGLWYS RAN YN YMGYRCH…
I A OES I'R EGLWYS RAN YN YM- GYRCH Y BYD? Sylwedd anerchiad a draddodwyd yn Nghyfarfod Dosbarth Sir Oneida, N. Y., a gynaliwyd yn New Hartford, Medi 12, 1917. Seiliedig ar Matthew 5:13, 14; 10:34. I Gan Elias Ellis, Utica, N. Y. Gwelir fod y mater wedi ei roddi yn ffurf cwestiwn: 'A oes i'r eglwys ran, &c.?" Os atebir yn gadarnhaol, fe ddylid ceisio dangos pa ran sydd gan yr eglwys yn 'ymgyrch y byd.' Sylwn yn mlaenaf ar yr ystyr a gym- erwn i'r gair 'byd.' Deallwn wrtho yr hyn sydd bechadurus a gwrthwynebol i Dduw, neu, byd drygioni yn wrthgyfer- byniol i fyd daioni, teyrnas y tywyllwch a theyrnas drygioni, yn wrthgyferbyn- iol Kdeyrnas daioni a theyrnas santeidd rwydd; ac eglwys yr Arglwydd Iesu sydd yn cynrychioli ar y ddaear deyrnas daioni a santeiddrwydd. Wrth 'ymgyrch' y byd, y deallwn yr ymrysonfa sydd wedi, ac i fod rhwng y ddwy deyrnas a nodwyi, hyd oni osodo Crist ei holl elynion dan ei draed. Fe gyhoeddwyd yr 'ymgyrch' hwn yn foreu iawn-'Efe a ysiga dy ben di, a thithau a ysigi ei sawdl Ef.' Pan ddaeth Iesu Grist i'r byd, ac yn arbenig ar dde- chreuad ei waith cyhoeidus, fe ddaeth hefyd i wrthdarawiad a theyrnas dryg- ioni, ac nid ymgytunodd (compromise) a hi yr un iod nac un tipyn, yn hytrach, cyhoeddodd yn ddifloesgni na ddaethai i osod tangnefedi ar y ddaear (Matt. 10:34), ond cleddyf ac ymrafael. Ac ar Galfaria fe benderfynwyd pwy oedd y gorchfygwr, fe fwriwyd allan dywysog y byd hwn; ac o hyny hyd yn awr, mae teyrnas drygioni yn cario yn mlaen fath I o 'cuerrilla warfare.' Ffurf mlwg ac arbenig ar 'ymgyrch y byd' yw ceisio hudo a dyeithrio medd- wl yr eglwys oidiwrth Dduw. Tra y II cadwai Israel yn agos at Dduw, yr oedd ei hofn a'i harswyd ar y cenedloedd o'i I hamgylch; ond pan gefnai ar Dduw, yr oedd yn colli ei nerth a'i hawdurdod. A nodwedd amlwg ar 'ymgyrch y byd,' yn y ganrif hon a'r un flaenorol, yw ym- gais i gau allan Dduw a'i hawliau o feddyliau dynion. Onid hyn sydd i gyfrif am y wedd ddychrynllyd sydd ar ymgyrch y byd yn y rhyfel ofnadwy sydd yn Ewrop y tair blynedd diwedd- af? aP fodd y darfu i gydgenedl Martin Luther, y diwygiwr, fyned i'r sefyllfa meddwl ag yr oeddynt ynddi y chwarter canrif diweddaf? Yr unig atebiad gon- est a chywir yw mai trwy gau Duw a'i hawliau allan o'u haddysg-trwy wrth- droi dysgeidiaeth y Bregeth ar y Myn- ydi, a newid 'Gwyn eu byd y rhai add-! fwyn, y trugarogion,' &c., a dweyd yn hytrach, 'Gwyn ei fyd y cryf, v dewr a'r gwrol;' a chloddio o dan sylfaeni moesoldeb fel ag iddynt synied mai 'Might is right;' nad oedd sylw i'w roddi i wirionedd na ffyddlon- deb i gytundebau; a bod pob peth i fod yn is-wasanaethgar iddynt hwy i fod yn ben ar holl genedloeid y byd. Onid yw yn briodol cymwyso at 'ymgyrch y byd,' fel yr amlygir ef yn hanes Germani, y geiriau canlynol: 'Dy ffordd di, a'th amcanion a wnaethant hyn i ti; dyma! dy ddrygioni.' Ac nid yn unig fe anwybyddwyd Duw gan y byd yn ei ymgyrch, ond fe gym- erodd ffurf weithredol yn gynar yn y ganrif ddiweddaf trwy ymosod ar y Beibl. Nid yw yn syndod fod y milwyr Germanaidd yn llofruddio gwragedd a phlant bychain, gan fod llawer o'u gwyr dysgedig wedi treulio eu nerth i ym- osod ar Grist yr Efengylau, yn enwedig Crist fel y gosodir ef allan gan Efengyl loan, ac wedi gwneyd hyny yn ami wrth ben eu gwydraid cwrw. Gwelir yr un wedd ar 'ymgyrch y byd' mewn gwledydd eraill. Dywedir fod 85 y cant o'r efrydwyr yn Neheu- dir America yn chwerthin am ben ac yn dirmygu y syniad o Gristionogaeth, gan gyfeirio yn ami at yr ymadroddion canlynol o eiddo awdwr dysgedig yn Germani: 'Yr ydym ni (yn Germani) trwy ein haddysg uchel wedi cyraedd y fath safle mewn gwareiddiad fel ag i foj uwchlaw angen am yr addysg a gyfrenid i'r byd ddwy a thair mil o flyn- yddoedd yn ol,' gan gyfeirio at ddys- geidiaeth yr Hen Destament, ac eiddo Crist a'i Apostolion. A pha fudd gwadu fod llu o athrawon yn y Talaethau Unedig a Phrydain, trwy eu huchel feirniadaeth, yn cloddio o dan sylfaeni i y Beibl, fel y mae yn ddadguddiad oddi- wrth Dduw; ac nid oes i'r Beibl le ar raglen addysg ein gwlad fel ag i ddod i gyffyrddiad a'r holl ysgolheigion yn ddi- wahaniaeth. Mae tuedd mewn cyfun- drefn addysg ag sydd yn cau allan Dduw i fagu paganiaid dysgeiig, a gwneyd ffordd i bethau ofnadwy ddod i mewi i fywyd y genedl. Ac fe all yr un caik- lyniadau alaethus darddu o bob cy-fus- drefn addysg ag sydd yn cau Gair Duw allan o honi, ac a ddaeth i'r amlwg ya hanes Germani yn ystod y tair blynedd diweddaf. Gwedd arall ar 'ymgyrch y byd' yw anwybyddu neu gau Duw allan yn null dynion o fyw. O! fel y llwyddodd Duw wledydd Ewrop a'r Talaethau Unedig a daioni Ei ragluniaeth yn ystod y tri- ugain mlynedd diweddaf! Lluosogodd millionaires y byd yn gyflym. Dringodd miloedi o deuluoedd o dlodi i gyfoeth mawr. Y mae y dosbarth gweithiol wedi cael eu rhyddid, a'r hyn a elwir ya iawnderau, fel y mae eu sefyllfa wedi gwella yn fawr. Yn awr, atolwg, pwy fanteisiodd ar hyny? ai achos Crist, ynte hunan? Oni threuliwyd toraeth y daioni ar falchder, gwastraff a phleser? Ac wrth wneyd hyny, yr oedd dynion yn anwybyidu ac yn cau Duw allan o'u meddyliau. Cymaint mwy o aur &8 arian sydd wedi eu gwario ar y Sadyrn- au o fewn football, baseball, a tennis grounds yn y Talaethau Unedig a Phry- dain nag a gyfrenid yn yr addoldai ar y Sabbothau at gynal achos Crist! Hefyd, mae 'ymgyrch y byd' am, ae wedi cau Duw allan o grefydi. Cret- ydd yw yr hyn sydd yn uno dyn a Duw -yn rhoddi gafael iddo ar Dduw byw, ac yn ei ddwyn i gymdeithas a'r byd ysbrydol, ac felly mae yn cyfanu y rhwyg a wnaeth pechod rhwng dyn a Duw. Mae y gair Saesneg, 'religion' (re-ligo), yn gosod hyn allan yn eglur- ach na'r gair Cymraeg, 'crefydd.' Pan na rydd crefydd afael i ddyn ar Dduw aiff yn ffurf noeth, a chyll ddylanwad ar ei gjrdwybod; ac fe esgor ffurfioldeb noeth ar annghrediniaeth yn y man- Canlyniad ymarferol y ffurfioldeb hw. ar grefydd yn Ffrainc a Belgium oedd gadael y cysegr ar y Sabboth a'i droi yn ddydd i bob math o ddifyrwch. A dyna sydd yn brysur gymeryd lie yn y Talaethau Unedig a Phrydain. Fe ddy- wedir fod Cristionogion Ffrainc a Bel- gium ag oeddent ddigon selog i fyned i'r addoliad ar y Sabboth yn destyn gwawd gan y lluaws, anftyddol. Dyna rai agweddau ar 'ymgyrch y byi.* Yn awr, beth yw rhan yr eglwys yn 'ymgyrch y byd?' Yn gyntaf oil, rhaid iddi roddi ail sylw i bregeth fawr a draddodwyd er's agos i dair mil o flyn- yddoedi, gan hen weinidog enwog, set deffro, gwisg dy nerth Seion. gwisg wisgoedd dy ogoniant,' fel y delo y byd yn argyhoeddedig fod rhywbetk yn yr eglwys nad yw efe yn ei feddu. Nii yw crefydd a moesoldeb unrhyw wlad yn codi yn uwch na safle el hath- rawon yn y pethau hyny, 'Digon i'r dysgybl fod fel ei athraw.' Pe buasai pwlpud yr Almaen wedi bod yn ffydd- lawn i ddysgeidiaeth Crist-pe buasai Strauss wedi defnyddio ei dalentau i egluro y gwirioneddau a ddysgir ym ngwyrthiau yr Arglwydd lesu, yn hy- trach na'u gwadu-pe buasal Nietzsche, Treitschke a Bernhardi yn ddiweddar- ach, wedi cysegru eu hathrylith i esbos- io rhagoroldeb moesoldeb yr Efengylau. ac wedi gosod y 'kultur' Germanaidd dan warogaeth i dieddfau teyrnas nef- oedd, fe fuasai y wedd ofnadwy ar 'ym- gyrch y byd' yn ystod y tair blynedd diweddaf yn anmhosibl. A meiddiwu d dweyd, pe buasai Germani wedi cyf- uno ei haddysg uchel a dysgeidiaeth yr Arglwydd lesu a'i Apostolion, y buasai yn sicr o fyned yn ben ar holl genedl- oedd y byd, oblegid mae yr Anfeidrol yn helpu pawb ag sydd yn htelpu e. hunain ar lwybr gwirionedd a chyf- iawnder. Fel rheol, y mae pob dirywiad ar grefydd yn dechreu yn yr offeiriadaeth. Paham y mae Prydain heddyw morag- wan i ddeddfu ar y fasnach feddwol? Am fod rhai o weinidogion yr Efengyl, ac yn eu plith archesgob, yn dweyd na wnant hwy ymatal oddiwrth eu gwin- oedd a'u gwirodydd, hyd yn nod dros amser y rhyfel. Mae lie i ofni fod ar lywodraeth Prydain fwy o ofn y dos- barth gweithiol nag o ofn eglwys. yr Arglwydd lesu, ac onid oes ar lywodr- aeth y Talaethau Unedig fwy o ofn undebau llafur, cyfalaf a'r darllawyr, yn arbenig, nag o ofn eglwys y Duw byw? Gan mai yr eglwys yw goleuni y byd a halen y ddaear, felly dylai wisgo y fath nerth, a defnyddio hwnw yn ffurfiad cyfreithiau pob gwlad, nes y rhoddo y byd yn ei ymgyrch, ei glust megys ar y diaear, i wrandaw beth a ddywed yr Arglwydd trwyddi. Ein barn bersonol yw fod yr Ar- glwydd wedi dyfod allan o fangre ei santeiddrwydi i ymweled ag anwiredd preswylwyr y ddaear. Yr oedd y byd, os goddefir yr ymadrodd, wedi colli ei