Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
RBYFELYH EffBOP
RBYFELYH EffBOP LLWYD'DIANT MAWR Y FYDDIN RWSIAIDD. GWASANAETH COFFA I KITCHENER YN ST. PAUL. o GORGHFYGIAD G ERMANI YN MOiR Y BALTIC. Y RWSIAID YN SYMUD YN IVTLAEN YN LLWYDD- IANUS. Suddiad vr Hampshire yn ddamwain. -Cwvmn Czernowitz.-Yr Aws- triaid vn encilio ar hvd v Uinell. Parhau y mae y newyddion da i gyraedd am ymgyrch lwyddianus y fyddin Rwsiaidd ar diriogaeth Aws- tria, sef Galicia a Bukowina. Y mae byd'din y Cadfridog Brussiloff wedi croesi yr afon Dniester ac wedi cymer- yd y cryfleoedd ar ei ffordd, a ddechreu yr wythnos yr oeddynt yn ymgyfeirio eilwaith am Lemberg; y fyddin Aws- triaidd yn encilio mor gyflym ag yr a, y Rwsiaid yn mflaen. Tramwyodd y Rwsiaid y ffordd hon o'r blaen gan gymeryd Lemberg, Tarnopol a Prze- mysl, ond o herwydd prinder nwydd- au rhyfel, gyrwyd hwy yn ol gan y fyddin Awstriaidd-Germanaidd, ac ym- ddangosai ar y pryd y byddai i'r gelyn gyraedd Petrograd, ond darfu y rhuthr fawr hono, a dyma, y Ilanw eto wedi troi, a'r Awstriaid yn encilio o flaen y Rwsiaid. Mae rhagolygon y Rwsiaid y tro hwn yn well o lawer, o herwydd fod, yr Awstriaid yn wanach nag oeddynt y pryd hwnw, a'r Ger- maniaid dan orfodaeth i amddiffyfn eu hunain yn y Gorllewin, heblaw fod gan y Rwsiaidgyflawnder o nwyddau. Os y deil y Rwsiaid i symud yn mlaen yn fuddugoliaethus byd,d y dylanwad yn gryf ar Rwmania a'r Balkanoedd, a gorfodir i Awstria dynu ei milwyr allan o Servia a Montenegro, ac felly agor y ffordd i'r fyddin unol yn Salon- ica ymosod ar Bwlgaria, ac yn ddi- we-ddarach ar Twrci. Os y gall y cyngfeiriaid yru Bwlgar- ia allan o Servia, a thori y cysylltiad a Twrci, bydd yr olaf wedi ei chau i fyny yn anobeithiol. Yn y wasg, ddydd Mercher, hysbysid fod y Ilynges unol wedi dechreu tanb-elenu glanau Bwlgaria yn ymyl Groeg, fel rhag- arwydd o'r symud yn erbyn y fyddin Fwlgaraidd. Cyraeddai hefyd y new- ydd yr un\. dydd fod, y llanw ar gyffin- iau yr Eidal wedi troi, yr EMaliaid wedi cymeryd safleoedd Awstriaidd cryfion yn nyffryn Lagarina. Ddydd Mawrth, y 13fed, cynJLliwyd gwasanaeth coffa i'r diweddar Kitch- ener yn Eglwys St. Paul, ac yr oedd vr1 amgylchiad mwyaf nodedig- wedi eiddo v Brenin Edward VII. Yr oedd yn yr Eglwys 3,000, heblaw y teulu brenin- ol, aelod,au y weinyddiaeth, y cyrff diplomataidd a swyddogion uchel yn y fydd-in a'r llynges. Yr oedd y Brenin t 4 George, y Frenines Mary, a'r Fam- Frenines yno; ac yr oedd yr Archesgob Caergaint a,c Esgob Llundain yn bre- senol. Yr oedd y gwasanaeth yn hyn- od effeithiol a difrifol. Yn y wasg ddydd Iau, parhau yr oedd y fyddin Rwsiaidd i symud yn mlaen a'u nod ar Czernowitz, ac yr oeddynt o fewn 2,0 milldir i brifddinas Bukowina. Mewn 11 dydd rhoddid fod ei hatafaelion yn 1780 o swyddogion, 120.000 o garcharorion, 130 o fag- nelau, a 260 o ynau peirianol. Y mae hyn wedi llenwi y Rwsiaid ag ysbryd newydd ac a rhagolygon dysglaer a chalonogol. Hysbysid fod cysylltiad Czernowitz wedi ei dori, ac fod y Rwsiaid yn brysio am Kovel. cysylltiad pwysig aral.1. Hysbvsid hefyd fod yr Awstriaid yn encilio o ddinas Lem- j berg. 1 Cvraeddodd y newydd o Ysweden am, anffawd i Germani yn Mor y Baltic nan y cyfarfu cyfran o'r llynges Rwsiaidd a nifer o longau masnachol Germani dan warchodaeth llong rvfel a nifer o wnfadau gan suddo y llong ryfel a chwalu y lleill Ffodd v llong- au masnachol tua'r glanau. Hysbysir vn mhellach o Copenhagen i'r deuddeg llong gael eu suddo. Mae yn o debyg- ol v bydd i Germani golli ei rheolaeth o For y Baltic yn ganlynol i'w cholled- ion yn ddiweddar yn Mor y Gogledd. Dal yn galonogol oedd y newyddion o Petrograd ddydd Gwener am ym- srvreh v fyddin Rwsiaichl yn Galicia a Bukowina. y gallu Awstriaidd fel pe wedi diffvgio. Cynvdda rhif y car- charorion Awstriaidd, a foreu dydd Gwener cvraeddent 150.000 hebldw y colledion dirfawr mewn arfau a defn- yddinu rhyfel. Hysbysid fod Czer- nowitz. prif ddinas Bukowina, wedi ei gadael gan y fyddin Awstriaidd o ofn y Rwsiaid agoshaol. I fyny hyd gyffin- iau Rwmania y mae yr Awstriaid wedi colli eu gafael ar bethau. Symuda y -Rwsiaid i Awstria fel dau flaen llym, gan beryglu yr Awstriaid siafant rhyngddynt. Mae yr ymgyrch hon wedi calonogi y Rwsiaid yn ddirfawr, a symudant yn rymus mewn llawn obaith adenill yr oil a gollasant y Ilyneddi. Amcangyfrifir colledion y fyddin Awstriaidd yn y parthau hyn yn 300,000, haner ei rhif gwreiddiol. Ery,s arwyddion fod yr Awstriaid yn encilio mewn brys, oblegid ni chymer- ant amser i ddinystrio y cysylltiadau. Ffyna cryn ddirgelwc'h yn nglyn a bwriadau y byddinoedd yn y Gorllew- in, a Salonica, ond sibrydir gan rai broffesant wybod. fod rhuthr ar gymer- yd lie o wahanol gyfeiriadau, ac o her- wydd hyn ni fydd Germani yn alluog i gynorthwyo ei byddinoedd mewn un- rhyw le. Y mae wedi dystewi eto ger Verdun, y Ffrancod yn ddiweddar wedi gallu chwalu yr ymosodiadau Germanaidd yn llwyddianus. Y mae yr awdurdodau milwrol yn 'Llundain wedi penderfynu mai dam- wain drwy ffrwydrydd barodd suddiad y llong Hampshire i'r gogledd o Ys- gotland pan y collwyd Arglwydd Kitchener ac eraill. Collodd nifer o'r teithwyr a'r dwylaw eu bywydau o herwydd yr oerni pan wedi cyraedd y creigiau ar y glanau. Yn y forfrwydr y dydd o'r blaen, cydnebydd y Germaniaid iddynt golli ]Jong ryfel neu ddwy yn y Baltic, a¡ rhoddasant. esgus gwael dros eu sudd- iad. Daeth y Rwsiaid arnynt mor ddisymwth. ebent hwy, fel na chaw- sant amser na chyfle i saethu yn ol. Mae adroddiad y Rwsiaid yn dra gwa- hanol. Yn ol yr adroddiad o Den- marck ac Ysweden collodd y German- iaid ddwy long ryfel a dwy long arfog arall, a suddwyd deg o longau mas- nachol a arweinid ganddynt. Yn y wasg, ddydd Sadwrn, yr oedd y byddinoedd Rwsiaidd yn parhau i ruthro yn mlaen heb fawr o wrth- wyne'biad, yr Awstriaid yn gwrth- sefyll ond yn wanaidd ar 'hyd y ffordd. Mewn 3 o ddyddiau, cymerwyd 170,000 yn garcharorion, yn nghyda chyflawn- der mawr o adnoddau yr Awstriaid. Hysbysid fod y Ffrancod ger Le Mort Homme wedi adenill dwy ran o dair o filldir oddiar y Germaniaid, tra yr ymosodiadau o du y Germaniaid wedi methu gyda cholledion mewn manau eraill. Gan fod yr Awstriaid yn tynu eu milwyr yn ol o gyffiniau yr Eidal i amddiffyn feu hunain yn erbyn y Rws- iaid, y mae yr Eidaliaid eto yn symud yn mlaen yn y de. Yn Mesopotamia hysbysa yr awdur- dodau yn Llundain symudiad yn mlaen y fyddin Brydeinig ar lan y Tigris o fewn ychydig i'r Tyrciaid yn Sannay- at, a hawliai y Tyrciaid drwy Caer- cystenyn i'r Prydeinwyr gyfarfod ag vchydig anffawd, ond nid oes goel i hyny. Ddyddiau Sul a Llun cyraeddodd y newydd am gwymp Czernowitz, prif- ddinas Bukowina, i ddwylaw y Rws- iaid. Ddydd Sadwrn, yn y prydnawn, cvraeddasant i gwr y ddinas, ac ar ol ymdrech boeth i groesi yr afon, y pont- yd,d wedi eu .dinystrio gan yr Awstri- aid, cymerwyd y ddinas yn ddioed. Erli-did yr Awstriaid y rhai a ffoisant tua'r de a'r Gorllewin. Ceisia Berlin wrthweithio dylanwad y newyddion hyn drwy hysbysu iddynt gael ychydig fuddugoliaeth ar y Rwsiaid i'r gogledd' i'r ffordd i Lutsk, ond ychydig o goel ddylid roi i haeriadau Germani y dyddiau hyn. Hysbysid o Amsterdam am farwolaeth y Cadfridog Helmuth von Moltke o fethiant y galon pan mewn gwasanaeth coffa i'r diweddar Faes-Lvwydd von der Goltz. Yr oed,d yn nai i'r diweddar enwog Gadfridog von Moltke, mor amlwg yn nglyn a rhyfel 1870. Annghytunai yn fawr a'r Kaiser yn ystod dechreuad y rhy- fel, yr hyn a'i troes ef allan o'i ffafr, ac ymneillduodd ar y pryd dan yr esgus o fod yn sal. Tebyg i'r Kaiser golli ei ymddiriedaeth ynddo. Ddydd Mawrth hysbysid fod y Rws- iaid yn ysgubo yr Awstriaid a'r Ger- maniaid yn ol ar linell 250 milldir o led. Peryglir un o fyddinoedd Aws- tria ger Kovel. Yn ol fel yr ym- ddengys pethau yn awr, dysgwylir am ymollyngiad yr Awstriaid ar fyr, oddi- gerth iddynt gael cymorth sylweddol o rywle. Yn Bukowina, y mae y fyddin Awstriaidd ar ffo i gyfeiriad y mynydd oedd Carpathaidd, ac y mae y fyddin Awstriaidd o dan y Cadfridog Pflanzer mewn congl. Y mae cwymp dinas Czernowitz yn fantais fawr i Rwsia. Mae v Rwsiaid yn dal i gy- meryd miloedd o'r Awstriaid yri gar- charorion.
Advertising
Ar ol dau fis o deithio yr wyf wedi cyraedd adref i Seattle. Diolchaf yn gynes iawn i bawb am eu cared- igrwydd dihafal yn mhob man. Pe ceisiwn byth dalu'r pwyth, byddwn cyn pen hir yn y tIoty. Cymellaf fy nghyfeillion i ddal ar bethau goreu ein ccnedl, ac i osod eu harian mewn SeattlB Mortgages i enill 6 a 7 y Cant o Log clir. Joseph E. Thomas LLYWYDD Y Guardian Trust & Savings Bank, 801 Firit Ave.. Seattle. Wash.
ALLAN O'R PAPYRAU CYMREIG.
ALLAN O'R PAPYRAU CYMREIG. Sut na buasai gweinidogion yr Efengyl yn cael lie ar feinciau y Tribunlysoedd ? Gallesid meddwl y gallasent hwy wneyd gwell tegwch mewn cwestiynau o gydwybod. Yn Flanders y mae'r Caplan Cyn- ddelw Williams yn gweini. Dywed ei fod yn trigo mewn lleiandy eang ac yn byrddio gyda dau gaplan Pabaidd, un o Eglwys Loegr ac un Ymneillduwr. Mae'r Ellmyn gan hoffed o gig moch a.g yw'r Gwyddelod o datws. Arfer- id Iladd 10,000 o foch tewion yn wyth- nosol i borthi pobl Berlin cyn y rhyfel. Rhaid iddynt foddloni yn yr wythnos bresenol ar 500. Pan gyhuddwyd dyn ieuanc sengl yn Manceinion o beidio rhoddi ei hunan i fyny dan Ddeddf Gwasanaeth Filwrol, dywedodd fel esgusawd ei fod yn y carchar pan alwyd ei "group" i fyny. Adroddwyd pethau rhyfedd o flaen y ddirprwyaeth sydd yn chwilio i mewn thanes y gwrthryfel Gwyddelig di-1 weddaf. Dywedid fod offeiriaid ieu- ainc Pabyddol yn cymeryd rhan gyda'r gwrthwynebwyr. Ni ddarfu i'r Llyw- odraeth eu herlyn. Dwy ddynes yn scwrsio am y rhyfel. Medde un—"Mrs. Jones. T know the war'll be over in a fortnight." "How do you know?" medrle Mrs. Jones. "Because my Bill's joined, and he never kep' a job more'n a fortnit." Yn ol adroddiad y swyddog meddyg- ol am gyflwr gwersyll care,harorion rhyfel Alexandra Palace, ymddengys na fu ond un dyn farw yno yn ystod y fiwyddyn, er fod yno dair mil o ddyn- ion. Mor wahanol ydyw'r driniaeth roddir i'r trueiniaid hyn yn y wlad hon rhagor na Germani. Meddai'r athrawes: "Can you tell me in what country the English Army is fighting?" A meddai John Gwallt- cyrls: "France." "Yes. Now tell me the name of an important place in France?" A meddai John fel "shot": "Somewhere." Da ngwas i. Hyflbyswyd yiji y Senedd nad oedd y Llungwyn i fod yn Bank Holiday, am fod angen am i'r holl weithfeydd sydd yn gweithio ar Gyfarpar Rhyfel beidio atal gweithio yn ystod Mehefin a Gor- phenaf, o herwydd y galw mawr sydd am nwyddau i gario y Rhyfel yn mlaen. Hysbysir y cedwir dydd Mawrth ar ol y Llun cyntaf o Awst yn ddydd Gwyl yn lie y Llungwyn. Dywedodd Mr. M'Kenna fod 2,33ip. 13s. wedi cael eu gwario am argraffu hysbysleni yn ymwneyd a chynildeb, ac fod costau eu rhoddi i fyny yn 105p., yr oil yn gwneyd 33&p. 18s. Ni chostiodd y lie i'w dodi yr un ddimai, gan fod y dineswyr gwladgarol yn rhoddi y lie yn rhad. Yn Caerdydd, dedfrydwyd Private Bethnel William Morgan, myfyriwr yn Ngholeg Normalaidd Bangor cyn y rhyfel, i garchar am ddeunaw mis, gyda llafur caled, am wrthod ufudd- hau i'r gorchymynion milwrol. Yr oedd Mr. Morgan yn un o nifer o'r, gwrthwynebwyr cydwybodol. Cy- hoeddwyd y ddedfryd yn mhresenoldeb nifer lluosog o filwyr. Cyhoeddwyd adroddiad cyntaf Syr Douglas Haig y dydd o'r blaen. Cymer i fewn bum' mis o amser. Dywed na anfonwyd dim cynorthwy i Verdun. Yr unig gynorthwy ofynwyd ydoedd estyn y ljinell Brydeinig oedd yn cyn- wys Arras i fewn. Yr oedd moddion fferyllol wedi eu darganfod oedd yn gwneyd ymosodiadau y gelyn a nwy yn aneffeithiol. Rhoddai glod uchel i awyrwyr y wlad hon. Yn Llys yr Heddgeidwaid, Stratford, Llundain, dirwywyd Frederick Wm. Halfpenny i'r swm o haner cant o bunau, am anfon llythyrau allan i gyfarwyddo gwrthwynebwyr cydwy- bodol pa fodd i weithredu pan yn ngharchar. Yn mhlith pethau eraill yn y llythyrau, anogid hwy i wrthod arwyddo unrhyw orchymyn, gwrthod, tal y fyddin, gwrthod cymeryd y dril, a gwrthod ymwisgo mewn dillad mil- wrol. Dywedodd y Cadeirydd, os oedd y cyhuddedig yn wrthwynebydd cyd- wybodol, yr oedd yn agored iddo i ymddwyn fel y cyfryw, ond nid oedd yn agored iddo i gyfarwyddo eraill, oedd yn y fyddin, i wrthod ufuddhau i orchymynion, a rhaid oedd ei roi lawr gyda Haw gref. Yn Llys Ynadol Aberdar, cyhuddwyd James Robert White, mab i'r diweddar Gadlywydd Syr George White, o dan Ddeddf Amddiffyniad y Llywodraeth, o wneut'hur mynegiadau dueddant i fllwrio yn erbyri i rai ymuno a'r Fyddin. Dywedodd Ivor Parry, yr1 hwn erlynai, fod y cyhuddedig wedi cael gyrfa ddysglaer yn y fyddin. Enillodd y D. S. O. yn ystod rhyfel De Affrig. Er hyny, yr oedd wedi mab- wysiadu syniadau Sosialaidd eithafol, ac yr oedd wedi gxyasanaethu gyda'fl Gwirfoddolwyr Gwyddelig ac yn y Fyddin Ddinesig Wyddelig. Cweryl- odd gyda Syr Roger Casement gyda golwg ar y modd goreu i gael Llyw- odraeth Gartrefol i'r Iwerddon. Cwerylodd hefyd gyda James Larkin, arweinydd y blaid Lafur yn Nublin. Yn ddiweddarach, daeth i Dde Cymru. Ymwelodd a Chaerdyddi, a lleoedd er- aill. Daeth yno gyda'r am-can o yru y glowyr ar streic. Dywedodd iddo dyfod i egluro mudiad y Sinn Fein yn yr Iwerddon. Yr oedd, hefyd, eisieu i lowyr De Cymru ddyfod allan ar streic, er rhwystro i James Connolly, un o arweinwyr y gwrthryfel Gwydd- elig, gael ei saethu. Caed ef yn euog, ac anfonwyd ef i garchar am dri mis.
LLANFACHRETH, G. C.
LLANFACHRETH, G. C. Marw o'i Glwyfau.Gofidus iawn genym yw cofnodi marwolaeth y Private Arthur G. Price, mab Mr. Griffith a Mrs. Laura Price, Corsygarn- edd, Llanfachreth, yr hyn a gymerodd le mewn canlyniad i glwyfau a dder- byniodd pan yn y ffosydd. Er nad yd1- oedd wedi cyraedd ei 19eg/mlwydd pan y bu farw, yr oedd wedi ymuno a'r Royal WeJsh Fusiliers bron ar dde- chreu y rhyfel, ac wedi bod yn ym- arfer am ysbaid gyda hwy. Cafodd gynyg dyrchafiad, ond gwrthododd, gan fod arno awydd cryf am ymuno a'r Welsh Guards, a 'bu am amser gyda'r rhain yn gwylio y Twr yn Llundain, cyn gael gorchymyn i fyn-ed allan i faes y gad. Clwyfwvd ef ar y 4vdd o Ebrill, a bu farw o'i glwyfau Ebrill 6-ed. Yr oedd yn llanc ieuanc a hoffid ac a berchid gan bawb o'i gydnabod, tlws ei gymeriad, ac yn aelod ffiydd- lawn a dilyohwin yn eglwys y Ffrwd, a chyn iddo ymuno yn ysgrifenydd yr Ysgol Sabbothol, ac yn ysgrifenydd Cymdeithas Ddiwylliadol Llanfach- reth. Chwith yw genym feddwl fod ei gorff tal a lluniaidd yn gorwedd mewn gwlad estronol. Cydymdeimlir yn fawr a'i 'rieni trallodus yn eu profed- igaeth lem. Nerth oddi uchodi a ga,ff- ont i'w dal. "Mil gwell yw marw'n fachgen dewr, Na byw yn fachgen ljwfr.E. J. v Bu Griffith Price (tad yr ymadaw- edig) yn cartrefu yn Utica oddeutu pum mlynedd ar hugain yn ol, ac yn cadw stor ar South St.
\ Buffalo, N. Y.I
Buffalo, N. Y. Y mae Mrs. E. T. Owen, Kenmore, N. Y., wedi derbyn newyddion o Gym- ru yn ei hysbysu am apwyntiad ei, brawd, y Cyngorydd John Rowlands, o Griccieth, yn bostfeistr Hednesford, Lloegr. Yr oedd wedi gwasanaethu fel ipostfeistr yn Nghriccieth am dymor o un mlynedd ar ddeg, a phob amser wedi cymeryd dyddordeb neillduol mewn materion trefol. Ar ei ymadaw- j iad o Criccieth, cyflwynodd y trigo?on dysteb werthfawr iddo yn anrheg am ei wasanaeth i'r dref. Hefyd derbyniodd v newydd am far- wolaetli ei modryb Mrs. Morgan (gvnt o'r IIon Hotel, Talybont), yr hyn a Tymero^d le yn nghartref ei mab, °e'-ia:t. J. T. Morgan, R. ^A. M. C., prif n.thraw y,goI Deiniolen, Ebenezer, Caernarfon, hybi yn 82 mlwydd oed. Awd a'r gweddiillion gyda'r gerbydres i orsaf Llanfihangel. a daearwyd hwy vn mynwent Talvibont. Yr oedd Mrs. Morgan yn gyfnither i'r Parchn. Dr. Owen Evans, Llundain; D. Evans, Heol Awst, Caerfyrddin; a William ^Vans, Amlwch.
Advertising
CANTATA. The 'COMMANDMENTS" by PETER EDWARDS, Mus. Bac. English & Welsh Words. Send for sample copy-50 cents. Special terms to Choirs. Selling agent in U. S. A., R. Morris Williams, Box 2,5,6, Utica, N. Y.
INEW YORK A VERMONT.
I NEW YORK A VERMONT. UTICA, N. Y., Mehefin 21, 1916.— Llanwyd pwlpud eglwys Bethesda gan y Parch. J. Velindre Jones, Remsen, N. Y. Y Sul nesaf, pregethir gan y Parch. J. M. Pritchard, Wilkes-Barre, Pa.—Yn Moriah, y boreu pregethwyd gan y Parch. D. Morgan Richards; yr hwyr gan iSamuel J. Phillips, o Scran- ton, Pa. —Casglwyd y swm o$bi.zu yn eg- lwys Mori-ah y Sul diweddaf at gyn- orthwyo y dyoddefwyr oddiwrth y rhy- fel, a throwyd y swm drosodd i'r Cen- tral New York Relief Fund. -Y mae Mine Inspector S. J. Phillips, o Scranton, Pa., yn treulio ychydig ddyddiau gyda R. Morris Wil- liams, 139 Grove Place. —Y mae Miss Theresa Williams, yr hon oedd yn, night superintendent mewn ysbyty yn Corning, N. Y., wedi dychwelyd i'r ddinas hon. —Wm. Richards, 1104 Linwood Place, sydd wedi mynd ar ymweliad a pherthynasau a chyfeillion yn Chi- cago, Racine, a Milwaukee, Wis. —Bydd Ladies Aid eglwys Moriah yn cynal picnic yn Summit Park ddydd Gwener, Gorph. 14eg, ac add- ewir amser dyddorol i'r rhai fydd yn bresenol. -Y Cymro dyddorol Lewis Davies, Mary Street, sydd wedi mynd i Mount Clemens, Mich., am driniaeth feddygol. Deallwn ei fod wedi gwella yn fawr er pan y mae yno. —Cafodd Ladies Aid eglwys Beth- esda gynulleidfa fawr i fwynhau y ciniaw oeddynt wedi ei ddarparu y Sadwrn diweddaf. Gwnaed elw syl- weddol. -Hysbysir ni fod y Parch. W. Car- adog Jones, D. D., Steuben St., yn gwella yn dda o'i afiechyd. Cafodd ymosodiad tost o'r pleurisy, a bu yn bur isel am ychydig ddyddiau. Dym- unwn iddo adferiad buan. —Gwelwn enw Evan Ellis Jones, mab Mr. a Mrs. Evan E. Jones, Mor- timer St., Utica, fel un o'r gwyr ieu- ainc oedd yn cymeryd rhan y<i y McKinney Prize Debate yn nglyn a Commencement Exercises coleg Ham- ilton, Clinton, N. Y. —Yn cymeryd rhan yn y recital a gynaliwyd nos Sadwrn diweddaf yn yr Utica Conservatory of Music, gwelwn enwau y Cymraesaa ieuainc canlynol: Misses Margaret Griffith, Wall ;St. Nesta Edwards, Park Ave.; Evelyn Davies a Grace Williams. —Mrs. Ann Roberts, o Granville, N. Y., sydd ar ymweliad ag Utica ac Ilion. Ddechreu yr wythnos hon yr oedd yn aros gyda'i pherthynasau, Mr. a Mrs. W. S. Roberts, 1300 Steuben St. Y mae meibion IVfrs. Roberts, set y cantorion gwych—John a Lewis Ro- berts, o Granville, yn adnabyddus i lu o Gymry Utica. —Yn y "Montgomeryshire Express and Radnor Times," Cymru, yn ddi- weddar yr oedd gair caredig am waith Miss Edith Davies, merch Mr. a Mrs. John Davies, Utica, yn casglu $30 at gronfa y dyoddefwyr yn Nghymru. Cynorthwyid yn y gwaith gan Miss Ruth Rowlands. Yr oedd yr arian wedi en hanfon i Mrs. D. Lloyd George drwy law pwyllgor yn Nghymru. —Ddydd Gwener, yr oedd yr Haydn Auxiliary Band o dan arweiniad Proff. E. L. Griffith yn cymeryd rhan yn yr Hamilton Graduation Exercises. Yr hwyr, yr oeddynt yn cynal cyngerdd yn yr awyr agored yn mharc Clinton. Y maent wedi eu cyflogi i roddi cyfres o gyngerddau yn ystod tymor yr haf, os y cawn haf o gwbl eleni. -Yn y wledd a roddwyd gan y Central New York Relief Committee yn Hotel Utica, i'r cwmni oedd, yn per- fformio "Jappyland" er budd y dyodd- efwyr o herwydd y rhyfel yn Ewrop, gwelwn i rai Cymraesau gael eu gwobrwyo a'u hanrhydeddu. Anrheg- wyd Misses Doris ac Ena Lloyd a "bracelet watches" am eu gwaith yn casglu y nifer fwyaf o bersonau i'r cwmni; Bessie Jones, Laura Jones ac Erma Williams am werthu tocynau. -Ar ei ffordd yn ol o Oswego, lie y bu yn bresenol yn nghynadledd Urdd y Coedwigwyr ddyddiau Mawrth a Mer- cher yr wythnos ddiweddaf, galwodd R. G. Morris, o Granville, yn y Swyddfa. Arosai tra yn y dref gyda'i frawd, Morris G. Morris a'r teulu ar Steuben Street. Deallwn i Mr. Morris gael ei godi i lanw y swydd o gaplan ar gyfer y gynadledd nesaf, yr hon a gynelir yn Malone yn y flwyddyn 1919. Hon oedd y burned gynadledd iddo fod ynddi ac anrhydeddir ef yn flynyddol ar gyfrif ei 'weithgarwch yn yr Urdd a'i ffyddlondeb i aelodau y gymdeitty- as. Y mae efe yn aelod o honi er's dros bymtheng mlynedd yn Granville. Y cynrychiolydd oddi yno gydag ef yd- oedd Humphrey H. Jones a Mrs. Jennie F. Roberts dros gymdeithas y chwior- ydd. Arosai Mrs. Roberts yn y dref hyd y Sabboth gyda'i brawd, R. E. Williams, Conkling Avenue. Genedigaeth.—Meh. 13, i Richard R. a Ellen Jones Williams, 210 Square St., fab. Tli urrn n(I v flvmrv. Bydded hysbys i holl Gymry y cylch- oedd mai dydd Sadwrn, Gorph. 29ain sydd wedi ei ddewis fel Diwrnod y Cymrv. Y mae ymdrech neillduol yn cael ei wneyd i sicrhau siaradwyr o nod, a cheir hvsbvsrwydd yn nghylch hyny eto wedi i'r pwyllgor gael amser i weithredu. j I Priodas Ddvddorol. Priodas ddyddorol a gymerodd le am wyth o'r glech nos Iau, Mehefin 15, yn nsrliartref rhieni- y briodferch, Mr. a Mrs. Charles J. Steinhorst, 1316 Tay- lor Ave., oedd uniad Miss Louise Stein- ]",or.<t ac Albert V. Roberts, 140,8 Taylor Ave., y Parch. F. R. Hoffman, eglwys Lutheran, South Street, yn gweinyddu. Y forwyn briodas oedd Miss Anna Roberts, chwaer y priodfab, ac Albert Steinhorst, brawd y briod- ferch, yn was. Gwnant eu cartref yn New Haven, Conn., y priodfab yn ngwasanaeth y New York, New Haven & Hartford R. R. Bu yn hir ar y tren rhwng Utica a Montreal, Canada. Yn mhlith y gwahoddedigion o bell yr oedd Mrs. M. D. Nelson, New York (modryb) a Mrs. Charles Schilz a'i mab o Seattle, Wash. Mab yw y priod- fab i Mrs. A. V. Roberts a'r diweddar Barch. H. P. Roberts, Wilkes--Barre, cyn hyny o Old Man's Creek, la., a Shawnee, 0., lie y ganwyd Albert; a diau fod yno rhai eto yn ei gofio yn faban. Wedi marwolaeth Mr. Roberts, symudodd Mrs. Roberts a'r plant i Utica, Ile y mae wedi magu teulu o blant rhagorol gyda diwydrwydd a gofal. Albert yw y cyntaf i ymadael a'r aelwyd. Un o blant Nelson, N. Y., yw Mrs. Roberts, lie y mae yn adna- byddus, hi a'r teulu. Llwyddiant i Albert a'i briod. Picnic vr Ysgrolion Sul. Cyfarfu cynrychiolwyr y gvvahanol Ysgolion Sul yn Peniel, er trefnu go- gyfer a'r picnic blynyddol. Dewiswyd y rhai canlynol yn swyddogion: Llyw- ydd, Owen Hughes; trysorydd, Hum- phrey Griffiths; ysgrifenydd, John E. Williams. H. Trefor Hughes yw llyw- ydd pwyllgor y chwareuon. Methwyd a chael unman gwell i fyned a'r plant na Sylvan Beach, a drwg genym ddweyd nas gallwn heddyw roddi'r dyddiad, o herwydd fod y Rheilffordd yn bwuadu bod yn brysur iawn yn symud y milwyr. Cawn roddi'r dydd- iad eto. r Dathlu Dvdd Eu Priodas. Cafodd Mr. a Mrs. R. G. Lloyd, li2 9 Oneida St., eu synu gan oddeutu cant o ewyllyswyr da nos Lun diweddaf, y rbai a ymwelsant a'u cartref i ddathlu cyraeddiad pen 21 mlynedd o'u bywyd priodasol. Wedi estyn y llongyfarch- iadau personol, a chasglu y teulu yn nghyd, rhoddwyd John D. Jones mewn awdurdod fel llywydd y cyfarfod oedd wedi ei drefnu gan y cwmni cyn cyr- aedd yno. Yr oedd Mr. Jones yn bre- senol yn y briodas 21 mlynedd yn ol. Dyma y rhaglen yr aed drwyddi: Deu- awd gan Miss Elin Jones a Tom G. Jones; detholiad ar y piano, Mrs. Flor- ence Pierce Jones; unawdau gan Mrs. W. H. Owen, Tom Jones a Miss Elin Jones; cyflwyno anrheg i Mr. a Mrs. Lloyd, sef par o ganwyllbrenau arian, Mrs. W. S. Williams, Rutger St. (hith- au yn bre-senol yn y briodas) yn gwneyd y cyflwyniad; anerchiadau gan J. Francis Owen, Rowland Williams, John H. Rees, John L. Evans, Parch. Joseph Evans, B. A., a Wm. Parry, o New York; darn o farddoniaeth o'i gwaith ei hun gan Miss Elin Jones; diolchiadau gan Mr. a Mrs. R. G. Lloyd. Yna rhanwyd y danteithion blasus a barotowyd gan y gwragedd, a llais unfryd yr oil oedd yn bresenol ydn oedd iddynt fwynhau amser campus. Nodion o New York Mills. I ,Mehefin 19, 1916.—Cawsom Gwrdd Chwarter hynod o dda nos Sadwrn a'r Sul diweddaf. Yr oedd y pregethu yn hynod o afaelgar, a'r gweinidogion yn eu hwyliau goreu, ac yn cael gwran- dawiad astud. Yr oedd yma ddysgwyl- iad mawr am y Parch. Joseph Evans, B. A., New York, a chawsom dair pre- geth dda ganddo, a'r un modd y Par<!h. Abram Jones, Plainfield. Go- beithio y caiff yr had da sydd wedi ei hau ddyfnder daear yn ein calonau. Yr oe(lid yn amlwg iawn fod yr enein- iad dwyfol ar y gweinidogion a'r dyrfa Nos Sul, yr oedd y capel wedi ei or- Jenwi, o'r drws i'r set fawr, a'r canu yn fendigedig. Mae yn debyg y bydd ysgrifenydd y cwrdd chwarter yn rhoddi mwy o hanes y gynadledd eto. Mae yn wir ddrwg gan bawb fod Dr. Caradog Jones mor wael. Yr oedd y ewrdd chwarter i'w weled yn wag iawn hebddo, a'n dymuniad ni yn New York Mills yma yw iddo gael ad- feriad buan i'w gynefin iechyd. Da iawn oedd genyf gael cyfarfod a William Parry, o ddinas New York, yr hwn oedd yn eynryehioli eglwys 11th St. Cefais amser dymunol gydag ef. am hyny bu yma. Mae Mrs. Owen Thomas, Wetmore Ave., wei dod yn ol o'i hymweliad a Mr. a Mrs. John W. Roberts, Jersey City, a da oedd genyf ei chlywed yn dweyd fod Mr. a Mrs. Roberts yn teim- lo yn bur dda, a bod y bachgen bach yn dod yn mlaen yn rhagorol.—R. W. Thomas. Helvntion Holland Patent. N. Y. Holland Patent, Meh. 19.-Bryd- nawn ddydd Mawrth yr wythnos ddi- weddaf, clywsom swn fel tyrfa yn dy- fod at ein. drws, a dyna lie oedd Ilon'd modur gerbyd mawr o bobl yn cael eu blaenori gan Dr. W. Caradog Jones a Mrs. Jones, Mr. a Mrs. Richard G. Lloyd a'i merch, Elizabeth, o Utica, a Mr. Thomas Morris, diacon eglwys Methodistiaid, a Mr. Wm. Parry ('R Hen Bar), diacon eglwys yr Anni- bynwyr o New York, dau frawd an- wyl, ffyddlon, a gweithgar yn eu heg- Iwysi. Yr oeddem wedi darllen eu henwau lawer gwaith. Nis gallwn ddesgrifio ein diolchgarwch i'r cwm- peini anwyl hwn am ein cofio a galw i'n gweled. Bu yma ibarablu geiriau gyda'r cyflymder mwyaf am ychydig amser, a doniau Npob un wedi cael ei hadfywio. Nis gall y cwmpeini hapus hwn byth wybod faint o les a wnaeth- ant i ddau bererin ar eu taith, a theb- yg yw na chyfarfyddwn eto yr ochr hon; ond ni a gyfarfyddwn fry yn nhy ein Tad, He nad oes neb yn wan, na neb yn gloff, ond pawb-ie, anwyl gyfeillion—pawb yn rhodio'n rhydd ar hyd heolydd y Jerusalem fry. Henffycih i'r dydd cawn eto gwrdd Yn Salem fry oddeutu'r bwrdd, &c. Arosed bendith gyda y teuluoedd an- wyl hyn, a gwenau y nefoedd dros byth. Teimlwn yn ddwys i glywed fod Dr. Caradog Jones wedi cael ei daro yn wael iawn ar ol myned adref. Hyderwn glywed ei fod yn well. Bu Mrs. Griffith Jones, New York Mills, yn talu ymweliad a'i brawd, Thomas T. Williams, yr hwn sydd yn parhau yn bur wael, ac yn galw i wel- ed ei chyfeillion. Y mae yn dda iawn genym ei gweled yn gallu dal ei gofid- iau trwy golli ei mab, a gweled ei hanwyl frawd mor wael. Cydymdeim- Iwn yn fawr a Mrs. Charles Hooper. Rome, yn marwolaeth ei anwyl chwaer, Mrs. Edwards. Rome, yr hon fu yn wael mor hir. Yr oeddent yn wyresau i'r diweddar David Rees, Westernville. Bu ein (hen ffrynd, Mrs. John D. Jones, Waterville. yn treulio rhai dyddiau yma ar ymweliad a'i hwiorvdd. Mrs. Henry Evans a Mrs. Evan R. Evans, a'u teuluoedd. B-vdd yn myned. i ymweled a'i brawd, Wm. D. Edwards, Marcy. a'r teulu cyn dy- chwelyd adref. Cyfeilles anwyl i ni yw Mrs. Jones. Bu Mrs. Joshua Humphreys, o Mohawk, a'i merch fechan, Elizabeth, yn treulio y Sabboth gyda'i rhieni, Mr. a Mrs. Henry Evans. Y mae Mrs. Evan Jones. New York Mills, ar ym- weliad a'i chwaer, Mrs. Jennie Moulton am ysbaid, a'i piherthvnasau eraill. Da iawn oedd genym glywed ei bod wedi cael cyfarfodydd da iawn yn New I York Mills y Sabboth, er ei bod wedi troi yn ystormus iawn at y prydnawn; ond daeth ein ffyddlon weinidog adref at gyfarfod yr hwyr.—R. (I'w barhau ar tudalen 8).
MARW DIACON 0 ROME. N. Y.i
MARW DIACON 0 ROME. N. Y. i Chwith fydd gan Gymry a chrefydd- wyr yr ardaloedd cylchynol hyn ddeall am farwolaeth y blaenor da Hugh > Davies, yr hyn a gymerodd le yn ei t gartref, 116 Dean St., Rome, N. Y., yn s gynar foreu Mercher, Mehefin mewn oedran teg. Ni ddyoddefodd 1 gystudd maith, gan na chyfyngwyd j mohono i'w wely ond ysbaid dwy wythnos, ond pan y dechreuodd y' babell ddadfeilio, daeth y diwedd yn j gyflym. Ganwyd Hugh Davies yn Nin- j bych, G. C., Mehefin 18, 1843, ac ym- *I fudodd i'r wlad hon yn y fiwyddyn* 1869, gan sefydlu yn gyntaf yn Whitesboro, ac yn ddylynol yn y lle- oedd canlynol: Westmoreland, Sketer- boro a Lee Center, ac oddeutu 16 mlynedd yn ol daeth i Rome. Ym- aelododd yno gydag eglwys y M. C., ac anrhydeddodd yr eglwys ef drwy ei I I Hue-h Davies. I ddewis i'r swydd o ddiacon, yr hon swydd a lanwodd gydag urddas a harddweh. Yr oedd crefydd Iesu Grist yn dysgleirio yn ei fywyd glan. Carodd achos y Gwaredwr a'i holl galon, a rhoddoddi ei oreu r-w wasan- aethu, gan fod yn arweinydd a chyng- orydd doeth a dyogel. Cydymdeimlir yn fawr a'r teulu yn eu galar,ei weddw Mrs. Mary Davies, yr hon a fu yn gyd- mar ffyddlon iddo er yn ieuanc; y plant, Mrs. David R. Griffith, Rome; Mrs. Willard Jones, Chambersburg, Pa.; Miss Mary Davies, Utica; Miss Susan Davies, Rome; Miss Plesis Dav- ies a Hugh J. Davies, Syracuse; a John H. Davies, Webster, S. D.; hefyd frawd, David Davies, a dwy chwaer, sef Mrs. Elizabeth Jones a Mrs. David Jones, yn Nghymru. Cymerodd yr angladd le brydnawn dydd Gwener canlynol o'r cartref, ac yn ddiweddarach yn y capel. pryd y gwasanaethwyd yn doddedig iawn gan Dr. R. T. Roberts (ei weinidog); Parchn. D. M. Richards, Moriah, Utica. ac Evan Evans, Lee Center. Rhoddodd y gweinidogion dystiol- aeth uchel i'w fywyd a'i fuchedd d,i- lychwin, ei set dros deyrnas y Gwar- edwr, a'i ffyddlondeb i'w swydd o flaenor ac aelod yn yr eglwys yn Rome. Yn ystod y gwasanaeth,'can- wyd tri o hoff emynau yr ymadawedig gan y gynulleidfa o dan arweiniad Wm. G. Jones, gyda Miss M. Gwladys Roberts yn cyfeilio. Yr arch-gludwyr oeddynt cvd-flaenoriaid yr ymadawedig yn yr eglwys yn Rome. sef Richard T. William- R. O. Williams, Daniel I. Jones, John S. Williams, Thomas Hughes a John J. Roberts. Daearwyd v gweddillion yn meddrod y teulu yn Evergreen Cemetery, Lee Center, N. Y.
Advertising
$100, GWOBR $100. Bydd yn dda gan ddarllenwyr y "Dryeir srael gwybod fod gwyddon wedi darganfod ffordd t lachau o lelat un anhwylder per yplua, sef Catarrh, yn el wahajiol re.ddru Hall's Catarrh Cure yw yr unig toddton hollol effeithiol I wneyd hyny. Affeebyd syfansoddiadol ydyw. a rhaid cymwyar trlnlaeth gyfansoddladol ato. Cymerlr Hall's Catarrh Cure yn fewnol, effetrnia vr unlongyrchol ar y gwaed ac arw3rnobode llysnafeddol y cortr, nea eaffo y dyood. nerth I gynorthwyo natur i welthlo y (irw* allan. Mae gan y perchenogion y fath yn ei rinweddau meddyginlaethol fel y cyn- ygiant Gan' Dolar am unrhyw achos » fethodd lachau. Anfonwch am restr e Systtoiaethau. Cyfelrter- 1". J.CHBNBY CO.. Tolodo. n YN EISIEU AGENT NEILLDUOL i gynrychioli y "Drych" a'r "Cambrian" drwy y wlad. Un all drafaelio yn gyson drwy y fiwyddyn. Am ychwaneg o fanylion ymofyner a T. J. GRIFFITHS, "Drych" Office, Utica, N. Y. EGLWYS BETHESDA (A.) UTICA. N. Y. Pob gohebiaeth yn nglyn a llenwi pwlpud yr eglwys uchod yn ystod y misoedd nesaf i'w hanfon i JOHN M. MORGAN, 1522 West St., Utica, N. Y. B. S. Fox Company CLEAN COAL The Best That's Mined. Apelia am Gefnogaeth y Cymry 224 South George Street, ROME. N. Y. Telephone 89. Trenton Falls .$0.65 Round Trip. Daily to Sep- tember 30th, inclusive. Return limit day following date of sale. Fulton Chain $1.50 Round Trip. Sundays only until Sept. 10 inclusive. Re- turning on same day. (Excur- sion trains only.) Sylvan Beach 10 day Round Trip $1.35 1 st 1.15 10 day excursion tickets limited to 10 days including date of sale. On day tickets good going and returning same day. Albany $2.10 Round Trip. Every Sunday and holiday to September 4th, inclusive. Return limit same day. Sacandaga $1.25 Round Trip. Every Sunday and Holiday to September 4th, Returning same day. Clayton •$3.75 Thousand Island Park 4.25 Alexandria Bay 4.25 Round Trip. Fridays (afternoon trains only) and Saturdays to September 23rd inclusive. Tic- kets good returning until fol- « lowing Monday except tickets 3 sold September 1st and 2nd good returning until Sept. 5th. Alexandria Bay $2.50 (Including Tour of Islands) Round Trip. Every Satur- day, Sunday and Holiday from June 24th to September 9th. Also Wednesdays, from June 28th to August 30th, returning same day. Con!="u local ticket aeents for time of trains and other information. i 8 i to BWYS I GLEIFION I I Gwella Dynion a Merched Drwy'r I I Moddion Diweddaraf. I I Defnyddia Dr. W. A. FANNING y moddion diweddaraf a | i mwyaf gwyddonol mewn gweini ar ddynion a merched claf. Yn f t ei Swyddfa ceir y cy6yriau a'r offerynau diweddaraf i drin I I afiechydion, a rhydd ei sylwpersonol i bob achos, yn nghyd a'r t | fantais o'i brofiad hel-aeth. Cyfryngau Trydanol a Cbyffyriau i Priodol. Defnyddia yr un dull a moddion ag a gejr yn mhrif J J feddygdai Ewrop ac America. t Os yn wael, galwch ac ymgyngorwch a Dr. Fanning. Cewch I i ef vn wr profiadol, ac yn deilwng o'ch ymddiriedaeth. I DR. W. A. FANNING UGAIN MLYNEDD 0 BROFIAD FEL MEDDYG. f i SPECIALIST MEWN ANHWYLDERAU AROSOL AR DDYNION i f A MERCHED. I. SWYDDFA YN UT A: j MAHER BUILDING, Congl gayette a Seneca Sts. + j Yr Ail Lawr, UTICA, N. Y. t t YMGYNGORIAD A èHYNGOR YN RHAD. I • Swyddfa yn Agored yn unig ar I Ddyddiau Mercher, Iau, Gwener a Sadwrn I o 9 y boreu hyd 8 yr hwyr. ¡ I J I t