Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Advertising
m Tr-ecb, A WELSH WEEKLY ESTABLISHED 1851. Issued Every Thursday Morninz. THOMAS J. GRIFFITHS. Proprietor. UTICA. N. Y. IMPORTANT TO ADVERTISERS.—The attention of business men in general is called to Y DRYCH as a superior adver- tising medium, being read by thousands who cannot be reached by any other pub- Ucation. It has a large circulation, with aubscribers in every State and Territory of the Union, in Great Britain and the British Dependencies. It is the recognized National Organ of the Welsh People.
HELYNTION YR YNYS WERDD.
HELYNTION YR YNYS WERDD. Gan y Parch. Dan Penry Davies, Carroll, Neb. I. Hanes cythryblus annghyffredin yw hanes yr Iwerddon oddiar yr adeg y'l goresgynwyd gyntaf hyd y dydd hwn. Nid yw y gwrthryfel erchyll a dorodd allan ychydig amser yn ol ond rhyw fath o adroddiad o wrthryfeloedd a nodwedda ei hanes drwy y canrifoedd. Bid sicr, y mae y gwrthryfel diweddaf, nid yn unig yn deilliaw oddiar bolisi camsyniol, ond yn gwisgo gwedd frad- wrus i'r eithaf, o herwydd cymerodd y dygwyddiad le ar amser enbydus yn hanes yr Ymerodraeth Brydeinig, a thra yr oedd meibion dewr yr Ynys wrth y miloedd yn ildio'u bywydau gwerthfawr dros fuddianau uwchaf yr Ymerodraeth. Nid yw yn anhawdd i'r dinesydd, bydded mor bleidiol i Brydain ag y bo, i ddarganfod esgus- odion dros gyfiawnhau amryw o wrth- ryfeloedd y gorphenol. 0 herwydd amlwg yw y ffaith, i'r Iwerddon gael ei llywodraethu yn y dyddiau hyny gan rai oeddynt allan o bob cydymdeimlad a'r dyheadau Gwyddelig, ac o ganlyn- iad ceisid traws-awdurdodi arnynt drwy elseisnigeiddio gymaint ag a ellid. Ond heddyw, y mae yr annghyflawn- derau lluosog ac amrywiol a gyflawn- haent i raddau yr anniddigrwydd a fodolai yn natur y Gwyddel wedi eu symud oddiar y ffordd, a sylweddolwyd ei uchelgais angerddol am Ymreolaeth, gan ddarpariadau y Mesur basiwyd drwy'r Senedd Brydeinig, ychydig cyn dechreu o'r rhyfel gwaedlyd ar gyfan- dir Ewrop. Erfyniwn, serch hyny, ar i bob un sydd mewn cydymdeimlad a dy- headau cyfreithlawn ein brodyr Celt- iaidd am Ymreolaeth, rhag iddo yn awr goleddu syniadau gwahanol am gyfangorff y genedl, a mynwesu teim- ladau chwerw tuag at y Gwyddelod, oblegid y bryntwaith a gyflawnwyd gan nifer feChan o honynt. Dilys yw i bawb diduedd mai nid y Sinn Ffein- wyr er cymaint eu hystwr a'u dad- wrdd, a gynrychiolant wir deimlad y mwyafrif mawr o'r genedl, ond y gwladgar John Redmond a'i ganlyn- wyr yn Senedd Prydain Fawr. Gyda hynyna o ragymadrodd, ceis- iwn gymeryd rihyw gipolwg brysiog ar gysylltiadau yr Iwerddon a Phrydain. Yr hanes cyntaf a geir o bosibl am ym- drech i gymeryd meddiant o'r ynys ydoedd glaniad nifer o farwniaid Nor- manaidd yno, ac yn eu plith Strong- bow, larll Penfro, yn nheyrnasiad Harri'r Ail. Ymddengys i'r brenin hwn dderbyn caniatad y Pab, yr hwn a hawliai yr Ynys fel yn eiddo iddo ei hun, i'w goresgyn. Wedi i'r barwniaid ei choncro yn rhanol aeth ei Fawrhydi yn bersonol yno er derbyn eu gwarog- aeth hwy a'r penaethiaid Gwyddelig. Eithr nis gallodd aros yn ddigon hir i sefydlu llywodraeth ganolog gref, ac er i'r Saeson Normanaidd lwyddo i gymeryd meddiant o dalaeth Leinster, ac o ychydig fanau yn Connaught ac Ulster, brwydro iparhaus a'r Gwyddel- od brodorol fu eu hanes. Yn ystod rhyfeloedd y Rhosynau, bu yr Iwer- ddon bron ag ad-enill ei hannibyn- iaeth, oblegid cyfyntgid teyrnasiad y Saeson yr adeg hono i diriogaeth fech- an o amgylch Dublin a adwaenid fel y "Pale," a syrthiodd y gorchwyl caled o gwblhau y goresgyniad ar ysgwydd- au y Tuduriaid. Yn Hydref, 1494, ipwyntiodd Harri'r Sei-thfed, ISyr Edward Poynlmgs yn Arglwydd-ddirprwy yr Iwerddon. Nid hir y bu Poynings cyn sefydlu awdurdod y brenin dros ran fawr o'r ynys. Cymerodd feddiant o berson yr Iarll Kildare, y cyn-ddirprwy, yr hwn a fu'n euog o gynorthwyo Lambert Ginnel a Perkin Warbeck yn eu hym- gais i feddianu coron Lloegr, a dan- fonodd ef drosodd yn garcharor. Yn fuan iawn galwodd Poynings Senedd yn nghyd a phasiodd y mesur hwnw a elwir yn "Ysdadud Drogheda." Un o amcanion y mesur hwn oedd atal tuedd yr Hiberniaid i fabwysiadu iaith, diwyg, ac arferion y Gwyddelod bro- dorol. Gelwir y ran bwysicaf o'r mesur yn "Gyfraith Poynings," a cheisia ddarostyngiad cyfreithiol y Gwyddelod i'r llywodraeth Seisnig. Darparwyd fod cyfraith Lloegr i aros mewn grym yn yr ynys; ni chai Sen- edd Wyddelig ymgynull, na chyfreith- iau eu llunio heb ganiatad cyfrin- gyngor Lloegr. Bu yn foddion i sefyd- lu cysylltiadau rhwng y ddwy wlad, a barhasant am yn agos i dri chan mlyn- edd. Nid oedd gan Harri'r Seithfed yr amser na'r awydd i geisio llywodr- aethu yr Iwerddon; boddlon oedd ar i'r ynys fod yn heddychlawn a thawel. Ni chaniata gofod i ni fanylu ar sef- yllfa pethau yn yr Iwerddon o dan deyrnasiad Harri'r Wythfed. Digon fydd dweyd i amryw o'r plenaethiaid brodorol gael eu dienyddio yn ystod gweinyddiaeth Thomas Cromwell, "Morthwyl y Mynachod," am ym- gyngreirio a'r Ymerawdwr Siarl y V., a gwnawd ymgais i ddwyn yr eglwys Wyddelig yn agosach at safon yr eg- lwys yn Lloegr. Yn y flwyddyn 1537 gwthiwyd mesur Goruchafiaeth drwy y Sen- edd Wyddelig a phum mlynedd yn ddiweddarach difodwyd y mynachlog- ydd yn y ranbarth Seisnig o'r wlad, a dosbarthwyd y tiroedd atafaeledig yn mysg y boneddwyr, er sicrhau eu hymlyniad wrth y drefn newydd ar bethau. Polisi Harri'r Wythfed, gyda golwg ar yr Iwerddon, oedd ymgymer- yd o ddifrif a'r gwaith o Seisnigeiddio a.c Anglicaneiddio y brodorion, a dengys hanes yn eglur mai y polisi gwirion-ffol hwn fu wrth wraidd holl annghydfod yr oesau. Anng'hyfiawn- der arall a wnawd a'r Gwyddelod oedd gwaith Mari Waedlyd a'i phriod Philip yr Ysbaen yn sefydlu trefedig- a.ethau o Saeson ar diroedd gymerwyd oddiar y llwythau brodorol. Gwnaeth Elizabeth wedi ei hesgyniad i'r orsedd amryw geisiadau i ail adrodd yr an- fadwaith hwn, yn enwedig yn nhal- aethau Ulster a 'Munster, eithr cafodd wrthwynebiadau lawer, a hyny, yn ein barn ni, yn berffaith gyfiawn. Llwydd- odd penaeth o Tyrone o dan yr enw Shane O'Neil, i wrthsefyll ei byddln- oedd yn ystod y chwe mlynedd gyntaf o'i theyrnasiad. Dechreuodd tylwyth Desmond Geraldine hefyd derfysgu yn Munster yn 1569, a deng mlynedd yn ddiweddarach cymerodd gwrthryfel le o dan nawdd y Pab Gregori XIII., yr hwn a fanteisiodd ar yr anfoddlon- rwydd a ffynai yn Lloegr i godi terfysg yn yr Iwerddon ar ran y Babaeth. Aflwyddianus fu y gwrthryfel, er i ychydig filwyr o'r Ysbaen lanio yn yr ynys i gynorthwyo y Gwyddelod, ond darostyngwyd y gwrthryfelwyr drwy fin y cledd. Y canlyniad oedd i'r blanigfa (plantation) gael ei sefydlu, a daeth rhan o'r tiroedd i feddiant Edmund Spencer, awdwr y "Faerie Queen" a Syr Walter Raleigh. Rhyw ddeng mlynedd ar ol hyn, cawn hanes am wrthryfel yn tori allan eto o dan arweiniad Hugh O'Neil, larll Tyrone, yr hwn a fwynhai rhyw haner- annibyniaeth yn Ulster, ac a ofnai ei golli. Gwnaeth ymgais i daflu y Saes- on yn gyfangwbl "bag and baggage"— o'r ynys. Enillodd fuddugoliaeth yn mrwydr Yellow Ford yn 1598, a thrwy hono.llwyddodd i hudo y rhan luosocaf o'r llwythau Gwyddelig, a llawer hyd yn nod o deuluoedd Seisnig-Wyddellg i ymuno ag ef yn yr anturiaeth feidd- gar. Hwn, ond odid, oedd yr ymgais mwyaf addawol a wnawd erioed gan y Gwyddelod i ad-enill eu hannibyniaeth. Bu y byddinoedd Prydeinig am o leiaf dair mlynedd cyn llwyddo i ddarostwng y gwrthryfel, a hyny ychydig ddydd- iau cyn marw Elizabeth. Gwelir felly mal yn 1603 y cwblhawyd y concwest cyntaf o'r Iwerddon. Nid yw hyny yn golygu fod y wlad yn berffaith dawel ac heddychlawn, eithr i'r gwrth- wyneb, oblegid pa bryd bynag y ceisid gwneuthur planigfeydd newyddion cymerai terfysgiadau le yn union. Dyddorol i'r darllenydd fydd coflo yn ngwyneb dygwyddiadau a gymer- asant le y biynyddoedd diweddaf yn yr Ynys Werdd mai yn y flwyddyn 1611 y darfu i Iago 1. blanu sefydliada-u o Saeson ac Ysgotiaid yn nhalaeth Ulster, oblegid disgynyddion y cyfryw yw y blaid hono o Ulsteriaid, y rhai ydynt enwog ar gyfrif eu "hysteria" gwallgof, ac a arweinir gan y dall- bleidiol Syr Edward Carson, "Mad Mullah" Prydain Fawr. Godefer i ni ddadgan ein barn gydwybodol yn y fan hon, sef mai camgymeriad amlycaf y weinyddiaeth Ryddfrydol yn Mhrydain yn nghwrs y deng mlynedd diweddaf, ydoedd ei goddefgarwch eithafol o'r gwr hradwriaethol hwn yn nghyxi a'i driciau annghall yn rhestru mil- oedd o wirfoddolwyr yn Ulster a'u har- fogi i wrthsefyll gweinyddiad mesur Ymreolaeth, yr hwn oedd ar fin ei basio trwy foddion hollol gyfreith- lawn. Pe gwnaethent eu dyledswydd yn ddiofn y pryd hwnw, credwn y bu- asai gweinidogion y Goron yn fwy addas heddyw i ymgymeryd a'r gor- chwyl o ddienyddio ychydig o druen- uslaid dystadl, fuont mor anffodus a rhoddi benthyg eu hunain fel offeryn- au y Caisar ystrywgar, a nifer o lwfr-' iaid Gwyddelig yr America. (I'w Barhau).
.ATHRONIAETH Y MEDDWL. i
ATHRONIAETH Y MEDDWL. Beth ydyw Meddwl? Gan T. J. Peters, Wind Gap, Pa. Penod II. Syniadau Syr William Hamilton a Dr. Joseph Haven a ddefnyddir fwyaf i ateb cwestiynau y benod yma. Wrth y meddwl yr ydym i ddeall yr hyn a adnabyddir genym fel, y Myfi; yr en- aid, yr ysbryd, y dyn ei hun. I egluro hyn, defnyddia Syr W. ddull holi ac ateb Socrates fel y ddarpariaeth oreu i ddealltwriaeth briodol o'r hyn ydyw, a chyfieitha adran o "The First Alcib- iades of Plato" i'r dyben hwnw. Per-, sonau yr ymgom ydynt Socrates ac Alcibiades; gwnaf finau yr un peth, gystal ag y gallaf. Socr.: Gyda phwy yr ydych yn ym- ddyddan yn bresenol? Ai gyda myfi? Alcib.: Ie. Socr.: A minau gyda chwi? Alcib.: Ie. Socr.: Ai Socrates sydd yn siarad? Alcib.: Yn sicr. Socr.: Ac Alcibiades yn gwrandaw? Alcib.: Ie. Socr.: Onid gydag iaith y mae So- crates yn siarad? Alcib.: Beth! Wrth gwrs. Socr.: Onid ydyw ymddyddan a defnyddio iaith yr un peth? Alcib.: Yr un peth. Socr.: Ond yr hwn sydd yn defnydd- io peth, a'r peth ddefnyddir, onid yd- ynt yn bethau gwahanol? Alcib.: Beth ydych yn feddwl? Socr.: Y lledrwr, onid ydyw yn defnyddio cyllyll, ac arfau eraill? Alcib.: Ydyw. Socr.: A'r dyn yr hwn ddefnyd-d-la, gyllell i dori, a ydyw ef yn wahanol i'r offeryn ddefnyddia? Alcib.: Ydyw yn sicr. Socr.: Yr un modd y telynor, onid ydyw efe yn wahanol i'r delyn y chwar- eua arni? Alcib.: Yn ddiameuol. Socr.: Hyn, felly, oedd yr hyn ofyn- ais i chwi yn awr, onid yw yr hwn sydd yn defnyddio peth yn ymddangos i chwi bob amser yn wahanol i'r peth a ddefnyddia? Alcib.: Yn wahanol lawn. Socr.: Ond y lledrwr, a ydyw yn tori gyda'r offerynau yn unig, ynte gyda'i ddwylaw hefyd? Alcib.: Hefyd gyda'i ddwylaw. Socr.: Felly mae yn defnyddio ei ddwylaw? Alcib.: Ydyw. Socr.: Ac wrth ei waith mae yn defnyddio hefyd ei lygaid? Alcib.: Ydyw. Socr.: Yr ydym wedi cytuno, felly, fod yr hwn a ddefnyddia beth, a'r peth a ddefnyddir yn wahanol? Alcib.: Ydym. Socr.: Mae y lledrwr a'r telynor, gan hyny, yn wahanol i'w dwylaw a'u llygaid gyda pha rai y gweithiant? Alcib.: Felly yr ymddengys. Socr.: Yn awr, onid yw dyn yn defn- yddio ei holl gorff? Alcib.: Ydyw yn ddiameuol. Socr.: Ond yr ydym wedi cytuno fod yr hwn sydd yn defnyddio, a'r hyn a, ddefnyddir yn wahanol? Alcib.: Ydym. Socr.: 0 ganlyniad, mae dyn yn wa- hanol i'w gorff? Alcib.: Yr wyf yn meddwl. Socr.: Beth gan hyny ydyw dyn? Alcib.: Nis igallaf ddweyd. Socr.: Gellwch ddweyd o leiaf mai dyn yw yr hwn ddefnyddia y corff? Alcib.: Gwir. Socr.: Yn awr, a oes rhywbeth yn defnyddio y corff heblaw y meddwl? Alcib.: Dim. SOcr.: Y meddwl o ganlyniad, ydyw y dyn? Alcib.: Y meddwl yn unig. Felly mae Aristotle yn honi i'r un effaith, fod y meddwl yn cynwys y dyn, ac nid dyn y meddwl. "Tydi yd- wyt yr enaid," meddai Hierocles, "ond y corff sydd eiddot ti." Mae Syr W. hefyd yn anfoddla" i'r gair Self, Myfi. Gwell fuasai ganddo gael defn- yddio y gair Ego (ir Lladin yn tybio yr un peth) mewn trafodaeth wyddon- ol; buasai Ego a Non-Ego yn fwy destlus a derbyniol na Self a Non-self, ac oni fyddai'n well yn y Gymraeg hefyd, yn hytrach na Myfi a Nid-myfi? Mae pob peth a fodda, yn un ai Myfi, neu Nid-myfi, Ego, neu Non-ego. Nid myfi yw fy nghorff, ac nid myfi yw fy meddyliau, mae fy nghorff a fy medd- yliau yn cyfnewid yn barhaus, ond yr wyf fi yn aros yr un. Mae genyf fi onganau, cyfuniad cyflawn o fy organ- au yw fy nghorff; ond organau a chorff y myfi ydynt yn eu rhanau a'u cyfan- rwydd. Mae mater fy nghorff mewn cylchrediad neu ddylifiad parhaus, ac mewn ymrwbiad parhaus, gan ei new- id a'i adnewyddu yn barhaus, mae'n debygol nad oes yr un temigyn o'r defnydd gyfansoddai fy nghorff flynydd au yn ol, yn aros yn fy organau hedd- yw, mae'r oil wedi eu hadnewyddu, ond mae y myfi yn aros yr un. Os yw y gosodiadau uchod yn gywir, mae yn rhaid mai y myfi (ego) y dyn ei hun, ydyw y meddwl. A ydyw Meddyleg yn wyddor? neu yn fodd i wybod am y berthynaas sydd yn bodoli o angenrheidrwydd rhwng achos ac effaith, gweithrediadau y meddwl, a'r berthynas gu ac agos sydd rhwng meddwl a chorff, y cysondeb a'r unoliaeth berthynafiol sydd rhyng- ddynt, megys ag y gwneir gyda gwydd- orau eraill? Credwyf ei bod. Mae Dr. Haven yn ateb yn gadarnhaol: 1. Mae Meddyleg yn wyddor natur- iol, ac yn dybynu ar brofiad, sylwad- aeth a chasgliad. Ma.e yn naturiol i ddyn nodi a sylwi ar yr hyn mae wedi ei weled, ei glywed. ei deimlo, drwy weithrediadau ei feltlwl ei hun, ac wedi dyfod o hono yn brofiadol, dynu casgliadau o'r gwirioneddau a'r ffeith- iau oddiwrth yr hyn fu dan ei sylwad- aeth. Mae mor naturiol ag ydyw gyda gwyddorau materol. Mae yn naturiol hefyd am fod ei phrif wrthrych, sef y meddwl dynol, yn rhan bwysig o natur, yn wir, y rhan bwysicaf, o gy- maint a bod y greadigaeth ysbrydol yn rhagori ar y greadigaeth faterol. 2. Mae yn wyddor bosibl. Mae hyn wedi ei wadu gan rai awduron, ond dysgwyf fod eu rhesymau dros y gwad- iad yn eiddil ac anmhur. Caniateir fod daeareg, seryddiaeth, a llysieuaeth yn wyddorau posibl. Os ydym yn gallu drwy sylwadaeth, i wybod am greigiau, y ser, a llysiau, onid allwn hefyd drwy sylwi ar weithredia.dau meddyliol dynolryw i wybod am y meddwl dynol? Os y gwna casgliad gofalus o wirioneddau ac egwyddorion cyffredinol fel ffrwyth sylwadaeth, ffurfio seiliau a threfn gwyddor wir- ioneddol mewn un achos, paham hefyd na wna yn y llall? 3. Mae yn cytuno a gwyddorau ma- terol. Mae pob gwyddor yn cytuno mewn un peth, mae yr hyn oil a wydd- om am danynt yn gynwysedig yn eu hymddangosiad neu eu hymrithiad (phenomena) eu hunain, neu y modd yr -ymddangosant i ni. Nid ydym yn adnabod mater fel y mae ynddo ei bun, ond yn unig fel y mae ei ymrithiad yn dylanwadu ar ein synwyrau. Rhanol hefyd, neu berthynasol, yw ein gwy- bodaeth am y meddwl; beth ydyw yn- ddo ei hun nis gwyddom, yn mhellach na'r moddau drwy ba rai y cyflwyna ei hun ger bron ein sylwadaeth a'n hunanymwybyddiaeth. Mae yn medd- wl, canfod, cofio, dychymygu, am- gyffred, barnu, cymeradwyo, con- demnio, teimlo, caru, cashau, cynyrfu,, cyffroi, dymuno, penderfynu. Y gweithrediadau hyn o'i eiddo, drwy ein sylwadaeth a'n profiad, yw y moddau i ni wybod am dano; yn mhellach na hyn, nis gallwn fyned. Mae yn rhaid i darddiad y wybodaeth fod o'r un ffynonell gyda meddwl a mater, sef eu hymrithiad ger bron ein sylwadaeth a'n profiad. Yna, wedi tynu casgliad gofalus o'u neillduolion, bydd yn ein meddiant egwyddorion cyffredinol neu ddeddfau priodol i ffurfio gwyddor, un ai yn nglyn a meddwl, neu, yn iiglyn a mater. (I'w Barhau).
[No title]
Cyn i'r rhyfel dori allan yr oedd drosodd i 800 o genadon Germanaidd yn gwasanaethu mewn gwahanol ran- au o'r byd. Y mae Capten T. H. Parry, yr A. S. dros Fwrdeisdrefi Fflint, wedi gwella digon o'r clwyfau dderbyniodd yn Gallipoli, fel ag i gymeryd i fyny was- anaetli, milwrol ysgafn.
IGAIR YN GAREDIG AT MR. A.…
GAIR YN GAREDIG AT MR. A. H. WILLIAMS. '————. Gan Bben P. Davies. Y mae yn hyfrydwch i mi bob amser, i gael "chat" gyda Mr. Williams, am fy mod yn credu ynddo. Mae'n wir nad ydym yn gweled lygad yn llygad ar bynciau dansoddol, ond nid yw hyny ond tipyn o wahaniaeth yn ein dirnad- aeth feddyliol, nid oes a fyno a chywir- deb amcan y naill na'r Hall o honom. Gobeithio y derbyn y sylwadau hyn yn yr un ysbryd ag yr ysgrifenir hwynt. Yn ei nodyn ar "Wres ac Oerni," yn "Nrych" yr wythrios hon, dywed Mr. W. fel hyn—"Mae astudiaeth fanwl wedi ei roddi gan eneidegwyr i'r modd y teimla y corff dynol oerni a gwres, a chanfyddir fod pob tymeredd is na 80 i 90 o raddau yn cynyrchu y teim- lad o oerni, tra y gwna pob tymeredd uwch na hyny gynyrchu y teimlad o gynesrwydd. Canfyddwyd yn mhell- ach nad yr un ermigau yn y croen a ddywed wrthym am oerni ag sydd yn ein hysbysu am wres." Y mae cym- aint a hynyna yn ddigon i ddangos nad yw Mr. W. ar y ipwnc o gwbl. Dylai Mr. W. wybod nad "eneidegwyr" sydd wedi rhoddi astudiaeth i'r mater a noda, eithr anianyddwyr. Nid pwnc i'w astudio gan "eneidegwyr" (psychologists) yw y modd y teimla y corff dynol oerni a gwres, ond pwnc yw i astudiaeth anianyddwyr (physiol- ogists). Y mae yr hyn y sonia Mr. W. am dano mor wir i'r ceffyl a'r fuwch ag yw i'r dyn. "Nerve sensation" sydd gan Mr. W., eithr ymwybyddiaeth feddyliol, rhesymegol, ac eneidiol, sydd gan Eben P. o'r dechreu. Felly, fe wel y darllenydd nad yw esbonio y modd y teimla y corff dynol (a'r fuwch hefyd) oerni a gwres, yn perthyn i gyfundrefn eneideg o gwbl. Y teimlad o oerni a gwres (the sensation of cold and heat) sydd gan Mr. W., tra mai ein hymwybyddiaeth berthynasol o'r pethau gwrthgyferbyniol hyn sydd gan E. P. D. Y mae y ceffyl yn brof- iadol o'r cyntaf, ond nid oes ganddo fymryn o syniad am yr ail. Nid yw yr hyn sydd gan Mr. W. ond y modd- ion, neu y cyfryngau trwy ba rai y bodola yr hyn sydd gan E. P. D. mewni eyfundrefn uwch. Difoder y naill o'r cyfryngau hyn, a diflana y llall yn y man, oblegid dim ond yn ei berthynas a'r naill yr adnabyddwn y Hall. Dywed Mr. W. yn mhellach, "Mae, genym un dosbarth o nerfau yn cyn- yrchu y teimlad o oerni, a dosbarth arall gwahanol yn cynyrchu y teimlad o wres. Oddiwrth hyn, meddai, mae yn bur amlwg, pe difodid oerni, y gwybyddem am wres fel ag o'r blaen." Mr. W. barchus, pa fodd y gallasoch ddweyd y fath beth a hyn? "Gwybod am wres fel o'r blaen?" Pa sut yr adnabyddwn ef yn bresenol? Onid yn lei berthynas ag oerni? Ie, wrth gwrs, a dim un Sut arall. Difoder yr elfen berthynasol a gwrthgyferbyniol, beth fyddai wed'yn i'n hysbysu o fodolaeth gwres? Na, na, Mr. W., nid gwres fyddai i'r teimlad wed'yn, ond cyflwr annghyfnewidiol a diberthynas ag un- rhyw wrthrych arall yn y byd, os gall- woh ddirnad y fath gyflwr..Oddieithr i Mr. W. sylweddoli mai cyflyrau per- thynasol, ond gwrthgyferbyniol, a olygir wrth oerni a gwres, nid oes obaith iddo ddyfod allan o'r dyryswch. Ceisied Mr. W. sylweddoli nad yw gwres yn wres ond fel cyflwr perthyn- asol a gwrthgyferbyniol i oerni, ac nad yw oerni yn oerni ond yn ei berthynas a gwres. Os sylweddola hyn, gwna droi ei gasgliad yn ben am ben, ac ys- grifena efe fel hyn, "Oddiwrth hyn y mae yn bur amlwg, pe difodid oerni, na wybyddem am wres fel ag o'r blaen." Carwn yn fawr i allu dwyn Mr. W. i edrych ar bethau "fel pe na bydd- ent" megys. Neu, yn hytrach, ei gael i sylweddoli yr hyn fyddai unrhyw beth pe difodid ei wrthgyferbyniol a pherthynasol. Ymddengys y cwyd ei drafferth bresenol o'i dybiaeth y medrai sylweddoli yr hyn a olygir wrth y gair tad, hyd yn nod pe na byddai wedi clywed am blentyn erioed. Pa syniad fyddai genym am y cyntaf oni bai ein bod yn gwybod am yr ail? ac am yr ail oni bai ein bod yn gwy- bod am y cyntaf. Dybyna y syniad o dad ar y syniad o blentyn, a'r syniad o blentyn ar y syniad o dad. Perthynasol yw safon ein sylweddol- iad o bron bob peth mewn bywyd. Y mae un peth yn hir am fod peth arall yn fyr; y mae un peth yn grwn am fod peth arall yn onglog; y mae un peth yn wlyb am fod peth arall yn sych; y mae un peth yn agos am fod peth arall yn mhell; y mae un peth yn uchel am fod peth arall yn isel; y mae un peth yn drwm. am fod peth arall 'yn ysgafn. Gallem ychwanegu pethau perthynasol fel hyn bron yn ddiderfyn, pe bae angen. Ond fel y dywedwyd-Y mae un peth yn hir am fod peth arall yn fyr, ac y mae un peth yn fyr am fod peth arall yn hir-y naill rydd fodolaeth i'r llall. Pe bydd- ai pob peth yr un hyd, yna ni byddai na byr na hir; pe byddai pob peth yr un ffurf, yna ni byddai na chrwn nac onglcg; pe byddai pob peth yr un gyf- lwr,' yna ni byddai na gwlyb na sych, etc. Felly hefyd am wres ac oerni, pe byddai pob peth yr un dymeredd, yna, ni byddai na gwres nac oerni. Per- thynasol hollol yw "i fyny" ac "i lawr." Perthynasol ydynt i'w gilydd, a pherthynasol yw y ddau i ddysgyrch- iaeth. Gwyddom fod yr un cyfeiriad, yn ei berthynas a'r eangder mawr, yp "tuag i fyny" ar un ochr i'r ddaear, tra y mae "yn tuag i lawr" yr ochr arall, yn unig ac yn hollol am mai perthynasol yw yr hyn a olygir wrth y termau hyn i ddysgyrchiaeth y ddaear. Dywed Mr. W. i'w "eglurhad" ym- ddangos unwaith o'r blaen yn y "Drych," ond fod E. P. D., o bosibl, wedi methu ei weled y pryd hwnw." Do, mi welais yr ysgrif a ddaeth i'r swyddfa yn Seisneg, ac a gyfieithwyd i'r Gymraeg, ond ni ddychymygais y tybiai neb ei bod yn un math o eglur- had ar ein hymwybyddiaeth o'r hyn a olygir wrth y termau Oerni a Gwres, felly ni wnes sylw o honi. Y,mae yn ofynol treiddio yn ddyfn- ach na "nerve sensation" er cael gaf- ael ar athroniaeth ymwybyddiaeth (the psychology of consciousness) Nid yw desgrifiad o'r modd y teimla ein nerfau oerni a gwres yn un math o eglurhad arno. Pan welais yr ys- grif gyfieithiedig yn "Nrych" Chwef. 17, synais wrth weled fod cymaint o drafferth wedi ei gymeryd gydag ys- grif mor anmherthynasol; ond erbyn hyn deallaf ei bod wedi ei difynu, ei chyfieithu, a'i chyhoeddi, gyda'r am- can iddi fod yn eglurhad terfynol ar ein hymwybyddiaeth o "Oerni a Gwres." Byddai mor briodol ceisio rhoddi eglurhad o gariad trwy ddweyd fod dau yn un rhan o bedwar o wyth; ni pherthynant i'r un gyfundrefn o gwbl. Priodol yw sylwi nad yw cyfyngu y tymeredd o fewn graddau neillduol, a dweyd pa le y daw yn oerni a pha le y daw- yn wres, yn newid dim ar deil- yngdod y pwnc sydd dan sylw. Nid yw dweyd nad yw oerni yn ddim ond am- ddifadrwydd gwres, fel y gwna rhai, yn newid y cwestiwn, chwaith. Gos- oder ei de.rfynau lie y mynir, a galwn ef beth a fynwn, ni wna hyny newid dim ar safon ein hymwybyddiaeth o hono.
SATAN YN Y MEDDWL HEBREAIDD.
SATAN YN Y MEDDWL HEBRE- AIDD. ¡ Gan Plas Gwyn. Wedi croesi i'r Testament Newydd cyfarfyddwn a chryn newidiad a dad- blygiad yn Satan. Yn gyntaf, ca enw newydd, Diafol, ac yn y bedwaredd benod o Matthew, ca y ddau enw. Mae yn awgrymiadol y geilw yr hanesydd ef yn Ddiafol a Christ ei hun ef yn Satan "Ymaith, Satan!" Eto y mae mwy o Satan yr Hebrewr ynddo nag sydd o ddiafol y :paganiaid, o blith y rhai y daeth y diafol, ei bersonoliaeth a'i enw i blith yr Iuddewon. Pan y cyfieithiwyd Satan yn nghyf- ieithiad Groeg y Deg a Thri Ugain i'r iaith hono, trowyd Satan o'r Hebraeg yn Diafol; ond daliodd Jerome yn ei gyfieithiad ef i'r Lladin at y gair Satan, yr hyn oedd yn gywir; gan fod gwahaniaeth mawr rhwng Satan yr Hebrewr a Diafol y pagan. Yr oedd Satan yr Hebrewr yn llawn mwy o forieddwr na diafol y paganiaid. Gwrthwynebydd oedd Satan, sef goruchwyliwr a ddefnyddiai yr Ar- glwydd i brofi bodau a phethau, ac ni ymddangosai fod dim igelyniaeth rhwng y ddau, oblegid ceir yn yr hanes yn yr Hen Destament eu bod yn cyd- weithredu ar brydiau. Fel y nodasom yn barod ceir gwaith y naill yn cael ei briodoli i'r llall, yr hyn yn ddiau a barodd i John Calfin edrych ar Satan fel gwas ufudd i'r Arglwydd, yn gwneyd dim mwy na llai na dwyn ei gyfarwyddiadau i weithrediad. Yn ngolwg y meddwl Hebreaidd, yr oedd yr Arglwydd yn Hollalluog, yn Unben uwchlaw pob peth, ac felly nid oedd lie i Fod Drwg mewn cydymdrech ag ef am uwchafiaeth. Y Cristion ddaeth a'r cyfeiliornad hwn i fewn. Yn yr hanes yn Matthew, penod 4, y mae ymddygiad Satan yn foneddig- aidd, ac ymddyga yr lesu ato fel Satan, nid fel Diafol; fel Gwrthwynebydd mawr ei genedl, nid fel Celwyddwr y paganiaid. Ni wyddom pa faint a wyddai diafoliaid y paganiaid am yr Hen Destament, ond y mae yn siwr fod y Satan hwn yn hyddysg yn y Gair. Y mae ei eiriau agoriadol yn gryn gyf- archiad i'r lesu; ac y mae ei ail ym- adrodd yr un modd, a seilir ei ddymun- iad ar ymadrodd o'r Ysgrythyr; yn y trydydd ymadrodd, i'r Hebrewr yr oedd yn gelwyddog, ond i'r Cristion yn gywir. Felly canfyddir fod yna lygriad amlwg yn nghymeriad gwreiddiol Satan. Wedi dyfod yn Roegwr neu yn bagan, ymddengys ei fod wedi trol yn anwireddus. I'r Hebrewr a'r hen luddew hefyd "eiddo yr Arglwydd oedd y ddaear a'i chyflawnder," ond i'r Cristion aeth y byd hwn yn eiddo y diafol, ac efe yw ei unbenaeth. Gwrandawai yr Iesu ar Satan hyd iddo droi yn Ddlafol celwyddog, ac ebe efe yn y man "Ymaith, Satan!" Ni fu hanes yn yr Hen Destament am Satan yn ceisio llwgrwobrwyo ei Dduw, drwy ei brynu a'i eiddo ei Hun, fel y gwna y boss politicaidd yn America yn fyn- ych ag eiddo y ddinesydd. Yn yr Hen Destament yr oedd Satan yn rhyw fath o oruchwyliwr i'r Arglwydd, yn cydnabod ei uwchaf- iaeth, ond dyma y Diafol Satan a'i gymeriad wedi ei waethygu drwy gymdeithas a'r paganiaid yn ymdrechu drwy lwgrwobrwy ddiraddio Duw dan ei reolaeth ef. Yr hyn a'n syna fwyaf yn yr hanes yw na ddywedasai yr Iesu "Ymaith, Ddiafol!" Y mae yn amlwg yn yr hanes fod Satan wedi ei droi yn Ddiafol (o ddrwg i waeth) yn gyfer- byniol i droad Saul i Paul (o waeth i well). Terfynir yr hanes a'r hysbys- rwydd i'r Diafol ei adael, ac nid oes son iddo gyfarfod ag ef ar ol hyny. Mae son am ddiafliaid yn ei wynebu ar ol hyny yn o lwfraidd, a hyn yn debyg roes awdurdod i'r Apostol ddweyd "Gwrthwynebwch ddiafol, ac efe a ffy oddiwrthych." Nid oes hanes i'r Diafol ffoi o wyddfod yr lesu, ond fe ymadawodd yn o fuan, a'r rheswm na ffodd yn ddiau yw am y buasai hyny yn annghydweddol a pherson o'i urdd- as ef ag oedd wedi bod yn llenwi lie prifweinidog teyrnas nefoedd yn yr amser gynt. Ai tybed mai efe barodd taenu y newydd drwy ei ymerodraeth fel yp aeth i glustiau y diafliaid bychain oil mai ofer yw ;gwrthwynebu yr Ar- glwydd, Creawdwr nef a daear? Nis gellir gwrthwynebu hollalluogrwydd ag unrhyw gymaint o allu llai na hyny, a dyna y rheswm y gofynir drwy yr oesau, ac yn mhlith pawb eraill gan Friday, gwas Robinson Crusoe, pam y dyoddefir galluoedd israddol drwg gan Hollalluogrwydd; ac er fod y gofyniad ar y bwrdd o ddyddiau Adda hyd hedd- yw, nid oes un duwinydd (broffesa wy- bod yr oil am y pethau hyn) wedi gallu ateb! Yr wyf am i'r darllenydd gael yr amgyffrediad iawn o'r gwahaniaeth rhwng Satan yr Hebrewr a Diafol y pagan a'r Cristion, oblegid cyn y di- wedd ein bwriad o hyd (os y cawn lonydd gan ein dysgyblion cythryblus) yw. dangos fod y syniad Hebreaidd yn agosach i'w le am y drwg yn y gread- Lgaeth nag eiddo'r pagan a'r Cristion. Canfyddai a chydnabyddai yr Iesu y gwahaniaeth cynenid hwn pan y dy- wedai wrth Pedr "Dos yn fy ol i, Satan!" oblegid mai rhwystr oedd neu wrthwynebiad. Yr oedd Pedr yn bwr- iadu yn dda; ond er fod ei fwriad yn dda, fel miloedd o fwriadau eraill, eto gwrthwynebiad oedd i'w gynllun Ef, ac felly galwai Pedr yn "Satan" nid "Diafol." Ni fuasai yn deg ei alw yn "Ddiafol," oblegid nid oedd twyll yn y bwriad. Amgylchiad awgrymiadol iawn yw hwnw lie y cawn yr Iesu yn ymresymu a'r Iuddewon a ddywedent mai a chythraul oedd yn bwrw allan gyth- reuliaid, ac ebe efe, "Os Satan a fwrw allan Satan, efe a ymranodd yn ei erbyn ei hun." Pe buasai yn ddiafol, ni fuasai hyny yn syn o gwbl, oblegid y mae diafliaid yn ymladd yn erbyn eu gilydd, a'r deyrnas yn llwyddo yn well y ffordd hono, na'r un ffordd arall! Un ffaith amlwg arall yn yr Hen Destament yw nad oes ynddo ddiafl- iaid, ond un Gwrthwynebydd mawr a elwir yn Satan, ac y mae hon yn ffaith bwysfawr fel y cawn dangos eto yn ddiweddarach. Yn yr Hen Destament y mae un Satan a llawer o dduwiau; yn y Testament Newydd y mae un Duw a llawer o gythreuliaid. Y mae hynyna ynddo ei hun yn awgrymiadol lawn i'r meddwl craffus ac efrydgar.